Search Legislation

Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd (Cymru) 2005

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 2912 (Cy.209)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

18 Hydref 2005

Yn dod i rym

31 Hydref 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau yn adrannau 72(1) a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) ac adrannau 34(5) a (6), 210(7) a 214 o Ddeddf Addysg 2002(2), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Hydref 2005

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

Dirymu, arbedion a darpariaethau trosiannol

2.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion Newydd wrth Drosi i Fframwaith Newydd) 1998(3) yn cael eu dirymu mewn perthynas â Chymru.

(2Mae Rhannau I i V, VII ac VIII o Reoliadau Addysg (Ysgolion Newydd) (Cymru) 1999(4) (“Rheoliadau 1999”) yn cael eu dirymu heblaw fel y darperir ym mharagraffau (3) a (4).

(3Bydd Rhan I o Reoliadau 1999 yn dal yn effeithiol i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan VI.

(4Bydd Rhannau I i IV o Reoliadau 1999 yn dal yn effeithiol mewn perthynas ag unrhyw gorff llywodraethu dros dro a sefydlir cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Dehongli

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “athro neu athrawes ysgol” yr ystyr a roddwyd i “school teacher” gan adran 122 o Ddeddf 2002;

  • ystyr “awdurdod addysg lleol” (“local education authority”) yw'r awdurdod addysg lleol y cynhelir ysgol a gynhelir ganddo neu y bwriedir i ysgol arfaethedig o'r fath gael ei chynnal ganddo;

  • ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(5);

  • ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

  • ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Dysgu a Sgiliau 2000(6);

  • ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;

  • mae i “disgybl” yr ystyr a roddwyd i “pupil” gan adran 3 o Ddeddf Addysg 1996(7);

  • mae “pennaeth” (“head teacher”) yn cynnwys person sydd wedi'i benodi'n bennaeth ysgol newydd ond sydd heb ymgymryd â'r swydd eto;

  • ystyr “y Rheoliadau Llywodraethu” (“the Government Regulations”) yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005(8); ac

  • mae i “ysgol newydd” yr ystyr a roddwyd i “new school” gan adran 72(3) o Ddeddf 1998.

(2Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at ysgol y mae ganddi gyllideb ddirprwyedig i'w dehongli yn unol ag adran 39(2) o Ddeddf 2002.

(3Yn y Rheoliadau hyn ystyr yr “addasiadau cyffredinol” yw'r addasiadau canlynol i'r Rheoliadau Llywodraethu—

(a)mae “ysgol newydd” yn disodli “ysgol” ac “ysgol a gynhelir”;

(b)mae “dros dro” yn cael ei fewnosod ar ôl y geiriau “corff llywodraethu”, “llywodraethwr” a “swydd llywodraethwr”;

(c)mae cyfeiriadau at gategori penodol o lywodraethwr i'w darllen fel cyfeiriadau at y categorïau cyfatebol o lywodraethwr dros dro sydd wedi'u nodi yn Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn; ac

(ch)mae cyfeiriadau at bennaeth i gynnwys person sydd wedi'i benodi'n bennaeth ysgol newydd ond sydd heb ymgymryd â'r swydd eto.

(4Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn—

(a)at bwyllgor yn gyfeiriad at bwyllgor sydd wedi'i sefydlu gan y corff llywodraethu dros dro ac y mae'r corff llywodraethu dros dro wedi dirprwyo unrhyw un o'i swyddogaethau statudol iddo;

(b)at gorff llywodraethu dros dro yn gyfeiriad at gorff llywodraethu dros dro unrhyw ysgol neu ysgol arfaethedig y mae'r ddarpariaeth yn gymwys mewn perthynas â hi;

(c)at lywodraethwr dros dro o gategori penodol i'w ddehongli yn unol â Rhan 3.

(5Onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn—

(a)at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;

(b)at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad y mae'r cyfeiriad yn ymddangos ynddynt;

(c)at is-baragraff â rhif yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y paragraff y mae'r cyfeiriad yn ymddangos ynddo.

Cyflwyno hysbysiadau

4.  Rhaid i unrhyw hysbysiad y mae'n ofynnol ei gyflwyno o dan y Rheoliadau hyn gael ei gyflwyno yn unol ag adran 572 o Ddeddf 1996.

RHAN 2Trefniadau ar gyfer Ymgorffori Cyrff Llywodraethu Dros Dro

Trefniadau a wneir gan rag-weld y caiff cynigion eu cymeradwyo

5.—(1Os oes unrhyw gynigion i sefydlu ysgol a gynhelir wedi'u cyhoeddi o dan unrhyw ddeddfiad(9), caiff yr awdurdod addysg lleol wneud trefniadau o dan adran 34 o Ddeddf 2002 gan rag-weld y caiff y cynigion eu cymeradwyo(10) neu gan rag-weld y bydd yr awdurdod yn penderfynu y dylai'r cynigion gael eu rhoi ar waith (11).

(2Os yw'r cynigion yn gynigion i sefydlu ysgol wirfoddol a reolir, rhaid i'r awdurdod addysg lleol ymgynghori â'r hyrwyddwyr—

(a)ynghylch a ddylai'r pŵer sydd wedi'i roi i'r awdurdod addysg lleol ym mharagraff (1) uchod gael ei arfer; a

(b)os yw'r awdurdod addysg lleol yn bwriadu arfer y pŵer, ynghylch y dyddiad y dylai'r trefniadau gael eu gwneud arno.

(3Os yw'r cynigion yn gynigion i sefydlu ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol sefydledig, rhaid i'r awdurdod addysg lleol a'r hyrwyddwyr ystyried—

(a)a ddylai'r pŵer sydd wedi'i roi i'r awdurdod addysg lleol ym mharagraff (1) uchod gael ei arfer, a

(b)os ydyn nhw'n cytuno y dylai gael ei arfer, ar ba ddyddiad y dylai'r trefniadau gael eu gwneud.

(4Mewn achos o fewn paragraff (3), os yw'r awdurdod addysg lleol a'r hyrwyddwyr yn methu â chytuno ar y cwestiwn y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) neu'r cwestiwn y cyfeirir ato yn is-baragraff (b), caiff y naill neu'r llall ohonynt gyfeirio'r mater at Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac ar gyfeiriad o dan y paragraff hwn rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru roi unrhyw gyfarwyddyd y mae'n credu ei fod yn addas.

Cytundebau sy'n angenrheidiol ar gyfer trefniadau

6.—(1Os oes cynigion i sefydlu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol wedi'u cyhoeddi gan hyrwyddwyr, rhaid i awdurdod addysg lleol beidio â gwneud trefniadau mewn perthynas â'r ysgol heb gytundeb yr hyrwyddwyr ynglŷn ag unrhyw ddarpariaeth a wneir mewn perthynas â'r llywodraethwyr sefydledig dros dro.

(2Os ceir unrhyw anghytuno rhwng yr awdurdod addysg lleol a'r hyrwyddwyr mewn perthynas â'r ddarpariaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1), caiff y naill neu'r llall ohonynt gyfeirio'r mater at Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac ar gyfeiriad o dan y paragraff hwn rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru roi unrhyw gyfarwyddyd y mae'n credu ei fod yn addas.

Terfynu trefniadau

7.  Rhaid i unrhyw drefniadau sydd wedi'u gwneud o dan reoliad 5 ddod i ben cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol—

(a)os caiff y cynigion eu tynnu'n ôl;

(b)os caiff y cynigion eu gwrthod o dan baragraff 8 o Atodlen 6 neu baragraff 14 o Atodlen 7 i Ddeddf 1998;

(c)yn achos cynigion nad oes angen eu cymeradwyo o dan baragraff 8 o Atodlen 6 i Ddeddf 1998, os yw'r corff neu'r hyrwyddwyr y cyhoeddwyd y cynigion ganddynt yn penderfynu o dan baragraff 9 o Atodlen 6 i Ddeddf 1998 na ddylid eu rhoi ar waith; neu

(ch)os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n penderfynu o dan baragraff 10(3) o Atodlen 6 i Ddeddf 1998 na ddylai paragraff 10(1) o'r Atodlen honno fod yn gymwys i'r cynigion mwyach.

RHAN 3Categorïau o Lywodraethwr Dros Dro

Dehongli'r Rhan hon

8.  Yn y Rhan hon—

(a)ystyr “yr achos cyntaf” yw achos ysgol newydd sydd neu a fydd yn ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir, ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig, ysgol feithrin a gynhelir neu ysgol sefydledig y cafodd y cynigion ar gyfer ei sefydlu eu cyhoeddi gan awdurdod addysg lleol, a

(b)ystyr “yr ail achos” yw achos ysgol newydd sydd neu a fydd yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol sefydledig y cafodd y cynigion ar gyfer ei sefydlu eu cyhoeddi gan hyrwyddwyr.

Rhiant-lywodraethwyr dros dro

9.—(1“Rhiant-lywodraethwr dros dro” yw person sydd wedi'i benodi'n aelod o gorff llywodraethu dros dro ysgol newydd—

(a)gan yr awdurdod addysg lleol, yn yr achos cyntaf; neu

(b)gan yr hyrwyddwyr, yn yr ail achos.

(2Os oes un neu fwy o ysgolion a gynhelir wedi'u cau, neu i'w cau (“yr ysgolion a gaewyd”), ac y disgwylir i ddisgyblion cofrestredig yr ysgol honno neu'r ysgolion hynny, neu nifer sylweddol o'r disgyblion hynny, drosglwyddo i ysgol newydd, fe gaiff

(a)yr awdurdod addysg lleol, yn yr achos cyntaf, neu

(b)yr hyrwyddwyr, yn yr ail achos,

ddarparu i gorff llywodraethu yr ysgol neu'r ysgolion a gaewyd benodi rhai neu'r cyfan o riant-lywodraethwyr dros dro yr ysgol newydd.

(3Ni chaniateir i neb gael ei benodi'n rhiant-lywodraethwr dros dro ysgol wirfoddol a reolir gan awdurdod addysg lleol, ac ni chaniateir gwneud unrhyw ddarpariaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2) uchod mewn perthynas ag ysgol wirfoddol a reolir, oni bai bod yr awdurdod addysg lleol wedi ymgynghori â'r hyrwyddwyr yn gyntaf.

(4Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), ni chaniateir i neb gael ei benodi'n rhiant-lywodraethwr dros dro ysgol newydd oni bai—

(a)ei fod yn rhiant i blentyn sy'n ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol neu sy'n debyg o ddod yn ddisgybl cofrestredig ynddi; neu

(b)os nad yw'n rhesymol ymarferol penodi person o'r fath, ei fod yn rhiant i blentyn o oedran ysgol gorfodol, neu yn achos ysgol feithrin a gynhelir newydd rhiant i blentyn o oedran neu o dan ysgol gorfodol.

(5Ni chaniateir i neb gael ei benodi'n rhiant-lywodraethwr dros dro ysgol sydd neu a fydd yn ysgol gymunedol arbennig neu'n ysgol sefydledig arbennig sydd heb gael ei sefydlu mewn ysbyty oni bai ei fod—

(a)yn rhiant i blentyn sy'n ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol neu sy'n debyg o ddod yn ddisgybl cofrestredig ynddi;

(b)yn rhiant i blentyn o oedran ysgol gorfodol sydd ag anghenion addysgol arbennig;

(c)yn rhiant i berson o unrhyw oedran sydd ag anghenion addysgol arbennig; neu

(ch)yn rhiant i blentyn o ysgol oedran gorfodol.

(6Dim ond os nad yw'n rhesymol ymarferol penodi person y cyfeirir ato yn y ddarpariaeth yn yr is-baragraff yn union o'i flaen y ceir penodi person y cyfeirir ato yn is-baragraffau (b), (c) neu (ch) o baragraff (5).

(7Anghymhwysir person rhag cael ei benodi'n rhiant-lywodraethwr dros dro os yw—

(a)yn aelod etholedig o'r awdurdod addysg lleol;

(b)yn cael ei gyflogi gan yr awdurdod addysg lleol mewn cysylltiad â'i swyddogaethau fel awdurdod addysg lleol; neu

(c)yn cael ei dalu, neu'n debyg o gael ei dalu, i weithio yn yr ysgol am fwy na 500 o oriau mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeng mis sy'n dechrau ar 1 Awst ac yn dod i ben ar 31 Gorffennaf.

(8Nid anghymhwysir person rhag parhau i ddal swydd rhiant-lywodraethwr dros dro pan yw'n peidio â bodloni unrhyw un o'r gofynion a nodwyd ym mharagraffau (5) a (6), oni bai ei fod wedi'i anghymhwyso o dan y Rheoliadau hyn mewn ffordd arall.

Staff-lywodraethwyr dros dro

10.—(1“Staff-lywodraethwr dros dro” yw person sydd wedi'i benodi'n aelod o gorff llywodraethu dros dro ysgol newydd yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Rhaid i'r awdurdod addysg lleol yn yr achos cyntaf a'r hyrwyddwyr yn yr ail achos—

(a)penderfynu a ddylai staff-lywodraethwr dros dro gael ei gynnwys ar gorff llywodraethu dros dro yr ysgol newydd yn unol â'r Rheoliadau Llywodraethu (fel y maent wedi'u haddasu gan y Rheoliadau hyn) ac, os penderfynant felly,

(b)penodi staff-lywodraethwr dros dro.

(3Ni chaniateir i neb gael ei benodi o dan baragraff (2) oni bai ei fod wedi'i gyflogi i weithio mewn ysgol a gynhelir, heblaw fel athro neu athrawes ysgol, ar yr adeg y caiff ei benodi.

(4Pan ddaw ei gyflogaeth mewn ysgol a gynhelir i ben, anghymhwysir staff-lywodraethwr dros dro mewn ysgol newydd rhag parhau i ddal swydd fel llywodraethwr o'r fath

Athro-lywodraethwyr dros dro

11.—(1“Athro-lywodraethwr dros dro” yw person sydd wedi'i benodi'n aelod o gorff llywodraethu dros dro ysgol newydd yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Yn yr achos cyntaf, rhaid i athro-lywodraethwr dros dro gael ei benodi gan y corff llywodraethu dros dro.

(3Yn yr ail achos, rhaid i athro-lywodraethwr dros dro fod yn berson sydd wedi'i enwebu gan yr hyrwyddwyr ac wedi'i benodi gan yr awdurdod addysg lleol.

(4Os oes un neu fwy o ysgolion a gynhelir wedi'u cau, neu i'w cau, ac y disgwylir i ddisgyblion cofrestredig yr ysgol neu'r ysgolion, neu nifer sylweddol ohonynt, drosglwyddo i ysgol newydd, fe gaiff

(a)yr awdurdod addysg lleol, yn yr achos cyntaf, neu

(b)yr hyrwyddwyr, yn yr ail achos,

ddarparu i gorff llywodraethu yr ysgol neu'r ysgolion a gaewyd benodi rhai neu'r cyfan o athro-lywodraethwyr dros dro yr ysgol newydd.

(5Ni chaniateir gwneud unrhyw ddarpariaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (4) uchod mewn perthynas ag ysgol wirfoddol a reolir oni bai bod yr awdurdod addysg lleol wedi ymgynghori â'r hyrwyddwyr yn gyntaf.

(6Ni chaniateir i neb gael ei enwebu na'i benodi yn athro-lywodraethwr dros dro oni bai ei fod yn athro neu athrawes ysgol a gyflogir mewn ysgol a gynhelir.

(7Pan fydd yn peidio â gweithio mewn ysgol a gynhelir, anghymhwysir athro-lywodraethwr dros dro rhag parhau i ddal swydd llywodraethwr dros dro o'r fath.

Llywodraethwyr AALl dros dro

12.—(1“Llywodraethwr AALl dros dro” yw person sydd wedi'i benodi'n aelod o gorff llywodraethu dros dro ysgol newydd gan yr awdurdod addysg lleol.

(2Anghymhwysir person rhag cael ei benodi'n llywodraethwr AALl dros dro ysgol os yw'n gymwys i fod yn staff-lywodraethwr dros dro neu'n athro-lywodraethwr dros dro ysgol.

Llywodraethwyr cymunedol dros dro

13.—(1“Llywodraethwr cymunedol dros dro” yw person sydd wedi'i benodi'n aelod o gorff llywodraethu dros dro ysgol newydd gan y corff llywodraethu dros dro ac sydd:

(a)yn berson sy'n byw neu'n gweithio yn y gymuned sy'n cael ei gwasanaethu gan yr ysgol newydd neu sydd i gael ei gwasanaethu ganddi; neu

(b)yn berson sydd, ym marn y corff llywodraethu dros dro, wedi ymroi i lywodraeth dda a llwyddiant yr ysgol newydd.

(2Anghymhwysir person rhag cael ei benodi'n llywodraethwr cymunedol dros dro os yw:

(a)yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol newydd neu'n debyg o ddod yn ddisgybl cofrestredig ynddi;

(b)yn gymwys i fod yn staff-lywodraethwr dros dro neu'n athro-lywodraethwr dros dro yn yr ysgol newydd; neu

(c)yn aelod etholedig o'r awdurdod addysg lleol.

Llywodraethwyr cymunedol ychwanegol dros dro

14.—(1“Llywodraethwr cymunedol ychwanegol dros dro” yw person sydd wedi'i benodi'n aelod o gorff llywodraethu dros dro ysgol newydd gan y corff llywodraethu dros dro ar ôl cael ei enwebu yn unol â rheoliad 20 o'r Rheoliadau Llywodraethu fel y maent wedi'u haddasu gan y Rheoliadau hyn.

(2Nid yw rheoliad 13(2) yn gymwys i lywodraethwyr cymunedol ychwanegol dros dro.

Llywodraethwyr sefydledig dros dro

15.—(1“Llywodraethwr sefydledig dros dro” yw person sydd wedi'i benodi'n aelod o gorff llywodraethu dros dro ysgol newydd, heblaw gan yr awdurdod addysg lleol, ac sydd:

(a)os oes gan yr ysgol newydd gymeriad crefyddol penodol a ddynodwyd neu y bwriedir ei ddynodi drwy orchymyn o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998, neu os yw'r cynigion i'w sefydlu'n dangos y bydd ganddi gymeriad crefyddol penodol o'r fath, wedi'i benodi er mwyn sicrhau bod y cymeriad hwnnw'n cael ei sefydlu a'i ddatblygu;

(b)os oes neu os bydd gan yr ysgol newydd weithred ymddiriedolaeth, wedi'i benodi er mwyn sicrhau bod yr ysgol newydd yn cael ei sefydlu a'i rhedeg yn unol â'r weithred honno; neu

(c)os nad oes neu os na fydd gan yr ysgol newydd na chymeriad crefyddol penodol na gweithred ymddiriedolaeth, wedi'i benodi yn llywodraethwr sefydledig dros dro i'r ysgol newydd.

(2“Llywodraethwr sefydledig dros dro ex officio” yw llywodraethwr sefydledig dros dro sy'n ddeiliaid swydd y mae ganddo hawl i fod yn llywodraethwr sefydledig dros dro yn rhinwedd y swydd honno.

(3Pan fydd yn peidio â dal y swydd y mae ei swydd llywodraethwr dros dro yn deillio ohoni, anghymhwysir llywodraethwr sefydledig dros dro ex officio rhag parhau i ddal swydd llywodraethwr dros dro o'r fath.

Llywodraethwyr partneriaeth dros dro

16.—(1“Llywodraethwr partneriaeth dros dro” yw—

(a)yn achos ysgol sefydledig newydd neu ysgol arbennig sefydledig newydd y cafodd y cynigion i'w sefydlu eu cyhoeddi gan awdurdod addysg lleol, person sydd wedi'i benodi'n llywodraethwr o'r fath gan yr awdurdod addysg lleol;

(b)mewn unrhyw achos arall, person sydd wedi'i enwebu yn llywodraethwr o'r fath gan yr hyrwyddwyr ac wedi'i benodi'n llywodraethwr o'r fath gan yr awdurdod addysg lleol.

(2Rhaid i berson sy'n enwebu person i'w benodi'n llywodraethwr partneriaeth dros dro, neu sy'n penodi person yn llywodraethwr partneriaeth dros dro fod wedi'i fodloni ei bod yn ymddangos bod y sawl sydd wedi'i enwebu neu wedi'i benodi—

(a)yn dod o'r gymuned y mae neu y bydd yr ysgol newydd yn ei gwasanaethu; neu

(b)wedi ymroi i lywodraeth dda a llwyddiant yr ysgol.

(3Anghymhwysir person rhag cael ei enwebu neu ei benodi'n llywodraethwr partneriaeth dros dro ysgol newydd os yw:

(a)yn rhiant i blentyn sy'n ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol newydd neu'n debyg o ddod yn ddisgybl cofrestredig ynddi;

(b)yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol newydd neu'n debyg o ddod yn ddisgybl cofrestredig ynddi;

(c)yn gymwys i fod yn staff-lywodraethwr dros dro neu'n athro-lywodraethwr dros dro yn yr ysgol newydd;

(ch)yn aelod etholedig o'r awdurdod addysg lleol; neu

(d)wedi'i gyflogi gan yr awdurdod addysg lleol mewn cysylltiad â'i swyddogaethau fel awdurdod addysg lleol.

Llywodraethwyr cynrychioliadol dros dro

17.  “Llywodraethwr cynrychioliadol dros dro” yw person sydd wedi'i benodi yn unol â pharagraffau (4) neu (5) o reoliad 15 o'r Rheoliadau Llywodraethu fel y maent wedi'u haddasu gan y Rheoliadau hyn.

Noddwr-lywodraethwyr dros dro

18.—(1“Noddwr-lywodraethwr dros dro” yw person sydd wedi'i benodi'n aelod o gorff llywodraethu dros dro ysgol newydd yn unol â pharagraff (3).

(2Ystyr “noddwr” mewn perthynas ag ysgol yw:

(a)person sy'n rhoi neu sydd wedi rhoi cymorth ariannol sylweddol (sydd at y dibenion hyn yn cynnwys buddion mewn da) i'r ysgol heblaw yn unol â rhwymedigaeth statudol; neu

(b)unrhyw berson arall (nad yw fel arall wedi'i gynrychioli ar y corff llywodraethu) sy'n rhoi neu sydd wedi rhoi gwasanaethau sylweddol i'r ysgol.

(3Os oes gan ysgol newydd un neu fwy o noddwyr, caiff y corff llywodraethu dros dro benodi un neu ddau o noddwr-lywodraethwyr dros dro, wedi'u henwebu yn unol â pharagraff (4).

(4Os yw'r corff llywodraethu dros dro yn bwriadu penodi noddwr-lywodraethwyr dros dro, rhaid iddo ofyn am enwebiadau ar gyfer y penodiadau hynny gan noddwr yr ysgol neu, yn ôl fel y digwydd, gan un neu fwy o noddwyr yr ysgol.

Profiad angenrheidiol llywodraethwyr dros dro

19.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n gyfrifol am benodi person yn llywodraethwr dros dro roi sylw i'r ffaith ei bod yn ddymunol bod gan y person hwnnw brofiad addas.

(2Mae gan berson brofiad addas at ddibenion paragraff (1)—

(a)os yw wedi gwasanaethu fel llywodraethwr neu lywodraethwr dros dro ysgol a gynhelir; a

(b)mewn achos lle disgwylir i ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol sydd wedi'i chau neu sydd i'w chau drosglwyddo i ysgol newydd y mae'r penodiad yn ymwneud â hi, os yw wedi gwasanaethu fel llywodraethwr neu lywodraethwr dros dro yn yr ysgol sydd wedi'i chau neu sydd i'w chau.

Cyd-benodi

20.  Os oes llywodraethwr dros dro i gael ei benodi gan bersonau sy'n gweithredu ar y cyd, a bod y personau hynny'n methu â chytuno ar benodiad, rhaid i'r penodiad gael ei wneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, neu yn unol â chyfarwyddyd a roddir ganddo.

RHAN 4Cyfansoddiad Cyrff Llywodraethu Dros Dro

Cymhwyso'r Rheoliadau Llywodraethu

21.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i gorff llywodraethu dros dro ysgol newydd gael ei gyfansoddi yn unol â'r rhai hynny o reoliadau 13 i 20 o'r Rheoliadau Llywodraethu sy'n gymwys, o roi sylw i gategori'r ysgol neu'r ysgol arfaethedig, ac eithrio bod dim ond angen cynnwys staff-lywodraethwyr ar gorff llywodraethu dros dro ysgol newydd os yw'r awdurdod addysg lleol neu'r hyrwyddwyr, yn ôl fel y digwydd, wedi penderfynu felly yn unol â rheoliad 10(2)(a).

(2Os yw'r rhai hynny o reoliadau 13 i 20 o'r Rheoliadau Llywodraethu, fel sy'n gymwys, yn darparu ar gyfer disgresiwn ynghylch nifer y llywodraethwyr o gategori penodol sydd i'w cynnwys ar gorff llywodraethu, rhaid i nifer y llywodraethwyr dros dro o'r categori cyfatebol sydd i'w cynnwys ar y corff llywodraethu dros dro fod y nifer isaf a ganiateir o dan y darpariaethau hynny.

(3At ddibenion cyfrifo nifer y llywodraethwyr sefydledig dros dro y mae eu hangen mewn ysgol wirfoddol a gynorthwyir rhaid cymryd bod pennaeth wedi'i benodi ac yn aelod o'r corff llywodraethu dros dro.

(4Er mwyn cyfansoddi corff llywodraethu dros dro, mae'r Rheoliadau Llywodraethu yn gymwys yn ddarostyngedig i'r addasiadau cyffredinol a'r addasiadau canlynol—

(a)mae cyfeiriadau at ysgol sydd wedi'i sefydlu mewn ysbyty (neu sydd heb ei sefydlu mewn ysbyty) yn cynnwys cyfeiriadau at ysgol y bwriedir ei sefydlu mewn ysbyty (neu heblaw mewn ysbyty);

(b)mae'r cyfeiriad yn rheoliad 15(5) o'r Rheoliadau Llywodraethu at “materion y trefnir yr ysgol yn arbennig ar eu cyfer” i'w drin fel cyfeiriad at y materion y bwriedir i'r ysgol gael ei threfnu'n arbennig ar eu cyfer;

(c)nid yw rheoliad 19(4) o'r Rheoliadau Llywodraethu yn gymwys; ac

(ch)mewn perthynas â chyfansoddiad corff llywodraethu dros dro ysgol newydd, caiff yr ysgol newydd ei thrin fel pe bai ganddi fel disgyblion cofrestredig y nifer hwnnw o ddisgyblion sydd wedi'i bennu ar sail y cynigion ar gyfer sefydlu'r ysgol.

RHAN 5Deiliadaeth Swyddi a Chymwysterau

Ymddiswyddo

22.—(1Caiff unrhyw aelod o gorff llywodraethu dros dro ymddiswyddo o'i swydd llywodraethwr drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc corff llywodraethu dros dro yr ysgol.

(2Caiff llywodraethwr sefydledig dros dro ex officio ymddiswyddo fel llywodraethwr dros dro naill ai'n barhaol neu dros dro ond ni fydd ei ymddiswyddiad yn rhagfarnu swydd llywodraethwr dros dro ei olynydd yn y swydd y mae'r swydd llywodraethwr dros dro ex officio yn deillio ohoni.

(3Caiff y pennaeth dynnu ei ymddiswyddiad yn ôl unrhyw bryd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu dros dro.

Diswyddo

23.—(1Caniateir i unrhyw lywodraethwr dros dro ysgol newydd gael ei ddiswyddo gan y person neu'r personau a'i penododd

(2Yn achos diswyddo llywodraethwr dros dro a grybwyllir yn rheoliad 24(1), rhaid i'r corff llywodraethu ddilyn y weithdrefn a nodir yn y rheoliad hwnnw, ac ym mhob achos arall rhaid i'r person sy'n diswyddo'r llywodraethwr dros dro roi hysbysiad ysgrifenedig ynglŷn â hynny i glerc y corff llywodraethu dros dro ac i'r llywodraethwr sy'n cael ei ddiswyddo fel hyn.

Y weithdrefn ar gyfer diswyddo llywodraethwyr dros dro gan y corff llywodraethu dros dro

24.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â diswyddo:

(a)rhiant-lywodraethwr dros dro sydd wedi'i benodi gan y corff llywodraethu dros dro,

(b)athro-lywodraethwr dros dro sydd wedi'i benodi gan y corff llywodraethu dros dro, neu

(c)noddwr-lywodraethwr dros dro.

(2Ni fydd penderfyniad i ddiswyddo llywodraethwr dros dro sy'n cael ei basio yn un o gyfarfodydd y corff llywodraethu dros dro yn effeithiol oni bai—

(a)bod y llywodraethwr neu'r llywodraethwyr dros dro sy'n cynnig y dylid ei ddiswyddo yn datgan yn y cyfarfod hwnnw eu rhesymau dros wneud hynny a bod y llywodraethwr y bwriedir ei ddiswyddo'n cael cyfle i wneud datganiad mewn ymateb, a hynny cyn i'r corff llywodraethu dros dro benderfynu diswyddo'r llywodraethwr dros dro;

(b)bod mater diswyddo'r llywodraethwr dros dro wedi'i bennu fel eitem o fusnes ar agenda'r cyfarfod.

(3Ar ôl i benderfyniad i ddiswyddo llywodraethwr gael ei basio, rhaid i'r corff llywodraethu dros dro roi gwybod mewn ysgrifen i'r person sydd wedi'i ddiswyddo am y rhesymau dros y diswyddo.

Cymwysterau ac anghymhwyso

25.  Mae Atodlen 5 i'r Rheoliadau Llywodraethu yn gymwys, yn ddarostyngedig i'r addasiadau cyffredinol er mwyn nodi o dan ba amgylchiadau y mae person yn gymwys neu'n anghymwys i ddal swydd neu i barhau i'w dal, neu i gael ei benodi neu ei enwebu fel llywodraethwr dros dro ysgol newydd.

Treuliau

26.  Os oes corff llywodraethu dros dro wedi'i gyfansoddi ar gyfer ysgol newydd mae'r awdurdod addysg lleol o dan yr un ddyletswydd i dalu'r treuliau sy'n codi mewn perthynas â'r corff llywodraethu dros dro â phe bai'r cynigion perthnasol wedi'u rhoi ar waith a phe bai'r corff llywodraethu dros dro yn gorff llywodraethu yr ysgol(12).

Gwybodaeth esboniadol

27.  Rhaid i'r awdurdod addysg lleol sicrhau bod aelodau corff llywodraethu dros dro ysgol newydd, wrth eu penodi, yn cael (yn ddi-dâl) unrhyw wybodaeth y mae'r awdurdod yn credu bod arnynt ei hangen er mwyn galluogi'r corff llywodraethu dros dro i gyflawni ei swyddogaethau'n effeithiol.

RHAN 6Rhedeg Ysgolion Newydd yn Gyffredinol

Dehongli Rhan 6 a'i chymhwyso

28.  Yn y Rhan hon, ystyr “ysgol arfaethedig” yw ysgol nad yw wedi agor eto ac y mae corff llywodraethu dros dro ar ei chyfer wedi'i gyfansoddi yn unol â threfniadau o dan adran 34 o Ddeddf 2002.

29.  Nid yw'r Rhan hon yn gymwys i unrhyw bwyllgor sydd wedi'i sefydlu gan y corff llywodraethu dros dro i arfer swyddogaethau sy'n ymwneud â phenodi, cwynion, ymddygiad a disgyblaeth, gallu, atal neu ddiswyddo aelodau unigol o staff yr ysgol.

Rhedeg yr ysgol cyn dyddiad agor yr ysgol

30.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae adran 61 o Ddeddf 1998 ac adrannau 27 a 28 o Ddeddf 2002, ac Atodlen 1 iddi yn gymwys mewn perthynas ag ysgol arfaethedig(13) gyda'r addasiadau canlynol—

(a)mae cyfeiriadau at gorff llywodraethu i'w trin fel cyfeiriadau at gorff llywodraethu dros dro;

(b)mae cyfeiriadau at ysgol a gynhelir i'w trin fel pe baent yn cynnwys cyfeiriad at ysgol a gynhelir arfaethedig;

(c)mae cyfeiriadau at yr offeryn llywodraethu i'w trin fel cyfeiriadau at yr offeryn llywodraeth p'un a yw wedi dod yn effeithiol neu beidio; ac

(ch)nid yw adrannau 61(3)(b) a (7) o Ddeddf 1998 a pharagraff 2(2) a (3) o Atodlen 1 i Ddeddf 2002 yn gymwys.

(2Ni chaiff corff llywodraethu dros dro ysgol arfaethedig nad oes ganddi gyllideb ddirprwyedig arfer unrhyw rai o'r pwerau a nodir ym mharagraff 3 (3)(b) i (f) o Atodlen 1 i Ddeddf 2002 (fel y'i haddaswyd) heb yn gyntaf cael cytundeb ysgrifenedig—

(a)yr awdurdod addysg lleol yn achos ysgol arfaethedig a fydd yn ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir, ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig, ysgol feithrin a gynhelir neu ysgol sefydledig y cafodd y cynigion ar gyfer ei sefydlu eu cyhoeddi gan awdurdod addysg lleol, neu

(b)yr hyrwyddwyr yn achos ysgol arfaethedig a fydd yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol sefydledig y cafodd y cynigion ar gyfer ei sefydlu eu cyhoeddi gan hyrwyddwyr.

Rhedeg yr ysgol ar neu ar ôl dyddiad agor yr ysgol

31.—(1Yn ystod y cyfnod—

(a)sy'n dechrau ar ddyddiad agor yr ysgol; a

(b)sy'n dod i ben gyda'r amser y caiff y corff llywodraethu ei gyfansoddi ar gyfer yr ysgol o dan offeryn llywodraethu,

mae Atodlen 1 i Ddeddf 2002 yn gymwys(14) gyda'r addasiadau sydd wedi'u nodi ym mharagraff (2).

(2Mae'r addasiadau fel a ganlyn—

(a)yn lle cyfeiriadau at “governing body” rhodder cyfeiriadau at “temporary governing body”;

(b)ym mharagraff 2(1) o Atodlen 1 i Ddeddf 2002, hepgorer y geiriau “as for the time being set out in the school’s instrument of government”; ac

(c)nid yw paragraff 2(2) a (3) o Atodlen 1 i Ddeddf 2002 yn gymwys.

Cyflawni dogfennau gan y corff llywodraethu dros dro

32.—(1Dim ond cadeirydd y corff llywodraethu dros dro neu, os nad yw hynny'n rhesymol ymarferol, yr is-gadeirydd, a gaiff wneud a chyflwyno offerynnau ar ran y corff llywodraethu dros dro.

(2Rhaid i bob dogfen sy'n honni ei bod yn ddogfen wedi'i gwneud neu wedi'i chyflwyno gan neu ar ran y corff llywodraethu dros dro ac sydd i gael ei llofnodi neu ei chyflawni gan gadeirydd neu is-gadeirydd y corff llywodraethu dros dro gael ei derbyn yn dystiolaeth a'i thrin, heb ragor o brawf, fel pe bai wedi'i gwneud felly neu wedi'i chyflwyno felly oni ddangosir i'r gwrthwyneb.

Paratoi'r cwricwlwm

33.—(1Wrth baratoi i gyflawni ei swyddogaethau o dan Ran 7 o Ddeddf 2002 mewn perthynas â chwricwlwm yr ysgol, rhaid i bennaeth ysgol arfaethedig ymgynghori â'r corff llywodraethu dros dro a'r awdurdod addysg lleol.

(2Rhaid i unrhyw awdurdod addysg lleol yr ymgynhorwyd ag ef o dan baragraff (1) roi gwybod i'r pennaeth ynglŷn â'r adnoddau y mae'n debyg y byddant ar gael i'r ysgol, a rhaid i'r pennaeth roi sylw i unrhyw wybodaeth a roddir felly.

Tymhorau, gwyliau a sesiynau'r ysgol

34.—(1Yn achos ysgol arfaethedig a fydd yn ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir, ysgol arbennig gymunedol neu ysgol feithrin a gynhelir—

(a)rhaid i'r awdurdod addysg lleol benderfynu ar y dyddiadau y mae tymhorau a gwyliau'r ysgol i ddechrau ac i ddod i ben; a

(b)rhaid i'r corff llywodraethu dros dro benderfynu amserau sesiynau'r ysgol ar ôl ymgynghori â'r awdurdod addysg lleol.

(2Yn achos ysgol arfaethedig a fydd yn ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol arbennig sefydledig, rhaid i'r corff llywodraethu dros dro benderfynu—

(a)ar y dyddiadau a'r amserau y mae tymhorau a gwyliau'r ysgol i ddechrau ac i ddod i ben; a

(b)ar amserau sesiynau'r ysgol.

(3Yn y rheoliad hwn ystyr “amserau sesiynau'r ysgol” yw'r amserau y mae pob un o sesiynau'r ysgol (neu, os nad oes ond un, y mae sesiwn yr ysgol) i ddechrau ac i ddod i ben ar unrhyw ddiwrnod.

Adroddiadau a Gwybodaeth

35.—(1Rhaid i gorff llywodraethu dros dro ysgol newydd roi i'r awdurdod addysg lleol unrhyw adroddiadau mewn cysylltiad â chyflawni ei swyddogaethau y bydd yr awdurdod yn gofyn amdanynt (naill ai'n rheolaidd neu o dro i dro) at ddibenion arfer unrhyw un o swyddogaethau'r awdurdod.

(2Rhaid i bennaeth ysgol newydd roi i'r corff llywodraethu dros dro neu'r awdurdod addysg lleol unrhyw adroddiadau mewn cysylltiad â chyflawni ei swyddogaethau y bydd y corff hwnnw neu'r awdurdod yn gofyn amdanynt (naill ai'n rheolaidd neu o dro i dro) at ddibenion arfer unrhyw un o'u swyddogaethau.

(3Os caiff gofyniad o dan baragraff (2) ei osod ar y pennaeth gan yr awdurdod—

(a)rhaid i'r awdurdod hysbysu'r corff llywodraethu dros dro ynglŷn â'r gofyniad hwnnw; a

(b)rhaid i'r pennaeth roi copi i'r corff llywodraethu dros dro o unrhyw adroddiad a wneir ganddo wrth gydymffurfio â'r gofyniad.

Ymgynghori ar wariant awdurdod addysg lleol

36.  Os nad oes gan yr ysgol arfaethedig gyllideb ddirprwyedig, rhaid i'r awdurdod addysg lleol ymgynghori â'r corff llywodraethu dros dro a'r pennaeth ynghylch gwariant arfaethedig yr awdurdod ar lyfrau, offer a deunyddiau ysgrifennu i'r ysgol.

RHAN 7Swyddogion, cyfarfodydd, trafodion, pwyllgorau a gwrthdrawiadau buddiannau

Penodi swyddogion, eu swyddogaethau a'u diswyddo

37.  Mae Rhan 7 o'r Rheoliadau Llywodraethu yn gymwys i ysgolion newydd yn ddarostyngedig i'r addasiadau cyffredinol a rheoliadau 38 a 39.

38.—(1Yr awdurdod addysg lleol sydd i benodi clerc cyntaf corff llywodraethu dros dro ysgol newydd a fydd yn ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir, neu ysgol arbennig gymunedol, neu ysgol sefydledig neu ysgol arbennig sefydledig y cafodd y cynigion i'w sefydlu eu cyhoeddi gan yr awdurdod addysg lleol.

(2Hyrwyddwyr yr ysgol sydd i benodi clerc cyntaf corff llywodraethu dros dro ysgol newydd a fydd yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu'n ysgol sefydledig neu'n ysgol arbennig sefydledig y cafodd y cynigion i'w sefydlu eu cyhoeddi gan hyrwyddwyr.

39.—(1Y clerc sydd i alw cyfarfod cyntaf corff llywodraethu dros dro.

(2Rhaid i'r corff llywodraethu dros dro ethol cadeirydd ac is-gadeirydd yn y cyfarfod cyntaf hwnnw.

(3Os yw'r clerc yn methu â galw cyfarfod o fewn unrhyw gyfnod sy'n rhesymol ym marn yr awdurdod addysg lleol, rhaid i'r awdurdod addysg lleol ei alw.

Cyfarfodydd a thrafodion cyrff llywodraethu dros dro

40.—(1Mae Rhan 8 o'r Rheoliadau Llywodraethu yn gymwys i ysgolion newydd yn ddarostyngedig i'r addasiadau cyffredinol ac i baragraff (2).

(2Os yw dwy neu fwy o ysgolion i'w cau (“yr ysgolion sydd i'w cau”) a disgwylir y bydd y disgyblion cofrestredig yn yr ysgolion hynny, neu nifer sylweddol ohonynt, yn trosglwyddo i ysgol newydd, mae gan benaethiaid yr ysgolion hynny sydd i'w cau yr hawl i fynychu unrhyw gyfarfod corff llywodraethu dros dro'r ysgol newydd hyd nes y penodir pennaeth newydd ar gyfer yr ysgol honno.

Pwyllgorau cyrff llywodraethu dros dro

41.—(1Mae Rhan 9 o'r Rheoliadau Llywodraethu yn gymwys i ysgolion newydd yn ddarostyngedig i'r addasiadau cyffredinol ac i baragraff (2).

(2Os yw dwy neu fwy o ysgolion i'w cau (“yr ysgolion sydd i'w cau”) a disgwylir y bydd y disgyblion cofrestredig yn yr ysgolion hynny, neu nifer sylweddol ohonynt, yn trosglwyddo i ysgol newydd, mae gan benaethiaid yr ysgolion hynny sydd i'w cau yr hawl i fynychu unrhyw gyfarfod o bwyllgor i gorff llywodraethu dros dro'r ysgol newydd hyd nes y penodir pennaeth newydd ar gyfer yr ysgol honno.

Cyfyngiadau ar bersonau sy'n cymryd rhan mewn trafodion

42.  Mae Rhan 10 o'r Rheoliadau Llywodraethu yn gymwys i ysgolion newydd yn ddarostyngedig i'r addasiadau cyffredinol.

RHAN 8Trosi o Gorff Llywodraethu Dros Dro i Gorff Llywodraethu

Gwneud offeryn llywodraethu a chyfansoddiad y corff llywodraethu

43.—(1Rhaid i'r awdurdod addysg lleol sicrhau bod offeryn llywodraethu wedi'i wneud ar gyfer pob ysgol newydd yn unol â rheoliadau 32 i 34 o'r Rheoliadau Llywodraethu cyn dyddiad agor yr ysgol.

(2Bydd yr offeryn llywodraethu yn effeithiol o'r dyddiad y mae'n cael ei wneud er mwyn cyfansoddi'r corff llywodraethu ond nid yw'n effeithio ar gyfansoddiad neu enw'r corff llywodraethu dros dro sy'n rhedeg yr ysgol newydd.

(3At ddibenion y Rhan hon, mewn perthynas ag unrhyw ysgol newydd, y dyddiad ymgorffori yw'r dyddiad y mae'r awdurdod lleol yn hysbysu'r corff llywodraethu'n ysgrifenedig, a rhaid iddo fod yn ddyddiad cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl dyddiad agor yr ysgol ond pa fodd bynnag heb fod yn hwyrach na diwrnod olaf y tymor y mae'r ysgol yn derbyn disgyblion am y tro cyntaf ynddo.

(4Rhaid i'r awdurdod addysg lleol sicrhau bod penodiadau neu etholiadau llywodraethwyr sy'n ofynnol o dan offeryn llywodraethu ysgol newydd yn cael eu cynnal yn unol â'r offeryn hwnnw cyn y dyddiad ymgorffori a'u bod yn effeithiol o'r dyddiad hwnnw ymlaen.

(5At bob diben arall, bydd yr offeryn llywodraethu yn effeithiol o'r dyddiad ymgorffori.

(6Ar y dyddiad ymgorffori, rhaid i gorff llywodraethu ysgol newydd fod wedi'i gyfansoddi o dan yr offeryn llywodraethu.

(7Rhaid i'r corff llywodraethu dros dro arfer ei swyddogaethau o dan Ddeddf 1998, Deddf 2002 a'r Rheoliadau hyn mewn modd y bwriedir iddo alluogi'r awdurdod addysg lleol i gyflawni ei ddyletswyddau o dan y rheoliad hwn.

Llywodraethwyr newydd

44.—(1Yn achos penodiad unrhyw lywodraethwr y cyfeirir ato yn rheoliad 43(4), rhaid i'r awdurdod addysg lleol roi hysbysiad ysgrifenedig i'r person sydd i wneud y penodiad o dan yr offeryn llywodraethu, oni bai bod y person hwnnw eisoes wedi hysbysu'r awdurdod addysg lleol ynglyn â phenodiad i lenwi'r swydd wag.

(2Os bydd unrhyw berson yn gwneud penodiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig ynglŷn â'r penodiad i'r awdurdod addysg lleol ac i glerc y corff llywodraethu dros dro, gan bennu enw a phreswylfa arferol y person sydd wedi'i benodi.

Penodi llywodraethwyr newydd neu eu hethol

45.—(1Mae'r paragraffau canlynol yn gymwys mewn perthynas â phenodi neu ethol y llywodraethwyr y mae eu hangen i gyfansoddi'r corff llywodraethu yn unol â rheoliad 43(4).

(2Rhaid i unrhyw riant-lywodraethwr gael naill ai—

(a)ei ethol (ar ôl dyddiad agor yr ysgol) gan rieni'r disgyblion cofrestredig yn yr ysgol newydd a rhaid iddo yntau fod yn rhiant o'r fath ar yr adeg y caiff ei ethol; neu

(b)ei benodi (ar ôl dyddiad agor yr ysgol) yn unol ag Atodlen 1 i'r Rheoliadau Llywodraethu.

(3Ar ôl dyddiad agor yr ysgol—

(a)rhaid i unrhyw staff-lywodraethwr neu athro-lywodraethwr gael ei ethol yn unol â rheoliadau 5 a 6 o'r Rheoliadau Llywodraethu ac Atodlen 2 iddynt;

(b)rhaid i unrhyw lywodraethwr partneriaeth fod yn berson sydd wedi'i enwebu ac wedi'i benodi yn unol â rheoliad 10 o'r Rheoliadau Llywodraethu ac Atodlen 3 iddynt

(c)rhaid i unrhyw lywodraethwr cymunedol neu lywodraethwr cymunedol ychwanegol gael ei ethol yn unol â rheoliadau 8 a 20 o'r Rheoliadau Llywodraethu.

(4Os—

(a)yw offeryn llywodraethu ysgol newydd yn darparu ar gyfer penodi un neu ragor o'r llywodraethwyr gan bersonau sy'n gweithredu ar y cyd, a

(b)os yw'r personau hynny'n methu â chytuno ar benodiad,

rhaid i'r penodiad gael ei wneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'n unol â chyfarwyddyd a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol hwnnw.

Eiddo, hawliau a rhwymedigaethau

46.  Ar y dyddiad ymgorffori, yn rhinwedd y rheoliad hwn, trosglwyddir—

(a)yr holl dir ac eiddo arall a oedd, yn union cyn y dyddiad ymgorffori, wedi'i freinio yn y corff llywodraethu dros dro, a

(b)holl hawliau a rhwymedigaethau'r corff llywodraethu dros dro a oedd yn bodoli yn union cyn y dyddiad hwnnw,

i'r corff llywodraethu sydd wedi'i gyfansoddi o dan yr offeryn llywodraethu, a'u breinio ynddo.

Hawliau a rhwymedigaethau o dan gontract cyflogaeth

47.  Heb ragfarnu cyffredinolrwydd rheoliad 46, os yw'r rheoliad hwnnw'n peri bod hawliau a rhwymedigaethau yn cael eu trosglwyddo o dan gontract cyflogaeth—

(a)bydd y contract yn effeithiol o'r dyddiad ymgorffori fel pe bai wedi'i wneud yn wreiddiol rhwng y cyflogai a'r corff llywodraethu sydd wedi'i gyfansoddi o dan yr offeryn llywodraethu, a

(b)heb ragfarnu paragraff (a), bernir o'r dyddiad hwnnw ymlaen fod unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan neu mewn perthynas â'r corff llywodraethu dros dro mewn perthynas â'r contract hwnnw neu'r cyflogai wedi'i wneud gan neu mewn perthynas â'r corff llywodraethu sydd wedi'i gyfansoddi o dan yr offeryn llywodraethu,

ond ni fydd unrhyw hawl i'r cyflogai derfynu ei gontract cyflogaeth os caiff newid sylweddol ei wneud ar ei draul yn ei amodau gwaith yn codi dim ond oherwydd y newid cyflogwr sydd wedi'i beri gan y rheoliad hwnnw.

Gwybodaeth ar gyfer olynwyr

48.—(1Yn union cyn y dyddiad ymgorffori, rhaid i'r corff llywodraethu dros dro baratoi, at ddiben cynorthwyo'r corff llywodraethu a fydd yn ei ddilyn, adroddiad byr ynglŷn â'r camau y mae wedi eu cymryd wrth gyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas â'r ysgol newydd.

(2Rhaid i holl gofnodion a phapurau corff llywodraethu dros dro mewn perthynas â'r ysgol newydd, gan gynnwys yr adroddiad a baratowyd o dan baragraff (1), fod ar gael i'w olynwyr.

RHAN 9Diwygio Rheoliadau Cymeriad Crefyddol Ysgolion (Gweithdrefn Ddynodi) 1998

Diwygio Rheoliadau Cymeriad Crefyddol Ysgolion (Gweithdrefn Ddynodi) 1998

49.—(1Diwygir rheoliad 9 o Reoliadau Cymeriad Crefyddol Ysgolion (Gweithdrefn Dynodi) 1998 mewn perthynas â Chymru fel a nodir ym mharagraffau (2) a (3).

(2Ym mharagraff (2) o reoliad 9, o flaen y geiriau “Church of England”, mewnosodir y geiriau “new school which is intended to be a”.

(3Ym mharagraff (6)(a) o reoliad 9, yn lle “(within the meaning of Part III of the Education (New Schools) (Wales) Regulations 1999 or the 1996 Act, as the case may be)” rhodder “within the meaning of Part 3 of the New Maintained Schools (Wales) Regulations 2005”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(15)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Hydref 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â llywodraethu ysgolion a gynhelir newydd yng Nghymru.

Mae Rhan 1 yn darparu i'r Rheoliadau ddod i rym, yn nodi'r Rheoliadau hynny sydd i'w dirymu neu i'w diwygio ac yn cynnwys darpariaethau ar gyfer dehongli. Mae'n ymdrin hefyd â chyflwyno hysbysiadau.

Mae Rhan 2 yn ymwneud â gwneud trefniadau ar gyfer cyrff llywodraethu dros dro. Mae rheoliad 5 yn caniatáu i drefniadau gael eu gwneud gan rag-weld y caiff cynigion eu cymeradwyo ac mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol sicrhau bod hyrwyddwyr yn cytuno â threfniadau sy'n ymwneud â llywodraethwyr sefydledig dros dro.

Mae Rhan 3 yn disgrifio'r amrywiol gategorïau o lywodraethwyr dros dro. Mae rheoliad 9 yn ymdrin â phenodi rhiant-lywodraethwyr dros dro gan naill ai'r awdurdod addysg lleol neu hyrwyddwyr ysgol newydd.

