xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
22.—(1) Pan fydd yr asiantaeth fabwysiadu, yn dilyn y gweithdrefnau y cyfeirir atynt yn rheoliad 21, yn cael cais ysgrifenedig oddi wrth ddarpar fabwysiadydd am asesiad o'i addasrwydd i fabwysiadu plentyn, rhaid i'r asiantaeth ddechrau cofnod achos o ran y darpar fabwysiadydd hwnnw ac ystyried addasrwydd y person hwnnw i fabwysiadu plentyn.
(2) Caiff yr asiantaeth fabwysiadu ofyn i'r darpar fabwysiadydd ddarparu unrhyw wybodaeth bellach yn ysgrifenedig y mae'r asiantaeth yn rhesymol yn ei gwneud yn ofynnol.
(3) Pan fydd paragraff (1) yn gymwys o ran cwpl, ystyrir yr asesiad o'u haddasrwydd i fabwysiadu plentyn ar y cyd a bydd yr asiantaeth yn dechrau cofnod achos unigol.