Search Legislation

Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 1512 (Cy.116)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

7 Mehefin 2005

Yn dod i rym

30 Rhagfyr 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 2(6)(b) a (7), 3(3) a (4)(b), 4(1)(b), (5)(b), (6) a (7), 9(1)(a), 140(1), (7) ac (8) a 142(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol—

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005, a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “awdurdod addysg lleol” yr un ystyr â “local education authority” yn Neddf Addysg 1996(2);

  • mae i “credyd treth plant” yr un ystyr â “child tax credit” yn Neddf Credydau Treth 2002(3);

  • ystyr “cymhorthdal incwm” (“income support”) yw cymhorthdal incwm o dan Ran VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(4);

  • dehonglir “cynllun” (“plan”) yn unol â rheoliad 10;

  • ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002;

  • dehonglir “gwasanaethau cymorth mabwysiadu” (“adoption support services”) yn unol â rheoliad 3;

  • ystyr “hysbysu” (“notify”) yw hysbysu yn ysgrifenedig;

  • mae i “lwfans ceisio gwaith” yr un ystyr â “jobseeker’s allowance” yn Neddf Ceiswyr Gwaith 1995(5);

  • ystyr “person perthynol” (“related person”) yw—

    (a)

    perthynas o fewn yr ystyr sydd i “relative” yn adran 144(1) o Ddeddf 2002; neu

    (b)

    unrhyw berson y mae gan y plentyn mabwysiadol berthynas ag ef a honno'n berthynas, ym marn yr awdurdod lleol, sy'n llesol i'r plentyn o ystyried y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (i) i (iii) o adran 1(4)(f) o Ddeddf 2002;

    ystyr “person sydd â'r hawl i gael ei asesu” (“person entitled to be assessed”) yw person a bennir yn adran 4(1)(a) o Ddeddf 2002 neu yn rheoliad 5(1);

  • ystyr “plentyn” (“child”), yn ddarostyngedig i baragraff (3), yw person nad yw wedi cyrraedd 18 mlwydd oed;

  • ystyr “plentyn mabwysiadol” (“adoptive child”) yw, yn ddarostyngedig i baragraff (3), plentyn sy'n blentyn mabwysiadol drwy asiantaeth neu'n blentyn mabwysiadol heb fod drwy asiantaeth;

  • ystyr “plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth” (“agency adoptive child”) yw plentyn—

    (a)

    y mae asiantaeth fabwysiadu, mewn perthynas ag ef, wedi penderfynu yn unol â rheoliad 34 o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) y byddai person yn rhiant mabwysiadol addas i'r plentyn;

    (b)

    y mae asiantaeth fabwysiadu wedi'i leoli i'w fabwysiadu; neu

    (c)

    a fabwysiadwyd ar ôl cael ei leoli i'w fabwysiadu gan asiantaeth fabwysiadu;

    ystyr “plentyn mabwysiadol heb fod drwy asiantaeth” (“non-agency adoptive child”) yw plentyn—

    (a)

    y mae person mewn perthynas ag ef—

    (i)

    wedi rhoi hysbysiad o dan adran 44 o Ddeddf 2002 o'i fwriad i wneud cais am orchymyn mabwysiadu; a

    (ii)

    heb fod yn rhiant naturiol neu'n llys-riant i'r plentyn; neu

    (b)

    a fabwysiadwyd gan berson—

    (i)

    nad yw'n rhiant naturiol i'r plentyn; a

    (ii)

    nad oedd yn llys-riant i'r plentyn cyn iddo fabwysiadu'r plentyn,

    ond nid yw'n cynnwys plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth;

  • ystyr “plentyn rhiant mabwysiadol” (“child of an adoptive parent”), mewn unrhyw achos pan fydd y ddarpariaeth o wasanaethau cymorth mabwysiadu, neu unrhyw asesiad o ran gwasanaethau cymorth mabwysiadu, mewn perthynas â mabwysiadu neu ddarpar fabwysiadu plentyn mabwysiadol gan riant mabwysiadol, yw un o blant y rhiant mabwysiadol, ac eithrio'r plentyn mabwysiadol hwnnw;

  • ystyr “Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru)” (“the Adoption Agencies (Wales) Regulations”) yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005(6);

  • ystyr “rhiant mabwysiadol” (“adoptive parent”) yw person—

    (a)

    y mae asiantaeth fabwysiadu wedi penderfynu yn unol â rheoliad 34 o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) y byddai'n rhiant mabwysiadol addas i blentyn penodol;

    (b)

    y mae asiantaeth fabwysiadu wedi lleoli plentyn gydag ef i'w fabwysiadu;

    (c)

    sydd wedi rhoi hysbysiad o dan adran 44 o Ddeddf 2002 am ei fwriad i wneud cais am orchymyn mabwysiadu ar gyfer plentyn; neu

    (ch)

    sydd wedi mabwysiadu plentyn,

    ond nid yw'n cynnwys person os yw'r plentyn y cyfeirir ato wedi peidio â bod yn blentyn, neu berson sy'n llys-riant neu'n rhiant naturiol i'r plentyn, neu berson a oedd yn llys-riant i'r plentyn cyn iddo fabwysiadu'r plentyn;

  • mae i “rhiant maeth” (“foster parent”) yr un ystyr ag sydd iddo yn Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003(7);

  • ystyr “teulu mabwysiadol” (“adoptive family”) yw plentyn mabwysiadol, rhiant mabwysiadol y plentyn mabwysiadol, ac unrhyw un o blant y rhiant mabwysiadol, a dehonglir cyfeiriadau at deulu mabwysiadol person neu gyfeiriadau at deulu mabwysiadol mewn perthynas â pherson, fel y teulu mabwysiadol y mae'r person hwnnw yn aelod ohono.

(2Yn y Rheoliadau hyn —

(a)mae i unrhyw gyfeiriad at blentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol yr un ystyr ag sydd iddo yn Neddf Plant 1989(8);

(b)mae unrhyw gyfeiriad at blentyn mabwysiadol person yn gyfeiriad at blentyn sy'n blentyn mabwysiadol mewn perthynas â'r person hwnnw;

(c)mae unrhyw gyfeiriad at riant mabwysiadol plentyn yn gyfeiriad at berson sy'n rhiant mabwysiadol mewn perthynas â'r plentyn hwnnw;

(ch)mae cyfeiriadau (heblaw cyfeiriadau yn yr is-baragraff hwn) at blentyn yn cael ei leoli, neu'n cael ei leoli i'w fabwysiadu—

(i)yn gyfeiriadau at y plentyn yn cael ei leoli i'w fabwysiadu gyda darpar fabwysiadydd gan asiantaeth fabwysiadu;

(ii)os bydd plentyn sy'n derbyn gofal yn byw gyda pherson, yn cynnwys gadael y plentyn gyda'r person hwnnw fel darpar fabwysiadydd.

(3Os mewn unrhyw achos—

(a)bydd person wedi cyrraedd 18 oed ac yn cael ei addysgu neu ei hyfforddi yn llawnamser; a

(b)yn union cyn iddo gyrraedd 18 oed—

(i)yr oedd y person hwnnw'n blentyn mabwysiadol; a

(ii)yr oedd cymorth ariannol yn daladwy mewn perthynas ag ef,

bydd y diffiniadau o “plentyn mabwysiadol” a “plentyn”, at ddibenion parhau i ddarparu cymorth ariannol ac at ddibenion unrhyw adolygiad o gymorth ariannol, yn effeithiol fel pe na bai'r person hwnnw wedi cyrraedd 18 oed.

Gwasanaethau a ragnodir

3.  At ddibenion adran 2(6) o Ddeddf 2002 (diffinio “gwasanaethau cymorth mabwysiadu”), rhagnodir y gwasanaethau canlynol—

(a)cymorth ariannol sy'n daladwy o dan reoliad 11;

(b)gwasanaethau i alluogi grwpiau o blant mabwysiadol, rhieni mabwysiadol a rhieni naturiol plentyn mabwysiadol i drafod materion sy'n ymwneud â mabwysiadu;

(c)cymorth i blant mabwysiadol, rhieni mabwysiadol, rhieni naturiol plentyn mabwysiadol a phersonau perthynol o ran trefniadau ar gyfer cyswllt rhwng plentyn mabwysiadol a rhiant naturiol neu berson perthynol y plentyn mabwysiadol;

(ch)gwasanaethau y gellir eu darparu ar gyfer teulu mabwysiadol o ran anghenion therapiwtig plentyn mabwysiadol;

(d)cymorth er mwyn sicrhau bod y berthynas rhwng y plentyn a'i riant mabwysiadol yn parhau, gan gynnwys—

(i)hyfforddiant i rieni mabwysiadol er mwyn diwallu unrhyw anghenion arbennig sydd gan y plentyn; a

(ii)gofal seibiant; ac

(dd)cymorth os bydd tarfu ar leoliad mabwysiadu wedi digwydd neu mewn perygl o ddigwydd gan gynnwys—

(iii)cyfryngu; a

(iv)trefnu a chynnal cyfarfodydd i drafod tarfu ar leoliadau mabwysiadu.

Personau y mae'n rhaid bod trefniadau yn eu lle ar eu cyfer

4.—(1Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi, at ddibenion adran 3(3)(a) o Ddeddf 2002, ddisgrifiad o'r personau y mae'n rhaid bod trefniadau yn eu lle i ddarparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu ar eu cyfer.

(2Cyngor a gwybodaeth cwnsela—

(a)i blant y gellir eu mabwysiadu, eu rhieni mabwysiadol, eu rhieni naturiol a'u gwarcheidwaid;

(b)i bersonau sy'n dymuno mabwysiadu plentyn;

(c)i bersonau wedi'u mabwysiadu, eu rhieni mabwysiadol, eu rhieni naturiol a'u gwarcheidwaid blaenorol; ac

(ch)i blant sy'n frodyr a chwiorydd naturiol plentyn mabwysiadol (p'un ai o waed coch cyfan neu o hanner gwaed).

(3Cymorth ariannol o dan reoliad 11 ar gyfer rhiant mabwysiadol plentyn mabwysiadol.

(4Rhaid i'r gwasanaethau a grybwyllir yn rheoliad 3(b) (gwasanaethau i alluogi trafodaeth) fod yn eu lle ar gyfer—

(a)rhiant mabwysiadol plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth;

(b)plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth; ac

(c)rhiant naturiol y rhoddodd asiantaeth ei blentyn i'w fabwysiadu neu y mabwysiadwyd ei blentyn yn dilyn lleoliad o'r fath.

(5Rhaid i'r gwasanaethau a grybwyllir yn rheoliad 3(c) (cyswllt) fod yn eu lle ar gyfer—

(a)rhiant mabwysiadol plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth;

(b)plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth;

(c)rhiant naturiol y rhoddodd asiantaeth ei blentyn i'w fabwysiadu neu y mabwysiadwyd ei blentyn yn dilyn lleoliad o'r fath; ac

(ch)person perthynol.

(6Rhaid i'r gwasanaethau a grybwyllir yn rheoliad 3(ch) (gwasanaethau therapiwtig) fod yn eu lle ar gyfer—

(a)plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth; a

(b)plentyn mabwysiadol y mae'r cyfyngiadau yn adran 83 o Ddeddf 2002 (cyfyngiadau ar ddod â phlant i mewn) yn gymwys mewn perthynas ag ef; ac

(c)plentyn mabwysiadol yn achos gorchymyn mabwysiadu Confensiwn.

(7Rhaid i'r gwasanaethau a grybwyllir yn rheoliad 3(d) ac (dd) (cymorth at ddibenion sicrhau bod unrhyw berthynas yn parhau a chymorth pan fydd tarfu wedi bod ar leoliad mabwysiadu) fod yn eu lle ar gyfer—

(a)plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth; a

(b)plentyn mabwysiadol y mae'r cyfyngiadau yn adran 83 o Ddeddf 2002 (cyfyngiadau ar ddod â phlant i mewn) yn gymwys mewn perthynas ag ef;

(c)plentyn mabwysiadol yn achos gorchymyn mabwysiadu Confensiwn;

(ch)rhiant mabwysiadol plentyn a grybwyllir yn (a) i (c); a

(d)plentyn y rhiant mabwysiadol hwnnw.

(8Mae'n ofynnol gwneud y trefniadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) o ran unrhyw wasanaeth p'un a yw'r awdurdod lleol wedi penderfynu darparu'r gwasanaeth ar gyfer unrhyw berson ai peidio.

(9Caiff y gwasanaethau a bennir yn adran 2(6)(a) o Ddeddf 2002 neu a ragnodir yn rheoliad (3)(b) i (dd) gynnwys gwneud trefniadau gyda phersonau eraill at ddiben darparu'r gwasanaethau hynny.

Darparu gwasanaethau

5.—(1Rhagnodir y personau canlynol at ddibenion adran 3(4)(b) o'r Ddeddf (personau heblaw cymdeithasau mabwysiadu cofrestredig a gaiff ddarparu'r cyfleusterau angenrheidiol) o ran darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu —

(a)awdurdod lleol arall;

(b)asiantaeth cymorth mabwysiadu gofrestredig;

(c)bwrdd iechyd lleol;

(ch)Ymddiriedolaeth GIG;

(d)Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol; ac

(dd)awdurdod addysg lleol.

(2Ym mharagraff (1) ystyr “asiantaeth cymorth mabwysiadu gofrestredig” yw asiantaeth cymorth mabwysiadu a gofrestrwyd o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(9) ond, o ran darparu unrhyw wasanaeth cymorth mabwysiadu, nid yw'n cynnwys asiantaeth cymorth mabwysiadu nad yw wedi'i chofrestru o ran y gwasanaeth penodol hwnnw.

Cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu

6.—(1Rhaid i'r awdurdod lleol benodi o leiaf un person (“cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu”) i gyflawni'r swyddogaethau a bennir ym mharagraff (2).

(2Swyddogaethau cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu yw:

(a)rhoi cyngor a gwybodaeth i bersonau y mae'n bosibl y bydd mabwysiadu plentyn neu fwriad i fabwysiadu plentyn yn effeithio arnynt, gan gynnwys ynghylch —

(i)gwasanaethau a all fod yn briodol i'r personau hynny; a

(ii)sut y gellir darparu'r gwasanaethau hynny ar eu cyfer;

(b)rhoi cyngor, gwybodaeth a chymorth i'r awdurdod lleol a'i penododd, gan gynnwys ynghylch—

(i)asesu'r anghenion am wasanaethau cymorth mabwysiadu yn unol â rheoliad 8;

(ii)argaeledd gwasanaethau cymorth mabwysiadu a gwasanaethau lleol eraill; a

(iii)llunio cynlluniau yn unol â rheoliad 10; ac

(c)rhoi cyngor, gwybodaeth a chymorth i awdurdod lleol arall gan gynnwys ynghylch y materion a bennir yn is-baragraff (b) pan—

(i)bydd plentyn i'w leoli i'w fabwysiadu gan yr awdurdod lleol y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) yn ardal yr awdurdod lleol arall hwnnw; neu

(ii)bydd person y mae cynllun wedi'i baratoi mewn perthynas ag ef yn symud o ardal yr awdurdod lleol y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) i ardal yr awdurdod lleol arall hwnnw.

(3Ni chaiff yr awdurdod lleol benodi person yn gynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu onid yw'n fodlon bod gwybodaeth y cynghorydd am y canlynol a'i brofiad ohonynt yn ddigonol at ddibenion y gwaith y mae ef wed'i gyflawni —

(a)y broses fabwysiadu; a

(b)effaith mabwysiadu plentyn ar bersonau y mae'n debygol yr effeithir arnynt gan y mabwysiadu.

Rheidrwydd asesu

7.—(1Mae'r personau canlynol yn rhai a ragnodwyd at ddibenion adran 4(1)(b) o Ddeddf 2002 (asesiadau etc. ar gyfer gwasanaethau cymorth mabwysiadu)—

(a)plentyn rhiant mabwysiadol;

(b)plentyn sy'n frawd neu'n chwaer naturiol i blentyn mabwysiadol (p'un ai o waed coch cyfan neu o hanner gwaed); ac

(c)person perthynol o ran trefniadau cyswllt rhyngddo a phlentyn mabwysiadol pan fydd trefniadau ar gyfer y cyswllt hwnnw wedi'u gwneud cyn i'r cais am asesiad gael ei wneud.

(2Os bydd person sy'n dod o fewn adran 4(1)(a) o Ddeddf 2002 neu o fewn paragraff (1) o'r rheoliad hwn yn gwneud cais am asesiad, a bod y cais hwnnw'n ymwneud â gwasanaeth cymorth mabwysiadu penodol, neu os ymddengys i'r awdurdod lleol bod modd i anghenion y person hwnnw am wasanaethau cymorth mabwysiadu gael eu hasesu'n dderbyniol drwy gyfeirio at wasanaeth cymorth mabwysiadu penodol, caiff yr awdurdod lleol gynnal yr asesiad hwnnw drwy gyfeirio at y gwasanaeth hwnnw yn unig.

(3Yn y rheoliad hwn mae cyfeiriad at wasanaeth cymorth mabwysiadu penodol yn gyfeiriad at unrhyw un o'r gwasanaethau canlynol —

(a)cwnsela, cyngor a gwybodaeth am fabwysiadu; neu

(b)gwasanaeth a bennir yn rheoliad 3.

(4Pan fydd awdurdod lleol (“yr awdurdod lleoli”) yn ystyried lleoli plentyn sy'n derbyn gofal gan ddarpar fabwysiadydd sy'n preswylio yn ardal awdurdod lleol arall (“yr awdurdod adennill”), rhaid i'r awdurdod lleoli ymgynghori yn ysgrifenedig â'r awdurdod adennill am y lleoliad ac am ganlyniadau'r asesiadau a wnaed yn unol ag adran (4)(1) a (2) o Ddeddf 2002 ac yn benodol am allu'r asiantaethau yn ardal yr awdurdod adennill i ddarparu unrhyw wasanaethau cymorth mabwysiadu a nodwyd.

(5Rhaid i awdurdod lleoli ganiatáu cyfnod o 20 o ddiwrnodau gwaith ar ôl yr ymgynghoriad a gynhaliwyd yn unol â pharagraff (4) cyn y gall y panel mabwysiadu ystyried lleoli'r plentyn yn unol â rheoliad 18 o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru).

(6Pan fydd awdurdod adennill wedi ymateb yn ysgrifenedig i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd yn unol â pharagraff (4), rhaid i'r panel mabwysiadu a'r asiantaeth fabwysiadu roi sylw i'r ymateb hwnnw wrth ystyried lleoli plentyn, y naill yn unol â rheoliad 18 o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) a'r llall yn unol â rheoliad 19 o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru).

Y weithdrefn asesu

8.—(1Pan wneir cais am asesiad o anghenion am wasanaethau cymorth mabwysiadu gan berson sydd â'r hawl i gael ei asesu a phan fydd awdurdod lleol yn cynnal asesiad o anghenion y person hwnnw am y gwasanaethau hynny, wrth gynnal yr asesiad rhaid i'r awdurdod roi sylw i'r ystyriaethau canlynol—

(a)yn ddarostyngedig i baragraff (3), anghenion y person sy'n cael ei asesu a sut y gellir eu diwallu;

(b)anghenion y plentyn mabwysiadol a'i deulu mabwysiadol a sut y gellir eu diwallu;

(c)o ran plentyn a leolwyd i'w fabwysiadu, yr amgylchiadau a arweiniodd at leoli'r plentyn i'w fabwysiadu;

(ch)unrhyw anghenion arbennig sydd gan y plentyn mabwysiadol sy'n codi oherwydd —

(i)bod y plentyn wedi derbyn gofal gan awdurdod lleol;

(ii)bod y plentyn wedi arfer preswylio y tu allan i Ynysoedd Prydain;

(iii)bod y rhiant mabwysiadol yn berthynas i'r plentyn.

(2Rhaid i berson sydd â'r cymwysterau, y profiad a'r sgiliau addas sy'n angenrheidiol at ddibenion asesu gynnal yr asesiad o anghenion person am wasanaethau cymorth mabwysiadau, neu oruchwylio'r asesiad hwnnw.

(3Pan fydd yr asesiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn cael ei gynnal ar gais person perthynol, rhaid i'r awdurdod lleol ystyried anghenion y person hwnnw dim ond i'r graddau y maent yn ymwneud â'i angen am gymorth er mwyn ei alluogi i gymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer cyswllt â'r plentyn mabwysiadol a wnaed cyn y cais am asesiad.

(4Pan fydd paragraff (1) yn gymwys a'i bod yn ymddangos i'r awdurdod lleol y gall fod angen darparu ar gyfer person yr asesir ei anghenion, wasanaethau—

(a)gan fwrdd iechyd lleol, Ymddiriedolaeth GIG neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol; neu

(b)sy'n dod o fewn swyddogaethau awdurdod addysg lleol,

rhaid i'r awdurdod lleol, fel rhan o'r asesiad, ymgynghori â'r bwrdd iechyd lleol hwnnw, yr Ymddiriedolaeth GIG honno, yr Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol honno neu'r awdurdod addysg lleol hwnnw.

(5Pan fydd yr awdurdod lleol yn cynnal asesiad o dan y rheoliad hwn a phan fydd yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, rhaid iddo —

(a)cyfweld â'r person ac, os plentyn mabwysiadol yw'r person, y rhieni mabwysiadol; a

(b)llunio adroddiad ysgrifenedig ar yr asesiad.

Hysbysu am asesiad

9.—(1Ar ôl cynnal asesiad o dan reoliad 8, rhaid i'r awdurdod lleol, yn unol â rheoliad 13—

(a)rhoi'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (2); a

(b)rhoi hysbysiad am yr hawl i gyflwyno sylwadau fel a bennir ym mharagraff (3).

(2Yr wybodaeth a bennir yw —

(a)datganiad o anghenion y person yr aseswyd ei anghenion am wasanaethau cymorth mabwysiadu;

(b)y gwasanaethau, os oes rhai, y bwriedir eu darparu ar gyfer y person;

(c)os bydd yr asesiad yn ymwneud ag angen y person am gymorth ariannol—

(i)y sail a ddefnyddir i benderfynu'r cymorth ariannol hwnnw;

(ii)y swm arfaethedig a fyddai'n daladwy;

(ch)unrhyw amodau y mae'r awdurdod lleol yn bwriadu eu gosod ar ddarpariaeth y cymorth ariannol hwnnw yn unol â rheoliad 13(3); a

(d)manylion am yr hawl i gyflwyno sylwadau yn unol â pharagraff (3).

(3Bydd gan y person a hysbysir yn unol â pharagraff (2) yr hawl i gyflwyno sylwadau i'r awdurdod lleol ynghylch y cynnig ym mharagraff (2)(b) o fewn cyfnod a bennir gan yr awdurdod lleol.

(4Rhaid i'r awdurdod lleol beidio â gwneud penderfyniad o dan reoliad 13 hyd oni fydd naill ai —

(a)y person y cyfeirir ato ym mharagraff (3)—

(i)wedi cyflwyno sylwadau i'r awdurdod lleol; neu

(ii)wedi hysbysu'r awdurdod lleol ei fod yn fodlon ar y penderfyniad arfaethedig; neu

(b)y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad a roddir o dan baragraff (1)(b) ar gyfer cyflwyno sylwadau wedi dod i ben.

Cynllun

10.—(1Yr amgylchiadau a ragnodir at ddibenion adran 4(5)(b) o Ddeddf 2002 yw bod yr awdurdod lleol yn bwriadu darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu ar fwy nag un achlysur yn unig.

(2Rhaid i'r awdurdod lleol roi hysbysiad o'r cynllun y cyfeirir ato yn adran 4(5) o Ddeddf 2002 (ac y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “y cynllun”) i'r personau y cyfeirir atynt yn rheoliad 13(2).

(3At ddibenion paratoi'r cynllun, rhaid i'r awdurdod lleol ymgynghori —

(a)ag unrhyw berson sydd i gael hysbysiad o dan reoliad 14;

(b)pan ymddengys i'r awdurdod lleol —

(i)y gall fod angen i fwrdd iechyd lleol, Ymddiriedolaeth GIG neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol ddarparu gwasanaethau ar gyfer y person hwnnw; neu

(ii)y gall fod angen darparu ar gyfer y person hwnnw wasanaethau sy'n dod o fewn swyddogaethau awdurdod addysg lleol,

ac â'r bwrdd iechyd lleol hwnnw, yr Ymddiriedolaeth GIG honno neu'r Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol honno, neu'r awdurdod addysg lleol hwnnw.

(4Os yw'r awdurdod lleol, o dan reoliad 13, yn penderfynu darparu unrhyw wasanaethau cymorth mabwysiadu ar gyfer person, ac os yw'n ofynnol iddo o dan y rheoliad hwnnw roi hysbysiad o'r penderfyniad hwnnw, rhaid iddo—

(a)enwebu unigolyn y mae'n rhaid iddo fonitro darpariaeth y gwasanaethau sydd i'w darparu; a

(b)hysbysu'r person am yr enwebiad pan fydd yn ei hysbysu am ei benderfyniad o dan reoliad 13.

(5Rhaid i'r awdurdod lleol roi copi o'r cynllun —

(a)yn unol â rheoliad 13;

(b)pan fydd paragraff (3)(b)(i) yn gymwys, i'r bwrdd iechyd lleol, yr Ymddiriedolaeth GIG neu i'r Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol;

(c)pan fydd paragraff (3)(b)(ii) yn gymwys, i'r awdurdod addysg lleol; ac

(ch)pan fydd y person y mae'r cynllun yn ymwneud ag ef yn byw mewn ardal awdurdod lleol arall, i'r awdurdod lleol hwnnw.

Amgylchiadau pryd y gellir talu cymorth ariannol

11.—(1Ni ellir talu cymorth ariannol ond i riant mabwysiadol, a dim ond o dan un neu ragor o'r amgylchiadau a bennir ym mharagraff (2).

(2Dyma'r amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—

(a)pan na fydd y plentyn wedi'i leoli gyda'r rhiant mabwysiadol i'w fabwysiadu, a bydd cymorth ariannol yn angenrheidiol i sicrhau bod y rhiant mabwysiadol yn gallu gofalu am y plentyn os lleolir ef felly;

(b)pan fydd y plentyn wedi'i leoli gyda'r rhiant mabwysiadol i'w fabwysiadu, a bydd cymorth ariannol yn angenrheidiol i sicrhau y gall y rhiant mabwysiadol barhau i ofalu am y plentyn;

(c)pan fydd y plentyn wedi'i fabwysiadu, a bod cymorth ariannol yn angenrheidiol i sicrhau y gall y rhiant mabwysiadol barhau i ofalu am y plentyn;

(ch)pan fydd yr awdurdod lleol yn fodlon bod y plentyn wedi sefydlu perthynas gref a phwysig gyda'r rhiant mabwysiadol cyn i orchymyn mabwysiadu gael ei wneud;

(d)pan fydd yn ddymunol bod y plentyn yn cael ei leoli gyda'r un rhiant mabwysiadol â'i frawd neu'i chwaer (p'un ai o waed coch cyfan neu o hanner gwaed), neu gyda phlentyn y mae wedi rhannu cartref ag ef o'r blaen;

(dd)pan fydd ar y plentyn angen gofal arbennig sy'n gwneud treulio rhagor o adnoddau yn ofynnol oherwydd salwch, anabledd, anawsterau emosiynol neu ymddygiadol neu ganlyniadau parhaus camdriniaeth neu esgeulustod yn y gorffennol;

(e)pan fydd yn angenrheidiol oherwydd oedran, rhyw neu darddiad ethnig y plentyn i'r awdurdod lleol wneud trefniadau arbennig i hwyluso lleoli'r plentyn i'w fabwysiadu.

(3Cyn y gellir talu cymorth ariannol, rhaid i'r awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i'r rhieni mabwysiadol fod wedi cytuno—

(a)i roi gwybod i'r awdurdod lleol ar unwaith —

(i)os ydynt yn newid eu cyfeiriad;

(ii)os nad gyda hwy y mae cartref y plentyn bellach (neu gyda'r naill neu'r llall ohonynt), neu os yw'r plentyn yn marw; neu

(iii)os oes unrhyw newid yn eu hamgylchiadau ariannol neu yn anghenion neu adnoddau ariannol y plentyn;

(b)ac os rhoddir yr wybodaeth ar lafar, i'w chadarnhau yn ysgrifenedig cyn pen saith niwrnod;

(c)i lunio datganiad blynyddol o'u hamgylchiadau ariannol ac o anghenion ac amgylchiadau ariannol y plentyn a'i roi i'r awdurdod lleol.

Swm y cymorth ariannol

12.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fydd yr awdurdod lleol yn asesu anghenion person am gymorth ariannol.

(2Pan fydd paragraff (4) yn gymwys, a phan na fydd paragraff (5) yn gymwys, wrth benderfynu swm y cymorth ariannol, rhaid i'r awdurdod lleol roi sylw i'r ystyriaethau ym mharagraff (6) sy'n berthnasol i'r achos dan sylw.

(3Pan fydd paragraff (5) yn gymwys, wrth benderfynu swm y cymorth ariannol, ni chaiff yr awdurdod lleol roi sylw i unrhyw un o'r ystyriaethau ym mharagraff (6).

(4Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fydd yr awdurdod lleol yn ystyried darparu cymorth ariannol mewn cysylltiad â gwariant at ddibenion cynorthwyo i leoli plentyn gyda'r rhieni mabwysiadol i'w fabwysiadu a chynorthwyo'r lleoliad hwnnw i barhau yn sgil gwneud gorchymyn mabwysiadu gan gynnwys—

(a)costau cyfreithiol, gan gynnwys ffioedd sy'n daladwy i lys, ac sy'n ymwneud â mabwysiadu'r plentyn;

(b)cost cyfarpar at ddibenion diwallu unrhyw anghenion arbennig sydd gan y plentyn;

(c)gwariant sy'n angenrheidiol er mwyn parhau i letya'r plentyn, gan gynnwys darparu dodrefn a chyfarpar tŷ, newidiadau ac addasiadau i'r cartref, darparu cyfrwng cludo a darparu dillad, teganau a phethau eraill sy'n angenrheidiol er mwyn gofalu am y plentyn;

(ch)cost difrod yn y cartref lle y mae'r plentyn yn cael ei letya pan fydd y gost honno yn codi o anawsterau ymddygiadol arbennig y plentyn;

(d)cost lleoli plentyn mewn ysgol fyrddio pan fydd y lleoliad yn angenrheidiol er mwyn diwallu anghenion arbennig y plentyn;

(dd)cost diwallu anghenion arbennig y plentyn, gan gynnwys anghenion sy'n codi o anabledd neu salwch difrifol;

(e)gwariant ar deithio ar gyfer ymweliadau rhwng y plentyn a pherson perthynol.

(5Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fydd yr awdurdod lleol yn ystyried darparu cymorth ariannol mewn perthynas â —

(a)gwariant er mwyn cyflwyno'r plentyn i'w riant mabwysiadol; neu

(b)costau cyfreithiol y rhiant mabwysiadol pan fydd cais wedi'i wneud am orchymyn mabwysiadu o ran plentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol, pan fydd yr awdurdod lleol yn cefnogi gwneud y gorchymyn hwnnw a phan fydd gwneud y gorchymyn yn cael ei wrthwynebu gan berson arall.

(6Dyma'r ystyriaethau—

(a)unrhyw argymhellion, mewn perthynas â'r rhiant mabwysiadol neu'r plentyn mabwysiadol, a wnaed gan y panel mabwysiadu i'r awdurdod lleol ar fater y cyfeirir ato yn rheoliadau 18 a 27(1) o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru);

(b)yr adnoddau ariannol sydd ar gael i'r rhieni mabwysiadol gan gynnwys credyd treth plant ac unrhyw fudd-dal arall a fyddai ar gael mewn perthynas â'r plentyn petai'r plentyn yn byw gyda hwy;

(c)y swm y mae ei angen ar y rhieni mabwysiadol o ran eu treuliau a'u rhwymedigaethau rhesymol (ac eithrio treuliau sy'n gysylltiedig â'r plentyn); ac

(ch)anghenion ac adnoddau ariannol y plentyn.

(7Ni thelir cymorth ariannol i ddiwallu unrhyw anghenion i'r graddau y mae unrhyw fudd-dal neu lwfans sy'n gymwys i'r rhieni mabwysiadol oherwydd eu bod wedi mabwysiadu'r plentyn yn daladwy neu ar gael iddynt mewn perthynas â'r anghenion hynny.

(8Ac eithrio pan fydd paragraffau (9) a (10) yn gymwys, ni chaiff y cymorth ariannol sy'n daladwy gan yr awdurdod lleol gynnwys unrhyw elfen o ad-daliad ar gyfer gofalu am y plentyn gan y rhieni mabwysiadol.

(9Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan—

(a)bydd y rhiant mabwysiadol yn rhiant maeth, neu pan fu'n rhiant maeth, i'r plentyn;

(b)ymddengys i'r awdurdod lleol bod unrhyw gymorth ariannol neu lwfansau sy'n cael eu rhoi i'r rhieni mabwysiadol mewn perthynas â maethu'r plentyn wedi peidio neu y byddant yn peidio;

(c)bydd yr awdurdod lleol wedi penderfynu yn unol â rheoliad 28 o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) y byddai'r rhiant mabwysiadol yn addas fel rhiant mabwysiadol ar gyfer y plentyn; ac

(ch)bydd yr awdurdod lleol, cyn i'r gorchymyn mabwysiadu gael ei wneud, yn penderfynu talu cymorth ariannol ac yn penderfynu y dylai'r cymorth ariannol hwnnw gael ei dalu'n rheolaidd.

(10Mae'r paragraff hwn yn gymwys —

(a)ar unrhyw adeg hyd at y diwrnod (“yr ail ben blwydd”) ddwy flynedd ar ôl dyddiad mabwysiadu'r plentyn; a

(b)ar unrhyw adeg ar ôl yr ail ben blwydd, pan fydd unrhyw un o'r amgylchiadau a bennir yn rheoliad 11(2)(a), (b), (d), (dd) neu (e) yn bodoli ar y dyddiad pan fydd yr awdurdod lleol yn penderfynu talu cymorth ariannol.

Penderfyniad i ddarparu cymorth

13.—(1Rhaid i'r awdurdod lleol, gan roi sylw i'r asesiad ac unrhyw sylwadau a wnaed yn sgil yr hysbysiad a roddwyd yn unol â rheoliad 9, benderfynu —

(a)a oes ar y person angen gwasanaethau cymorth mabwysiadu;

(b)os felly, a oes angen darparu'r gwasanaethau hynny ar ei gyfer; ac

(c)pa amodau, os oes rhai, sydd i'w gosod yn unol â pharagraff (3)

ac, yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'r penderfyniad hwnnw, a rhaid i'r hysbysiad gynnwys y rhesymau dros y penderfyniad a chopi o'r cynllun y cyfeirir ato yn rheoliad 10.

(2Pan fydd y cynllun y cyfeirir ato yn rheoliad 10(2) yn cynnwys darparu'r rgwasanaethau gan fwrdd iechyd lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol neu awdurdod addysg lleol, rhaid i'r awdurdod lleol roi copi o'r rhan honno o'r cynllun sy'n cyfeirio at y gwasanaethau hynny i'r bwrdd iechyd lleol, yr Ymddiriedolaeth GIG, yr Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol neu'r awdurdod addysg lleol fel y bo'n briodol.

(3Caiff yr awdurdod lleol osod yr amodau hynny y mae'n ystyried eu bod yn briodol ar dalu cymorth ariannol, a chaiff gynnwys amodau —

(a)o ran amserlen defnyddio'r taliad a diben y taliad; a

(b)o ran y gofyniad i gydymffurfio â'r cytundeb y cyfeirir ato yn rheoliad 11(3).

(4Pan fydd yr awdurdod lleol yn penderfynu bod cymorth ariannol i'w dalu, rhaid iddo gael ei dalu yn un taliad ac eithrio os —

(a)bydd yr awdurdod lleol a'r person y mae cymorth ariannol i'w dalu iddo yn cytuno; neu

(b)bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu bod cymorth ariannol i'w dalu i ddiwallu unrhyw anghenion sy'n debygol o arwain at wariant sy'n debygol o ddigwydd dro ar ôl tro;

(c)gellir ei dalu —

(i)mewn rhandaliadau ar y dyddiadau hynny y bydd yr awdurdod lleol yn eu pennu; neu

(ii)yn rheolaidd hyd at unrhyw ddyddiad (os bydd un) y bydd yr awdurdod lleol yn ei bennu.

(5Rhaid i'r materion canlynol gael eu pennu yn yr hysbysiad o dan baragraff (1) —

(a)dull penderfynu ar swm y cymorth ariannol;

(b)pan fydd cymorth ariannol i'w dalu'n rhandaliadau neu'n rheolaidd —

(i)swm y cymorth ariannol;

(ii)pa mor aml y bydd y taliad yn cael ei wneud;

(iii)y dyddiad (os oes un) y mae cymorth ariannol i'w dalu hyd ato;

(iv)y dyddiad y telir cymorth ariannol gyntaf;

(c)pan fydd cymorth ariannol i'w dalu yn un taliad, y dyddiad y mae'r taliad i'w wneud;

(ch)pan fydd cymorth ariannol i'w dalu yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodir yn unol â pharagraff (3), yr amodau hynny, y dyddiad (os bydd un) erbyn pryd y mae'n rhaid bodloni'r amodau a chanlyniadau methu â bodloni'r amodau;

(d)y trefniadau a'r weithdrefn ar gyfer adolygu, amrywio a therfynu cymorth ariannol;

(dd)cyfrifoldebau—

(i)yr awdurdod lleol o dan reoliad 17 (adolygu cymorth ariannol); a

(ii)y rhieni mabwysiadol yn unol â'u cytundeb o dan reoliad 11(3).

Hysbysiadau

14.  Rhaid rhoi unrhyw wybodaeth y mae'n ofynnol ei rhoi, neu unrhyw hysbysiad y mae'n ofynnol ei roi, o dan reoliadau 9, 10 a 13, yn ysgrifenedig —

(a)pan fydd y person yr aseswyd ei anghenion am wasanaethau cymorth mabwysiadu yn oedolyn, i'r person hwnnw;

(b)pan fydd y person yr aseswyd ei anghenion am wasanaethau cymorth mabwysiadu yn blentyn —

(i)i'r plentyn; a

(ii)ac eithrio pan ymddengys i'r awdurdod lleol ei bod yn amhriodol gwneud hynny, —

(aa)i'r person y mae asiantaeth fabwysiadu wedi penderfynu yn unol â rheoliad 34 o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) y byddai'n rhiant mabwysiadol addas i'r plentyn;

(bb)i'r person y lleolwyd y plentyn gydag ef i'w fabwysiadu;

(cc)i'r person sydd wedi mabwysiadu'r plentyn; neu

os nad oes neb yn dod o dan benawdau (aa) i (cc) o'r is-baragraff hwn, y person sy'n bwriadu mabwysiadu'r plentyn.

Cyfrifoldebau awdurdodau lleol am leoliadau y tu allan i'r ardal

15.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae adran 4 o Ddeddf 2002 yn gymwys i awdurdod lleol o ran y personau canlynol sydd y tu allan i ardal yr awdurdod lleol —

(a)plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth y mae'r awdurdod wedi'i leoli i'w fabwysiadu neu a fabwysiadwyd ar ôl iddo gael ei leoli i'w fabwysiadu gan yr awdurdod;

(b)rhiant mabwysiadol plentyn o'r fath; ac

(c)plentyn rhiant mabwysiadol o'r fath.

(2Bydd adran 4 o Ddeddf 2002 yn peidio â bod yn gymwys yn yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (1) ar ddiwedd y cyfnod o dair blynedd yn cychwyn ar y dyddiad mabwysiadu, ac eithrio pan fydd yr awdurdod lleol yn darparu cymorth ariannol a bod y penderfyniad i ddarparu'r cymorth hwnnw wedi'i wneud cyn y dyddiad mabwysiadu, a bydd rheoliad 17(9) yn gymwys o dan yr amgylchiadau hynny.

(3Pan —

(a)bydd awdurdod lleol (“yr awdurdod lleoli”) wedi lleoli plentyn i'w fabwysiadu;

(b)bydd llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers y dyddiad mabwysiadu;

(c)bydd yr awdurdod lleoli wedi ceisio cymorth awdurdod lleol arall (“yr awdurdod adennill”) yn unol ag adran 4(10) o Ddeddf 2002; ac

(ch)bydd yr awdurdod adennill wedi cydymffurfio â'r cais hwnnw yn unol ag adran 4(11) o Ddeddf 2002,

caiff yr awdurdod adennill adennill oddi wrth yr awdurdod lleoli unrhyw dreuliau sy'n codi o ddarparu cymorth o'r fath.

(4Nid yw paragraff (3) yn gymwys os cyngor a gwybodaeth o dan adran 2(6)(a) o Ddeddf 2002 yw'r gwasanaeth a ddarperir gan yr awdurdod adennill.

(5Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn rhwystro awdurdod lleol rhag darparu gwasanaethau mabwysiadu ar gyfer person y tu allan i'w ardal pan fydd yn ystyried ei bod yn briodol iddo wneud hynny.

Adolygu darpariaeth gwasanaethau cymorth mabwysiadu

16.—(1Pan fydd yr awdurdod lleol yn darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu ar gyfer person, neu pan fydd wedi eu darparu yn ystod y deuddeng mis blaenorol, rhaid iddo adolygu darpariaeth y gwasanaethau hynny os daw'n hysbys iddo fod unrhyw newid yn amgylchiadau'r person.

(2Bydd paragraffau (1) i (4) o reoliad 8 yn gymwys i adolygiad o dan y rheoliad hwn fel y maent yn gymwys i asesiad o dan reoliad 8.

(3Rhaid i'r awdurdod lleol, o ran yr adolygiad —

(a)penderfynu a ddylai amrywio'r ddarpariaeth o wasanaethau cymorth mabwysiadu ar gyfer y person; a

(b)adolygu ac, os yw'n briodol, diwygio'r cynllun a luniwyd o dan reoliad 10.

(4Os yw'r awdurdod lleol yn penderfynu amrywio'r ddarpariaeth o wasanaethau cymorth mabwysiadu ar gyfer y person, neu'n penderfynu diwygio'r cynllun, rhaid iddo roi hysbysiad yn unol â pharagraff (1) o reoliad 9; ac mae paragraffau (3) a (4) o'r rheoliad hwnnw yn gymwys i'r paragraff hwn fel y maent yn gymwys i baragraff (1)(b) o'r rheoliad hwnnw.

Adolygu cymorth ariannol

17.—(1Rhaid i'r awdurdod lleol adolygu unrhyw gymorth ariannol—

(a)yn flynyddol, ar ôl derbyn datganiad oddi wrth y rhieni mabwysiadol ynghylch—

(i)eu hamgylchiadau ariannol;

(ii)anghenion ac adnoddau ariannol y plentyn;

(iii)eu cyfeiriad ac a oes gan y plentyn gartref gyda hwy o hyd (neu gyda'r naill neu'r llall ohonynt); a

(b)os daw unrhyw newid yn amgylchiadau'r rhieni mabwysiadol neu'r plentyn, gan gynnwys unrhyw newid cyfeiriad, yn hysbys iddo.

(2Bydd paragraffau (3) i (6) yn gymwys pan fydd cymorth ariannol yn daladwy mewn rhandaliadau neu'n rheolaidd.

(3Caiff yr awdurdod lleol amrywio neu atal taliadau cymorth ariannol neu ddod â'r taliadau i ben os, o ganlyniad i adolygiad, bydd yn ystyried bod angen y rhieni mabwysiadol am gymorth ariannol wedi newid neu wedi peidio ers i'r swm o gymorth ariannol gael ei benderfynu ddiwethaf.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), pan na chydymffurfir ag unrhyw amod a osodir yn unol â rheoliad 13(3), caiff yr awdurdod lleol—

(a)amrywio neu atal taliadau cymorth ariannol neu ddod â'r taliadau i ben; a

(b)ceisio adennill y cyfan neu ran o'r cymorth ariannol y mae wedi'i dalu.

(5Os y gofyniad i roi datganiad blynyddol yn unol â chytundeb y cyfeirir ato yn rheoliad 11(3)(c) yw'r amod na chydymffurfir ag ef, rhaid i'r awdurdod lleol beidio â chymryd unrhyw gamau o dan baragraff (4) hyd nes—

(a)iddo anfon nodyn atgoffa at y person a aeth i gytundeb gan ei atgoffa o'r angen i roi datganiad blynyddol;

(b)i 28 o ddiwrnodau ddod i ben ers y dyddiad yr anfonwyd y nodyn atgoffa hwnnw.

(6Ar ôl iddo gymryd y camau a bennir ym mharagraff (5), os bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu o dan baragraff (4) y dylid atal cymorth ariannol, caiff godi'r ataliad pan fydd wedi cael y datganiad blynyddol y cyfeirir ato yn rheoliad 11(3)(c).

(7Rhaid i'r awdurdod lleol orffen talu cymorth ariannol pan—

(a)bydd y plentyn yn peidio â bod â chartref gyda'r rhieni mabwysiadol (neu gyda'r naill neu'r llall ohonynt);

(b)bydd y plentyn yn peidio â bod mewn addysg lawnamser neu hyfforddiant llawnamser ac yn dechrau mewn swydd gyflogedig;

(c)bydd y plentyn yn gymwys i gael cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith yn ei hawl ei hun; neu

(ch)bydd y plentyn yn cyrraedd 18 oed, oni bai ei fod yn parhau mewn addysg lawnamser neu hyfforddiant llawnamser, pan gaiff barhau hyd ddiwedd y cwrs addysg neu'r hyfforddiant y mae yn ei ddilyn bryd hynny.

(8Mae rheoliadau 9, 10 a 12 yn gymwys mewn perthynas ag adolygiad o dan y rheoliad hwn fel y maent yn gymwys o ran asesiad o dan reoliad 8.

(9Os yw'r awdurdod lleol yn penderfynu amrywio neu atal taliadau cymorth ariannol neu ddod â'r taliadau i ben, neu'n penderfynu diwygio'r cynllun, rhaid iddo roi hysbysiad o'r bwriad yn unol â rheoliad 9(1), ac mae'n rhaid i'r hysbysiad gynnwys y rhesymau dros y bwriad a bydd paragraffau (3) a (4) o reoliad 13 yn gymwys i benderfyniad o dan baragraff (3) fel y maent yn gymwys i benderfyniad o dan baragraff (1) o'r rheoliad hwnnw.

Dirymiadau a darpariaeth drosiannol

18.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dirymir Rheoliadau Lwfans Mabwysiadu 1991(10) a Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2004(11) (“Rheoliadau 2004”).

(2Mae unrhyw asesiad, cynllun neu wasanaeth cymorth mabwysiadu sy'n cael ei baratoi neu sydd wedi'i baratoi, neu, yn ôl y digwydd, sy'n cael ei ddarparu (mae “cael ei ddarparu” yn cyfeirio at wasanaeth) o dan Reoliadau 2004 yn union cyn y dyddiad pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym, i'w drin fel asesiad, cynllun neu wasanaeth o dan y Rheoliadau hyn yn effeithiol o'r dyddiad hwnnw.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(12)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

7 Mehefin 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i awdurdodau lleol yng Nghymru ddarparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu fel rhan o'r gwasanaeth y maent yn ei gynnal o dan adran 3(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002.

Caiff gwasanaethau cymorth mabwysiadu eu diffinio gan adran 2(6) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 fel cwnsela, cyngor a gwybodaeth, a gwasanaethau eraill sy'n cael eu rhagnodi gan reoliadau, sy'n ymwneud â mabwysiadu. Caiff y gwasanaethau hynny eu rhagnodi yn rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn ac maent yn cynnwys cymorth ariannol (rheoliad 3(a)). Mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol benodi cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu er mwyn rhoi cyngor a gwybodaeth i bersonau y mae'n bosibl y bydd mabwysiadu plentyn yn effeithio arnynt (rheoliad 6).

Mae rheoliad 5 yn rhagnodi'r personau hynny sy'n gallu darparu cymorth mabwysiadu.

Mae rheoliad 7 yn rhagnodi'r personau, ac eithrio'r sawl a grybwyllir yn adran 3(1) o'r Ddeddf, sydd â hawl i gael asesiad o'u hanghenion ar gyfer gwasanaethau cymorth mabwysiadu. Mae rheoliad 8 yn pennu'r weithdrefn asesu. Ar ôl gwneud asesiad, rhaid i'r awdurdod lleol roi hysbysiad o dan reoliad 9 am y gwasanaethau cymorth mabwysiadu y mae'n bwriadu eu darparu. Mae rheoliad 10 yn ei gwneud yn ofynnol i gynllun gael ei baratoi y mae'n rhaid darparu gwasanaethau yn unol ag ef. Mae rheoliad 11 yn pennu'r personau y caniateir talu cymorth ariannol iddynt a'r amgylchiadau pryd y caniateir ei dalu iddynt. Mae rheoliad 12 yn darparu ar gyfer swm y cymorth ariannol sy'n daladwy. Mae rheoliad 13 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol benderfynu, gan ystyried yr asesiad, ei fwriadau a hysbysir o dan reoliad 9, ynghyd ag unrhyw sylwadau a wneir am y bwriadau hyn, a phenderfynu pa wasanaethau y mae i'w darparu ac unrhyw amodau sydd i'w gosod, a rhoi hysbysiad am y penderfyniad hwnnw.

Mae rheoliad 15 yn disgrifio cyfrifoldebau awdurdodau lleol dros leoli y tu allan i'w hardal ac mae'n galluogi awdurdod lleol i adennill cost darparu gwasanaethau oddi wrth yr awdurdod sydd wedi lleoli plentyn i'w fabwysiadu yn ei ardal.

Mae rheoliadau 16 a 17 yn darparu ar gyfer adolygu'r ddarpariaeth o wasanaethau cymorth mabwysiadu a chymorth ariannol.

Drwy reoliad 18, mae Rheoliadau Lwfans Mabwysiadu 1991 a Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2004 yn cael eu dirymu, ac mae darpariaeth drosiannol yn cael ei gwneud.

(1)

2002 p.38. Mae'r pwerau'n arferadwy gan yr “appropriate Minister a ddiffinnir o ran Cymru, fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru (gweler adran 144(1)). Mae'r “appropriate Minister” wedi'i ddiffinio yn adran 144(1), o ran Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, fel yr Ysgrifennydd Gwladol.

(3)

2002 p.21. Gweler adran 8 am y diffiniad o gredyd treth plant.

(8)

1989 p.41. Gweler adran 22(1) am y diffiniad o blentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources