Search Legislation

Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 2913 (Cy.210)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

18 Hydref 2005

Yn dod i rym

31 Hydref 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 214 o Ddeddf Addysg 2002(1).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Hydref 2005.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(2);

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(3); ac

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002.

Addasu adran 28D(7) o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995

3.  Yn adran 28D(7)(a) o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995(4) (Strategaethau a chynlluniau hygyrchedd), ar ôl y geiriau “maintained schools” mewnosoder y geiriau “and maintained nursery schools”.

Addasu adran 579(1) o Ddeddf 1996

4.  Yn adran 579(1) o Ddeddf 1996(5) (Dehongli cyffredinol), yn y diffiniad o “proprietor”, ar ôl “foundation special school” mewnosoder “or a maintained nursery school,”.

Offerynnau llywodraethu

5.  Er gwaethaf y ffaith bod adran 20(1) o Ddeddf 2002 wedi dod i rym a bod adran 37(1) o Ddeddf 1998 ac Atodlen 12 iddi(6) wedi'u diddymu, mae holl offerynnau llywodraethu ysgolion a gynhelir i aros mewn grym hyd nes bod offeryn llywodraethu newydd a wneir yn unol â Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005(7) yn cymryd eu lle.

Ysgolion newydd

6.—(1Er gwaethaf y ffaith bod adran 34 o Ddeddf 2002 wedi dod i rym a bod adran 44 o Ddeddf 1998(8) wedi'i diddymu, mae adran 44 o Ddeddf 1998 a Rheoliadau Addysg (Ysgolion Newydd) (Cymru) 1999(9) i barhau i fod yn gymwys o ran corff llywodraethu dros dro a gyfansoddwyd cyn 31 Hydref 2005.

(2Pan fo paragraff (1) yn gymwys—

(a)mae'r darpariaethau yn Neddf 1998 y cyfeirir atynt yn adran 44 o Ddeddf 1998 ac yn Rheoliadau Addysg (Ysgolion Newydd) (Cymru) 1999 ac sydd wedi'u dirymu gan Ddeddf 2002 i gael effaith fel petaent heb eu dirymu;

(b)mae adran 44 o Ddeddf 1998 i gael effaith fel petai is-adran (3)(b) wedi'i hepgor ac fel petai'r geiriau “the date notified to the temporary governing body by the local education authority” wedi'u rhoi yn lle “the school opening date” yn is-adran (4); ac

(c)mae Rheoliadau Addysg (Ysgolion Newydd) (Cymru) 1999 i gael effaith fel petai'r geiriau “the date notified to the temporary governing body by the local education authority” wedi'u rhoi yn lle “the school opening date” yn rheoliad 31(1) ac fel petai rheoliad 31(3) wedi'i hepgor.

Ysgolion meithrin a gynhelir

7.—(1Er gwaethaf y ffaith bod y diffiniad o “maintained school” yn adran 39 o Ddeddf 2002(10) wedi dod i rym, nid oes angen i'r gofynion a osodir gan adrannau 19(1) ac 20(1) o Ddeddf 2002(11) i'r graddau y maent yn ymwneud ag ysgolion meithrin a gynhelir gael eu bodloni tan 31 Mawrth 2006.

(2Hyd nes y bydd offeryn llywodraethu mewn grym ar gyfer ysgol feithrin a gynhelir o dan adran 20(1) o Ddeddf 2002, dim ond er mwyn galluogi'r offeryn llywodraethu i gael ei wneud a galluogi'r corff llywodraethu i gael ei gyfansoddi ar gyfer yr ysgol honno y mae'r darpariaethau perthnasol yn cael effaith.

(3Gan hynny, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, awdurdodau addysg lleol, cyrff llywodraethu a phenaethiaid i barhau i gael yr un swyddogaethau hynny tan yr amser hwnnw, o ran ysgolion meithrin a gynhelir ag yr oedd ganddynt yn union cyn cychwyn y darpariaethau perthnasol.

(4Yn y rheoliad hwn ystyr “y darpariaethau perthnasol” yw'r darpariaethau yn Neddf Addysg 2002 a gafodd eu dwyn i rym gan Orchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 7) 2005(12) a darpariaethau'r Rheoliadau hyn, i'r graddau y mae swyddogaethau yn cael eu rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, awdurdodau addysg lleol, cyrff llywodraethu neu benaethiaid gan neu o dan y darpariaethau hynny o ran ysgolion meithrin a gynhelir.

Ysgolion meithrin a gynhelir a chyllidebau dirprwyedig

8.  Mae cymhwyso Pennod 4 o Ran 2 o Ddeddf 1998 i ysgolion meithrin a gynhelir, a hwnnw'n gymhwyso a wnaed drwy beri i adran 45 o Ddeddf 1998 gael ei diwygio gan baragraff 99(2) o Atodlen 21 i Ddeddf 2002(13), i gael effaith yn y cyfnod sy'n dod i ben yn union cyn 1 Ebrill 2006 ddim ond at ddibenion ariannu ysgolion meithrin a gynhelir mewn unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.

Aelodaeth o bwyllgorau addysg

9.  Er gwaethaf yr amnewidiad o adran 499(9)(b) o Ddeddf 1996 a wnaed gan baragraff 50 o Atodlen 21 i Ddeddf 2002(14), mae rhiant-lywodraethwr a benodwyd neu a etholwyd i gorff llywodraethu a gyfansoddwyd o dan adran 36 o Ddeddf 1998 i'w drin fel rhiant-lywodraethwr hefyd at ddibenion adran 499(6) ac (8) o Ddeddf 1996.

Diwygio Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-Lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001

10.—(1Mae Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-Lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001(15) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3, yn lle'r diffiniad o “ysgol”, rhodder y canlynol—

ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, neu ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig neu ysgol feithrin a gynhelir;.

Diwygio Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000

11.—(1Mae Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000(16) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(2)(a) a (b), ar ôl y geiriau “ysgol arbennig sefydledig” mewnosoder y geiriau “neu ysgol feithrin a gynhelir”.

(3Yn rheoliad 7 yn lle'r geiriau “Rheoliad 41 o Reoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Cymru) 1999” rhodder y geiriau “rheoliad 50 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cymru) 2005(17)”.

(4Mewnosoder ar ddiwedd rheoliad 9 y canlynol—

(5) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i ysgolion meithrin a gynhelir.

(5Mewnosoder ar ddiwedd rheoliad 10 y canlynol—

(11) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i ysgolion meithrin a gynhelir.

Diwygio Rheoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2000

12.—(1Mae Rheoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2000(18) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) mewnosoder ar ôl y geiriau “ysgol arbennig gymunedol” y geiriau “neu ysgol feithrin a gynhelir”.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Talu am Gyflenwadau Anghenion Addysgol Arbennig) 1999

13.  Mae Rheoliadau Addysg (Talu am Gyflenwadau Anghenion Addysgol Arbennig) 1999(19) yn cael eu diwygio drwy fewnosod yn rheoliad 1(2) ar ôl “foundation special school” y geiriau “or maintained nursery school”.

Diwygio Rheoliadau Anghenion Addysgol Arbennig (Darparu Gwybodaeth gan Awdurdodau Addysg Lleol) (Cymru) 2002

14.—(1Mae Rheoliadau Anghenion Addysgol Arbennig (Darparu Gwybodaeth gan Awdurdodau Addysg Lleol) (Cymru) 2002(20) wedi'u diwygio fel a ganlyn—

(a)mae rheoliad 1(4) yn cael ei hepgor;

(b)ym mharagraff 1 o'r Atodlen mewnosoder ar ôl y geiriau “o gyfran yr ysgolion a gynhelir o'r gyllideb” y geiriau “neu gyfran yr ysgolion meithrin a gynhelir o'r gyllideb”;

(c)ym mharagraff 3(b) o'r Atodlen mewnosoder ar ôl y geiriau “ysgolion a gynhelir” y geiriau “a'r ysgolion meithrin a gynhelir”.

(2Mae rheoliadau 2(a) a 3(1) i (3) o Reoliadau Anghenion Addysgol Arbennig (Darparu Gwybodaeth gan Awdurdodau Addysg Lleol) (Cymru) 2002 yn gymwys, o ran yr wybodaeth y mae'n ofynnol ei chyhoeddi o ganlyniad i'r diwygiadau a wnaed gan baragraff (1), fel petai “30 Ebrill 2006” a “31 Gorffennaf 2006” wedi'u rhoi yn lle “30 Ebrill 2002” a “31 Gorffennaf 2002” yn rheoliad 3(2) a (3).

