Search Legislation

Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 2722 (Cy.193) (C.110)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005

Wedi'i wneud

4 Hydref 2005

Yn dod i rym

5 Hydref 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 121(5) a 122(3)(b) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (“y Ddeddf”)(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005.

Y diwrnod penodedig

2.—(1Y diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym, sef—

(a)adran 61 (arolwg);

(b)adran 64 (archwiliad annibynnol);

(c)adran 65 (ymyrraeth gan y Cynulliad);

(ch)adran 66 (tynnu cynllun datblygu lleol yn ôl);

(d)adran 67 (mabwysiadu cynllun datblygu lleol);

(dd)adran 68 (dirymu cynllun datblygu lleol);

(e)adran 69 (adolygu cynllun datblygu lleol);

(f)adran 70 (diwygio cynllun datblygu lleol);

(ff)adran 71 (pŵer diofyn y Cynulliad);

(g)adran 74 (corfforaethau datblygu trefol); ac

(ng)adran 76 (yr adroddiad monitro blynyddol), i'r graddau nad yw eisoes mewn grym,

yw, at ddiben gwneud rheoliadau, 5 Hydref 2005, ac ymmhob achos arall, 15 Hydref 2005.

(2Y diwrnod penodedig i erthyglau 3 i 7 o'r Gorchymyn hwn ddod i rym yw 15 Hydref 2005.

Diwygiadau Canlyniadol i Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990

3.—(1Diwygier Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(2) fel a ganlyn:

(2Diwygier Atodlen 13 (tir o dan falltod) fel a ganlyn.

(3Ar ôl paragraff 1A mewnosoder—

1B  Land in Wales which is identified for the purposes of relevant public functions by a local development plan for the area in which the land is situated.

Notes

(1) Relevant public functions are—

(a)the functions of the National Assembly for Wales, a government department, local authority, National Park authority or statutory undertakers;

(b)the establishment or running by a public telecommunications operator of a telecommunications system.

(2) For the purposes of this paragraph a local development plan is—

(a)a local development plan which is adopted or approved for the purposes of Part 6 of the Planning and Compulsory Act 2004 (in this paragraph, the 2004 Act);

(b)a revision of a local development plan in pursuance of section 70 of the 2004 Act which is adopted or approved for purposes of Part 6 of the 2004 Act;

(c)a local development plan which has been submitted to the National Assembly for independent examination under section 64(1) of the 2004 Act;

(d)a revision of a local development plan in pursuance of section 70 of the 2004 Act if the plan has been submitted to the National Assembly for independent examination under section 64(1) of that Act.

(3) But Note (2)(c) and (d) does not apply if the plan is withdrawn under section 66 of the 2004 Act at any time after it has been submitted for independent examination.

(4) In Note (2)(c) and (d) the submission of a local development plan to the National Assembly for independent examination is to be taken to include the holding of an independent examination by the National Assembly under section 65 or section 71 of the 2004 Act.

(5Ym mharagraff 5, yn lle “any such functions as are mentioned in paragraph 1(a)(i) or (ii)” rhodder “relevant public functions (within the meaning of paragraph 1A or 1B)”.

(6Ym mharagraff 6, yn lle “any such functions as are mentioned in paragraph 5” rhodder “relevant public functions (within the meaning of paragraph 1A or 1B)”.

(7Ym mharagraff 13, yn lle “paragraphs 1, 2, 3 and 4” rhodder “paragraph 1A or 1B”.

Diwygio Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol) (Cymru) 2005

4.  Dirymer erthygl 4 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol) (Cymru) 2005(3), ar y diwrnod penodedig, gan erthygl 2(2).

Darpariaethau Trosiannol

5.—(1Dirymer Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu) 1991(4) (“Rheoliadau 1991”) ar y diwrnod penodedig, gan erthygl 2(2).

(2Nid yw paragraff (1) yn effeithiol mewn perthynas ag ardaloedd unrhyw awdurdod cynllunio lleol a enwir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

6.  Pan fo awdurdod cynllunio lleol a grybwyllir yn yr Atodlen yn penderfynu cwblhau arfer ei bwerau o dan Reoliadau 1991, rhaid iddo, cyn pen—

(a)3 wythnos, hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig am—

(i)y penderfyniad hwnnw; a

(ii)statws cynllun datblygu cyfredol yr awdurdod ar gyfer ei ardal, a

(b)4 wythnos, gyhoeddi ar ei wefan yr wybodaeth sy'n ofynnol gan baragraff (a).

Arbedion

7.—(1Nid yw diddymiad(5) paragraffau 1 i 4 o Atodlen 13 i'r brif Ddeddf yn effeithio ar unrhyw beth y mae'n ofynnol ei wneud neu y caniateir ei wneud at ddibenion Pennod 2 o ran 6 o'r brif Ddeddf yn ystod unrhyw gyfnod pan fydd cynllun a grybwyllir yn unrhyw un neu ragor o'r paragraffau hynny yn parhau i ffurfio rhan o'r cynllun datblygu yn rhinwedd erthygl 5(2) o'r Gorchymyn hwn.

(2Mae cyfeiriadau at gynllun a grybwyllir yn unrhyw un neu ragor o baragraffau 1 i 4 yn cynnwys unrhyw gynnig i newid y cynllun neu i roi cynllun arall yn ei le.

(3Y cynllun datblygu yw'r cynllun datblygu at ddibenion adran 27A neu 54 o'r brif Ddeddf.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

4 Hydref 2005

Erthygl 5(2)

YR ATODLEN

  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

  • Cyngor Dinas a Sir Abertawe

  • Cyngor Dinas Casnewydd

  • Cyngor Sir Caerfyrddin

  • Cyngor Sir Ceredigion

  • Cyngor Sir Fynwy

  • Cyngor Sir y Fflint

  • Cyngor Sir Gwynedd

  • Cyngor Sir Penfro

  • Cyngor Sir Powys

  • Cyngor Sir Ynys Môn

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â gweddill darpariaethau Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (“y Ddeddf”) i rym ar 15 Hydref 2005, sef adrannau 61, 64 i 71, 74 a 76 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym), ac eithrio'r darpariaethau o fewn yr adrannau hynny ar gyfer gwneud rheoliadau ac sy'n dod i rym ar 5 Hydref 2005.

Mae Rhan 6 o'r Ddeddf (adrannau 60 i 78) yn gymwys o ran Cymru ac mae'n sefydlu system o gynlluniau datblygu lleol (CDLlau) yn lle'r cynlluniau datblygu unedol sy'n ofynnol o dan Bennod 1 o Ran II o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (Deddf 1990). Mae hefyd yn darparu ar gyfer Cynllun Gofodol Cymru.

Daw'r holl ddarpariaethau a gynhwysir yn erthyglau 3 i 7 o'r Gorchymyn hwn i rym ar 15 Hydref 2005.

Mae'r Gorchymyn hwn yn mewnosod paragraff 1B yn Atodlen 13 o'r Ddeddf er mwyn darparu ar gyfer CDLlau ac mae'n gwneud trefniadau trosiannol ar gyfer cynlluniau datblygu sydd eisoes yn bod.

Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn dod â'r trefniadau trosiannol i ben a wnaed o dan Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1229) (Cy.87) (C.56). O dan y trefniadau hynny daeth rhai o ddarpariaethau Rhan 6 o'r Ddeddf, sef y darpariaethau sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol i gychwyn ar baratoi'u CDLlau, yn effeithiol o ran awdurdodau penodol yn unig, sef—

  • Cyngor Dinas a Sir Caerdydd

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

  • Cyngor Sir Ddinbych

  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Felly, effaith y Gorchymyn hwn fydd gwneud y system o GDLlau yn effeithiol yng Nghymru. Ond ni fydd yr awdurdodau cynllunio lleol a grybwyllir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn o dan ddyletswydd i baratoi CDLl hyd nes y gwneir gorchymyn pellach gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Daeth darpariaethau Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 a geir yn y Tabl isod i rym ar y dyddiadau a ddangosir yn rhinwedd Gorchmynion a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Adran(nau)Dyddiad cychwynRhif O.S.
6014 Gorffennaf 20042004/1814 (Cy.199) (C.74)
62 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym)30 Ebrill 20052005/1229 (Cy.87) (C.56)
62(4) a (5)(g)1 Awst 20042004/1814 (Cy.198) C.73)
63 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym)30 Ebrill 20052005/1229 (Cy.87) (C.56)
63(3)(a) a (7)1 Awst 20042004/1814 (Cy.198) (C.73)
7230 Ebrill 20052005/1229 (Cy.87) (C.56)
7330 Ebrill 20052005 (Cy.87) (C.56)
751 Awst 20042004/1814 (Cy.198) (C.73)
76(2) (yn rhannol) a (3) (yn rhannol)1 Awst 20042004/1814 (Cy.198) (C.73)
771 Awst 20042004/1814 (Cy.198) (C.73)
781 Awst 20042004/1814 (Cy.198) (C.73)
(4)

O.S. 1991/2794 fel a ddiwygiwyd gan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu) (Diwygio) 1997 (O.S. 1997/531) a Rheoliadau Cynllunio (Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr) 1999 (O.S. 1999/981).

(5)

Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Gorchymyn Cychwyn Rhif 6, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005 O.S. 2005/2847 (C.118).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources