YR ATODLENNI

ATODLEN 5ER MWYN DIOGELU ASIANTAETH YR AMGYLCHEDD

Erthygl 31

1

1

Er mwyn diogelu Asiantaeth yr Amgylchedd (y cyfeirir ati yn yr Atodlen hon fel “yr Asiantaeth”), bydd y darpariaethau a ganlyn mewn effaith oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig rhwng yr ymgymerwr a'r Asiantaeth.

2

Cyn cyflawni unrhyw waith o dan bwerau'r Gorchymyn hwn sy'n ymwneud ag adeiladu neu godi unrhyw rhwystr i lif unrhyw gwrs dŵr nad yw'n rhan o brif afon o fewn ystyr adran 113 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 199122 neu adeiladu, addasu neu ailosod unrhyw gylfat neu unrhyw strwythur a ddyluniwyd i gadw neu i ddargyfeirio llif unrhyw gwrs dŵr felly mewn, o dan neu drwy unrhyw dir a ddelir at ddibenion neu mewn cysylltiad â'r gweithfeydd awdurdodedig, rhaid i'r ymgymerwr roi planiau priodol a digonol ohono i'r Asiantaeth er mwyn iddi eu cymeradwyo, ac ni ddylid mynd ati i wneud y gwaith arfaethedig hyd nes i'r planiau hynny gael eu cymeradwyo yn ysgrifenedig gan yr Asiantaeth.

3

Ni ddylid gwrthod, yn afresymol, gymeradwyo'r planiau a roddwyd ac, os nad yw'r Asiantaeth wedi cyfleu yn ysgrifenedig nad yw'n bwriadu eu cymeradwyo gan roi ei rhesymau dros hynny o fewn deufis o gyflwyno'r planiau i'r Asiantaeth, bernir i'r Asiantaeth gymeradwyo'r planiau fel y'u cyflwynwyd hwy.

4

At ddibenion y paragraff hwn, mae “planiau” (“plans”) yn cynnwys trawsluniau, darluniau, manylebau, cyfrifiadau a disgrifiadau.

5

Rhaid i unrhyw gylfat neu unrhyw strwythur sydd wedi'i dylunio i gadw neu i ddargyfeirio llif unrhyw gwrs dŵr, sef cylfat neu strwythur a leolir o fewn unrhyw dir a ddelir gan yr ymgymerwr at ddibenion neu mewn cysylltiad â'r gweithfeydd awdurdodedig, boed wedi'i hadeiladu o dan bwerau'r Gorchymyn hwn neu wedi'i hadeiladu cyn i'r Gorchymyn hwn gael ei wneud, gael ei chynnal a'i chadw gan yr ymgymerwr mewn cyflwr da ac yn rhydd o unrhyw rhwystr.

6

Ni fydd effaith unrhyw beth ym mharagraff (5) yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgymerwr gyflawni gwaith cynnal a chadw mewn perthynas ag unrhyw gylfat neu strwythur y mae'r Asiantaeth neu unrhyw berson arall yn atebol i'w chynnal.

7

Os adeiladir neu godir unrhyw rwystr, neu os adeiladir, addasir neu ailosodir unrhyw gylfat yn groes i'r erthygl hon, rhaid i'r ymgymerwr, pan dderbynia hysbysiad yr Asiantaeth, gymryd y camau hynny sy'n angenrheidiol i wella effaith mynd yn groes i'r erthygl hon hyd nes bod yr Asiantaeth wedi'i bodloni'n rhesymol, ac, fel arall, caiff yr Asiantaeth ei hunan gymryd y camau hynny sy'n angenrheidiol gan adennill y costau a dynnwyd yn rhesymol wrth wneud hynny oddi wrth yr ymgymerwr fel dyled rhyngddo ef a'r Asiantaeth.

8

Rhaid i unrhyw wahaniaethau rhwng yr ymgymerwr a'r Asiantaeth o dan yr Atodlen hon (ac eithrio gwahaniaeth ynglyn â'i hystyr neu ei dehongliad) gael eu penderfynu drwy gymrodeddu.