xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN IIICAFFAEL A MEDDU AR DIR

Pwerau caffael

Y pŵer i gaffael tir

18.  Caiff yr ymgymerwr gaffael yn orfodol gymaint o'r tir a ddangosir â'r Rhif 4 ar blaniau'r tir ac a ddisgrifir yn y cyfeirlyfr ag sydd ei angen arno at ddibenion Gwaith Rhif 3, a chaiff ddefnyddio unrhyw dir a gaffaelwyd felly at y dibenion hynny neu at unrhyw ddiben arall sy'n gysylltiedig â'i ymgymeriad o ran trydan, neu sy'n atodol iddo.

Cymhwyso Rhan I o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965

19.—(1Mae Rhan I o Ddeddf 1965, i'r graddau nad yw wedi'i haddasu gan ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn nac yn anghyson â hwy, yn gymwys i gaffael tir o dan y Gorchymyn hwn—

(a)fel y mae'n gymwys i brynu gorfodol y mae Deddf Prynu Gorfodol 1981(1) yn gymwys iddo; a

(b)fel pe bai'r Gorchymyn hwn yn orchymyn prynu gorfodol o dan y Ddeddf honno.

(2Mae gan Ran I o Ddeddf 1965, fel y'i cymhwyswyd, effaith fel pe bai—

(a)adran 4 (sy'n rhoi terfyn amser ar brynu tir yn orfodol) a pharagraff 3(3) o Atodlen 3 (sy'n darparu ar gyfer rhoi bondiau) wedi'u hepgor; a

(b)y cyfeiriad yn adran 11(1) (sy'n rhoi pwerau i fynd ar dir a chymryd meddiant ohono yn ddarostyngedig i hysbysiad i drafod heb roi llai na 14 o ddiwrnodau o hysbysiad) at y 14 o ddiwrnodau o hysbysiad wedi'i amnewid am—

(i)cyfeiriad at hysbysiad o un mis, pan fo'r hysbysiad i drafod yn ymwneud yn unig â chaffael isbridd neu gaffael hawddfraint neu hawl arall dros dir; neu

(ii)cyfeiriad at hysbysiad o 3 mis, mewn unrhyw achos arall.

Y pŵer i gaffael hawliau newydd

20.—(1Caiff yr ymgymerwr gaffael yn orfodol yr hawddfreintiau hynny neu hawliau eraill dros unrhyw dir y cyfeirir ato yn erthygl 18 sydd eu hangen at unrhyw ddiben y caiff y tir hwnnw ei gaffael o'r herwydd o dan y ddarpariaeth honno, a hynny drwy eu creu yn ogystal â thrwy gaffael hawddfreintiau neu hawliau eraill sydd eisoes yn bod.

(2Caiff yr ymgymerwr gaffael yn orfodol yr hawddfreintiau hynny neu unrhyw hawliau eraill dros y tir a ddangosir â Rhif au 1 i 3, 5 i 9 ac 11 ar blaniau'r tir ac a ddisgrifir yn y cyfeirlyfr (“y tir perthnasol”) y mae'n eu hystyried yn angenrheidiol ar gyfer ac mewn cysylltiad ag adeiladu, defnyddio, gweithredu a chynnal a chadw Gwaith Rhif 2, 2A, 4 a 5.

(3Caiff yr ymgymerwr gaffael yn orfodol yr hawddfreintiau hynny, neu'r hawliau i ddefnyddio'r strydoedd a ddangosir â Rhif au 12 i 16 ar blaniau'r tir ac a ddisgrifir yn y cyfeirlyfr, y mae'n eu hystyried yn angenrheidiol er mwyn cael mynediad at y tir at ddibenion adeiladu, defnyddio, gweithredu a chynnal a chadw y gweithfeydd awdurdodedig.

(4Mae'r hawddfreintiau neu'r hawliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) yn hawliau i ddefnyddio'r strydoedd y cyfeirir atynt yn y paragraff hwnnw sydd ar y cyd ag unrhyw bersonau eraill sydd â'r hawl i ddefnyddio'r strydoedd; ac ni ddylid dehongli dim yn yr erthygl hon fel pe bai'n rhoi'r hawl i ymyrryd â defnydd personau eraill o'r strydoedd.

(5Yn ddarostyngedig i adran 8 o Ddeddf 1965 (fel y'i hamnewidir gan baragraff 5 o Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn), pan fo'r ymgymerwr yn caffael hawl dros dir o dan yr erthygl hon, nid yw'n ofynnol i'r ymgymerwr gaffael buddiant mwy ynddo.

(6Mae Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn yn effeithiol at ddibenion addasu'r deddfiadau sy'n ymwneud ag iawndal a darpariaethau Deddf 1965, o ran eu cymhwyso mewn perthynas â chaffael hawl dros dir yn orfodol o dan yr erthygl hon drwy greu hawl newydd.

Meddu ar dir dros dro

Defnyddio tir dros dro i adeiladu gweithfeydd

21.—(1Mewn cysylltiad â chyflawni'r gweithfeydd awdurdodedig, caiff yr ymgymerwr—

(a)mynd ar y tir a ddangosir â Rhif 4 ar blaniau'r tir ac a ddisgrifir yn y cyfeirlyfr a chael meddiant ohono dros dro yn ôl yr angen mewn cysylltiad ag adeiladu'r gweithfeydd awdurdodedig;

(b)cael gwared ar unrhyw adeiladau a phlanhigion o'r tir hwnnw; ac

(c)adeiladu gweithfeydd (gan gynnwys darparu mynedfa) ac adeiladau dros dro ar y tir.

(2Rhaid i'r ymgymerwr roi hysbysiad o'i fwriad i gael mynediad i'r tir i berchenogion a meddianwyr y tir, a hynny heb fod yn llai na 28 o ddiwrnodau cyn iddo fynd ar y tir a chymryd meddiant ohono dros dro o dan yr erthygl hon.

(3Ni chaiff yr ymgymerwr, heb gytundeb perchenogion y tir, barhau i feddu ar unrhyw dir o dan yr erthygl hon ar ddiwedd cyfnod o un flwyddyn o'r dyddiad y cwblhawyd y gweithfeydd awdurdodedig.

(4Cyn rhoi'r gorau i feddu ar dir a feddianwyd ganddo dros dro o dan yr erthygl hon, rhaid i'r ymgymerwr symud pob gwaith dros dro oddi yno ac adfer y tir i safon y mae perchenogion y tir yn rhesymol fodlon â hi; ond nid oes gofyn i'r ymgymerwr ailadeiladu adeilad a symudwyd oddi yno o dan yr erthygl hon.

(5Rhaid i'r ymgymerwr dalu iawndal i berchenogion a meddianwyr y tir a feddianwyd ganddo dros dro o dan yr erthygl hon am unrhyw golled neu ddifrod a achoswyd yn sgil arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon mewn perthynas â'r tir.

(6Penderfynir ar unrhyw anghydfod o ran hawl person i gael iawndal o dan baragraff (5), neu o ran cyfanswm yr iawndal, o dan Ran I o Ddeddf 1961.

(7Heb ragfarn i erthygl 36, ni fydd dim yn yr erthygl hon yn effeithio ar unrhyw atebolrwydd i dalu iawndal o dan adran 10(2) o Ddeddf 1965 neu o dan unrhyw ddeddfiad arall sy'n ymwneud â cholled neu ddifrod a achosir gan weithredu unrhyw weithfeydd, ac eithrio colled neu ddifrod y mae iawndal yn daladwy ar eu cyfer o dan baragraff (5).

(8Nid yw'r pwerau i gaffael tir yn orfodol a roddir gan y Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw dir sydd wedi'i feddu dros dro o dan baragraff (1), ond nid yw'r ymgymerwr wedi'i eithrio rhag caffael hawliau newydd dros unrhyw ran o'r tir hwnnw o dan erthygl 21.

(9Pan fo ymgymerwr yn meddu ar dir o dan yr erthygl hon, nid yw'n ofynnol iddo gaffael y tir nac unrhyw fuddiant yn y tir.

(10Yn yr erthygl hon, mae “adeilad” (“building”) yn cynnwys strwythur neu unrhyw adeilad arall.

Iawndal

Diystyru buddiannau a gwelliannau penodol

22.—(1Wrth asesu'r iawndal sy'n daladwy (os oes iawndal yn daladwy o gwbl) i unrhyw berson wrth gaffael unrhyw dir oddi arno o dan y Gorchymyn hwn, nid yw'r Tribiwnlys i ystyried—

(a)unrhyw fuddiant mewn tir; neu

(b)unrhyw gynnydd yng ngwerth unrhyw fuddiant mewn tir oherwydd unrhyw adeilad a godwyd, unrhyw weithfeydd a weithredwyd neu unrhyw welliant neu addasiad a wnaed ar dir perthnasol,

os yw'r Tribiwnlys wedi'i fodloni nad oedd creu'r buddiant, codi'r adeilad, na gwella nac addasu'r gweithfeydd yn rhesymol angenrheidiol, ac y gwnaethpwyd hynny gyda'r bwriad o gael iawndal neu o gynyddu swm yr iawndal.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “tir perthnasol” (“relevant land”) yw'r tir a gaffaelwyd oddi wrth y person o dan sylw neu unrhyw dir arall y mae'r person hwnnw yn gysylltiedig ag ef, neu yr oedd y person hwnnw'n gysylltiedig ag ef adeg codi'r adeilad, adeg gweithredu'r gweithfeydd neu adeg gwneud y gwelliant neu'r addasiad, boed hynny'n gysylltiad uniongyrchol neu'n un anuniongyrchol.

Diddymu neu atal hawliau tramwy preifat dros dro

23.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), diddymir pob hawl tramwy breifat dros dir sy'n ddarostyngedig i gaffaeliad gorfodol o dan erthygl 18—

(a)o'r adeg y caffaelwyd y tir gan yr ymgymerwr, boed hynny'n orfodol neu drwy gytundeb; neu

(b)o'r adeg yr aeth yr ymgymerwr ar y tir o dan adran 11(1) o Ddeddf 1965, pa un bynnag sydd gyntaf.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw hawliau tramwy preifat dros Heol Caer Bont.

(3Atelir pob hawl tramwy breifat dros dir y mae'r ymgymerwr yn ei feddu dros dro o dan y Gorchymyn hwn, ac ni fydd modd eu gorfodi am yr amser y bydd yr ymgymerwr yn parhau i feddu ar y tir yn gyfreithlon.

(4Bydd unrhyw berson sy'n gweld colled oherwydd diddymu neu atal dros dro unrhyw hawl tramwy breifat o dan yr erthygl hon â'r hawl i gael iawndal sydd i'w benderfynu, os cyfyd anghydfod, o dan Ran I o Ddeddf 1961.

(5Ni fydd yr erthygl hon yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw hawl tramwy y mae adran 271 neu 272 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(2) (diddymu hawliau ymgymerwyr statudol etc.) yn gymwys iddi.

Terfyn amser ar gyfer arfer pwerau caffael

24.—(1Bydd y pwerau a roddir gan y Gorchymyn hwn i gaffael tir neu hawliau dros dir yn orfodol, a'r pŵer a roddir gan erthygl 21 i fynd ar dir a'i feddu dros dro, yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod o 5 mlynedd gan ddechrau ar y diwrnod y daw'r Gorchymyn hwn i rym.

(2Ni fydd paragraff (1) yn gwahardd yr ymgymerwr rhag parhau i feddu ar y tir ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, yn unol ag erthygl 21, os aethpwyd ar y tir ac os meddiannwyd y tir cyn diwedd y cyfnod hwnnw.