xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch asiantaethau mabwysiadu (awdurdodau lleol a chymdeithasau mabwysiadu cofrestredig) sy'n arfer eu swyddogaethau o ran mabwysiadu o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (“y Ddeddf”).

Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y trefniadau ar gyfer gwaith mabwysiadu y mae'n rhaid i asiantaethau eu sefydlu. Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i asiantaethau ffurfio paneli mabwysiadu ac mae rheoliadau 4 a 5 yn gwneud darpariaeth o ran deiliadaeth swydd aelodau panel a gweithdrefnau panel mabwysiadu. Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i asiantaethau benodi cynghorydd mabwysiadu i'r panel mabwysiadu.

Mae Rhan 3 yn gymwys pan fydd asiantaeth yn ystyried mabwysiadu ar gyfer y plentyn. Mae rheoliad 12 yn ei gwneud yn ofynnol i'r asiantaeth agor cofnod achos o ran y plentyn a rhoi yn y cofnod hwnnw unrhyw wybodaeth a gafwyd o dan y rheoliadau am y plentyn ac am deulu'r plentyn. Mae rheoliadau 13 a 14 yn ei gwneud yn ofynnol i'r asiantaeth ddarparu cwnsela a gwybodaeth i'r plentyn a rhiant neu warcheidwad y plentyn. Mae rheoliad 14(2) a (3) yn ymdrin â sefyllfa tad nad oes ganddo gyfrifoldeb rhiant am y plentyn. Mae rheoliadau 15 a 16 yn gosod dyletswyddau ar asiantaeth i gael gwybodaeth am y plentyn, teulu'r plentyn ac eraill a bennir yn Atodlen 1. Mae rheoliad 17 yn ei gwneud yn ofynnol i'r asiantaeth baratoi adroddiad ysgrifenedig i'r panel mabwysiadu am y plentyn a theulu'r plentyn, i gynnwys dadansoddiad sy'n dangos pam mai lleoliad ar gyfer mabwysiadu yw'r hoff ddewis o ran sefydlogrwydd. Mae rheoliad 18 yn darparu bod yn rhaid i'r panel mabwysiadu wneud argymhelliad i'r asiantaeth p'un a ddylid lleoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu. Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu ystyried yr argymhelliad hwnnw wrth ddod i benderfyniad ynghylch a ddylid lleoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu (rheoliad 19). Mae rheoliad 20 yn darparu y gall yr asiantaeth ofyn am swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru i gael ei benodi i dystio i gydsyniad ar gyfer lleoliad o dan adran 19 o'r Ddeddf ac, yn ôl y digwydd, i wneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol o dan adran 20 o'r Ddeddf. Pennir yr wybodaeth sydd i'w darparu i'r swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru yn Atodlen 2.

Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer asesu darpar fabwysiadwyr. Mae rheoliad 21 yn ei gwneud yn ofynnol i'r asiantaeth ddarparu cwnsela a gwybodaeth ar gyfer darpar fabwysiadydd. Mae rheoliad 23 yn ei gwneud yn ofynnol i'r asiantaeth gyflawni gwiriadau heddlu ac mae'n darparu na chaiff asiantaeth ystyried person yn addas i fod yn rhiant mabwysiadol os yw'r person neu unrhyw aelod o'i aelwyd 18 oed neu drosodd wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd benodedig (fel y'i diffinnir yn rheoliad 23(3)) neu os cafodd rybudd yn ei chylch. Mae rheoliad 26 yn gosod y gweithdrefnau ar gyfer gwneud asesiad o'r darpar fabwysiadydd. Nodir yr wybodaeth sydd i'w chael o ran darpar fabwysiadydd yn Atodlen 4. Rhaid paratoi adroddiad a rhaid cyflwyno'r papurau i'r panel mabwysiadu a fydd yn gwneud argymhelliad i'r asiantaeth p'un a yw'r darpar fabwysiadydd yn addas i fod yn rhiant mabwysiadol. Rhaid i'r asiantaeth ystyried yr argymhelliad hwnnw wrth ddod i benderfyniad ynghylch a yw'r darpar fabwysiadydd yn addas i fod yn rhiant mabwysiadol (rheoliadau 27 a 28). Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth o ran dyletswyddau'r asiantaeth fabwysiadu o ran lleoli plentyn gyda darpar fabwysiadydd. Rhaid i'r asiantaeth roi i'r darpar fabwysiadydd adroddiad am y plentyn a rhaid i'r adroddiad gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 5 ac unrhyw wybodaeth arall y mae'r asiantaeth yn ystyried ei bod yn berthnasol (rheoliad 32). Cyfeirir y papurau at y panel mabwysiadu a rhaid iddo ystyried y lleoliad arfaethedig a gwneud argymhelliad i'r asiantaeth ynghylch a fyddai'r darpar fabwysiadydd penodol yn addas fel rhiant mabwysiadol ar gyfer y plentyn penodol hwnnw a rhaid i'r asiantaeth gymryd yr argymhelliad hwnnw i ystyriaeth wrth ddod i benderfyniad (rheoliadau 33 a 34).

Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth o ran lleoliadau ac adolygiadau. Mae rheoliad 36 yn darparu bod yn rhaid i'r asiantaeth roi cynllun lleoliad i'r darpar fabwysiadydd (a rhaid iddo ymdrin â'r materion a bennir yn Atodlen 6) a chyn i'r plentyn gael ei leoli ar gyfer mabwysiadu rhaid anfon gwybodaeth benodol at y personau a bennir yn rheoliad 36(4) a threfnu i'r darpar fabwysiadydd gyfarfod â'r plentyn ac yn dilyn y cyfarfod hwnnw rhaid i'r asiantaeth gwnsela'r darpar fabwysiadydd a (phan fydd yn ymarferol) y plentyn (rheoliad 36(6)). Mae rheoliad 37 yn gosod dyletswydd ar yr asiantaeth i gyflawni adolygiadau ar achosion plant. Mae rheoliad 39 yn gosod dyletswydd ar asiantaeth i adolygu ei phenderfyniad ar unwaith ar leoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu os bydd rhiant yn tynnu ei gydsyniad yn ôl o dan adran 19 neu adrannau 19 a 20 o'r Ddeddf.

Mae Rhan 7 yn gwneud darpariaeth o ran cofnodion.

Mae Rhan 8 yn gwneud darpariaethau amrywiol gan gynnwys addasiadau i ddarpariaethau yn y Ddeddf Plant yn achos plant yr awdurdodir asiantaethau mabwysiadu eu lleoli ar gyfer eu mabwysiadu ac o ran y camau sydd i'w cymryd pan fydd asiantaeth yn penderfynu gwrthod caniatáu cyswllt o dan adran 27(2) o'r Ddeddf.

Mae Rhan 9 yn gwneud darpariaethau amrywiol.