- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
5.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i awdurdod lleol, ar gais, gyflawni asesiad o anghenion y personau canlynol am wasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig, sef—
(a)person sy'n dod o fewn adran 14F(3)(a) i (c) o'r Ddeddf;
(b)plentyn gwarcheidwad arbennig;
(c)plentyn y gwneir cais am GGA ar ei gyfer neu blentyn y mae'r llys wedi gofyn am adroddiad ar ei gyfer;
(ch)plentyn (heblaw un sy'n dod o fewn (a) i (c) uchod) a enwir mewn adroddiad a lunir o dan adran 14A(8) o'r Ddeddf;
(d)darpar warcheidwad arbennig; ac
(dd)person perthynol ar yr amod, cyn i gais gael ei wneud am asesiad, bod trefniadau ar waith ar gyfer cyswllt rhwng y person a'r plentyn perthnasol,
ac, yn unol â hynny, rhagnodir y personau yn is-baragraffau (b) i (dd) at ddibenion adran 14F(3)(d) o'r Ddeddf.
(2) Ni fydd paragraff (1) uchod yn gymwys oni bai—
(a)bod y person sydd wedi gofyn am asesiad yn dod o fewn unrhyw rai o is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (1) ac y mae naill ai—
(i)yn byw yn ardal yr awdurdod lleol;
(ii)yn bwriadu byw yn yr ardal honno;
(iii)yn blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod hwnnw; neu
(iv)yn berson y gofynnodd y llys i'r awdurdod lleol baratoi adroddiad ar ei gyfer o dan adran 14A(9), neu'n blentyn y mae adroddiad o'r fath yn ymwneud ag ef neu a fyddai'n ymwneud ag ef; neu
(b)os daw'r person o fewn is-baragraff (dd) o baragraff (1), bod y plentyn perthnasol yn byw neu'n bwriadu byw yn ardal yr awdurdod neu'n derbyn gofal gan yr awdurdod hwnnw.
(3) Caniateir i asesiad o anghenion person ar gyfer gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig gael ei wneud drwy gyfeirio yn unig at wasanaeth cymorth gwarcheidiaeth arbennig penodol—
(a)os yw'r person yr asesir ei anghenion wedi gofyn am wasanaeth cymorth gwarcheidiaeth arbennig penodol; neu
(b)os yw'n ymddangos i'r awdurdod y gellir asesu anghenion y person am wasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig yn ddigonol drwy gyfeirio yn unig at wasanaeth cymorth gwarcheidiaeth arbennig penodol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: