RHAN 5HYSBYSU'R FANGRE
Gwasanaethau symudol29
1
Os yw cynhyrchydd gwastraff peryglus yn gweithredu gwasanaeth symudol, y fangre berthnasol mewn perthynas ag unrhyw fangre gysylltiedig yw mangre y mae paragraff (2) yn gymwys iddi (“mangre'r gwasanaeth”) tra gweithredir y gwasanaeth symudol hwnnw o fewn y terfynau cymwys ac yr ufuddheir i'r cyfyngiad deiliadaeth o ran pob mangre gysylltiedig.
2
Dyma'r mangreoedd y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddynt—
a
y fangre lle gweithredir y gwasanaeth symudol; neu
b
os gweithredir y gwasanaeth symudol o fwy nag un set o fangreoedd, prif le busnes y cynhyrchydd.
3
Os yw unrhyw fangre—
a
yn fangre safle ar wahân i'r gwasanaeth symudol; a hefyd
b
yn fangre mewn perthynas â'r gwasanaeth symudol,
caniateir gwneud un hysbysiad unigol.