xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 392 (Cy.40)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Diwygio)(Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

16 Chwefror 2004

Yn dod i rym

17 Chwefror 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â mesurau sy'n gysylltiedig â bwyd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 17 Chwefror 2004.

Diwygiadau i Reoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003

2.—(1Caiff Rheoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003(3) eu newid yn unol â pharagraff (2).

(2Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) —

(a)yn lle'r diffiniad o “Penderfyniad y Comisiwn” (“the Commission Decision”) rhodder y diffiniad canlynol —

ystyr “Penderfyniad y Comisiwn” (“the Commission Decision”) yw Penderfyniad y Comisiwn dyddiedig 21 Ionawr 2004 ar fesurau brys mewn cysylltiad â tsilis a chynhyrchion tsilis;; a

(b)yn lle'r diffiniad o “tsilis poeth a chynnyrtsilis poeth” (“hot chilli and hot chilli products”) rhodder y diffiniad canlynol —

ystyr “tsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth”(“hot chilli and hot chilli products”) yw —

(a)

ffrwythau'r genws Capsicum, sydd wedi'u sychu a'u gwasgu neu wedi'u malu ac sy'n dod o dan God CN 09042090; a

(b)

powdwr cyrri sy'n dod o dan God CN 091050;.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

D.Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

16 Chwefror 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/2455 (Cy.238)) er mwyn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn dyddiedig 21 Ionawr 2004 ar fesurau brys mewn cysylltiad â tsilis a chynhyrchion tsilis (“y Penderfyniad newydd”). Diddymwyd Penderfyniad y Comisiwn 2003/460/EC ar fesurau brys mewn cysylltiad â tsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth (OJ Rhif L154, 21.6.2003, t.114) gan y Penderfyniad newydd.

Dyma'r gwahaniaethau rhwng y Penderfyniad newydd a Phenderfyniad y Comisiwn 2003/460/EC

(a)mewn perthynas â phowdwr cyrri, mae'r Penderfyniad newydd yn ymestyn y mesurau brys a nodwyd eisoes ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2003/460/EC mewn cysylltiad â tsilis sydd wedi'u sychu a'u gwasgu neu eu malu. Caiff y newid hwn ei weithredu trwy fewnosod yn O.S. 2003/2455 (Cy.238) (rheoliad 2(2)(b)) ddiffiniad diwygiedig o “tsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth” (“hot chilli and hot chilli products”); a

(b)mae'r Penderfyniad newydd yn diwygio'r amodau ar gyfer mewnforio tsilis a chynhyrchion tsilis drwy ddarparu y gwaherddir mewnforio onid yw'r adroddiad dadansoddiadol sy'n dod gyda'r llwyth yn dangos nid yn unig bod y cynnyrch ddim yn cynnwys Swdan I (Rhif CAS 842-07-9) ond, at hynny, nad yw'n cynnwys Swdan II (Rhif CAS 3118-97-6), Swdan III (Rhif CAS 85-86-9) neu Scarlet Red neu Swdan IV (Rhif CAS 85-83-6). Caiff y newid hwn ei weithredu trwy fewnosod yn O.S. 2003/2455 (Cy. 238) (rheoliad)2(2)(a)) ddiffiniad diwygiedig o “Penderfyniad y Comisiwn” (“the Commission Decision”).

Rhif au cod y gyfundrefn enwi a sefydlwyd o dan Reoliad 2658/87 ar y tariff a'r gyfundrefn enwi ystadegol ac ar dariff y tollau (OJ Rhif L256, 7.9.87, t.1) yw'r codau CN y cyfeirir atynt yn y diffiniad o “tsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth” (“hot chilli and hot chilli products”).

Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn.