xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 3238 (Cy.281) (C.144)

TIR, CYMRU

YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2004

Wedi'i wneud

8 Rhagfyr 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 93(3)(b) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (“y Ddeddf”)(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2004.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i gŵynion am wrychoedd neu berthi(2) yng Nghymru.

Y darpariaethau sydd i'w cychwyn

2.  Daw Rhan 8 o'r Ddeddf (Gwrychoedd neu Berthi Uchel) i rym ar 31 Rhagfyr 2004.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Rhagfyr 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau Rhan 8 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (“y Ddeddf”) i rym, mewn perthynas â gwrychoedd neu berthi yng Nghymru, ar 31 Rhagfyr 2004.

Mae Rhan 8 o'r Ddeddf yn rhoi'r pŵer i awdurdodau lleol ymdrin â chwynion am wrychoedd neu berthi uchel sy'n cael effaith andwyol ar allu cymydog i fwynhau ei eiddo. Mae hefyd yn rhoi'r pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) wneud rheoliadau mewn perthynas â gwrychoedd neu berthi yng Nghymru, i osod mwyafswm y ffï y gall awdurdod lleol ei chodi ar gyfer ymdrin â chais o dan y Ddeddf, ac i bennu'r gweithdrefnau y dylid eu dilyn pan wneir apêl i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 71 o'r Ddeddf.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Daethpwyd â darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn Nhabl 1 isod i rym mewn perthynas â Chymru a Lloegr drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn. Daethpwyd â darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn Nhabl 2 isod i rym mewn perthynas â Chymru drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

TABL 1

Adran(nau) neu Atodlen(ni)Dyddiad cychwynRhif yr O.S.
1 i 1120 Ionawr 20042003/3300
1827 Chwefror 20042003/3300
2327 Chwefror 20042003/3300
25 i 2927 Chwefror 20042003/3300
30 i 3820 Ionawr 20042003/3300
39(1) a (2)20 Ionawr 20042003/3300
39(3) (yn rhannol)20 Ionawr 20042003/3300
39(3) (y gweddill)30 Ebrill 20042003/3300
39(4) i (6)20 Ionawr 20042003/3300
4631 Mawrth 20042004/690
5320 Ionawr 20042003/3300
5431 Mawrth 20042004/690
57 i 5920 Ionawr 20042003/3300
60 i 6427 Chwefror 20042003/3300
85(1) i (3)20 Ionawr 20042003/3300
85(4) (yn rhannol)20 Ionawr 20042003/3300
85(4) (y gweddill)31 Mawrth 20042004/690
85(5)31 Mawrth 20042004/690
85(6) (yn rhannol)31 Mawrth 20042004/690
85(7)20 Ionawr 20042003/3300
85(8)27 Chwefror 20042003/3300
85(9) i (11)31 Mawrth 20042004/690
86(1) a (2)31 Mawrth 20042004/690
86(3) (yn rhannol)20 Ionawr 20042003/3300
86(3) (y gweddill)31 Mawrth 20042004/690
86(4) i (6)20 Ionawr 20042003/3300
8720 Ionawr 20042003/3300
89(1) i (4)20 Ionawr 20042003/3300
89(5)31 Mawrth 20042004/690
89(6) a (7)20 Ionawr 20042003/3300
9030 Gorffennaf 20042004/1502
92 (yn rhannol)20 Ionawr 20042003/3300
92 (yn rhannol)31 Mawrth 20042004/690
Atodlen 3 (yn rhannol)20 Ionawr 20042003/3300
Atodlen 3 (yn rhannol)31 Mawrth 20042004/690

TABL 2

Adran(nau) neu Atodlen(ni)Dyddiad cychwynRhif yr O.S.
13 (gydag arbedion)30 Medi 20042004/2557 (Cy.228) (C.107)
1430 Medi 20042004/2557 (Cy.228) (C.107)
16 (gydag arbedion)30 Medi 20042004/2557 (Cy.228) (C.107)
1730 Medi 20042004/2557 (Cy.228) (C.107)
40 i 4531 Mawrth 20042004/999 (Cy.105)(C.43)
47 i 5231 Mawrth 20042004/999 (Cy.105)(C.43)
55 a 5631 Mawrth 20042004/999 (Cy.105)(C.43)
91 (gydag arbedion)30 Medi 20042004/2557 (Cy.228) (C.107)
Atodlen 1 (yn rhannol)30 Medi 20042004/2557 (Cy.228) (C.107)
(2)

Gweler adran 66(6) o'r Ddeddf am ystyr “high hedge”.