Search Legislation

Gorchymyn Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 3 ac Arbediad a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 1353 (Cy.101) (C.59)

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Gorchymyn Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 3 ac Arbediad a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005

Wedi'i wneud

17 Mai 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 181 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 3 ac Arbediad a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005.

(2Yn y Gorchymyn hwn, oni ddywedir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 ac Atodlenni iddi.

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru

Darpariaethau sy'n dod i rym yng Nghymru ar 31 Mai 2005

2.  Yn ddarostyngedig i erthygl 3, daw'r darpariaethau canlynol i rym yng Nghymru ar 31 Mai 2005 —

(a)adran 126,

(b)adran 157, i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 15 o Atodlen 10,

(c)adran 164, i'r graddau nad yw eisoes mewn grym,

(ch)adran 165,

(d)adrannau 166 a 167, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym,

(dd)adrannau 168 i 170,

(e)adran 171, i'r graddau nad yw eisoes mewn grym,

(f)yn adran 172, is-adrannau (1) i (5), ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud â chymhwysiad adrannau 21 i 22 o Ddeddf Landlord a Thenant 1985(2), fel y'u hamnewidir neu fel y'u mewnosodir gan adrannau 152 i 154, i'r Goron,

(ff)adran 176 ac Atodlen 13, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, a

(g)adran 180, i'r graddau y mae'n ymwneud â diddymu yn Atodlen 14 —

(i)y diffiniad o “the valuation date” ym mharagraff 1(1) o Atodlen 6 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993(3);

(ii)adran 82 o Ddeddf Tai 1996(4); a

(iii)ym mharagraff 18(2) o Atodlen 10 i'r Ddeddf honno, paragraff (b) a'r gair “and” sydd o'i flaen.

Arbediad a darpariaeth drosiannol

3.—(1Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 31 Mai 2005 ac sy'n dod i ben ar y dyddiad y mae adrannau 121 i 124 yn dod i rym yn llawn, bydd paragraff 4(2) o Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 yn effeithiol fel petai'r geiriau “persons who are participating tenants immediately before a binding contract is entered into in pursuance of the initial notice” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau “participating tenants”.

(2Ni fydd adran 126 yn effeithiol o ran —

(a)hysbysiadau a roddir cyn 31 Mai 2005 o dan adran 13 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993; neu

(b)ceisiadau a wneir cyn 31 Mai 2005 o dan adran 26 o'r Ddeddf honno.

(3Ni fydd adran 168 yn effeithiol o ran hysbysiadau a gyflwynir o dan adran 146(1) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925(5) cyn 31 Mai 2005 ynghylch torri unrhyw gyfamod neu amod gan denant.

(4Ni fydd y diwygiadau a wnaed gan adran 170 yn effeithiol o ran hysbysiadau a gyflwynir o dan adran 146(1) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 cyn 31 Mai 2005.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Mai 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau pellach Rhan 2 (Diwygio Cyfraith Lesddaliad) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (“Deddf 2002”).

Daw darpariaethau Deddf 2002 a grybwyllir yn erthygl 2 o'r Gorchymyn i rym, o ran Cymru, ar 31 Mai 2005. Maent yn cynnwys:

(a)darpariaethau sy'n diwygio adran 18(1) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (“Deddf 1993”) ac Atodlen 6 iddi. Prif effaith y diwygiadau yw y bydd y pris sydd i'w dalu am y rhydd-ddaliad, pan fo'n cael ei brynu gan denantiaid cymwys, yn adlewyrchu gwerth y buddiannau sy'n cael eu dal gan yr holl landlordiaid yn yr eiddo o dan sylw ar y dyddiad y mae hysbysiad o'r hawliad i arfer yr hawl i ryddfreiniad ar y cyd yn cael ei roi o dan adran 13 o Ddeddf 1993 (adran 126). Mae darpariaeth drosiannol berthnasol yn erthygl 3(1) ac arbediad perthnasol yn erthygl 3(2);

(b)darpariaethau newydd y caiff deiliaid lesoedd hir, mewn amgylchiadau penodol, yswirio eu tai odanynt ac eithrio gydag yswiriwr a enwir neu a gymeradwyir gan y landlord (adran 164);

(c)darpariaethau newydd sy'n ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid hysbysu deiliaid lesoedd hir bod rhent yn ddyledus (adran 166);

(ch)darpariaethau newydd sy'n atal landlord deiliad les hir rhag arfer hawl ailfynediad neu hawl fforffedu oherwydd methiant y lesddeiliad i dalu rhent, taliadau gwasanaeth neu daliadau gweinyddu pan nad yw'r swm sydd heb ei dalu a'r cyfnod y mae unrhyw ran o'r swm hwnnw wedi bod yn daladwy ar ei gyfer yn fwy na'r swm a'r cyfnod a ragnodir mewn rheoliadau (adran 167);

(d)darpariaethau newydd sy'n atal landlord deiliad les hir rhag cyflwyno hysbysiad fforffedu oherwydd bod cyfamod neu amod yn y les wedi'i dorri oni bai bod y lesddeiliad yn cyfaddef ei fod wedi'i dorri, neu fod llys neu dribiwnlys cymrodeddu wedi penderfynu'n derfynol bod y toriad wedi digwydd (adrannau 168 a 169). Mae arbediad, sy'n berthnasol i adran 168, yn erthygl 3(3); ac

(dd)newidiadau i'r amodau y mae'n rhaid eu bodloni cyn y gall landlord deiliad les hir arfer hawl ailfynediad neu hawl fforffedu oherwydd methiant i dalu taliadau gwasanaeth (adran 170). Mae arbediad perthnasol yn erthygl 3(4).

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Deddf 2002 wedi'u dwyn i rym yng Nghymru drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynO.S. Rhif
Adrannau 71 i 7330 Mawrth 20042004/669
Adran 741 Ionawr 2003 (yn rhannol) 30 Mawrth 2004 (y gweddill)2002/3012 2004/669
Adrannau 75 i 7730 Mawrth 20042004/669
Adran 781 Ionawr 2003 (yn rhannol) 30 Mawrth 2004 (y gweddill)2002/3012 2004/669
Adran 7930 Mawrth 20042004/669
Adran 801 Ionawr 2003 (yn rhannol) 30 Mawrth 2004 (y gweddill)2002/3012 2004/669
Adrannau 81 i 8330 Mawrth 20042004/669
Adran 841 Ionawr 2003 (yn rhannol) 30 Mawrth 2004 (y gweddill)2002/3012 2004/669
Adrannau 85 i 9130 Mawrth 20042004/669
Adran 921 Ionawr 2003 (yn rhannol) 30 Mawrth 2004 (y gweddill)2002/3012 2004/669
Adrannau 93 i 10330 Mawrth 20042004/669
Adrannau 105 i 10930 Mawrth 20042004/669
Adran 1101 Ionawr 2003 (yn rhannol) 30 Mawrth 2004 (y gweddill)2002/3012 2004/669
Adrannau 111 i 11330 Mawrth 20042004/669
Adrannau 114 i 1201 Ionawr 20032002/3012
Adran 122 (yn rhannol)1 Ionawr 20032002/3012
Adran 1251 Ionawr 20032002/3012
Adrannau 127 i 1471 Ionawr 20032002/3012
Adrannau 148 i 15030 Mawrth 20042004/669
Adran 1511 Ionawr 2003 (yn rhannol) 30 Mawrth 2004 (y gweddill)2002/3012 2004/669
Adrannau 152 a 153 (yn rhannol)1 Ionawr 20032002/3012
Adran 15530 Mawrth 20042004/669
Adran 156 (yn rhannol)1 Ionawr 20032002/3012
Adran 157 (yn rhannol)30 Mawrth 20042004/669
Adrannau 158 a 15930 Mawrth 20042004/669
Adrannau 160 i 1621 Ionawr 20032002/3012
Adran 16330 Mawrth 20042004/669
Adran 164 (yn rhannol)1 Ionawr 20032002/3012
Adrannau 166 a 167 (yn rhannol)1 Ionawr 20032002/3012
Adran 171 (yn rhannol)1 Ionawr 20032002/3012
Adran 172 (yn rhannol)30 Mawrth 20042004/669
Adran 17330 Mawrth 20042004/669
Adran 1741 Ionawr 2003 (yn rhannol) 30 Mawrth 2004 (y gweddill)2002/3012 2004/669
Adran 17530 Mawrth 20042004/669
Adran 176 (yn rhannol)30 Mawrth 20042004/669
Adran 180 (yn rhannol)1 Ionawr 2003 30 Mawrth 20042002/3012 2004/669
Atodlen 630 Mawrth 20042004/669
Atodlen 730 Mawrth 20042004/669
Atodlen 930 Mawrth 20042004/669
Atodlen 10 (yn rhannol)30 Mawrth 20042004/669
Atodlen 1130 Mawrth 20042004/669
Atodlen 121 Ionawr 2003 (yn rhannol) 30 Mawrth 2004 (y gweddill)2002/3012 2004/669
Atodlen 13 (yn rhannol)30 Mawrth 20042004/669
Atodlen 14 (yn rhannol)1 Ionawr 2003 30 Mawrth 20042002/3012 2004/669

Mae Gorchymyn Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 5 ac Arbediad a Darpariaeth Drosiannol) 2004 (O.S. 2004/3056) (p.127) wedi dwyn i rym, o ran Cymru a Lloegr, adran 180 o Ddeddf 2002 i'r graddau y mae'n ymwneud â diddymu yn Atodlen 14 adran 104 o'r Ddeddf honno.

Mae darpariaethau yn Rhan 1 o Ddeddf 2002 (Cyfunddaliad) wedi'u dwyn i rym o ran Cymru a Lloegr gan y Gorchmynion Cychwyn canlynol —

  • Gorchymyn Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 3) 2003 (O.S. 2003/2377) (p.91); a

  • Gorchymyn Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 4) 2004 (O.S. 2004/1832) (p.76).

(1)

2002 p.15. Gweler y diffiniad o “the appropriate national authority” yn adran 181(4).

(2)

1985 p.70. (Caiff adrannau 21, 21A, 21B a 22 eu hamnewid neu eu mewnosod pan ddaw adrannau 152 i 154 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 i rym yn llawn).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources