2005 Rhif 1155 (Cy.72)

IECHYD PLANHIGION, CYMRU
HADAU, CYMRU

Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Ffrwythau (Diwygio) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 19722 o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo yn rhinwedd yr adran honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol —

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Ffrwythau (Diwygio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Ebrill 2005.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau2

1

Diwygir Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Ffrwythau 19953 o ran Cymru, yn unol â pharagraff (2).

2

Yn lle Atodlen 1 i'r Rheoliadau hynny rhodder yr Atodlen ganlynol —

SCHEDULE 1Genera and species to which these Regulations apply

Regulation 3(1)

Castanea sativa Mill. (Chestnut)

Prunus armeniaca L. (Apricot)

Citrus L. (e.g. Grapefruit, Lemon, Lime, Mandarin and Orange)

Prunus avium (L.) L. (Sweet cherry)

Prunus cerasus L. (Sour cherry)

Corylus avellana L. (Hazel)

Prunus domestica L. (Plum)

Cydonia oblonga Mill. (Quince)

Ficus carica L. (Common edible fig)

Fortunella Swingle (Kumquat)

Prunus dulcis (Mill.) D A Webb (Almond) (but described as Prunus amygdalus Batsch in Directive 2003/111/EC)4

Fragaria L. (all cultivated strawberry species)

Prunus persica (L.) Batsch (Peach)

Juglans regia L. (Walnut)

Prunus salicina Lindley (Japanese Plum)

Malus Mill. (Apple)

Olea europaea L. (Olive)

Pyrus L. (all cultivated edible pears, including perry pears)

Pistacia vera L. (Pistachio)

Poncirus Raf. (Trifoliate orange)

Ribes L. (Blackcurrant, gooseberry, redcurrant and white currant)

Rubus L. (Blackberry, raspberry and hybrid berries) Vaccinium L. (e.g. Blueberry, cranberry and bilberry)

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19985.

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn, sydd yn gymwys o ran Cymru, yn dod i rym ar 30 Ebrill 2005. Maent yn rhoi effaith i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2003/111/EC (O.J. Rhif L311, 27.11.2003, t.12) sy'n diwygio Atodiad II i Gyfarwyddeb 92/34/EEC (O.J. Rhif L157, 10.6.1992, t. 10) ar farchnata deunyddiau sy'n lluosogi planhigion ffrwythau a phlanhigion ffrwythau a fwriadwyd ar gyfer cynhyrchu ffrwythau.

Mae Rheoliad 2 yn disodli Atodlen 1 i Reoliadau Marchnata Deunyddiau Ffrwythau 1995 ac yn ei lle yn rhoi Atodlen 1 newydd sy'n pennu'r genera a'r rhywogaethau y mae'r Rheoliadau hynny yn gymwys iddynt.

Mae Arfarniad Rheoleiddiol wedi'i baratoi. Gellir cael copïau oddi wrth Is-adran Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.