RHAN 4DYLETSWYDDAU ASIANTAETH FABWYSIADU O RAN DARPAR FABWYSIADYDD

Gofyniad i ystyried cais am asesiad o addasrwydd i fabwysiadu plentyn22

1

Pan fydd yr asiantaeth fabwysiadu, yn dilyn y gweithdrefnau y cyfeirir atynt yn rheoliad 21, yn cael cais ysgrifenedig oddi wrth ddarpar fabwysiadydd am asesiad o'i addasrwydd i fabwysiadu plentyn, rhaid i'r asiantaeth ddechrau cofnod achos o ran y darpar fabwysiadydd hwnnw ac ystyried addasrwydd y person hwnnw i fabwysiadu plentyn.

2

Caiff yr asiantaeth fabwysiadu ofyn i'r darpar fabwysiadydd ddarparu unrhyw wybodaeth bellach yn ysgrifenedig y mae'r asiantaeth yn rhesymol yn ei gwneud yn ofynnol.

3

Pan fydd paragraff (1) yn gymwys o ran cwpl, ystyrir yr asesiad o'u haddasrwydd i fabwysiadu plentyn ar y cyd a bydd yr asiantaeth yn dechrau cofnod achos unigol.