RHAN 3CYMHWYSO RHANNAU 4 I 10
Cymhwyso cyffredinol ar Rannau 4 i 1012
1
Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (4), mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wastraff peryglus.
2
Ac eithrio'r darpariaethau yn rheoliad 13 (cymhwyso i wastraff asbestos) ac 14 (cymhwyso i ffracsiynau a gesglir ar wahân), nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wastraff domestig25 .
3
Nid oes dim sydd yn Rhan 6 o'r Rheoliadau hyn (symud gwastraff peryglus) yn gymwys mewn perthynas â thrawslwytho gwastraff y mae darpariaethau Rheoliad y Cyngor 259/93/EEC26, heblaw Teitl III o'r rheoliad hwnnw, yn gymwys iddo.
4
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wastraff peryglus yng Nghymru er gwaethaf y ffaith bod gwastraff—
a
wedi cael ei gynhyrchu ar fangre neu ei symud oddi yno yn yr Alban, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu Gibraltar; neu
b
yn cael ei gludo, neu i'w gludo, o fangre yng Nghymru i fangre yn un o'r lleoedd hynny.
5
Er mwyn osgoi amheuaeth, wrth eu cymhwyso—
a
i wastraff llongau, mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw long;
b
i ddyfroedd mewnol a môr tiriogaethol y Deyrnas Unedig sy'n cydffinio â Chymru, mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys, heb leihau effaith paragraff (3), i lwyth o wastraff a gludir mewn unrhyw long,
ym mhob achos (p'un a yw'r llong yn llong y Deyrnas Unedig neu fel arall ac, os llong y Deyrnas Unedig ydyw, p'un a gofrestrwyd hi yng Nghymru neu fel arall).
Gwastraff asbestos13
1
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wastraff asbestos sy'n wastraff domestig ac eithrio i'r graddau y byddent, heblaw am y paragraff hwn, yn gosod rhwymedigaethau ar berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo.
2
Mae'r paragraff hwn yn gymwys i berson sydd yn gynhyrchydd gwreiddiol y gwastraff domestig a hefyd naill ai—
a
i berson sy'n preswylio yn y fangre ddomestig lle ceir y gwastraff asbestos; neu
b
i berson sy'n gweithredu ar ran person o'r fath yn ddi-dâl.
3
Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu mewn perthynas â gwastraff asbestos nad yw'n wastraff domestig a gynhyrchir yn ystod unrhyw rai o weithgareddau adeiladu, addasu, trwsio a chynnal a chadw (gan gynnwys gwaith strwythurol) neu ddymchwel mangre ddomestig neu unrhyw ran ohoni, fel y byddant yn trin unrhyw gontractiwr sy'n cael ei gymryd ymlaen gan feddiannydd domestig—
i
fel y cynhyrchydd; a,
ii
os nad yw'r contractiwr yn cymryd person arall ymlaen fel traddodwr, fel y traddodwr,
o'r gwastraff asbestos heb gynnwys y meddiannydd.
Ffracsiynau domestig a gasglwyd ar wahân14
1
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i ffracsiynau domestig a gasglwyd ar wahân, sef, gwastraff peryglus—
a
sy'n wastraff domestig; a
b
a gasglwyd o'r fangre lle cynhyrchwyd ef ar wahân i'r casgliad o wastraff arall o'r fangre honno.
2
At ddibenion paragraff (1), ceir ystyried bod gwastraff peryglus wedi'i gasglu ar wahân i'r casgliad o wastraff arall er gwaethaf y ffaith iddo gael ei gasglu ar yr un pryd neu ar yr un cerbyd neu'r ddau, ar yr amod nad yw'r gwastraff peryglus yn cael ei gymysgu gyda'r gwastraff arall.
3
Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ffracsiynau a gesglir ar wahân.
4
Ni fydd dim yn y Rheoliadau hyn yn gymwys i ffracsiynau a gesglir ar wahân tan y caiff y gwastraff hwnnw ei symud o'r fangre lle cafodd ei gynhyrchu i fangre ar gyfer casglu, gwaredu neu adfer.
5
Mae'r sefydliad neu'r ymgymeriad sy'n derbyn y gwastraff hwnnw yn y fangre honno i'w drin fel cynhyrchydd y gwastraff at ddibenion y Rheoliadau hyn.
Gwastraff ymbelydrol15
1
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys o ran gwastraff ymbelydrol o fewn ystyr adran 2 o Ddeddf Sylweddau Ymbelydrol 199327—
a
pan fydd yn esempt am y tro rhag gofynion—
i
adran 13 (gwaredu gwastraff ymbelydrol); neu
ii
adran 14 (cronni gwastraff ymbelydrol),
o'r Ddeddf honno gan adran 15 o'r Ddeddf honno neu yn unol â hi; a
b
pan fydd un neu fwy o nodweddion peryglus yn codi heb fod o'i natur ymbelydrol.
2
Er gwaethaf rheoliad 2(1)(b)(ii), trinnir gwastraff ymbelydrol y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo fel gwastraff at ddibenion y Rheoliadau hyn, ac yn unol â hynny trinnir ef fel gwastraff peryglus ac mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r gwastraff hwnnw.
Gwastraff amaethyddol16
1
Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wastraff amaethyddol cyn 1 Medi 2006, ond maent yn gymwys ar ac ar ôl y dyddiad hwnnw i wastraff amaethyddol pryd bynnag y daeth yn wastraff.
2
At ddibenion y Rheoliad hwn, ystyr “gwastraff amaethyddol” yw gwastraff o fangre a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth o fewn ystyr Deddf Amaethyddiaeth 194728.
Gwastraff mwyngloddiau a chwareli17
Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wastraff o fwynglawdd neu chwarel cyn 1 Medi 2006, ond maent yn gymwys ar ac ar ôl y dyddiad hwnnw i'r gwastraff hwnnw pa bryd bynnag y daeth yn wastraff.