Darpariaethau sy'n dod i rym ar 12 Hydref 2005
4.—(1) Mae adran 35 a'r paragraffau a ganlyn o Atodlen 4 yn dod i rym yn unol â pharagraffau (2) a (3) isod—
(a)1, 2, 4,
(b)11(a) ac (c) i (e),
(c)14(a), a
(ch)23.
(2) Heblaw fel y darperir ym mharagraff (3) isod, daw'r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) uchod i rym ar 12 Hydref 2005 at ddibenion gwneud gorchmynion a rheoliadau (yn ôl y digwydd) yn ymwneud â swyddogaethau'r Ombwdsmon o dan Ran 3 o Ddeddf 2000.
(3) Hyd 1 Ebrill 2006 bydd y darpariaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) isod yn parhau i gael effaith, at y diben y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) isod, fel pe na byddai'r diwygiadau a wnaed gan y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) uchod yn cael effaith—
(a)y darpariaethau y cyfeirir atynt uchod yw'r adrannau a ganlyn o Ddeddf 2000—
(i)49,
(ii)53,
(iii)68(1), (3) a (4),
(iv)70(2)(b), a
(v)82.
(b)y diben y cyfeirir ato uchod yw'r diben o wneud gorchmynion a rheoliadau (yn ôl y digwydd) yn ymwneud â swyddogaethau'r Comisiwn neu Gomisiynydd Lleol yng Nghymru o dan Ran 3 o Ddeddf 2000.