Mae rheoliad 10 yn ymdrin â staff-lywodraethwyr dros dro, sy'n cynnwys staff nad ydynt yn addysgu yn unig. Mae rheoliad 11 yn ymwneud ag athro-lywodraethwyr. Mae'r pennaeth yn llywodraethwr dros dro yn rhinwedd ei swydd ond caiff ymddiswyddo o'i swydd fel llywodraethwr dros dro (neu dynnu ei ymddiswyddiad yn ôl) ar unrhyw adeg.

Mae rheoliad 12 yn ymdrin â phenodi llywodraethwyr AALl dros dro.

Mae rheoliadau 13 a 14 yn gymwys i lywodraethwyr cymunedol dros dro ac i lywodraethwyr cymunedol ychwanegol dros dro.

Mae rheoliad 15 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â phenodi llywodraethwyr sefydledig dros dro, gan gynnwys llywodraethwyr dros dro ex officio ac mae rheoliad 16 yn ymdrin ag enwebu a phenodi llywodraethwyr partneriaeth dros dro. Mae rheoliad 17 yn gymwys i lywodraethwyr cynrychioliadol dros dro mewn ysgolion arbennig cymunedol. Mae rheoliad 18 yn gwneud darpariaeth ar gyfer noddwr-lywodraethwyr dros dro, y gellir dewis eu penodi neu beidio.

Mae rheoliad 19 yn pennu'r profiad sy'n angenrheidiol i lywodraethwyr dros dro ac mae rheoliad 20 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyd-benodi.

Mae Rhan 4 yn ymdrin â chyfansoddiad cyrff llywodraethu dros dro drwy gymhwyso rheoliadau 13 i 20 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 (“y Rheoliadau Llywodraethu”) at gyrff llywodraethu dros dro gyda rhai addasiadau.

Mae Rhan 5 yn ymdrin â deiliadaeth swyddi a chymwysterau llywodraethwyr dros dro. Mae rheoliad 22 yn nodi sut y gall llywodraethwr dros dro ymddiswyddo ac mae rheoliadau 23 a 24 yn ymdrin â diswyddo llywodraethwyr dros dro.

Mae rheoliad 25 yn gwneud darpariaeth ar gyfer yr amgylchiadau lle mae llywodraethwr dros dro yn cael ei anghymhwyso rhag cael ei benodi'n llywodraethwr dros dro neu rhag parhau'n llywodraethwr dros dro drwy gymhwyso Atodlen 5 i'r Rheoliadau Llywodraethu, gydag addasiadau.

Mae Rhan 5 hefyd yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â'r treuliau sy'n codi mewn perthynas â chyrff llywodraethu dros dro a darparu gwybodaeth ar gyfer llywodraethwyr dros dro.

Mae Rhan 6 yn ymdrin â rhedeg ysgolion newydd sydd â chyrff llywodraethu dros dro, gan roi pwerau a dyletswyddau cyffredinol i gyrff llywodraethu dros dro. Hefyd, mae rheoliad 33 yn darparu ar gyfer cyflawni dogfennau gan y corff llywodraethu dros dro.

Mae rheoliad 33 yn ei gwneud yn ofynnol i'r pennaeth ymgynghori â'r corff llywodraethu dros dro a'r awdurdod addysg lleol ynghylch y cwricwlwm ac mae rheoliad 34 yn darparu ar gyfer penderfynu ar ddyddiadau tymhorau a gwyliau'r ysgol ac amserau sesiynau'r ysgol. Mae rheoliad 35 yn ymdrin â'r adroddiadau a'r wybodaeth sydd i'w rhoi i AALl ac mae rheoliad 36 yn ymwneud ag ymgynghori gan AALl mewn perthynas â gwariant os nad oes gan gyrff llywodraethu dros dro gyllidebau dirprwyedig.

Mae Rhan 7 yn ymdrin â phenodi, swyddogaethau a diswyddo swyddogion, cyfarfodydd a thrafodion cyrff llywodraethu dros dro, pwyllgorau cyrff llywodraethu dros dro a gwrthdrawiadau buddiannau. Mae darpariaethau perthnasol y Rheoliadau Llywodraethu yn cael eu cymhwyso at ysgolion newydd gydag addasiadau.

Mae Rhan 8 yn ymdrin â'r cyfnod trosiannol rhwng y corff llywodraethu dros dro a'r corff llywodraethu parhaol sy'n cael ei gyfansoddi o dan offeryn llywodraethu. Rhaid i'r awdurdod addysg lleol sicrhau bod offeryn llywodraethu yn cael ei wneud cyn dyddiad agor yr ysgol.

Yr awdurdod addysg lleol sy'n pennu'r dyddiad y caiff y corff llywodraethu ei gyfansoddi o dan yr offeryn llywodraethu. Dyma'r dyddiad ymgorffori, sy'n gorfod bod cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad agor ond heb fod yn hwyrach na dyddiad olaf y tymor cyntaf.

Mae rheoliadau 44 a 45 yn ymdrin â phenodi ac ethol y llywodraethwyr sy'n angenrheidiol o dan yr offeryn llywodraethu.

Mae rheoliadau 46 i 48 yn darparu ar gyfer trosglwyddo eiddo, staff a hawliau a rhwymedigaethau eraill o'r corff llywodraethu dros dro i'r corff llywodraethu parhaol, ac ar gyfer paratoi adroddiad gan y corff llywodraethu dros dro.

Mae Rhan 9 yn gwneud rhai diwygiadau sy'n ymwneud ag ysgolion newydd i Reoliadau Cymeriad Crefyddol Ysgolion (Gweithdrefn Ddynodi) 1998.

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ac wedi'i osod ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (www.cymru.gov.uk). Gellir cael copïau oddi wrth Is-adran Rheolaeth Ysgolion Llywodraeth Cynulliad Cymru, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

1998 p.31. Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) mae pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol a roddwyd gan y darpariaethau hyn yn arferadwy mewn perthynas â Chymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2)

Yn rhinwedd adran 212(2) o Ddeddf 2002 mae'r pwerau a roddwyd gan y darpariaethau hyn yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru yn unig.

(7)

Diwygiwyd adran 3 gan baragraff 34 o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002.

(9)

Gall cynigion gael eu cyhoeddi o dan adran 28 neu 31 o Ddeddf 1998, neu baragraff 5 o Atodlen 7 iddi neu adran 113A o Ddeddf 2000.

(10)

O dan baragraff 8 o Atodlen 6 neu baragraff 13 o Atodlen 7 i Ddeddf 1998 neu adran 113A(5)(a) o Ddeddf 2000.

(11)

O dan baragraff 9 o Atodlen 6 i Ddeddf 1998.

(12)

Gweler Rheoliadau Lwfansau Llywodraethwyr (Cymru) 2005, O.S. 2005/2915 (Cy.212).

(13)

At ddibenion adran 30(3) o'r Ddeddf honno ac adrannau 495 i 498 o Ddeddf 1996, mae adran 34(7) o Ddeddf 2002 yn darparu bod y corff llywodraethu dros dro i gael ei drin fel pe bai'n gorff llywodraethu ar unrhyw adeg cyn dyddiad agor yr ysgol.

(14)

O dan adran 34(7) o Ddeddf 2002, mae corff llywodraethu dros dro ysgol i'w drin at ddibenion y Deddfau Addysg fel pe baent yn gorff llywodraethu yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar ddyddiad agor yr ysgol ac sy'n dod i ben gyda'r amser y caiff y corff llywodraethu ei gyfansoddi o dan offeryn llywodraethu; yn ddarostyngedig i adran 34(8), nad yw Atodlen 1 yn gymwys odani i gyrff llywodraethu dros dro oni bai y darperir hynny mewn rheoliadau sydd wedi'u gwneud o dan adran 34(5).

(15)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources