2004 Rhif 3054 (Cy.263)

TRAFNIDIAETH A GWEITHFEYDD, CYMRU
GOSODIADAU AR Y MÔR, CYMRU
TRYDAN, CYMRU

Gorchymyn Fferm Wynt ar y Môr Cefnenni Tywod Scarweather 2004

Wedi'i wneud

Yn dod i rym

GAN FOD cais wedi'i wneud i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), yn unol â Rheolau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Cyflwyno Ceisiadau a Gwrthwynebiadau) (Cymru a Lloegr) 20001 a wnaed o dan adrannau 6, 6A, 7 a 10 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 19922 (“Deddf 1992”), am Orchymyn o dan adran 3 o Ddeddf 1992;

A chan fod y Cynulliad Cenedlaethol wedi peri bod ymchwiliad yn cael ei gynnal at ddibenion y cais yn unol ag adran 11 o Ddeddf 1992;

A chan fod y Cynulliad Cenedlaethol, ac yntau wedi ystyried adroddiad y person a gynhaliodd yr ymchwiliad, wedi penderfynu gwneud Gorchymyn i roi effaith i'r cynigion a geir yn y cais gydag addasiadau nad ydynt yn gwneud unrhyw newid sylweddol i'r cynigion yn ei farn ef;

A chan fod hysbysiad o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i gyhoeddi yn y London Gazette ar 2 Tachwedd 2004;

YN AWR FELLY, mae'r Cynulliad Cenedlaethol, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 3 a 5 o Ddeddf 1992, a pharagraffau 1 i 5, 7, 8, 10, 11 a 15 i 17 o Atodlen 1 iddi, ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol3, a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: