2004 Rhif 3221 (Cy.277)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu bwyd crai a mesurau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliad a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd neu fwyd anifeiliaid a roddir yn fwyd i anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd a rheoli a rheoleiddio'r canlynol, sef: gollwng yn fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig, eu rhoi ar y farchnad neu eu symud ar draws ffiniau, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: