Search Legislation

Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 7COFNODION AC ATEBION

Cofnodion safle

Cofnodion gwastraff peryglus sydd wedi'i dipio (ei ollwng)

47.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n tipio (neu'n gollwng) gwastraff peryglus (p'un ai wrth ei waredu neu ei storio) yn neu ar unrhyw dir gofnodi ac enwi'r gwastraff yn unol â gofynion canlynol y rheoliad hwn a rheoliad 51.

(2Rhaid i gofnod gynnwys naill ai—

(a)cynllun safle wedi'i farcio â grid, neu

(b)cynllun safle â throsgaenau lle dangosir dyddodion y gwastraff sy'n cael ei dipio (ei ollwng) mewn perthynas â chyfuchliniau'r safle.

(3Mae cofnodion a wneir o dan y rheoliad hwn i'w cadw mewn cofrestr.

(4Rhaid enwi'r dyddodion drwy gyfeirio at—

(a)y disgrifiad perthnasol a'r cod chwe digid yn y Rhestr Wastraffoedd, ynghyd â disgrifiad o gyfansoddiad y gwastraff; a

(b)y nodyn traddodi sy'n ymwneud â'r gwastraff hwnnw, ac eithrio lle gwaredir gwastraff o fewn cwrtil y fangre lle cynhyrchir ef, pan mae'n rhaid disgrifio'r dyroddion drwy gyfeirio at yr ateb chwarterol a roddir i'r Asiantaeth gan gynhyrchydd y gwastraff peryglus o dan reoliad 53.

(5Rhaid i berson y mae'n ofynnol iddo wneud neu gadw cofrestr yn unol â'r rheoliad hwn—

(a)diweddaru'r gofrestr cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a beth bynnag o fewn 24 awr ar ôl derbyn y gwastraff, neu'r dyddodion, yn ôl y digwydd;

(b)cadw'r gofrestr ar y safle lle mae'r tipio'n digwydd; ac

(c)cadw'r cofnodion—

(i)am dair blynedd ar ôl dyddodi'r gwastraff; neu

(ii)os oes ganddo drwydded gwastraff y gweithredir y safle yn unol â hi, hyd nes y bydd y drwydded honno wedi'i hildio neu wedi'i dirymu.

(6Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o oriau at ddibenion y rheoliad hwn neu reoliad 48, dim ond y diwrnodau neu oriau unrhyw ddiwrnod busnes sydd i'w cyfrif.

Cofnodion gwaredu neu adfer gwastraff peryglus drwy ddulliau eraill

48.—(1Rhaid i unrhyw berson sydd—

(a)yn gwaredu gwastraff peryglus yn neu ar dir (ac eithrio unrhyw waredu y mae rheoliad 47 yn ymdrin ag ef);

(b)yn adfer gwastraff peryglus yn neu ar dir; neu

(c)yn derbyn gwastraff peryglus mewn gorsaf drosglwyddo,

gofnodi ac enwi unrhyw wastraff peryglus a dderbyniwyd yn unol â gofynion canlynol y rheoliad hwn a rheoliad 51.

(2Rhaid enwi'r gwastraff yn y cofnod drwy gyfeirio at y disgrifiad perthnasol yn y Rhestr Wastraffoedd a'r cod chwe digid, a rhaid i'r hyn a gofnodir gynnwys disgrifiad o gyfansoddiad y gwastraff.

(3Rhaid i'r cofnod gynnwys—

(a)maint, natur a tharddiad unrhyw wastraff o'r fath;

(b)y nodweddion peryglus perthnasol;

(c)pan fo'n gymwys, y dull adfer mewn perthynas â'r gwastraff drwy gyfeirio at y Rhif a'r disgrifiad cymwys yn unol ag Atodiad IIB o'r Gyfarwyddeb Wastraff; a

(ch)stocrestr yn dangos y lleoliad penodol lle delir y gwastraff.

(4Rhaid i gofnodion a wneir o dan y rheoliad hwn gael eu cadw mewn cofrestr.

(5Rhaid diweddaru'r gofrestr cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a beth bynnag dim hwyrach na 24 awr ar ôl—

(a)derbyn llwyth o wastraff peryglus;

(b)unrhyw waith adfer neu waredu a wnaed neu ar ôl rhoi unrhyw wastraff peryglus i'w storio yn yr orsaf drosglwyddo, yn ôl y digwydd; neu

(c)symud unrhyw wastraff peryglus o'r fangre.

(6Rhaid i berson y mae'n ofynnol iddo wneud neu gadw cofnodion yn unol â'r rheoliad hwn—

(a)cadw'r gofrestr o'r cofnodion ar y safle lle gwneir unrhyw waith adfer neu lle gweithredir yr orsaf drosglwyddo, yn ôl y digwydd; a

(b)cadw'r cofnodion—

(i)lle'r adferir y gwastraff peryglus yn llawn, neu lle mae'n aros yn yr orsaf drosglwyddo, yn ôl y digwydd, nes y bydd yn gadael y safle ac am dair blynedd wedyn; neu

(ii)os oes ganddo drwydded gwastraff y gweithredir y safle yn unol â hi, hyd nes y bydd y drwydded honno wedi'i hildio neu wedi'i dirymu.

Cofnodion cynhyrchydd a chofnodion cludo

Cofnodion cynhyrchwyr, deiliaid a thraddodwyr

49.—(1Rhaid i gynhyrchydd neu ddeiliad gwastraff peryglus, ac, os yw'n wahanol i'r cynhyrchydd, traddodwr gwastraff peryglus, gadw cofnod o faint, natur, tarddiad ac, os yw'n berthnasol, cyrchfan, amledd casglu, cyfrwng cludo a dull trin y gwastraff.

(2Os cludir y gwastraff, mae'r ddyletswydd ym mharagraff (1) yn cynnwys gofyniad i gadw cofnod o fanylion sy'n ddigonol i wybod pwy yw'r cludwr.

(3Rhaid i'r cynhyrchydd, y deiliad neu'r traddodwr, yn ôl y digwydd, gadw'r cofnodion sydd i'w gwneud yn unol â'r rheoliad hwn tra bydd yn parhau i fod yn ddeiliad y gwastraff a hynny am o leiaf dair blynedd wedyn gan ddechrau ar y dyddiad pan drosglwyddir y gwastraff i berson arall.

(4Rhaid cofnodi'r wybodaeth sydd i'w chofnodi yn unol â'r darpariaethau blaenorol yn y rheoliad hwn mewn cofrestr a gedwir gan y cynhyrchydd, y deiliad neu'r traddodwr, yn ôl y digwydd, at y diben.

(5Rhaid i'r gofrestr y mae'n ofynnol ei chadw a'i diogelu gan gynhyrchydd, deiliad neu draddodwr o dan baragraff (4) o'r rheoliad hwn gael ei chadw—

(a)o ran y gofrestr y mae'n ofynnol i gynhyrchydd neu ddeiliaid ei chadw—

(i)yn y fangre a hysbyswyd yn unol â rheoliad 24;

(ii)os nad yw'n meddiannu'r fangre honno bellach, yn ei brif le busnes (neu unrhyw gyfeiriad arall y cytunir arno gyda'r Asiantaeth at y diben hwnnw); neu

(iii)os na hysbyswyd unrhyw fangre mewn perthynas â'r gwastraff, yn ei brif le busnes (neu unrhyw gyfeiriad arall y cytunir arno gyda'r Asiantaeth at y diben hwnnw).

(b)rhaid i'r gofrestr y mae'n ofynnol i draddodwr heblaw'r cynhyrchydd neu'r deiliad ei chadw gael ei chadw yn ei brif le busnes.

(6Os yw'r cynhyrchydd neu'r deiliad yn rhoi'r gorau i feddiannu'r fangre a hysbyswyd cyn y daw'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (3) i ben, rhaid iddo hysbysu'r Asiantaeth ar unwaith.

Cofnodion cludwyr

50.—(1Rhaid i sefydliad neu ymgymeriad sy'n cludo gwastraff peryglus gadw cofnodion o faint, natur, tarddiad ac, os yw'n berthnasol, cyrchfan, amledd casglu, cyfrwng cludo a dull trin y gwastraff yn unol â gofynion canlynol y rheoliad hwn.

(2Rhaid i'r sefydliad neu'r ymgymeriad gadw'r cofnodion sydd i'w gwneud yn unol â'r rheoliad hwn am o leiaf ddeuddeng mis gan ddechrau ar y dyddiad y traddodir y gwastraff i'w gyrchfan.

(3Rhaid cofnodi'r wybodaeth sydd i'w chofnodi yn unol â pharagraff (1) mewn cofrestr a rhaid cadw'r gofrestr ym mhrif le busnes y cludwr.

Cofrestrau a chofnodion: darpariaethau cyffredin

51.—(1Mae darpariaethau canlynol y rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â chofrestrau y mae'n ofynnol eu cadw o dan reoliadau 47 i 50.

(2Rhaid i berson y mae'n ofynnol iddo gadw cofrestr roi yn y gofrestr bob copi y mae'n ei gael o'r canlynol—

(a)unrhyw nodyn traddodi (gan gynnwys nodiadau amldraddodi a phan na dderbynnir llwythi, y nodyn gwreiddiol, copi o unrhyw esboniad o'r rhesymau dros wrthod a baratowyd yn unol â rheoliad 42 a'r nodyn traddodi a baratowyd yn unol â rheoliad 43 neu 44);

(b)ateb unrhyw draddodai i'r cynhyrchydd, y deiliad neu'r traddodwr a'i derbyniodd yn unol â rheoliad 54; ac

(c)unrhyw atodlen cludwr a roddwyd iddo yn unol â rheoliad 37.

(3Rhaid i berson y mae'n ofynnol iddo gadw cofrestr neu gadw cofnodion hyd nes y bydd ei drwydded gwastraff wedi'i hildio neu wedi'i dirymu anfon y cofnodion hynny neu'r gofrestr honno i'r Asiantaeth pan ildir neu ddirymir y drwydded.

(4O ran pob cofrestr a gedwir neu gofnod a wneir yn unol â rheoliad 15 neu 16 o Reoliadau 1996, a phob cofnod a wneir yn unol â rheoliad 13 neu 14 o Reoliadau Rheoli Llygredd (Gwastraff Arbennig) 1980—

(a)rhaid eu cadw gyda'r gofrestr a gedwir yn unol â rheoliad 47 i 49 gan y person y mae'n ofynnol iddo gadw'r cofrestr honno, am y cyfnod a grybwyllir yn y rheoliad perthnasol; a

(b)rhaid eu hanfon gan y person hwnnw ynghyd â'r gofrestr honno os anfonir hi at yr Asiantaeth.

Hawl deiliad blaenorol i gael gwybodaeth

52.—(1Mae dyletswydd gan sefydliad neu ymgymeriad y traddodir gwastraff peryglus iddo ar gyfer gwaredu neu adfer, yn ôl y digwydd, i unrhyw ddeiliad blaenorol y gwastraff, i roi i'r deiliad blaenorol hwnnw dystiolaeth ddogfennol pan ofynnir amdani bod y gweithrediad gwaredu neu adfer o dan sylw wedi'i gyflawni, sy'n dangos, pan fo'n gymwys, yr eitem berthnasol a restrir yn Atodiad IIA neu Atodiad IIB, yn ôl y digwydd, i'r Gyfarwyddeb Wastraff.

(2Rhaid i unrhyw gais am wybodaeth o dan y rheoliad hwn fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo bennu o fewn pa gyfnod (na chaniateir iddo fod yn llai na saith niwrnod) y mae'r wybodaeth i'w darparu.

Atebion chwarterol traddodai ac atebion hunanwaredu chwarterol

53.—(1Rhaid i bob traddodai roi ateb, y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel ateb chwarterol y traddodai, i'r Asiantaeth o wybodaeth sy'n ymwneud â holl lwythi gwastraff peryglus a dderbyniwyd ganddo yn unrhyw chwarter yn unol â pharagraff (4).

(2Rhaid i'r ateb gynnwys—

(a)llwythi a wrthodwyd;

(b)gwastraff peryglus a draddodwyd drwy biblinell os yw rheoliad 41 yn gymwys; ac

(c)yn achos amlgasgliadau, pob llwyth unigol a gasglwyd.

(3Mewn unrhyw chwarter os gwaredir gwastraff peryglus drwy ei ddodi yng nghwrtil y fangre lle'i cynhyrchir, rhaid i'r cynhyrchydd roi ateb mewn perthynas â'r chwarter hwnnw o wybodaeth sy'n ymwneud â'r dyddodi i'r Asiantaeth, yn unol â pharagraff (4).

(4Rhaid i ateb a roddir yn unol â'r rheoliad hwn mewn perthynas â chwarter gael ei dychwelyd dim hwyrach na'r amser a bennir yn y golofn ar y llaw dde yn y tabl isod mewn perthynas â'r chwarter a bennir yn y golofn ar y llaw chwith:

Y chwarter pan dderbyniwyd, neu pan ddyddodwyd y gwastraff peryglus, yn ôl y digwyddYr ateb i ddod i law'r Asiantaeth ddim hwyrach na
Diweddu ar 31 Mawrth30 Ebrill yn yr un flwyddyn pan fo'r chwarter yn digwydd
Diweddu ar 30 Mehefin31 Gorffennaf yn yr un flwyddyn pan fo'r chwarter yn digwydd
Diweddu ar 30 Medi31 Hydref yn yr un flwyddyn pan fo'r chwarter yn digwydd
Diweddu ar 31 Rhagfyr31 Ionawr yn y flwyddyn nesaf ar ôl i'r chwarter ddigwydd

(5Caiff yr Asiantaeth ragnodi fformat ar gyfer rhoi atebion o dan y rheoliad hwn ac, os rhagnodir fformat am y tro yn unol â'r paragraff hwn—

(a)rhaid i'r Asiantaeth gyhoeddi'r fformat ar ei gwefan ac mewn unrhyw fodd arall yr ystyria'n briodol i hysbysu personau y mae'n ofynnol iddynt gyflwyno atebion o'r fath iddynt o'i chynnwys; a

(b)nid yw'r Asiantaeth yn gorfod barnu bod ateb wedi'i roi yn briodol at ddibenion y Rheoliadau hyn oni chafodd ei roi yn y fformat hwnnw, neu mewn fformat sylweddol o ran effaith.

(6Os bydd yr Asiantaeth yn rhagnodi ffi sy'n daladwy gan draddodai drwy gynllun codi tâl a wnaed o dan adran 41 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 fel dull o adennill ei chostau a dynnwyd wrth iddi gyflawni swyddogaethau o ran y llwythi sydd wedi'u cynnwys mewn atebion chwarterol y traddodai, caiff traddodai adennill o draddodwr unrhyw ffioedd a dalwyd o dan y Rheoliadau hyn o ran llwythi a anfonwyd gan y traddodwr hwnnw.

Atebion y traddodai i'r cynhyrchydd, y deiliad neu'r traddodwr

54.  Heb leihau effaith unrhyw ddyletswydd o dan y Rheoliadau hyn ar ran y traddodai i anfon unrhyw ddogfen neu gopi ohoni at y cynhyrchydd, y deiliad neu'r traddodwr, rhaid i draddodai anfon at gynhyrchydd neu ddeiliad a enwir yn y rhan berthnasol o nodyn traddodi—

(a)ateb ar ffurf sy'n cyfateb i'r ffurf a welir yn Atodlen 8 neu mewn ffurf sylweddol debyg ei heffaith o fewn un mis o ddiwedd y chwarter y derbyniwyd y gwastraff o dan sylw; neu

(b)copi o'r nodyn traddodi ynghyd â disgrifiad o'r dull gwaredu neu adfer a ddefnyddiwyd mewn perthynas â'r gwastraff o fewn un mis i ddiwedd y chwarter y cafodd y gwastraff o dan sylw ei dderbyn.

(2Os traddodwyd gwastraff peryglus drwy biblinell mewn achos y mae rheoliad 41 yn gymwys iddo, mae paragraff (1) yn gymwys fel bod yr ateb sy'n ofynnol o dan is-baragraff (a) neu'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan is-baragraff (b) i'w ddarparu o fewn un mis i ddiwedd y chwarter y rhoddwyd y gwastraff o dan sylw mewn piblinell.

(3Os yw rheoliad 42 yn gymwys, nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i'r llwyth neu'r rhanlwyth o dan sylw.

Dyletswyddau i roi gwybodaeth

55.—(1Rhaid i berson y mae'n ofynnol iddo gadw unrhyw gofnod yn unol ag unrhyw rai o'r darpariaethau blaenorol yn y Rhan hon, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod y mae'n ofynnol cadw'r cofnod, ddangos y cofnod hwnnw i'r Asiantaeth neu'r gwasanaethau brys pan ofynnir amdano.

(2Rhaid i gynhyrchydd, deiliad, deiliad blaenorol, traddodwr, cludwr neu draddodai gwastraff peryglus roi i'r Asiantaeth pan ofynnir amdani yr wybodaeth honno y gall yr Asiantaeth fod ei hangen yn rhesymol at ddibenion cyflawni ei swyddogaethau mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn ac at ddibenion monitro cynhyrchiant, symud, storio, trin, adfer a gwaredu gwastraff peryglus.

(3Mae gan sefydliad neu ymgymeriad y traddodir gwastraff peryglus iddo i'w adfer neu i'w waredu, yn ôl y digwydd, y ddyletswydd i roi i'r Asiantaeth pan ofynnir amdani dystiolaeth ddogfennol bod y gweithrediad gwaredu neu adfer o dan sylw wedi'i gyflawni, sy'n dangos, pan fo'n gymwys, yr eitem berthnasol a restrir yn Atodiad IIA neu Atodiad IIB, yn ôl y digwydd o'r Gyfarwyddeb Wastraff.

(4Rhaid i berson y mae'n ofynnol iddo roi gwybodaeth i'r Asiantaeth yn unol â'r rheoliad hwn roi'r wybodaeth honno yn y ffurf y gall yr Asiantaeth yn rhesymol ofyn amdani.

(5Mae'r pŵer a roddir gan baragraff (4) yn cynnwys pŵeri'w gwneud yn ofynnol i ddangos ar ffurf weladwy a darllenadwy unrhyw wybodaeth a ddelir ar ffurf electronig.

(6Mae unrhyw gais am wybodaeth o dan y rheoliad hwn i fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo bennu o fewn pa gyfnod y mae'r wybodaeth i'w darparu.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources