YR ATODLENNI

ATODLEN 6ER MWYN DIOGELU NETWORK RAIL

Network Rail yn dewis adeiladu'r gweithfeydd perthnasol ei hunan

4

1

Os bydd Network Rail yn ystyried, yn rhesymol, bod unrhyw weithfeydd perthnasol neu unrhyw ran o weithfeydd perthnasol yn effeithio ar sefydlogrwydd eiddo'r rheilffyrdd neu ar weithredu traffig yn ddiogel ar ei reilffyrdd neu y gall wneud hynny, caiff ddewis adeiladu'r gweithfeydd perthnasol neu ran ohonynt ei hunan drwy hysbysu'r ymgymerwr, gan bennu'r gweithfeydd neu'r rhan ohonynt sydd o dan sylw (“y gweithfeydd a bennwyd”) (“the specified work”) a datgan ei fod yn dymuno adeiladu'r gwaith hwnnw neu ran ohono.

2

Ni chaniateir rhoi hysbysiad o ddewis felly o dan is-baragraff (1) ar ôl i'r cyfnod o 56 o ddiwrnodau, gan ddechrau gyda'r dyddiad y cyflwynwyd y planiau o'r gweithfeydd a bennwyd i Network Rail o dan baragraff 3, ddod i ben.

3

Ar ôl i Network Rail ddewis felly, o dan is-baragraff (1), ni chaniateir i neb ac eithrio Network Rail adeiladu'r gweithfeydd a bennwyd, a hynny yn unol ag is-baragraff (4).

4

Os yw'r ymgymerwr yn cadarnhau ei fod yn dymuno i'r gweithfeydd a bennwyd gael eu hadeiladu, rhaid i Network Rail eu hadeiladu ar ran yr ymgymerwr (ynghyd ag unrhyw ran gydffiniol o unrhyw waith perthnasol y gall yr ymgymerwr ofyn yn rhesymol am eu hadeiladu ar yr un pryd â'r gweithfeydd a bennwyd)—

a

â phob brys rhesymol;

b

fel bod yr ymgymerwr yn rhesymol fodlon;

c

yn unol â'r planiau a gymeradwywyd neu a gytunwyd o dan baragraff 3; ac

ch

dan oruchwyliaeth yr ymgymerwr (pan fo'n briodol ac os y'i rhoddir).