RHAN 3DYLETSWYDDAU ASIANTAETH FABWYSIADU OS YW'R ASIANTAETH YN YSTYRIED MABWYSIADU AR GYFER PLENTYN

Gofyniad i ddarparu cwnsela a gwybodaeth ar gyfer rhiant neu warcheidwad y plentyn neu bobl eraill a chanfod eu dymuniadau a'u teimladau.14

1

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol —

a

darparu gwasanaeth cwnsela i riant neu warcheidwad y plentyn;

b

esbonio a darparu gwybodaeth ysgrifenedig i riant neu warcheidwad y plentyn ar y materion canlynol—

i

y weithdrefn o ran mabwysiadu a lleoliad ar gyfer mabwysiadu a;

ii

goblygiadau cyfreithiol —

aa

cydsynio i leoliad ar gyfer mabwysiadu o dan adran 19 o'r Ddeddf (lleoli plant gyda chydsyniad rhiant);

bb

cydsynio i wneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol o dan adran 20 o'r Ddeddf (cydsyniad ymlaen llaw i fabwysiadu);

cc

gorchymyn lleoliad; a

iii

goblygiadau cyfreithiol mabwysiadu; ac

c

canfod dymuniadau a theimladau rhiant neu warcheidwad y plentyn neu unrhyw berson arall y mae'r asiantaeth yn ystyried ei fod yn berthnasol o ran y canlynol—

i

y materion a nodir yn adran 1(4)(f)(ii) a (iii) o'r Ddeddf (materion y mae'n rhaid i'r asiantaeth eu hystyried);

ii

lleoliad y plentyn ar gyfer mabwysiadu a'i fabwysiadu gan gynnwys unrhyw ddymuniadau a theimladau ynghylch magwraeth grefyddol a diwylliannol y plentyn; a

iii

cyswllt â'r plentyn os awdurdodwyd yr asiantaeth i leoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu neu os mabwysiedir y plentyn.

2

Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan nad oes gan dad plentyn gyfrifoldeb rhiant am y plentyn ac mae'r asiantaeth yn gwybod pwy yw'r tad.

3

Os yw paragraff (2) yn gymwys a bod yr asiantaeth fabwysiadu wedi'i bodloni ei bod yn briodol gwneud hynny, rhaid i'r asiantaeth—

a

cyflawni o ran y tad ofynion paragraff (1)(a), (b)(i), a (iii) ac (c) fel pe baent yn gymwys i'r tad, a

b

canfod i'r graddau y mae'n bosibl p'un a yw'r tad—

i

yn dymuno cael cyfrifoldeb rhiant am y plentyn o dan adran 4 o Ddeddf 1989) (caffael cyfrifoldeb rhiant)9; neu

ii

yn bwriadu gwneud cais am orchymyn preswylio neu orchymyn cyswllt ynglyn â'r plentyn o dan adran 8 o Ddeddf 1989 (preswyliad, cyswllt a gorchmynion eraill ynglyn â phlant) neu lle y bo plentyn yn ddarostyngedig i orchymyn gofal, gorchymyn o dan adran 34 o Ddeddf 1989 (cyswllt rhiant â phlant mewn gofal).