xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 1153 (Cy.70) (C.53)

GWASANAETHAU CYMDEITHASOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Gofalwyr (Cyfleoedd Cyfartal) 2004 (Cychwyn) (Cymru) 2005

Wedi'i wneud

12 Ebrill 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 6(3) o Ddeddf Gofalwyr (Cyfleoedd Cyfartal) 2004(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Gofalwyr (Cyfleoedd Cyfartal) 2004 (Cychwyn) (Cymru) 2005.

Y diwrnod penodedig

2.  18 Ebrill 2005 yw'r dyddiad a benodwyd ar gyfer dod ag adrannau 1 i 5 o Ddeddf Gofalwyr (Cyfleoedd Cyfartal) 2004 i rym mewn perthynas â Chymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Ebrill 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Daw'r Gorchymyn hwn â Deddf Gofalwyr (Cyfleoedd Cyfartal) 2004 mewn grym mewn perthynas â Chymru ar 18 Ebrill 2005.