xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
25. Caiff yr ymgymerwr weithredu a defnyddio'r gweithfeydd awdurdodedig fel system ar gyfer cynhyrchu a throsglwyddo trydan.
26. Nid yw darpariaethau adrannau 36 a 37 o Ddeddf Trydan 1989(1) yn gymwys mewn perthynas â'r gweithfeydd awdurdodedig.
27. Bydd unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol—
(a)yn rhwystro person arall rhag adeiladu neu gynnal a chadw unrhyw rai o'r gweithfeydd awdurdodedig o dan y pwerau a roddir gan y Gorchymyn hwn;
(b)yn clymu rhywbeth yn sownd i unrhyw ran o unrhyw weithfeydd llanw'r môr; neu
(c)yn ymyrryd mewn unrhyw ffordd arall ag unrhyw weithfeydd awdurdodedig neu â'u gweithredu,
yn euog o dramgwydd ac yn atebol, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.
28.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (4), bydd unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol,—
(a)yn ystod y gwaith o adeiladu, ailddodi, ailosod, tynnu oddi yno neu ddadgomisiynu unrhyw weithfeydd llanw'r môr, yn llywio cwch o fewn ardal sy'n ymestyn 500 metr o unrhyw ran o'r gweithfeydd hynny (neu ardal lai fel y mae modd ei chyhoeddi o dan baragraff (2));
(b)yn sgil gosod unrhyw rai o'r ceblau rhyngdyrbinau, yn treillio neu yn angori cwch o fewn safle'r fferm wynt ac ardal sy'n ymestyn 200 metr y tu hwnt i'r safle hwnnw;
(c)yn sgil gosod unrhyw rai o'r ceblau bwydo i'r môr, yn angori cwch o fewn ardal sy'n ymestyn 200 metr o unrhyw ran o'r cebl hwnnw; neu
(ch)yn sgil cwblhau'r gwaith o adeiladu unrhyw rai o'r strwythurau perthnasol, yn llywio cwch o fewn y parth diogelwch wrth weithredu,
yn euog o dramgwydd ac yn atebol, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.
(2) Ni ddaw parth diogelwch yn effeithiol hyd nes—
(a)i 7 niwrnod fynd heibio ar ôl cyhoeddi hysbysiad i forwyr yn pennu lleoliad a maint y parth diogelwch, dyddiad ei gychwyn ac, yn achos parth diogelwch wrth adeiladu, ei gyfnod arfaethedig; a
(b)i'r ymgymerwr gymryd y camau eraill hynny y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol ofyn amdanynt er mwyn hysbysu llongau o'r parth diogelwch arfaethedig.
(3) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol yn dilyn rhoi diwedd ar barth diogelwch (ac eithrio oherwydd paragraff (5)), rhaid i'r ymgymerwr—
(a)cyhoeddi hysbysiad o ddiwedd ar barth drwy gyfrwng hysbysiad i forwyr; a
(b)cymryd y camau eraill hynny y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol ofyn amdanynt er mwyn hysbysu llongau o ddiwedd ar barth diogelwch.
(4) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys i berson sy'n llywio neu'n angori cwch at ddibenion adeiladu, cynnal a chadw neu weithredu gweithfeydd llanw'r môr, neu mewn cysylltiad â'r dibenion hynny.
(5) Bydd paragraff (1)(b), (c) ac (ch) yn peidio â chael effaith os bydd, ac i'r graddau y bydd, y gweithgareddau a bennir yn unrhyw un o'r darpariaethau hynny, o fewn yr ardaloedd hynny a bennir felly, wedi'u gwahardd o dan ddeddfiad perthnasol.
(6) Yn yr erthygl hon—
ystyr “y parth diogelwch wrth adeiladu” (“the construction safety zone”) yw ardal y mae mordwyo wedi'i wahardd ynddi o dan baragraff (1)(a);
ystyr “parth diogelwch wrth weithredu” (“operational safety zone”) yw ardal sy'n ymestyn 5 metr o unrhyw ran o strwythur berthnasol (gan gynnwys diogelu rhag sgwrfa'r llanw o amgylch y strwythur honno) neu unrhyw bellter mwy sydd heb fod yn fwy na 50 metr fel y caiff yr ymgymerwr ei benderfynu ar ôl cynnal asesiad risg ac ar ôl ymgynghori ag Asiantaeth yr Arfordir a Gwylwyr y Glannau a'r Gymdeithas Iotio Frenhinol;
ystyr “deddfiad perthnasol” (“relevant enactment”) yw unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf gyffredinol gyhoeddus, neu mewn unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf gyffredinol gyhoeddus, ac a ddaw i rym ar ôl gwneud y Gorchymyn hwn;
ystyr “strwythur berthnasol” (“relevant structure”) yw tyrbin gwynt neu unrhyw un o'r mastiau anemometreg;
ystyr “parth diogelwch” (“safety zone”) yw unrhyw un o'r ardaloedd y gwaherddir gweithgareddau ynddi o dan baragraff (1);
ystyr “treillio” (“trawl”) yw unrhyw weithgaredd pysgota sy'n cynnwys llusgo rhwyd neu linyn neu gyfarpar arall ar hyd gwely'r môr.
29. Caiff caniatâd cynllunio, y bernir iddo gael ei ddyfarnu gan gyfarwyddyd o dan adran 90(2A) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(2) mewn perthynas â gweithfeydd a awdurdodwyd gan y Gorchymyn hwn, ei drin fel caniatâd cynllunio penodol at ddibenion adran 264(3)(a) o'r Ddeddf honno (achosion y dylid trin tir fel pe bai'n dir gweithredol at ddibenion y Ddeddf honno).
30. Mae darpariaethau Atodlen 4 i'r Gorchymyn hwn yn effeithiol.
31. Mae darpariaethau Atodlen 5 i'r Gorchymyn hwn yn effeithiol.
32. Mae darpariaethau Atodlen 6 i'r Gorchymyn hwn yn effeithiol.
33.—(1) Os gall person perthnasol ddangos, fel bod yr ymgymerwr wedi'i fodloni yn rhesymol, ei fod wedi gweld colled, neu y bydd yn gweld colled, o ganlyniad i fethu â physgota o fewn yr ardal berthnasol ar ôl cychwyn adeiladu Gwaith Rhif 1 oherwydd arfer pwerau'r Gorchymyn hwn, rhaid i'r ymgymerwr dalu iawndal rhesymol i'r person perthnasol i'w ddigolledu am y golled honno.
(2) Rhaid gwneud unrhyw gais felly ar ôl i'r gwaith adeiladu ar Waith Rhif 1 ddechrau ond heb fod yn hwyrach na 2 flynedd ar ôl ei gwblhau; a dylid cyfeirio unrhyw anghydfod o ran atebolrwydd am dalu iawndal, neu gyfanswm yr iawndal, i'w gymrodeddu yn unol ag erthygl 39 o'r Gorchymyn hwn.
(3) Nid oes gan neb yr hawl i gael iawndal o dan y ddarpariaeth hon os collfarnir hwy yn euog o dramgwydd o dan erthygl 28(1) oherwydd treillio yn yr ardal berthnasol; ac, os caiff unrhyw berson ei gollfarnu o dramgwydd felly ar ôl i iawndal gael ei dalu iddo yn unol â'r erthygl hon, caiff yr ymgymerwr adennill yr iawndal oddi wrth y person hwnnw.
(4) At ddibenion penderfynu pa un a yw person yn berson perthnasol ai peidio, a hyd a lled colled unrhyw berson at ddibenion paragraff (1), ni ddylid cyfrif unrhyw weithgaredd oni bai iddo gydymffurfio ag unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol sy'n gymwys; ac, yn benodol, ni ddylid cyfrif unrhyw bysgodyn a ddaliwyd oni bai iddo gael ei gynnwys yn y derbyniadau a gyflwynwyd i Bwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru o dan is-ddeddfau a wnaed o dan adran 5 o Ddeddf Rheoli Pysgodfeydd Môr 1966(3) a, pan fo'n berthnasol, mewn datganiadau a gyflwynwyd o dan erthygl 8 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2847/93(4).
(5) Yn yr erthygl hon—
ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw perchennog cwch sydd wedi bod yn pysgota o fewn yr ardal berthnasol yn y cwch hwnnw yn rheolaidd wrth gyflawni ei fusnes ym mhob un o'r pum mlynedd yn union cyn cychwyn adeiladu Gwaith Rhif 1; ac
ystyr “yr ardal berthnasol” (“the relevant area”) yw safle'r fferm wynt a'r ardal ychwanegol y cyfeirir ati yn erthygl 28(1)(b).
34. Rhaid i'r ymgymerwr, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud y Gorchymyn hwn, gyflwyno copïau o'r cyfeirlyfr, y trawsluniau a phlaniau'r gweithfeydd a'r tir i'r Cynulliad Cenedlaethol i'w hardystio yn wir gopïau, yn eu trefn, o'r cyfeirlyfr, y trawsluniau a phlaniau'r gweithfeydd a'r tir y cyfeirir atynt yn y Gorchymyn hwn; a bydd dogfen a ardystiwyd felly yn dderbyniol mewn unrhyw achos fel tystiolaeth o gynnwys y ddogfen y mae'n gopi ohoni.
35.—(1) Caniateir cyflwyno hysbysiad neu ddogfen arall y mae angen neu a awdurdodwyd ei chyflwyno at ddibenion y Gorchymyn hwn drwy'r post.
(2) Os corff corfforaethol yw'r person y cyflwynir hysbysiad neu ddogfen arall iddo at ddibenion y Gorchymyn hwn, cyflwynir yr hysbysiad neu'r ddogfen yn briodol os cyflwynir hwy i ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw.
(3) At ddibenion adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978???(5) fel y mae'n gymwys at ddibenion yr erthygl hon, cyfeiriad priodol unrhyw berson mewn perthynas â chyflwyno hysbysiad neu ddogfen i'r person hwnnw o dan baragraff (1) yw, os yw'r person hwnnw wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno, y cyfeiriad hwnnw ac, fel arall,—
(a)yn achos ysgrifennydd neu glerc corff corfforaethol, swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r corff hwnnw; a
(b)yn unrhyw achos arall, y cyfeiriad hysbys diwethaf ar gyfer y person adeg y cyflwyno.
(4) Pan fo angen cyflwyno hysbysiad neu ddogfen arall at ddibenion y Gorchymyn hwn, neu yr awdurdodwyd gwneud hynny, i berson sydd ag unrhyw fuddiant yn y tir, neu sy'n meddu ar y tir, ac ni ellir dod o hyd i'w enw na'i gyfeiriad ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, caniateir cyflwyno'r hysbysiad drwy—
(a)ei gyfeirio at y person hwnnw gan ddefnyddio ei enw, neu gan ei ddisgrifio fel “y perchennog” neu, yn ôl y digwydd, “meddiannydd” y tir (gan ddisgrifio'r tir); a
(b)un ai ei adael yn nwylo'r person yr ymddengys ei fod yn preswylio ar y tir neu wedi'i gyflogi ar y tir, neu ludo'r hysbysiad yn amlwg i ryw adeilad neu wrthrych ar y tir neu yn agos ato.
(5) Nid yw'r erthygl hon yn gwahardd defnyddio unrhyw ddull arall o gyflwyno nas darparwyd amdano yn benodol ynddi.
36. Ni fydd iawndal yn daladwy mewn perthynas â'r un mater o dan y Gorchymyn hwn ac yn ogystal o dan unrhyw ddeddfiad, unrhyw gontract neu unrhyw rheol gyfreithiol arall.
37.—(1) Caiff yr ymgymerwr, gyda chydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol, ymrwymo i gytundebau, a'u rhoi ar waith, er mwyn trosglwyddo i berson arall unrhyw un o'r pwerau, neu'r holl bwerau, a roddir i'r ymgymerwr gan y Gorchymyn hwn.
(2) Bydd arfer unrhyw bŵer a roddir gan y Gorchymyn hwn gan unrhyw berson arall yn unol â chytundeb o dan is-adran (1) yn ddarostyngedig i'r un rhwymedigaethau a'r un atebolrwydd o dan y Gorchymyn hwn ac a fyddai'n gymwys ped arferid y pŵer hwnnw gan yr ymgymerwr.
(3) Rhaid i'r ymgymerwr hysbysu'r Ysgrifennydd Gwladol a Trinity House yn ysgrifenedig o unrhyw gytundeb i drosglwyddo pwerau sy'n ymwneud â gweithfeydd llanw'r môr i berson arall, gan roi enw a chyfeiriad y person y trosglwyddir y pwerau iddo a'r dyddiad y daw'r trosglwyddo yn effeithiol, a hynny heb fod yn llai na 21 o ddiwrnodau cyn i unrhyw gytundeb o'r fath ddod i rym.
38.—(1) Ni fydd dim yn y Gorchymyn hwn yn effeithio'n niweidiol ar unrhyw ystad, hawl, pŵer, braint, awdurdod neu esemptiad o eiddo'r Goron ac, yn enwedig, ni fydd dim yn y Gorchymyn hwn yn awdurdodi'r ymgymerwr i gymryd, defnyddio, mynd ar dir nac ymyrryd mewn unrhyw ffordd â thir, hereditamentau, neu hawliau o ba ddisgrifiad bynnag (gan gynnwys unrhyw ran o'r lan neu o wely'r môr neu unrhyw afon, sianel, cilfach, bae neu aber) sy'n perthyn i—
(a)Ei Mawrhydi drwy hawl Ei Choron ac o dan reolaeth Comisiynwyr Ystad y Goron, heb gydsyniad ysgrifenedig y Comisiynwyr hynny; neu
(b)adran o'r llywodraeth, neu a ddelir dan ymddiriedolaeth i'w Mawrhydi at ddibenion adran o'r llywodraeth, heb gydsyniad ysgrifenedig yr adran honno o'r llywodraeth.
(2) Caniateir rhoi cydsyniad o dan baragraff (1) yn ddi-amod neu yn ddarostyngedig i'r amodau hynny neu'r telerau hynny yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol neu'n briodol.
39. Rhaid cyfeirio unrhyw anghytundeb o dan unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn (ac eithrio anghytundeb sydd i'w ddyfarnu gan y Tribiwnlys) i'w gymrodeddu a'i benderfynu gan un cymrodeddwr, y caiff y partïon gytuno ar ei benodi ond, os na allant gytuno, caiff ei benodi gan Lywydd Sefydliad y Peirianwyr Sifil ar gais y naill barti neu'r llall (ar ôl rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r llall).