YR ATODLENNI

ATODLEN 6ER MWYN DIOGELU NETWORK RAIL

Rhagarweiniad

1

1

Bydd darpariaethau canlynol yr Atodlen hon yn effeithiol oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig rhwng yr ymgymerwr a Network Rail.

2

Yn yr Atodlen hon—

  • mae “adeiladu” (“construction”, “construct”) yn cynnwys gweithredu, gosod, addasu ac ailadeiladu ac mae i “wedi adeiladu” (“constructed”) ystyr gyfatebol;

  • ystyr “cwmni cysylltiedig perthnasol” (“relevant associated company”) yw unrhyw gwmni sydd (o fewn ystyr adran 736 o Ddeddf Cwmnïau 198523) yn gwmni daliannol i Network Rail Infrastructure Limited, yn is-gwmni i Network Rail Infrastructure Limited, neu i is-gwmni arall cwmni daliannol Network Rail Infrastructure Limited, ac, yn unrhyw achos o'r fath, yn dal neu'n defnyddio eiddo at ddibenion rheilffyrdd;

  • ystyr “eiddo'r rheilffyrdd” (“railway property”) yw unrhyw rheilffordd sy'n perthyn i Network Rail ac unrhyw weithfeydd, cyfarpar ac offer sy'n perthyn i Network Rail neu gwmni cysylltiedig perthnasol sy'n gysylltiedig ag unrhyw reilffordd o'r fath, ac sy'n cynnwys unrhyw dir a ddelir neu a ddefnyddir gan Network Rail neu gwmni cysylltiedig perthnasol at ddibenion y rheilffordd, y gweithfeydd, y cyfarpar neu'r offer hynny.

  • ystyr “gwaith perthnasol” (“relevant work”) yw—

    1. a

      pa faint bynnag o unrhyw weithfeydd awdurdodedig sydd wedi'i leoli ar, ar draws, o dan, dros, o fewn 15 metr o, neu a all gael unrhyw effaith niweidiol ar, eiddo'r rheilffyrdd; a

    2. b

      i'r graddau nad yw'n waith awdurdodedig, unrhyw waith diogelu a adeiladwyd gan yr ymgymerwr;

  • ystyr “gweithfeydd diogelu” (“protective works”) yw gweithfeydd a bennir gan y peiriannydd o dan baragraff 5(1);

  • ystyr “Network Rail” yw Network Rail Infrastructure Limited, ac eithrio'r ffaith bod unrhyw gyfeiriad at gostau neu at golledion a welwyd gan Network Rail yn cynnwys cyfeiriad at y costau neu'r colledion a welwyd gan unrhyw gwmni cysylltiedig perthnasol;

  • ystyr “y peiriannydd” (“the engineer”) yw peiriannydd sydd i'w benodi gan Network Rail at y diben o dan sylw; ac

  • mae ystyr “planiau” (“plans”) yn cynnwys trawsluniau, dyluniadau, darluniau, manylebau, adroddiadau ar bridd, cyfrifiadau, disgrifiadau (gan gynnwys disgrifiadau o ddulliau adeiladu) a rhaglenni.