Search Legislation

Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 23(3)(b)

ATODLEN 3

RHAN 1TRAMGWYDDAU A BENNIR AT DDIBENION RHEOLIAD 23(3)(b)

Tramgwyddau yng Nghymru a Lloegr

1.  Tramgwydd treisio oedolyn o dan adran 1 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 2003 —

(a)tramgwydd trais o dan adran 1 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 2003(1);

(b)tramgwydd ymosodiad drwy dreiddiad o dan adran 2 o'r Ddeddf honno;

(c)tramgwydd peri i berson gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol heb gydsyniad o dan adran 4 o'r Ddeddf honno os oedd y gweithgaredd yn dod o fewn is-adran (3);

(ch)tramgwydd gweithgaredd rhywiol gyda pherson ag anhwylder meddwl sy'n llesteirio dewis o dan adran 30 o'r Ddeddf honno os oedd y cyffwrdd yn dod o fewn is-adran (3);

(d)tramgwydd peri neu ysgogi person ag anhwylder meddwl sy'n llesteirio dewis, i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol o dan adran 31 o'r Ddeddf honno, os oedd y gweithgaredd a barwyd neu a ysgogwyd yn dod o fewn is-adran (3);

(dd)tramgwydd cymell, bygwth neu ddichell i ddenu gweithgaredd rhywiol gyda pherson ag anhwylder meddwl o dan adran 34 o'r Ddeddf honno, os oedd y cyffwrdd yn dod o fewn is-adran (2); ac

(e)tramgwydd o beri i berson ag anhwylder meddwl gymryd rhan neu gytuno i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol drwy gymell, bygwth neu ddichell os oedd y gweithgaredd yn dod o fewn is-adran (2).

Tramgwyddau yn yr Alban

2.  Tramgwydd trais.

3.  Tramgwydd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf y Weithdrefn Droseddol (yr Alban) 1995(2) ac eithrio mewn achos lle'r oedd y tramgwyddwr o dan 20 oed adeg cyflawni'r tramgwydd, tramgwydd sy'n groes i adran 5 o Ddeddf Cyfraith Trosedd (Cydgrynhoi) (yr Alban) 1995 (cyfathrach rywiol â merch o dan 16 oed)(3), tramgwydd o anwedduster digywilydd rhwng dynion neu dramgwydd sodomiaeth.

4.  Tramgwydd plagiwm (lladrata plentyn o dan oed blaenaeddfedrwydd).

5.  Tramgwydd o dan adran 52 neu 52A o Ddeddf Llywodraeth Sifil (yr Alban) 1982 (lluniau anweddus o blant)(4).

6.  Tramgwydd o dan adran 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (cam-drin ymddiriedaeth)(5).

Tramgwyddau yng Ngogledd Iwerddon

7.  Tramgwydd trais.

8.  Tramgwydd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(6), ac eithrio mewn achos lle'r oedd y tramgwyddwr o dan 20 oed adeg cyflawni'r tramgwydd, tramgwydd sy'n groes i adrannau 5 neu 11 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Trosedd 1885 (cyfathrach gnawdol anghyfreithlon â merch o dan 17 oed ac anwedduster garw rhwng gwrywod)(7), neu dramgwydd yn groes i adran 61 o Ddeddf Tramgwyddau Corfforol 1861 (sodomiaeth).

9.  Tramgwydd o dan Erthygl 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1978 (lluniau anweddus)(8).

10.  Tramgwydd o dan Erthygl 9 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Tystiolaeth etc.) (Gogledd Iwerddon) 1980 (ysgogi merch o dan 16 i gael cyfathrach rywiol losgachol)(9).

11.  Tramgwydd yn groes i Erthygl 15 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Tystiolaeth, etc.) (Gogledd Iwerddon) 1988 (meddu ar lun anweddus o blant)(10).

12.   Tramgwydd o dan adran 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (cam-drin ymddiriedaeth).

Rheoliad 23(4)

RHAN 2TRAMGWYDDAU STATUDOL A DDIDDYMWYD

1.—(1Tramgwydd o dan unrhyw un o adrannau canlynol Deddf Tramgwyddau Rhywiol 1956—

(a)adran 1 (trais);

(b)adran 5 (cyfathrach rywiol â merch o dan 13 oed);

(c)onid yw paragraff 4 yn gymwys, adran 6 (cyfathrach rywiol â merch o dan 16 oed);

(ch)adran 19 neu 20 (herwgydio merch o dan 18 neu 16 oed);

(d)adran 25 neu 26 o'r Ddeddf honno (caniatáu i ferch o dan 13 oed, neu rhwng 13 a 16 oed, i ddefnyddio mangre i gael cyfathrach rywiol);

(dd)adran 28 o'r Ddeddf honno (peri neu annog puteinio merch o dan 16 oed neu gyfathrach rywiol â hi neu ymosodiad anweddus arni).

(2Tramgwydd o dan adran 1 o Ddeddf Anwedduster â Phlant 1960 (ymddygiad anweddus tuag at blentyn ifanc).

(3Tramgwydd o dan adran 54 o Ddeddf Cyfraith Troseddau 1977 (ysgogi merch o dan 16 oed i gyflawni llosgach).

(4Tramgwydd o dan adran 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (cam-drin ymddiriedaeth).

2.  Daw person o fewn y paragraff hwn os cafodd ei gollfarnu o unrhyw un o'r tramgwyddau canlynol yn erbyn plentyn a gyflawnwyd pan oedd yn 18 neu drosodd neu os cafodd rybuddiad gan gwnstabl o ran unrhyw dramgwydd o'r fath, y cyfaddefodd y person i'r tramgwydd pan roddwyd y rhybuddiad —

(a)tramgwydd o dan adran 2 neu 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 1956 (caffael menyw drwy fygwth neu haeru anwir);

(b)tramgwydd o dan adran 4 o'r Ddeddf honno (rhoi cyffuriau i gael neu hwyluso cyfathrach rywiol);

(c)tramgwydd o dan adran 14 neu 15 o'r Ddeddf honno (ymosodiad anweddus);

(ch)tramgwydd o dan adran 16 o'r Ddeddf honno (ymosodiad gyda'r bwriad o gyflawni sodomiaeth);

(d)tramgwydd o dan adran 17 o'r Ddeddf honno (herwgydio menyw drwy rym neu oherwydd ei heiddo);

(dd)tramgwydd o dan adran 24 o'r Ddeddf honno (dal menyw mewn puteindy neu mewn mangre arall).

3.  Daw person o fewn y paragraff hwn os cafodd ei gollfarnu o unrhyw un o'r tramgwyddau canlynol yn erbyn plentyn a gyflawnwyd pan oedd yn 18 neu drosodd neu os cafodd rybuddiad gan gwnstabl o ran unrhyw dramgwydd o'r fath, y cyfaddefodd y person i'r tramgwydd pan roddwyd y rhybuddiad.

(a)tramgwydd o dan adran 7 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 1956 (cyfathrach rywiol â pherson diffygiol) drwy gael cyfathrach rywiol â phlentyn;

(b)tramgwydd o dan adran 9 o'r Ddeddf honno (caffael person diffygiol) drwy gaffael plentyn i gael cyfathrach rywiol;

(c)tramgwydd o dan adran 10 o'r Ddeddf honno (llosgach gan ddyn) drwy gael cyfathrach rywiol â phlentyn;

(ch)tramgwydd o dan adran 11 o'r Ddeddf honno (llosgach gan fenyw) drwy ganiatáu i blentyn gael cyfathrach rywiol â hi;

(d)onid yw paragraff 4 yn gymwys, tramgwydd o dan adran 12 o'r Ddeddf honno drwy gyflawni sodomiaeth â phlentyn o dan 16 oed;

(dd)onid yw paragraff 4 yn gymwys, tramgwydd o dan adran 13 o'r Ddeddf honno drwy gyflawni gweithred o anwedduster garw â phlentyn;

(e)tramgwydd o dan adran 21 o'r Ddeddf honno (herwgydio person diffygiol oddi wrth riant neu warcheidwad) drwy ddwyn y plentyn o feddiant ei riant neu warcheidwad;

(f)tramgwydd o dan adran 22 o'r Ddeddf honno (peri puteinio menywod) o ran plentyn;

(ff)tramgwydd o dan adran 23 o'r Ddeddf honno (caffael merch o dan 21 oed) drwy gaffael plentyn i gael cyfathrach rywiol â thrydydd person;

(g)tramgwydd o dan adran 27 o'r Ddeddf honno (caniatáu i berson diffygiol ddefnyddio mangre ar gyfer cyfathrach rywiol) drwy gymell neu ganiatáu i blentyn droi at fangre neu fod mewn mangre at ddibenion cael cyfathrach rywiol;

(ng)tramgwydd o dan adran 29 o'r Ddeddf honno (peri neu annog puteinio person diffygiol) drwy beri neu annog puteinio plentyn;

(h)tramgwydd o dan adran 30 o'r Ddeddf honno (dyn yn byw ar enillion puteindra) mewn achos lle bo'r butain yn blentyn;

(i)tramgwydd o dan adran 31 o'r Ddeddf honno (menyw yn gweithredu rheolaeth dros butain) mewn achos lle bo'r butain yn blentyn;

(j)tramgwydd o dan adran 128 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1959 (cyfathrach rywiol â chleifion) drwy gael cyfathrach rywiol â phlentyn;

(l)tramgwydd o dan adran 4 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 1967 (caffael eraill i gyflawni gweithredoedd cyfunrhywiol) drwy—

(i)caffael plentyn i gyflawni gweithred o sodomiaeth gydag unrhyw berson; neu

(ii)caffael unrhyw berson i gyflawni gweithred o sodomiaeth â phlentyn;

(ll)tramgwydd o dan adran 5 o'r Ddeddf honno (byw ar enillion puteinio gwrywaidd) drwy fyw yn gyfan gwbl neu'n rhannol ar enillion puteinio plentyn;

(m)tramgwydd o dan adran 9(1)(a) o Ddeddf Dwyn 1968 (bwrgleriaeth), drwy fynd i mewn i adeilad neu ran o adeilad gyda'r bwriad o dreisio plentyn.

4.  Nid yw paragraffau 1(c) a 3(d) a (dd) yn cynnwys tramgwyddau mewn achos os oedd y tramgwyddwr o dan 20 oed pan gyflawnwyd y tramgwydd.

(4)

1982 p.45, mewnosodwyd adran 52A gan adran 161 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 p.33.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources