RHAN 3GWASANAETHAU CYMORTH GWARCHEIDIAETH ARBENNIG

Asesu anghenion ar gyfer gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig5

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i awdurdod lleol, ar gais, gyflawni asesiad o anghenion y personau canlynol am wasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig, sef—

a

person sy'n dod o fewn adran 14F(3)(a) i (c) o'r Ddeddf;

b

plentyn gwarcheidwad arbennig;

c

plentyn y gwneir cais am GGA ar ei gyfer neu blentyn y mae'r llys wedi gofyn am adroddiad ar ei gyfer;

ch

plentyn (heblaw un sy'n dod o fewn (a) i (c) uchod) a enwir mewn adroddiad a lunir o dan adran 14A(8) o'r Ddeddf;

d

darpar warcheidwad arbennig; ac

dd

person perthynol ar yr amod, cyn i gais gael ei wneud am asesiad, bod trefniadau ar waith ar gyfer cyswllt rhwng y person a'r plentyn perthnasol,

ac, yn unol â hynny, rhagnodir y personau yn is-baragraffau (b) i (dd) at ddibenion adran 14F(3)(d) o'r Ddeddf.

2

Ni fydd paragraff (1) uchod yn gymwys oni bai—

a

bod y person sydd wedi gofyn am asesiad yn dod o fewn unrhyw rai o is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (1) ac y mae naill ai—

i

yn byw yn ardal yr awdurdod lleol;

ii

yn bwriadu byw yn yr ardal honno;

iii

yn blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod hwnnw; neu

iv

yn berson y gofynnodd y llys i'r awdurdod lleol baratoi adroddiad ar ei gyfer o dan adran 14A(9), neu'n blentyn y mae adroddiad o'r fath yn ymwneud ag ef neu a fyddai'n ymwneud ag ef; neu

b

os daw'r person o fewn is-baragraff (dd) o baragraff (1), bod y plentyn perthnasol yn byw neu'n bwriadu byw yn ardal yr awdurdod neu'n derbyn gofal gan yr awdurdod hwnnw.

3

Caniateir i asesiad o anghenion person ar gyfer gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig gael ei wneud drwy gyfeirio yn unig at wasanaeth cymorth gwarcheidiaeth arbennig penodol—

a

os yw'r person yr asesir ei anghenion wedi gofyn am wasanaeth cymorth gwarcheidiaeth arbennig penodol; neu

b

os yw'n ymddangos i'r awdurdod y gellir asesu anghenion y person am wasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig yn ddigonol drwy gyfeirio yn unig at wasanaeth cymorth gwarcheidiaeth arbennig penodol.