xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
56. Dyletswydd yr Asiantaeth yw cyflawni arolygiadau o dro i dro priodol ar gynhyrchwyr gwastraff peryglus.
57.—(1) Mewn perthynas ag arolygiadau priodol o dro i dro ar weithrediadau casglu a chludo y mae angen eu cynnal yn unol ag Erthygl 13 o'r Gyfarwyddeb Wastraff gan yr Asiantaeth(1), heb leihau yn gyffredinol effaith y gofyniad i gynnal arolygiadau o'r fath, dyletswydd yr Asiantaeth i'r graddau y mae'r arolygiadau'n ymwneud â gwastraff peryglus yw cynnal yr arolygiadau fel eu bod yn ymwneud yn benodol â tharddiad a chyrchfan y gwastraff peryglus.
(2) Ym mharagraff (1), mae “gweithrediadau casglu a chludo” yn cynnwys gweithrediadau lle cludir y gwastraff peryglus ar ôl ei drosglwyddo rhwng gwahanol gludwyr.
58. Rhaid i'r Asiantaeth gadw cofrestrau a anfonwyd ati ac unrhyw gofnodion sy'n dod gyda'r cofrestrau hynny yn unol â rheoliad 51(3), am gyfnod nad yw'n llai na thair blynedd ac sy'n dechrau pan dderbynnir hwy gan yr Asiantaeth.
59.—(1) Diwygir adran 41 o Ddeddf 1995 (pŵer i wneud cynlluniau sy'n gosod taliadau) fel a ganlyn.
(2) Yn lle is-adran (1)(c) rhodder—
“(c)as a means of recovering costs incurred by it in performing functions conferred by regulations made for the purpose of implementing Council Directive 91/689/EEC the Agency may require the payment to it of such charges as may from time to time be prescribed;”.
(3) Mae Atodlen 9 yn effeithiol i wneud darpariaeth mewn perthynas â ffioedd sydd i'w codi gan yr Asiantaeth mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn nes y daw cynllun codi tâl o dan adran 41 o Ddeddf 1995 i adennill y costau a dynnir gan yr Asianaeth wrth iddi gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn yn effeithiol.
60.—(1) Rhaid i'r Asiantaeth hysbysu'r Cynulliad bob blwyddyn o unrhyw newidiadau yn yr wybodaeth ganlynol ar gyfer pob sefydliad neu ymgymeriad sy'n gwaredu neu adfer gwastraff peryglus yn bennaf ar ran trydydd partïon ac sydd yn debygol o ffurfio rhan o'r rhwydwaith integredig y cyfeirir ati yn Erthygl 5 o'r Gyfarwyddeb Wastraff—
(a)enw a chyfeiriad;
(b)y dull a ddefnyddir i drin gwastraff; ac
(c)y mathau a'r meintiau o wastraff y gellir eu trin.
(2) Rhaid i'r Asiantaeth ddarparu'r wybodaeth sy'n ofynnol gan baragraff (1) yn y fformat a ddarperir yn unol â phedwerydd paragraff Erthygl 8(3) o'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus.
Gweler paragraff 13 o Atodlen 4 i'r Rheoliadau.