Cwynion sy'n rhychwantu'r dyddiad cychwyn
6.—(1) Os yw'r erthygl hon yn gymwys rhaid i'r Ombwdsmon ystyried y gwyn yn unol â darpariaethau Rhan 2 o'r Ddeddf.
(2) Mae'r erthygl hon yn gymwys—
(a)os oes cwyn wedi cael ei gwneud neu wedi cael ei chyfeirio yn briodol at yr Ombwdsman ynglŷn â mater sy'n ymwneud â digwyddiadau a ddigwyddodd cyn 1 Ebrill 2006 ac â digwyddiadau ar ôl y dyddiad hwnnw, a
(b)os o ran y digwyddiadau a fu cyn 1 Ebrill 2006 gallesid (heblaw am ddarpariaethau eraill y Ddeddf) bod wedi gwneud cwyn wrth un o Ombwdsmyn presennol Cymru o dan y deddfiad presennol perthnasol ond nis gwnaed.
(3) At ddibenion yr erthygl hon nid yw'r Ombwdsmon wedi ei rwystro rhag ymchwilio i fater (neu ran o fater) yn unol â Rhan 2 o'r Ddeddf yn unig am fod y mater yn ymwneud â digwyddiadau a ddigwyddodd cyn 1 Ebrill 2006.
(4) At ddibenion paragraff (2) uchod mae gan—
(a)“Ombwdsmon presennol Cymru” a
(b)“y deddfiad presennol perthnasol”,
yr ystyron sydd i “existing Welsh Ombudsman” a “the relevant existing enactment” yn adran 38(6).