(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â'r darpariaethau hynny yn Neddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (“y Ddeddf”) nad ydynt eisoes mewn grym i rym ar 20 Gorffennaf 2005 yng Nghymru a Lloegr.
Y darpariaethau yw is-adrannau (1) i (5) o adran 54, ac adran 54A o'r Ddeddf. Mae adrannau 54 a 54A ill dwy yn rheoleiddio datgelu gwybodaeth.
Mae adran 54 o'r Ddeddf yn gymwys i bersonau nad ydynt yn awdurdodau cyhoeddus at ddibenion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (“Deddf 2000”), ac nad ydynt yn gweithredu ar eu rhan. Mae'n cyfyngu ar yr amgylchiadau pryd y caiff y personau hynny ddatgelu gwybodaeth benodol a geir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, neu archwilydd a benodir ganddo o dan adran 13 o'r Ddeddf (“archwilydd”).
Yr wybodaeth dan sylw yw gwybodaeth a geir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, neu archwilydd, wrth arfer ei swyddogaethau o dan:
Rhan 2 o'r Ddeddf;
Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 (swyddogaethau o ran y drefn gwerth gorau ar gyfer llywodraeth leol); neu
adran 145C o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1988 (a fewnosodwyd gan adran 5 o'r Ddeddf) sy'n ymdrin ag astudiaethau sy'n ymwneud â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru.
Mae'r cyfyngiadau yn adran 54 yn gweithredu drwy waharddiad cyffredinol ar ddatgelu, yn ddarostyngedig i eithriadau eang iawn, a roddir yn is-adran (2). Datgelu at ddibenion unrhyw swyddogaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru, neu archwilydd, o dan Ran 2 o'r Ddeddf neu Ran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 yw un o'r eithriadau.
Os datgelir gwybodaeth heblaw o dan un o'r eithriadau yn is-adran (2), mae'n bosibl y bydd y person sy'n datgelu yn agored i gael ei garcharu am ddwy flynedd ac/neu ddirwy.
Mae adran 54A yn gymwys i bersonau sy'n awdurdodau cyhoeddus at ddibenion Deddf 2000 neu'n gweithredu ar eu rhan. Caiff y personau hyn ddatgelu gwybodaeth y byddai adran 54 yn gwahardd personau eraill rhag ei datgelu. Yr unig amgylchiad pryd y mae'n anghyfreithlon i awdurdod cyhoeddus o dan Ddeddf 2000, neu berson sy'n gweithredu ar ran awdurdod cyhoeddus o'r fath, ddatgelu'r wybodaeth honno yw pryd y byddai'r datgelu yn debygol o ragfarnu perfformiad effeithiol swyddogaeth statudol gan berson o'r fath.
Os datgelir gwybodaeth gan dorri adran 54A bydd y person sy'n datgleu yn agored i ddirwy ond nid i garchar.
Diwygiwyd adran 54, a mewnosodwyd adran 54A yn y Ddeddf gan Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Llacio'r Cyfyngiad ar Ddatgelu) 2005 (O.S. 2005/1018). Daethpwyd ag is-adrannau (6) i (8) o adran 54 i rym ar 31 Ionawr 2005 i alluogi gwneud y Gorchymyn hwnnw.