- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
TIR, CYMRU
YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL, CYMRU
Wedi'i wneud
8 Rhagfyr 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 93(3)(b) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (“y Ddeddf”)(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2004.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i gŵynion am wrychoedd neu berthi(2) yng Nghymru.
2. Daw Rhan 8 o'r Ddeddf (Gwrychoedd neu Berthi Uchel) i rym ar 31 Rhagfyr 2004.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Rhagfyr 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau Rhan 8 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (“y Ddeddf”) i rym, mewn perthynas â gwrychoedd neu berthi yng Nghymru, ar 31 Rhagfyr 2004.
Mae Rhan 8 o'r Ddeddf yn rhoi'r pŵer i awdurdodau lleol ymdrin â chwynion am wrychoedd neu berthi uchel sy'n cael effaith andwyol ar allu cymydog i fwynhau ei eiddo. Mae hefyd yn rhoi'r pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) wneud rheoliadau mewn perthynas â gwrychoedd neu berthi yng Nghymru, i osod mwyafswm y ffï y gall awdurdod lleol ei chodi ar gyfer ymdrin â chais o dan y Ddeddf, ac i bennu'r gweithdrefnau y dylid eu dilyn pan wneir apêl i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 71 o'r Ddeddf.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Daethpwyd â darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn Nhabl 1 isod i rym mewn perthynas â Chymru a Lloegr drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn. Daethpwyd â darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn Nhabl 2 isod i rym mewn perthynas â Chymru drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Adran(nau) neu Atodlen(ni) | Dyddiad cychwyn | Rhif yr O.S. |
---|---|---|
1 i 11 | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
18 | 27 Chwefror 2004 | 2003/3300 |
23 | 27 Chwefror 2004 | 2003/3300 |
25 i 29 | 27 Chwefror 2004 | 2003/3300 |
30 i 38 | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
39(1) a (2) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
39(3) (yn rhannol) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
39(3) (y gweddill) | 30 Ebrill 2004 | 2003/3300 |
39(4) i (6) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
46 | 31 Mawrth 2004 | 2004/690 |
53 | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
54 | 31 Mawrth 2004 | 2004/690 |
57 i 59 | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
60 i 64 | 27 Chwefror 2004 | 2003/3300 |
85(1) i (3) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
85(4) (yn rhannol) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
85(4) (y gweddill) | 31 Mawrth 2004 | 2004/690 |
85(5) | 31 Mawrth 2004 | 2004/690 |
85(6) (yn rhannol) | 31 Mawrth 2004 | 2004/690 |
85(7) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
85(8) | 27 Chwefror 2004 | 2003/3300 |
85(9) i (11) | 31 Mawrth 2004 | 2004/690 |
86(1) a (2) | 31 Mawrth 2004 | 2004/690 |
86(3) (yn rhannol) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
86(3) (y gweddill) | 31 Mawrth 2004 | 2004/690 |
86(4) i (6) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
87 | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
89(1) i (4) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
89(5) | 31 Mawrth 2004 | 2004/690 |
89(6) a (7) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
90 | 30 Gorffennaf 2004 | 2004/1502 |
92 (yn rhannol) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
92 (yn rhannol) | 31 Mawrth 2004 | 2004/690 |
Atodlen 3 (yn rhannol) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
Atodlen 3 (yn rhannol) | 31 Mawrth 2004 | 2004/690 |
Adran(nau) neu Atodlen(ni) | Dyddiad cychwyn | Rhif yr O.S. |
---|---|---|
13 (gydag arbedion) | 30 Medi 2004 | 2004/2557 (Cy.228) (C.107) |
14 | 30 Medi 2004 | 2004/2557 (Cy.228) (C.107) |
16 (gydag arbedion) | 30 Medi 2004 | 2004/2557 (Cy.228) (C.107) |
17 | 30 Medi 2004 | 2004/2557 (Cy.228) (C.107) |
40 i 45 | 31 Mawrth 2004 | 2004/999 (Cy.105)(C.43) |
47 i 52 | 31 Mawrth 2004 | 2004/999 (Cy.105)(C.43) |
55 a 56 | 31 Mawrth 2004 | 2004/999 (Cy.105)(C.43) |
91 (gydag arbedion) | 30 Medi 2004 | 2004/2557 (Cy.228) (C.107) |
Atodlen 1 (yn rhannol) | 30 Medi 2004 | 2004/2557 (Cy.228) (C.107) |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: