- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
TAI, CYMRU
Wedi'u gwneud
26 Ebrill 2005
Yn dod i rym
30 Ebrill 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 143F(3) a (4) o Ddeddf Tai 1996(1), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tenantiaethau Isradd (Adolygu Penderfyniadau) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Ebrill 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran tai annedd yng Nghymru.
2.—(1) Rhaid i adolygiad o dan adran 143F o Ddeddf Tai 1996 o benderfyniad i geisio gorchymyn meddiannu tŷ annedd a osodir o dan denantiaeth isradd (“yr adolygiad”) gael ei gynnal gan berson nad oedd ynghlwm wrth y penderfyniad hwnnw.
(2) Pan fo'r adolygiad yn adolygiad o benderfyniad a wnaethpwyd gan un o swyddogion y landlord ac y mae'r adolygiad i'w gynnal gan swyddog arall, rhaid i'r swyddog sy'n adolygu'r penderfyniad fod mewn swydd uwch o fewn sefydliad y landlord.
3. Rhaid i'r landlord o dan y denantiaeth isradd hybysu'r tenant nid llai na phum niwrnod clir cyn dyddiad yr adolygiad.
4.—(1) Pan fo'r tenant yn gwneud cais am hynny, rhaid i'r adolygiad fod yn wrandawiad llafar.
(2) Rhaid gwneud unrhyw gais o'r fath i'r landlord cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (1) i adran 143F o Ddeddf Tai 1996 (yr amser a ganiateir ar gyfer gwneud cais am adolygiad).
(3) Os yw'r tenant yn gwneud cais o'r fath, rhaid i'r landlord, pan hysbysa'r tenant am ddyddiad yr adolygiad yn unol â rheoliad 3, roi gwybod hefyd i'r tenant am yr amser a'r lle y gwrandewir yr adolygiad.
5. P'un a yw'r adolygiad i fod ar ffurf gwrandawiad llafar ai peidio —
(a)caiff y tenant wneud sylwadau ysgrifenedig i'r landlord am yr adolygiad;
(b)rhaid i'r sylwadau hynny ddod i law'r landlord nid llai na dau ddiwrnod clir cyn dyddiad yr adolygiad; ac
(c)rhaid i'r landlord ystyried unrhyw sylwadau a gaiff erbyn y dyddiad hwnnw.
6.—(1) Pan fo'r adolygiad i fod drwy gyfrwng gwrandawiad llafar, mae gan y tenant yr hawl i gael ei wrando ac i gael person arall gydag ef neu i gael ei gynrychioli gan berson arall (p'un a yw'r person hwnnw yn berson â chymwysterau proffesiynol ai peidio).
(2) Caiff y tenant neu gynrychiolydd y tenant —
(a)galw personau i roi tystiolaeth yn y gwrandawiad;
(b)holi unrhyw berson sy'n rhoi tystiolaeth yn y gwrandawiad.
(3) Yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn, mae'r weithdrefn sy'n gysylltiedig ag adolygiad drwy gyfrwng gwrandawiad llafar i'w phenderfynu gan y person sy'n cynnal yr adolygiad.
7.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo tenant wedi'i hysbysu yn unol â rheoliadau 3 a 4(3) ac nid yw'r tenant na chynrychiolydd y tenant yn ymddangos yn y gwrandawiad.
(2) Pan fo paragraff (1) yn gymwys, caiff y person sy'n cynnal yr adolygiad, o ystyried yr holl amgylchiadau —
(a)bwrw ymlaen â'r gwrandawiad; neu
(b)rhoi'r cyfarwyddiadau ynghylch cynnal yr adolygiad y mae'r person hwnnw yn eu barnu'n briodol.
8.—(1) Caiff y tenant wneud cais i'r landlord i ohirio gwrandawiad a hysbyswyd yn unol â rheoliadau 3 a 4(3) a chaiff y landlord ildio i'r cais neu ei wrthod.
(2) Os gohirir y gwrandawiad, rhaid i'r landlord roi hysbysiad rhesymol i'r tenant am ddyddiad, amser a lle'r gwrandawiad gohiriedig.
9.—(1) Caiff y person sy'n cynnal yr adolygiad dorri ar y gwrandawiad ar unrhyw adeg, naill ai o ben a phastwn y person ei hun neu ar gais y tenant, cynrychiolydd y tenant neu'r landlord.
(2) Pan fo rhagor nag un person yn cynnal yr adolygiad drwy gyfrwng gwrandawiad llafar, rhaid torri ar y gwrandawiad bob tro y bydd unrhyw un o'r personau hynny yn absennol, oni bai bod y tenant neu gynrychiolydd y tenant yn cytuno fel arall.
(3) Rhaid i'r landlord roi hysbysiad rhesymol i'r tenant am ddyddiad, amser a lle'r gwrandawiad y torrwyd arno.
(4) Os nad yr un person a oedd yn cynnal yr adolygiad yn y gwrandawiad cynharach yw'r person sy'n cynnal yr adolygiad yn y gwrandawiad y torrwyd arno, rhaid i'r adolygiad fynd rhagddo drwy ailwrando'r achos o'r newydd oni bai bod y tenant neu gynrychiolydd y tenant yn cytuno fel arall.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.(2)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Ebrill 2005
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Diwygiodd adran 14 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 Ran 4 o Ddeddf Tai 1985 (p.68) er mwyn caniatáu i denantiaeth ddiogel awdurdod tai lleol, ymddiriedolaeth gweithredu tai neu landlord cymdeithasol cofrestredig gael eu dirwyn i ben a'u disodli gan denantiaeth isradd lai diogel drwy gyfrwng gorchymyn israddio a wnaethpwyd gan lys sirol. Mewnosododd Atodlen 1 i Ddeddf 2003 ddarpariaethau pellach sy'n ymwneud â thenantiaethau isradd fel Pennod 1A newydd o Ran 5 o Ddeddf Tai 1996.
Os yw landlord yn dymuno dod â thenantiaeth isradd i ben, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad i'r tenant. Rhaid i'r hysbysiad hwnnw ddatgan bod y landlord wedi penderfynu gwneud cais i'r llys am orchymyn meddiannu sy'n nodi'r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw ac sy'n rhoi gwybod i'r tenant am ei hawl i wneud cais am gael adolygiad o'r penderfyniad. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn sydd i'w dilyn mewn adolygiad o'r fath.
Mae rheoliad 2 yn darparu bod rhaid i adolygiad gael ei gynnal gan berson nad oedd ynghlwm wrth y penderfyniad gwreiddiol. Os gwnaethpwyd y penderfyniad gwreiddiol gan swyddog, yna ni chaniateir i unrhyw adolygiad o'r penderfyniad hwnnw gael ei gynnal gan neb ond swyddog sy'n uwch ei swydd o fewn sefydliad y landlord na'r swyddog a wnaeth y penderfyniad gwreiddiol.
Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i'r landlord roi hysbysiad i'r tenant am ddyddiad yr adolygiad.
Mae rheoliad 4 yn galluogi'r tenant i gael gwrandawiad llafar o dan rai amgylchiadau ac mae'n esbonio sut y gellir arfer yr hawl honno.
Mae rheoliadau 5 i 9 yn nodi manylion y weithdrefn adolygu.
1996 p.52; mewnosodwyd adran 143F gan adran 14 o Atodlen 1 i Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ran 5 o Ddeddf Tai 1996, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn) ac adran 17 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: