xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
Wedi'u gwneud
24 Chwefror 2004
Yn dod i rym
25 Chwefror 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 12 a 113(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(1):
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) (Diwygio) 2004 a deuant i rym ar 25 Chwefror 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i anheddau yng Nghymru yn unig.
2. Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “Rheoliadau 1998” yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) 1998(2).
3. Mae Rheoliadau 1998 yn cael eu diwygio fel a ganlyn:
(1) Yn rheoliad 2, ar ôl y diffiniad o “Class B”, mewnosodwch y canlynol —
““Class C” means the class of dwellings described in regulation 5A;”.
(2) Yn rheoliad 3 Rhif wch y geiriad presennol yn baragraff (1) ac ar ôl y paragraff hwnnw mewnosodwch —
“(2) Class C is prescribed as a class of dwellings for the purposes of section 12 of the Act for each financial year beginning on or after 1st April 2004.”.
(3) Ar ôl diwedd rheoliad 5 mewnosodwch y canlynol —
5A. The class of dwellings described in this regulation (“Class C”) comprises every chargeable dwelling in Wales —
(a)which is unoccupied; and
(b)which is substantially unfurnished.”.
(4) Ym mharagraff 3 o'r Atodlen yn lle'r geiriau “section 168(8) to (10) and (12) of the Income and Corporation Taxes Act 1988”(3) rhowch y geiriau “sections 67 and 69 of the Income Tax (Earnings and Pensions) Act 2003(4) in relation to the benefits code”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Chwefror 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) (Disgowntiau: darpariaeth arbennig i Gymru), fel y'i hamnewidiwyd gan adran 75(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003, yn rhoi pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ragnodi, drwy reoliadau, un neu ragor o ddosbarthau ar anheddau yng Nghymru at ddibenion penodol fel y'u nodir yn is-adrannau (3) a (4) o'r adran honno. Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan adrannau 12 a 113(1) o Ddeddf 1992 ac maent yn rhagnodi dosbarth newydd ar anheddau.
Rhagnododd Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) 1998 (“Rheoliadau 1998”) ddau ddosbarth ar anheddau (Dosbarth A a Dosbarth B) at ddibenion adran 12 o Ddeddf 1992. Yr oedd y dosbarthau hynny yn gymwys ar gyfer pob blwyddyn ariannol a oedd yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 1998. Yn rheoliad 3 mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1998 drwy ragnodi dosbarth ychwanegol ar anheddau (Dosbarth C) a fydd yn gymwys ar gyfer pob blwyddyn ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004. Mae Dosbarth C yn cynnwys pob annedd drethadwy yng Nghymru sydd heb ei meddiannu ac sydd i raddau helaeth heb ei dodrefnu. Effaith rhagnodi Dosbarth C yw caniatáu i awdurdodau bilio yng Nghymru leihau neu derfynu, o 1 Ebrill 2004 ymlaen, y disgownt treth gyngor ar gyfer anheddau trethadwy sydd heb eu meddiannu ac sydd i raddau helaeth heb eu dodrefnu.
Mae rheoliad 3(4) yn diwygio Rheoliadau 1998 i ddiweddaru diffiniadau penodol yn y Rheoliadau hynny drwy gyfeirio at Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003.
1992 p.14. Amnewidiwyd adran 12 gan adran 75(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. Mae adran 113(1) wedi'i diwygio gan adran 127(1) o'r Ddeddf honno a pharagraffau 40, 52(1) a 52(2) o Atodlen 7 iddi.
O.S. 1998/105. Gweler adran 75(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 ar gyfer effaith barhaol y Rheoliadau hyn.