Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau'r Ddeddf

6.—(1Mae darpariaethau'r Ddeddf a restrir ym mharagraff (2) isod yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn a Rheoliad 1829/2003 a hynny'n ddarostyngedig i'r addasiad a nodir ym mharagraff (2)(a) ac fel petai —

(a)unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at “feeding stuff” yn gyfeiriad at “feed”;

(b)unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu unrhyw Ran ohoni yn gyfeiriad at y Rheoliadau hyn a Rheoliad 1829/2003;

(c)unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at “samples taken in a prescribed manner” yn gyfeiriad at samplau a gymerwyd mewn modd a ragnodir yn Rhan II o Atodlen 1 o Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi) 1999(1);

(ch)unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at “prescribed method of analysis”—

(i)mewn perthynas â chanfod bod organedd awdurdodedig penodol a addaswyd yn enetig wedi'i ddefnyddio, yn gyfeiriad at y dull a ddisgrifir yn Erthygl 17(3)(i) o Reoliad 1829/2003 ar gyfer canfod ac adnabod y digwyddiad trawsnewid, neu

(ii)pan nad oes unrhyw ddull o'r fath yn bodoli, neu pan fo'r organedd penodol a addaswyd yn enetig heb ei awdurdodi, yn gyfeiriad at unrhyw ddull sy'n bodloni rheoliad 6(4)(b) o Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi) 1999(2).

(2Y darpariaethau hynny y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw —

(a)adran 76 (pwer arolygydd i fynd i mewn i fangre a chymryd samplau), sy'n gymwys fel petai paragraff (b) o is-adran (2) o'r adran honno yn cynnwys pwer i'w gwneud yn ofynnol bod unrhyw ddogfennau sy'n ymwneud â'r bwyd anifeiliaid yn cael eu dangos a phwer i gymryd copïau o'r dogfennau hynny;

(b)adran 77 (rhannu samplau a'u dadansoddi gan ddadansoddydd amaethyddol);

(c)adran 78(2), (3), (4), (5), (6), (7), (8) a (10) (dadansoddiad pellach gan Fferyllydd y Llywodraeth);

(ch)adran 79(4), (5), (6), (8) a (10) (darpariaethau atodol ynglyn â samplau a dadansoddi);

(d)adran 80 (cychwyn erlyniadau);

(dd)adran 81 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(e)adran 82 (amddiffyniad camgymeriad, damwain, etc.);

(f)adran 83 (arfer pwerau gan arolygwyr);

(ff)adran 110 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol).

(1)

O.S. 1999/1663; O.S. 2002/1797 yw'r offeryn diwygio perthnasol.