http://www.legislation.gov.uk/wsi/2004/908/regulation/3/made/welsh
Rheoliadau Addysg (Cynigion Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2004
cy
King's Printer of Acts of Parliament
2016-07-04
ADDYSG, CYMRU
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cynigion Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999 (OS 1999/1671) (“y Prif Reoliadau”). Mae'r Rheoliadau —yn gweithredu'r diwygiad i adran 28 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a wnaed gan adran 154 o Ddeddf Addysg 2002; acyn diwygio'r Prif Reoliadau er mwyn caniatáu i ysgolion gymryd rhan mewn cynlluniau peilot Cymraeg sydd wedi'u cymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, heb gyhoeddi cynigion (rheoliad 7).
Diwygio'r Prif Reoliadau3
Caiff y Prif Reoliadau eu diwygio yn unol â darpariaethau rheoliadau 4 i 10.