YR ATODLENNI
ATODLEN 6ER MWYN DIOGELU NETWORK RAIL
Indemniad cyffredinol
15
1
Rhaid i'r ymgymerwr dalu Network Rail swm sy'n cyfateb i unrhyw golledion neu gostau nad oes darpariaethau eraill ar eu cyfer yn yr Atodlen hon, ac a dynnwyd yn rhesymol gan Network Rail neu a welwyd ganddo oherwydd—
a
adeiladu, cynnal a chadw neu fethiant y gweithfeydd perthnasol; neu
b
unrhyw weithred neu anwaith ar ran yr ymgymerwr, neu ar ran unrhyw berson a gyflogwyd ganddo neu gan ei gontractwyr neu ei asiantau tra'n gweithio ar y gweithfeydd perthnasol.
2
Ni fydd y ffaith y gwnaed unrhyw weithred neu beth gan Network Rail ar ran yr ymgymerwr, neu yn unol â'r planiau a gymeradwywyd gan y peiriannydd, neu yn unol ag unrhyw ofyniad gan y peiriannydd neu o dan ei oruchwyliaeth (os y'i gwnaed heb esgeuluster ar ran Network Rail neu ar ran unrhyw berson a gyflogwyd ganddo neu gan ei gontractwyr neu ei asiantau) yn esgusodi'r ymgymerwr o'i atebolrwydd o dan ddarpariaethau'r paragraff hwn.