2004 Rhif 392 (Cy.40)
Rheoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Diwygio)(Cymru) 2004
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Teitl a chychwyn1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 17 Chwefror 2004.
Diwygiadau i Reoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 20032
1
Caiff Rheoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 20033 eu newid yn unol â pharagraff (2).
2
Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) —
a
yn lle'r diffiniad o “Penderfyniad y Comisiwn” (“the Commission Decision”) rhodder y diffiniad canlynol —
ystyr “Penderfyniad y Comisiwn” (“the Commission Decision”) yw Penderfyniad y Comisiwn dyddiedig 21 Ionawr 2004 ar fesurau brys mewn cysylltiad â tsilis a chynhyrchion tsilis;
b
yn lle'r diffiniad o “tsilis poeth a chynnyrtsilis poeth” (“hot chilli and hot chilli products”) rhodder y diffiniad canlynol —
ystyr “tsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth”(“hot chilli and hot chilli products”) yw —
- a
ffrwythau'r genws Capsicum, sydd wedi'u sychu a'u gwasgu neu wedi'u malu ac sy'n dod o dan God CN 09042090; a
- b
powdwr cyrri sy'n dod o dan God CN 091050;
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)