2005 Rhif 1806 (Cy.138)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(1)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 o ran mesurau sy'n ymwneud ag atal, lleihau a dileu llygredd sy'n cael ei achosi gan wastraff, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: