xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
30.—(1) Y terfynau cymwys ar gyfer—
(a)gwasanaeth symudol yw bod cyfanswm maint y gwastraff peryglus a gynhyrchir wrth gynnal y gwasanaeth hwnnw mewn unrhyw set unigol o fangreoedd cysylltiedig yn llai na 200kg mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis; a
(b)unrhyw fangre esempt yw bod cyfanswm y gwastraff peryglus a gynhyrchwyd yn y fangre yn llai na 200kg mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis.
(2) Mae gwastraff peryglus a gynhyrchir ar fangre siop gan gwsmeriaid y meddiannydd i'w drin fel pes cynhyrchwyd gan y meddiannydd at ddibenion y Rheoliad hwn.