Diwygio Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995

15.  Mae rheoliad 2 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995(21) yn cael ei ddiwygio drwy fewnosod yn y diffiniad o “proprietor”, ar ôl y geiriau “foundation special school”, y geiriau “or a maintained nursery school”.

Eithriadau

16.  Er gwaethaf y ffaith bod adran 52 (11) o Ddeddf Addysg 2002(22) wedi dod i rym ac er gwaethaf rheoliad 7 o'r Rheoliadau hyn, mae Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003(23) yn gymwys o ran ysgolion meithrin a gynhelir mewn perthynas â gwaharddiadau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2006 yn unig.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002

17.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002(24) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1), yn lle'r diffiniad o “ysgol”, rhodder y canlynol—

ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, ysgol gymunedol arbennig neu ysgol sefydledig arbennig neu ysgol feithrin a gynhelir;.

Diwygio Rheoliadau Cyllidebau AALl, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003

18.—(1Mae Rheoliadau Cyllidebau AALl, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003(25) wedi'u diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(3), ar ôl y geiriau “ysgol sefydledig arbennig” mewnosoder y geiriau “neu ysgol feithrin a gynhelir”.

(3Ym mharagraff 5(a) o Atodlen 1, mewnosoder ar ôl y geiriau “yr awdurdod” y geiriau “neu ysgol feithrin a gynhelir”.

(4Yn Atodlen 2—

(a)ym mharagraff 1(b), mewnosoder ar ôl y geiriau “ysgol a gynhelir” y geiriau “neu ysgol feithrin a gynhelir”;

(b)ym mharagraff 2(b), mewnosoder ar ôl y geiriau “yr awdurdod” y geiriau “neu ysgol feithrin a gynhelir”;

(c)ym mharagraff 3 mewnosoder o flaen y geiriau “ysgol gynradd” y geiriau “ysgol feithrin a gynhelir neu'r”;

(ch)yn is-baragraffau (a), (b) ac (c) o baragraff 6, ac ym mhob un ohonynt, mewnosoder o flaen y geiriau “ysgolion cynradd” y geiriau “ysgolion meithrin a gynhelir,”.

Diwygio Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004

19.—(1Mae Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004(26) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 1(2) mewnosoder ar ôl y geiriau “ysgolion a gynhelir” y geiriau “, ac eithrio ysgolion meithrin a gynhelir,”.

(3Ychwaneger ar ôl rheoliad 1(2) y canlynol—

(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys at ddiben ariannu ysgolion meithrin a gynhelir ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar ôl 31 Mawrth 2006..

Diwygio Rheoliadau Fforymau Ysgolion (Cymru) 2003

20.—(1Mae Rheoliadau Fforymau Ysgolion (Cymru) 2003(27) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Hepgorer o reoliad 4(5) y geiriau “ond heb gynnwys ysgol feithrin”.

Arolygiadau Ysgolion

21.  Er gwaethaf y diwygiadau a wnaed i'r diffiniad o “appropriate body” yn adran 11(4) o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996 gan baragraff 60 o Atodlen 21, mae'r cyfeiriadau at “appropriate body” yn adrannau 16(4) a 17 o'r Ddeddf honno o ran arolygiad o ysgol feithrin a gynhelir a ddigwyddodd cyn bod corff llywodraethu wedi'i gyfansoddi ar gyfer yr ysgol honno i gael effaith fel petaent yn gyfeiriadau at yr awdurdod addysg lleol, ac nid yw'r diwygiad a wnaed gan baragraff 64 i adran 18(1)(a) o'r Ddeddf honno i gael effaith o ran arolygiad o'r fath.

22.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 1998(28) yn cael eu diwygio drwy fewnosod yn rheoliad 5(1)(a) a (b) ar ôl y gair “voluntary” y geiriau “, maintained nursery school”.

(2Mae'r cyfeiriadau at ddarpariaethau yn Neddf Arolygiadau Ysgolion 1996 a Deddf 1998 yn Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 1998(29) yn gyfeiriadau at y darpariaethau hynny, fel y'u diwygiwyd gan Ddeddf 2002, ond pan fo adroddiad arolygwyr ar ysgol feithrin a gynhelir wedi dod i law cyn bod corff llywodraethu wedi'i gyfansoddi ar gyfer yr ysgol, mae rheoliadau 8 a 10 yn cael effaith fel petai'r awdurdod addysg lleol oedd yr awdurdod priodol.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 1999

23.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 1999(30) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3(3)(a) hepgorer y geiriau “(except in the case of a nursery school)”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(31).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Hydref 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn cymhwyso addasiadau trosiannol i Ddeddf Addysg 2002 mewn cysylltiad â dwyn i rym ddarpariaethau'r Ddeddf drwy Orchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2004. Maent yn gwneud diwygiadau hefyd i nifer o reoliadau sy'n ganlyniad yn bennaf i'r gofyniad newydd sydd wedi'i osod ar ysgolion meithrin a gynhelir i gael cyrff llywodraethu.

Mae'r cyfeiriadau isod at adrannau ac Atodlenni (heb fanylion pellach) yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlenni iddi.

Mae Rheoliad 3 yn diwygio adran 28D(7)(a) o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 fel y byddai'n glir, o'i darllen gyda'r diwygiadau i'r Ddeddf honno a wnaed gan baragraffau 26 a 29 o Atodlen 21, bod y dyletswyddau o ran cynlluniau hygyrchedd wedi'u gosod ar gyrff llywodraethu ysgolion meithrin a gynhelir.

Mae Rheoliad 4 yn diwygio'r diffiniad o “proprietor” yn adran 579 o Ddeddf Addysg 1996 (“Deddf 1996”) fel ei fod yn cynnwys cyfeiriad at gyrff llywodraethu ysgolion meithrin a gynhelir.

Mae Rheoliad 5 yn darparu bod offeryn llywodraethu presennol ysgol i barhau mewn grym hyd nes y bydd offeryn newydd a wnaed o dan reoliadau o dan adran 20 wedi cymryd ei le.

Mae Rheoliad 6 yn darparu bod darpariaethau Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“Deddf 1998”) yn parhau i fod yn gymwys o ran corff llywodraethu dros dro ysgol newydd a gyfansoddwyd o dan adran 44 o Ddeddf 1998 cyn 31 Hydref 2005. Mae'n addasu hefyd adran 44 o Ddeddf 1998 a Rheoliadau Addysg (Ysgolion Newydd) (Cymru) 1999 fel na fydd angen i gorff llywodraethu dros dro o'r fath gael ei ailgyfansoddi fel corff llywodraethu parhaol tan y dyddiad y caiff ei hysbysu ohono gan yr AALl. Mae hyn yn osgoi'r angen i gyrff llywodraethu gael eu cyfansoddi ar gyfer ysgolion newydd o dan Ddeddf 1998, ac wedyn cael eu hailgyfansoddi o dan y trefniadau newydd.

Mae Rheoliad 7 yn darparu na fydd y gofyniad i gorff llywodraethu gael ei gyfansoddi ar gyfer ysgol feithrin a gynhelir yn gymwys tan 31 Mawrth 2006, ond os bydd corff llywodraethu wedi'i gyfansoddi cyn y dyddiad hwnnw, mae i gael holl bwerau a dyletswyddau corff llywodraethu o'r dyddiad y cafodd ei gyfansoddi.

Mae Rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad ag ariannu ysgolion meithrin a gynhelir. Mae'r darpariaethau yn Neddf 1998 sy'n ymwneud ag ariannu ysgolion a gynhelir i fod yn gymwys i ysgolion meithrin a gynhelir o ran y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2006 yn unig.

Mae Rheoliad 9 yn caniatáu i riant-lywodraethwyr cyrff llywodraethu a gyfansoddwyd o dan Ddeddf 1998, yn ogystal â rhiant-lywodraethwyr cyrff llywodraethu a gyfansoddwyd o dan reoliadau a wnaed o dan adran 19, gael eu trin fel rhiant-lywodraethwyr at ddibenion adran 499 o Ddeddf 1996. Mae adran 499 o Ddeddf 1996 yn galluogi rheoliadau i'w gwneud yn ofynnol i bwyllgor addysg awdurdod lleol gynnwys cynrychiolwyr rhiant-lywodraethwyr.

Mae rheoliadau 10 i 15 yn diwygio rheoliadau amrywiol yn y fath fodd ag i ddarparu iddynt fod yn gymwys i ysgolion meithrin a gynhelir. Y rheoliadau diwygiedig yw: Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-Lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001, Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000, Rheoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2000, Rheoliadau Addysg (Talu am Gyflenwadau Anghenion Addysgol Arbennig) 1999, Rheoliadau Anghenion Addysgol Arbennig (Darparu Gwybodaeth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2002 a Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995.

Mae Rheoliad 16 yn darparu bod Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003 yn gymwys i ysgolion meithrin a gynhelir o ran gwaharddiadau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2006 yn unig.

Mae Rheoliadau 17 a 18 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002 a Rheoliadau Cyllidebau AALl, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003 fel eu bod yn gymwys i ysgolion meithrin a gynhelir.

Mae Rheoliad 19 yn diwygio Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004 fel eu bod yn gymwys i ysgolion meithrin a gynhelir ar gyfer y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar ôl 31 Mawrth 2006 yn unig.

Mae Rheoliad 20 yn diwygio Rheoliadau Fforymau Ysgolion (Cymru) 2003 fel bod modd i gynrychiolwyr ysgol gynradd ar fforwm ysgol gynnwys cynrychiolydd ysgol feithrin a gynhelir. Mae hyn i adlewyrchu'r ffaith bod ysgolion meithrin a gynhelir i gael cyllidebau dirprwyedig.

Mae Rheoliadau 21 a 22 yn gwneud darpariaeth drosiannol o ran arolygiadau ysgolion o ysgolion meithrin a gynhelir. Mae Rheoliad 23 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 1999 o ganlyniad i'r gofyniad i ysgolion meithrin a gynhelir gael cyrff llywodraethu.

(4)

1995 p.50. Mewnosodwyd adran 28D gan adran 14(1) o Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (p.10).

(5)

Cafodd y diffiniad o “proprietor” ei ddiwygio gan adran 140(1) o Ddeddf 1998 a pharagraff 183(a)(iii) o Atodlen 30 iddi.

(6)

Daw adran 20(1) o Ddeddf 2002 i rym ar 31 Hydref 2005, a diddymir adran 37(1) o Ddeddf 1998 ac Atodlen 12 iddi gan adran 215(2) o Ddeddf 2002, a Rhan 3 o Atodlen 22 iddi, ar 31 Hydref 2005, yn rhinwedd O.S. 2005/2910 (Cy.207) (C.124).

(8)

Daw adran 34 o Ddeddf 2002 i rym ar 31 Hydref 2005, a diddymir adran 44 o Ddeddf 1998 gan adran 215(2) o Ddeddf 2002, a Rhan 3 o Atodlen 22 iddi, ar 31 Hydref 2005, yn rhinwedd O.S. 2005/2910 (Cy.207) (C.124).

(10)

Daw adran 39 o Ddeddf 2002 i rym ar 31 Hydref 2005 yn rhinwedd O.S. 2005/2910 (Cy.207) (C.124).

(11)

Daw adrannau 19 a 20 o Ddeddf 2002 i rym ar 31 Hydref 2005 yn rhinwedd O.S. 2005/2910 (Cy.207) (C.124).

(13)

Daw paragraff 99 o Atodlen 21 i Ddeddf 2002 i rym ar 31 Hydref 2005 yn rhinwedd O.S. 2005/2910 (Cy.207) (C.124).

(14)

Daw paragraff 50 o Atodlen 21 i Ddeddf 2002 i rym ar 31 Hydref 2005 yn rhinwedd O.S. 2005/2910 (Cy.207) (C.124).

(21)

O.S. 1995/2089 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1997/2624, 2001/1109 (Cy. 53).

(22)

Daw adran 52(11) o Ddeddf 2002 i rym ar 31 Hydref 2005 yn rhinwedd O.S. 2005/2910 (Cy.207) (C.124).

(28)

O.S. 1998/1866 fel y'i diwygiwyd gan adran 73(1) a (3)(a) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21), O.S. 1999/1440, 2001/3710, 2004/784.

(29)

O.S. 1998/1866 fel y'i diwygiwyd gan adran 73(1) a (3)(a) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21), O.S. 1999/1440, 2001/3710, 2004/784.

(31)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources