Search Legislation

Gorchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu) 2005

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 3226 (Cy.238)

DATBLYGU ECONOMAIDD, CYMRU

Gorchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu) 2005

Wedi'i wneud

22 Tachwedd 2005

Yn dod i rym drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(1) ac Atodlen 4 iddi, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu) 2005 a daw i rym drannoeth y diwrnod y gwneir ef.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

mae i “aliwn” (“alien”) yr ystyr a roddir i “alien” gan adran 51(4) o Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981(2);

ystyr yr “Awdurdod” (theAgency”) yw Awdurdod Datblygu Cymru;

ystyr “cyflogai perthnasol” (“relevant employee”) yw unrhyw berson a oedd, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn cael ei gyflogi gan yr Awdurdod o dan gontract cyflogaeth;

ystyr y “Cynulliad” (theAssembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “Deddf 1975” (“1975 Act”) yw Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975(3); ac

ystyr “dyddiad trosglwyddo” (“transfer date”) yw 1 Ebrill 2006.

Trosglwyddo swyddogaethau, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r Awdurdod i'r Cynulliad

2.—(1Ar y dyddiad trosglwyddo mae swyddogaethau'r Awdurdod yn cael eu trosglwyddo i'r Cynulliad yn unol â darpariaethau Atodlenni 1 a 2 sy'n diwygio'r deddfiadau sy'n ymwneud â'r Awdurdod er mwyn—

(a)trosglwyddo ei swyddogaethau i'r Cynulliad, a

(b)gwneud darpariaeth sy'n ganlyniad i'r trosglwyddo neu'n atodol neu'n ategol iddo.

(2Ar y dyddiad trosglwyddo, trosglwyddir i'r Cynulliad a breinir ynddo yn rhinwedd y paragraff hwn yr holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau yr oedd yr Awdurdod â hawl iddynt neu yr oedd yn ddarostyngedig iddynt yn union cyn y dyddiad hwnnw.

(3Mae'r hawliau a'r rhwymedigaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) uchod yn cynnwys rhai sydd yn codi o dan gontract cyflogaeth a wnaed rhwng cyflogai perthnasol a'r Awdurdod.

(4Mae Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981(4) yn gymwys i drosglwyddo swyddogaethau'r Awdurdod i'r Cynulliad boed ar wahân i'r ddarpariaeth hon ai peidio, y byddai cyflawni'r swyddogaethau hyn yn cael eu trin fel ymgymeriad o natur fasnachol at ddibenion y Rheoliadau hynny.

(5Er gwaethaf unrhyw beth mewn unrhyw ran arall o'r Gorchymyn hwn neu yn Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981, os effaith yr erthygl hon yw bod person sydd yn aliwn yn dod yn aelod o staff y Cynulliad, nid yw adran 34(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 yn gymwys i gontract cyflogaeth y person hwnnw cyn y dyddiad trosglwyddo.

(6Mae tystysgrif a ddyroddwyd gan y Cynulliad bod unrhyw eiddo wedi'i drosglwyddo o dan baragraff (2) yn dystiolaeth bendant a diymwad o'r trosglwyddiad.

(7Mae paragraff (2) yn cael effaith mewn perthynas â'r eiddo, hawliau neu rwymedigaethau y mae yn gymwys iddynt er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth (o ba natur bynnag) a fyddai'n atal trosglwyddo'r eiddo, yr hawliau neu'r rhwymedigaethau neu'n cyfyngu ar eu trosglwyddo heblaw gan y paragraff hwnnw.

Darpariaethau trosiannol

3.—(1Nid oes dim yn erthygl 2 nac Atodlenni 1 a 2 yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth sydd wedi cael ei wneud gan yr Awdurdod neu mewn perthynas ag ef cyn bod ei swyddogaethau yn cael eu trosglwyddo.

(2Caniateir i unrhyw beth (gan gynnwys achos cyfreithiol) gael ei barhau gan y Cynulliad neu mewn perthynas â'r Cynulliad os yw—

(a)yn ymwneud ag unrhyw un o swyddogaethau'r Awdurdod neu ag unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau sy'n cael eu trosglwyddo o dan erthygl 2(2), a

(b)wrthi'n cael ei wneud gan yr Awdurdod neu mewn perthynas ag ef pan fo'r swyddogaethau a enwyd yn cael eu trosglwyddo.

(3Mae unrhyw beth—

(a)a wnaed gan yr Awdurdod at ddibenion unrhyw un o'i swyddogaethau neu mewn cysylltiad â'r swyddogaeth honno neu gan yr Awdurdod at ddibenion unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau sy'n cael eu trosglwyddo o dan erthygl 2(2) neu mewn cysylltiad â hwy, a

(b)sy'n effeithiol yn union cyn bod ei swyddogaethau yn cael eu trosglwyddo,

i gael effaith fel petai wedi'i wneud gan y Cynulliad, ac er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth bernir bod unrhyw orchmynion prynu gorfodol a wnaed gan yr Awdurdod mewn perthynas â thir yng Nghymru o dan adran 2(2) o Ddeddf Caffael Tir 1981(5) ac na chawsant eu cadarnhau cyn y dyddiad trosglwyddo yn orchmynion prynu gorfodol a wnaed mewn drafft gan y Cynulliad o dan y weithdrefn a nodir yn Atodlen 1 i'r Ddeddf honno.

(4Mae'r Cynulliad yn cael ei roi yn lle'r Awdurdod mewn unrhyw offerynnau, contractau neu achosion cyfreithiol sy'n ymwneud—

(a)ag unrhyw un o swyddogaethau'r Awdurdod, a

(b)ag unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau sy'n cael eu trosglwyddo o dan erthygl 2(2),

ac sydd wedi'u gwneud neu wedi'u cychwyn cyn i'w swyddogaethau gael eu trosglwyddo.

(5Caiff y Cynulliad—

(a)barhau i ddal eiddo a ddelir gan yr Awdurdod, a

(b)parhau i ymgymryd â gweithgareddau yr oedd yr awdurdod yn ymgymryd â hwy,

yn ddibynnol ar adran 21(2) o Ddeddf Diwydiant 1980(6).

(6Ar y dyddiad trosglwyddo, bydd rhwymedigaethau'r Awdurdod, y Cynulliad ac Archwilydd Cyffredinol Cymru y cyfeirir atynt isod a gynhywsir ym mharagraff 8 o Atodlen 3 (Darpariaethau ariannol a gweinyddol sy'n ymwneud â'r Awdurdod) i Ddeddf 1975 yn effeithiol o ran y flwyddyn ariannol 2005 i 2006 yn unig ond fel arall diddymir hwy—

(a)rhwymedigaeth yr Awdurdod o dan is-baragraff (1) i baratoi datganiad o gyfrif, gyda'r arbediad bod y rhwymedigaeth yn cael ei throsglwyddo i'r Cynulliad;

(b)rhwymedigaeth y Cynulliad o dan is-baragraff (3) i drosglwyddo'r datganiad o gyfrif i Archwilydd Cyffredinol Cymru; ac

(c)rhwymedigaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan is-baragraff (4) i archwilio ac ardystio'r datganiad o gyfrif a gosod copïau o'r datganiad o gyfrif gerbron y Cynulliad ynghyd ag adroddiad arno.

Lwfansau adeiladau diwydiannol

4.—(1Nid yw trosglwyddo eiddo oddi wrth yr Awdurdod i'r Cynulliad o dan y Gorchymyn hwn yn peri unrhyw lwfansau neu ffioedd o dan Ddeddf Lwfansau Cyfalafol 2001.

(2O ran yr eiddo a gynhwysir yn y trosglwyddo, at ddibenion cyfrifo lwfansau adeilad diwydiannol o dan y Ddeddf honno mae unrhyw beth a wneir i'r Awdurdod neu ganddo cyn y trosglwyddo i'w drin ar ôl y trosglwyddo fel pe bai wedi ei wneud i'r Cynulliad neu ganddo.

Diddymu

5.  Ar drosglwyddo ei swyddogaethau, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau i'r Cynulliad ar y dyddiad trosglwyddo yn unol ag erthygl 2, daw bodolaeth yr Awdurdod i ben.

Dirwyn i ben

6.  Rhaid i'r Awdurdod roi i'r Cynulliad yr holl wybodaeth a gwneud yr holl bethau eraill sy'n ymddangos i'r Cynulliad eu bod yn briodol er mwyn hwyluso trosglwyddo ei swyddogaethau i'r Cynulliad ac er mwyn hwyluso'i ddiddymiad yn unol â'r Gorchymyn hwn.

Diwygiadau i, diddymiadau a dirymiadau o ddeddfwriaeth bresennol

7.—(1Ar y dyddiad trosglwyddo—

(a)diwygir darpariaethau Deddf 1975 a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn unol â'r atodlen honno;

(b)diwygir y deddfiadau a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn unol â'r atodlen honno; ac

(c)diddymir neu dirymir y deddfiadau a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 2 o'r Gorchymyn hwn.

(2Mae'r diwygiadau, y diddymu a'r dirymu deddfiadau yn estyn i'r un gradd â'r deddfiad y'i diwygir, diddymir neu y'i dirymir.

Darpariaethau arbed

8.—(1Mae unrhyw ganiatâd cynllunio y bernir ei fod wedi'i roi yn rhinwedd adran 7 (Diddymu Corfforaeth Ystadau Diwydiannol Cymru) o Ddeddf 1975 yn parhau mewn grym er gwaethaf diddymiad yr adran honno.

(2Mae paragraff 7 o Atodlen 2 (Aelodau staff Corfforaeth Ystadau Diwydiannol Cymru) i Ddeddf 1975 yn parhau mewn grym o ran unrhyw aelod o staff yr Awdurdod y trosglwyddwyd eu cyflogaeth o'r Gorfforaeth Ystadau Diwydianol Cymru i gyflogaeth yr Awdurdod.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

22 Tachwedd 2005

Erthygl 7(1)

ATODLEN 1

Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975

1.  Mae Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 yn effeithiol yn ddarostyngedig i'r diwygiadau canlynol.

2.  Oni ddarperir fel arall yn y darpariaethau canlynol, ym mhob man y digwydd (gan gynnwys ym mhenawdau'r adrannau a'r atodlenni)—

(a)yn lle “Agency” rhodder “Assembly”; a

(b)yn lle “Agency's” rhodder “Assembly's”.

3.  Yn adran 1 (Awdurdod Datblygu Cymru)—

(1yn lle is-adran (1), rhodder—

(1) The functions specified in the following provisions of this Act are conferred upon the National Assembly for Wales (in this Act referred to as the “Assembly”).;

(2yn is-adrannau (2), (3)(j), (4), (6) (yn y lle cyntaf y digwydd), a (7)(l), yn lle “their” rhodder “its”;

(3yn is-adrannau (2) a (4) ar ôl “functions” rhodder “under this Act”;

(4yn is-adran (3), yn union o flaen “shall be” rhodder “under this Act”;

(5yn is-adran (7), ar ôl “have power” rhodder “in connection with its functions under this Act”;

(6ar ddiwedd is-adran (7)(m), mewnosoder “under this Act”;

(7hepgorer is-adrannau (8) i (13) a (15);

(8yn lle is-adran (14) rhodder—

(14) The Assembly shall, after consultation with such local authorities, National Park authorities and other bodies as appear to the Assembly to have an interest, from time to time prepare and publish programmes for the performance of such of its functions under this Act as it considers appropriate.; a

(9yn lle'r pennawd i adran 1 rhodder “Welsh development”.

4.  Hepgorer adran 2 (Cyfansoddiad a statws).

5.  Yn adran 4 (Pwerau ategol)—

(1ar ôl “power” rhodder “in connection with its functions under this Act”;

(2ym mharagraff (a), yn lle “their services as they think” rhodder “its services as it thinks”;

(3ym mharagraff (b) yn lle “them” rhodder “it” ac yn lle “of their” rhodder “such”; a

(4ym mharagraff (c) yn lle “their” rhodder “such”.

6.  Yn is-adran (1) o adran 5 (Cymorth i'r Awdurdod gan awdurdodau cyhoeddus a phersonau eraill) yn lle “their” rhodder “its”.

7.  Yn lle adran 6 (Y pŵer i ffurfio pwyllgorau) rhodder—

6.(1) The Assembly may establish such committees for giving advice to the Assembly about the discharge of any of its functions under this Act as it considers appropriate.

(2) The members of any such committee are to be appointed by the Assembly and may be either members of the Assembly or persons who are not members..

8.  Hepgorer adran 7 (Diddymu Corfforaeth Ystadau Diwydiannol Cymru).

9.  Hepgorer adran 8 (Trosglwyddo tir a ddelir o dan Ddeddf Cyflogaeth Leol 1972 i'r Awdurdod).

10.  Yn adran 9 (Darparu safleoedd a mangreoedd ar gyfer diwydiant)—

(1hepgorer is-adran (1);

(2yn is-adran (2), yn lle “For that purpose” rhodder “For the purpose of providing or managing sites and premises for businesses and providing related facilities, or making land available for development”; a

(3yn lle is-adran (3), rhodder—

(3) The Assembly may, if it considers there are circumstances which justify the giving of special assistance, provide premises for the occupation of a business free of rent for such time as it thinks appropriate.

11.  Yn adran 10 (Gwasanaethau, etc ar gyfer datblygu diwydiant), yn lle “Secretary of State may authorise the Agency to” rhodder “Assembly may” ac yn lle “him” rhodder “it”.

12.  Hepgorer adran 10A (Cymorth ariannol ar gyfer adfywio a datblygu).

13.  Yn adran 13 (Bwrdd Ymgynghorol Datblygu Diwydiant Cymru)—

(1yn is-adran (1)—

(a)yn lle “Secretary of State” rhodder “Assembly”,

(b)yn lle “him” rhodder “it”, ac

(c)yn lle “his” rhodder “its”;

(2yn is-adran (3), yn lle “Secretary of State” rhodder “Assembly”; a

(3yn lle is-adran (4) rhodder—

(4) If the Board make a recommendation with respect to any matter at the request of the Assembly and the Assembly exercises its functions under section 7 of the Industrial Development Act 1982 contrary to their recommendation, it shall, if the Board so request, publish a statement as to the matter..

14.  Hepgorer adran 14 (Trosglwyddo eiddo dan berchnogaeth cyhoeddus i'r Awdurdod).

15.  Yn lle adran 15 (Yr amgylchedd) rhodder—

15.(1) The Assembly’s duty under section 1(14) above to prepare and publish, after consultation with such local authorities, National Park authorities and other bodies as appear to the Assembly to have an interest, programmes for the performance of the Assembly’s functions under this Act, includes in particular a duty to prepare and publish programmes, to be implemented either by the Assembly itself, or by the Assembly acting jointly with any other authority or person, or through persons or authorities acting on behalf of the Assembly, for the improvement, development or redevelopment of the environment in Wales.

(2) The Assembly may make payments to any authority or person of such amount and in such manner as it may determine for carrying out work which the Assembly considers will contribute to the purposes of such a programme..

16.  Yn adran 16 (Tir diffaith)—

(1yn is-adran (1), yn y geriau olaf, yn lle “they may, with the consent of the Secretary of State,” rhodder “it may”;

(2yn is-adran (3), ym mharagraff (a) yn lle “they” rhodder “it” ac yn y geiriau olaf yn yr is-adran yn lle “on them” rhodder “on it”;

(3yn is-adran (6), yn lle “Secretary of State with the consent of the Treasury” rhodder “Assembly”; a

(4yn lle is-adran (8) rhodder—

(8) A statutory instrument containing an order under subsection (6) above may make such transitional provision as appears to the Assembly to be necessary or expedient..

17.  Hepgorer adran 17 (Dyletswyddau ariannol yr Awdurdod).

18.  Yn adran 18 (Cyllid yr Awdurdod)—

(1hepgorer is-adrannau (2) i (5), a

(2yn lle'r pennawd rhodder “Borrowing and guarantees”.

19.  Hepgorer adran 19 (Yr Awdurdod a'r cyfryngau).

20.  Hepgorer adran 20 (Terfynau eraill ar bwerau'r Awdurdod).

21.  Hepgorer adran 21 (Treuliau).

22.  Yn lle adran 21A (Pwerau caffael tir) rhodder—

21A(1) The powers to acquire land mentioned in sections 1(7)(h) and 16(3)(b) above are powers—

(a)to acquire land by agreement;

(b)in relation to land in Wales, to acquire land compulsorily; and

(c)in relation to land in England, to acquire land compulsorily if authorised to do so by the Secretary of State.

(2) Where the Assembly acquires or has acquired land under subsection (1) above, it has power—

(a)to acquire by agreement,

(b)in relation to land in Wales, to acquire compulsorily, and

(c)in relation to land in England, if authorised to do so by the Secretary of State, to acquire compulsorily,

the land described in subsection (2A) below.

(2A) The land is—

(a)any land which adjoins the land which the Assembly acquires or has acquired under subsection (1) and which is required for the purpose of executing works for facilitating its development or use; and

(b)where the land which the Assembly acquires or has acquired under subsection (1) forms part of a common, an open space or a fuel or field garden allotment, any land required for the purpose of being given in exchange for it.

(3) The Assembly may under subsection (1) above acquire rights over land by the creation of new rights (as well as by acquiring rights already in existence).

(4) Before the Assembly acquires land under subsection (1) for the purpose of its function under section 1(3)(da) above, it shall—

(a)consider whether the land would or would not in its opinion be made available for development if it did not act;

(b)consider the fact that planning permission has or has not been granted in respect of the land or is likely or unlikely to be granted;

(c)(in the case where no planning permission has been granted in respect of the land) consult every relevant local authority; and

(d)consider the needs of those engaged in building, agriculture and forestry and of the community in general.

(5) For the purposes of subsection (4)(c) above, each of the following is a relevant local authority—

(a)the council of any county, county borough or district in whose area the land, or any part of the land, is situated;

(b)any joint planning board in whose district the land, or any part of the land, is situated; and

(c)any National Park authority which is the local planning authority for a National Park in which the land, or any part of the land, is situated.

(6) Where the Assembly has acquired land under subsection (1) above for the purpose of any of its functions under this Act it may appropriate it to the purpose of any of its other functions under this Act.

(7) Where the Assembly has—

(a)acquired land under subsection (1) above for the purposes of its function under section 1(3)(da) above; or

(b)under subsection (6) above has appropriated land to that purpose,

it shall, until it either disposes of the land or appropriates the land under subsection (6) above to the purpose of any of its other functions under this Act, manage the land and turn it to account.

(8) Schedule 4 to this Act shall have effect.

23.  Ym mharagraff (b) o adran 21B (Gwaredu tir), yn lle “with the consent of the Secretary of State” rhodder “otherwise as it considers appropriate”.

24.  Yn adran 21C (Pwerau i gynghori ar faterion tir), yn is-adran (2)—

(a)hepgorer paragraff (b); a

(b)ym mharagraff (i), yn lle “Secretary of State” rhodder “Assembly”.

25.  Hepgorer adran 24 (Y pŵer i gael gwybodaeth).

26.  Hepgorer adran 25 (Cyflwyno dogfennau).

27.  Yn adran 27 (Dehongli)—

(1yn is-adran (1), hepgorer y diffiniad o “accounting year”; a

(2hepgorer is-adran (2).

28.  Yn adran 28 (Gorchmynion a rheoliadau), hepgorer is-adran (1A).

29.  Yn adran 29 (Enwi etc), yn is-adran (3), hepgorer “and paragraphs 13 and 21 of Schedule 1 below” ac yn lle “extend” rhodder “extends”.

30.  Hepgorer Atodlen 1 (Awdurdod Datblygu Cymru).

31.  Hepgorer Atodlen 2 (Aelodau a staff Corfforaeth Ystadau Diwydiannol Cymru).

32.  Yn Atodlen 3 (Darpariaethau ariannol a gweinyddol sy'n ymwneud â'r Awdurdod)—

(1hepgorer paragraffau 1, 2, 4, 7, 8 a 9 a'r penawdau i baragraffau 1, 4, 7, 8 a 9;

(2yn lle paragraff 3 rhodder—

(3) For the purpose of exercising its functions under this Act, the Assembly may borrow money from any person (including its wholly owned subsidiaries), but any borrowing in a currency other than sterling requires the approval of the Treasury.;

(3yn lle paragraff 5 rhodder—

(5) It is the duty of the Assembly to secure that none of its wholly owned subsidiaries formed in pursuance of the exercise of the Assembly’s functions under this Act borrows money otherwise than from the Assembly or from another wholly owned subsidiary of the Assembly, except with the Assembly’s consent.;

(4ym mharagraff 6(1), yn lle “borrow from a person other than the Secretary of State” rhodder “borrows in connection with its functions under this Act”; a

(5yn lle'r pennawd i'r atodlen, rhodder “Borrowing and guarantees”.

33.  Yn Atodlen 4 (Caffael Tir)—

(1yn lle paragraff 1 rhodder—

1(1) The Acquisition of Land Act 1981 (referred to in this Schedule as “the 1981 Act”) applies in relation to the compulsory acquisition of land under section 21A above subject to the modifications made by the following provisions of this Part.

(2) Notwithstanding section 2 of the 1981 Act—

(a)Schedule 1 to the 1981 Act applies only in relation to a compulsory acquisition of land under section 21A(1)(b) or (2)(b) above; and

(b)Part 2 of the 1981 Act applies in relation to a compulsory acquisition of land made under section 21A(1)(c) or (2)(c) above as if the Assembly were an acquiring authority and the Secretary of State were the confirming authority for the purposes of that Part.

1A(1) Where a compulsory purchase order is prepared in draft by the Assembly under section 21A(1)(b) or (2)(b) above—

(a)a notice under paragraph 3 of Schedule 1 to the 1981 Act (notice to owners, lessees and occupiers) shall be served on every relevant local authority;

(b)each relevant local authority has a right to object in accordance with the notice; and

(c)the references in paragraphs 4 and 4A of Schedule 1 to that Act to relevant objections include references to an objection made by any relevant local authority.;

(2ym mharagraff 3—

(a)ar ddiwedd geiriau agoriadol is-baragraff (1) mewnosoder “under section 21A(1)(c) or (2)(c) above”,

(b)yn is-baragraff (1)(a) yn lle “Acquisition of Land Act 1981” rhodder “1981 Act”, ac

(c)hepgorer is-baragraff (2);

(3ar ôl paragraff 3 mewnosoder paragraff 3A newydd—

3A  For the purposes of paragraphs 1A and 3 above, each of the following is a relevant local authority—

(a)the council of any county, county borough or district in whose area the land, or any part of the land, is situated;

(b)any joint planning board in whose district the land, or any part of the land, is situated; and

(c)any National Park authority which is the local planning authority for a National Park in which the land, or any part of the land, is situated.;

(4ym mharagraff 7—

(a)yn is-baragraff (3), yn y geiriau ar ôl paragraff (b) hepgorer “by the Secretary of State”,

(b)ar ôl is-baragraff (3) ychwaneger is-baragraff (3A) newydd fel a ganlyn—

(3A) Regulations for the purposes of this paragraph are to be made by—

(a)the Assembly, in relation to land in Wales; and

(b)the Secretary of State, in relation to land in England.,

(c)yn is-baragraff (5), o flaen “the Secretary of State” bob tro y mae'n digwydd, mewnosoder “the Assembly or”, ac

(ch)yn is-baragraff (8)(c), yn lle “the Secretary of State” rhodder “the Assembly, in relation to land in Wales, or by the Secretary of State, in relation to land in England,”;

(5ym mharagraff 11—

(a)mewnosoder is-baragraff (4A) newydd—

(4A) If a counter-notice is served under sub-paragraph (3) above in relation to rights over, or apparatus on, land in Wales, the Assembly may either—

(a)withdraw the notice (but without prejudice to the service of a further notice); or

(b)invite the appropriate Minister to make an order jointly with the Assembly under this sub-paragraph embodying the provisions of the notice with or without modification., a

(b)yn is-baragraff (5) ar ôl “above” mewnosoder “in relation to rights over, or apparatus on, land in England”;

(6ym mharagraff 12—

(a)yn is-baragraff (1)—

(i)cyn “(5)” mewnosoder “(4A) or”; a

(ii)yn lle “Ministers” rhodder “appropriate Minister and the Assembly, or the Ministers proposing to make the order, as the case may be”; a

(b)yn lle paragraff (b) o is-baragraff (1) rhodder—

(b)if any objection is made, shall consider the objection and afford to—

(i)the statutory undertakers and the Assembly, in the case of an order under sub-paragraph (4A) of paragraph 11 above, or

(ii)the statutory undertakers, in the case of an order under sub-paragraph (5) of paragraph 11 above,

an opportunity of appearing before, and being heard by, a person appointed for the purpose by the Assembly and the appropriate Minister, or the Secretary of State and the appropriate Minister, as the case may be.;

(c)yn is-baragraff (2), yn lle “Ministers” rhodder “appropriate Minister and the Assembly, or the Ministers proposing to make the order, as the case may be,”;

(ch)yng ngeiriau agoriadol is-baragraff (3), cyn “11(5)” mewnosoder “11(4A) or”; a

(d)ym mharagraff (b) o is-baragraff (3), yn lle “they think” rhodder “it thinks”;

(7ym mharagraff 13—

(a)yn lle paragraff (b) o is-baragraff (6) rhodder—

(b)in relation to apparatus—

(i)in, on, over or under land in Wales requiring removal or re-siting, apply to the Assembly and the appropriate Minister for an order under this sub-paragraph conferring on the undertakers the rights claimed in the notice or such modified rights as the Assembly and the appropriate Minister think it appropriate to confer on them; and

(ii)in, on, over or under land in England requiring removal or re-siting, apply to the Secretary of State and the appropriate Minister for an order under this sub-paragraph conferring on the undertakers the rights claimed in the notice or such modified rights as the Secretary of State and the appropriate Minister think it appropriate to confer on them.;

(b)yn is-baragraffau (7) ac (8), yn lle “an order of Ministers made under it”, rhodder “an order made under it by the Assembly and the appropriate Minister, or by the Ministers, as the case may be,”; ac

(c)ar ôl is-baragraff (8) mewnosoder—

(8A) References in this paragraph to the Assembly and the appropriate Minister are, if the appropriate Minister is the Assembly, to be construed as references to the Assembly alone.;

(8ym mharagraff 15—

(a)yn is-baragraff (3), hepgorer “or the Secretary of State” , a

(b)yn is-baragraff (4), yn lle “Secretary of State” rhodder “Assembly”;

(9ym mharagraff 16, yn lle “Secretary of State” rhodder “Assembly, in relation to a house in Wales, or the Secretary of State in relation to a house in England,”;

(10hepgorer paragraff 17;

(11ym mharagraff 18(1), o flaen “relating to land” mewnosoder “under this Act” ac yn lle “they” rhodder “it”;

(12ym mharagraff 19—

(a)yn lle “Secretary of State” ym mharagraff (a) a pharagraff (b) o is-baragraff (1) rhodder “Assembly”;

(b)yn is-baragraff 1(a), yn lle “their functions” rhodder “its functions under this Act”; ac

(c)yn is-baragraff (3), hepgorer “, or the Secretary of State (if it was granted by him),”;

(13yn lle paragraff 20 rhodder—

20(1) The Assembly may make regulations for prescribing the form of any document required or authorised by or under this Schedule which relates to land in Wales.

(2) The Secretary of State may make regulations for prescribing the form of any document required or authorised by or under this Schedule which relates to land in England.;

(14ym mharagraff 21, ar ôl “under” mewnosoder “part 2 of”; a

(15ym mharagraff 22, yn is-baragraff (1), mewnosoder ar ôl “Crown land” y geiriau “if the appropriate Minister is the Assembly or, otherwise,”.

Erthygl 7(1)

ATODLEN 2

RHAN 1

Deddfwriaeth Sylfaenol:

Deddf Landlord a Thenant 1954 (p.56)

1.  Yn Neddf Landlord a Thenant 1954—

(1yn is-adran (1A)(a) o adran 59 (Iawndal am arfer pwerau o dan adrannau 57 a 58), ar ôl “Welsh Development Agency Act 1975,” mewnosoder “and were transferred to the National Assembly for Wales by virtue of the Welsh Development Agency (Transfer of Functions to the National Assembly for Wales and Abolition) Order 2005.”;

(2yn lle is-adran (1A)(b) o adran 59 rhodder—

(b)the tenant was not the tenant of the premises when the interest by virtue of which the certificate was given was acquired by the Welsh Development Agency or, if the interest was acquired on or after 1 April 2006, by the National Assembly for Wales in exercise of functions transferred to it by the Welsh Development Agency (Transfer of Functions to the National Assembly for Wales and Abolition) Order 2005;

(3yn is-adran (1) o adran 60A (Mangreoedd Awdurdod Datblygu Cymru), yn lle “Welsh Development Agency is the landlord, and the Secretary of State” rhodder “National Assembly for Wales is the landlord by virtue of the Welsh Development Agency (Transfer of Functions to the National Assembly for Wales and Abolition) Order 2005 or by virtue of the Assembly exercising its powers under that Order, and the Assembly”; a

(4yn adran 60A(2) yn lle “Secretary of State” rhodder “National Assembly for Wales”.

Deddf Cyrff Cyhoeddus (Derbyn i Gyfarfodydd) 1960 (p.67)

2.  Yn Neddf Cyrff Cyhoeddus (Derbyn i Gyfarfodydd) 1960, ym mharagraff 1 o'r atodlen (Cyrff y mae'r Ddeddf hon yn gymwys iddynt) hepgorer paragraff (ba).

Deddf Iawndal Tir 1961 (p.33)

3.  Yn Neddf Iawndal Tir 1961, yn is-adran (3)(za) o adran 23 (Iawndal pan wneir y penderfyniad cynllunio ar ôl caffael), yn lle “Welsh Development Agency Act 1975 (acquisitions by Welsh Development Agency)” rhodder “Welsh Development Agency Act 1975 (Powers of land acquisition)”.

Deddf Cyllid 1969 (p.32)

4.  Yn Neddf Cyllid 1969, yn adran 58 (Datgelu gwybodaeth at ddibenion ystadegol gan Fwrdd Cyllid y Wlad), yn y tabl yn is-adran (4), yn y golofn gyntaf (“Body”), yn lle “The Welsh Development Agency” rhodder “The National Assembly for Wales”.

Deddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 (p.50)

5.  Yn adran 4 (Cael a datgelu gwybodaeth gan y Comisiwn ac asiantaethau etc) o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973—

(1yn is-adran (3)(e)(ii), hepgorer “the Welsh Development Agency”;

(2yn is-adran (3)(e), ar ôl is-baragraff (ii) ychwaneger—

(iii)an officer of the National Assembly for Wales who is authorised by that body to receive the information for the purposes of its functions under the Welsh Development Agency Act 1975;

(3yn is-adran (5)(dd)—

(a)yn lle “Welsh Development Agency” rhodder “National Assembly for Wales”, a

(b)yn lle “conferred on that Agency by the Welsh Development Agency Act 1975;” rhodder “conferred on that body by the Welsh Development Agency Act 1975;”.

Deddf Anghymhwyso o Dŷ'r Cyffredin 1975 (p.24)

6.  Yn Neddf Anghymhwyso o Dŷ'r Cyffredin 1975, yn Rhan 2 o Atodlen 1 (Swyddi sy'n anghymhwyso ar gyfer aelodaeth), hepgorer “The Welsh Development Agency.”.

Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (p.74)

7.  Yn Neddf Cysylltiadau Hiliol 1976, yn Rhan 2 o Atodlen 1A (Cyrff a phersonau eraill sy'n ddarostyngedig i ddyletswydd statudol gyffredinol), hepgorer “The Welsh Development Agency.”.

Deddf Diwydiant 1980 (p.33)

8.  Yn Neddf Diwydiant 1980—

(1hepgorer adran 2 (Trosglwyddo eiddo i'r Ysgrifennydd Gwladol); a

(2hepgorer adran 2A (Treth dir toll stampiau).

Deddf Caffael Tir 1981(p.67)

9.  Yn Neddf Caffael Tir 1981—

(1yn is-adran (3) o adran 17 (Tir awdurdod lleol ac ymgymerwyr statudol), hepgorer “the Welsh Development Agency”; a

(2yn Atodlen 3 (Caffael hawliau dros dir wrth greu hawliau newydd), ym mharagraff 4(3), hepgorer “, the Welsh Development Agency”.

Deddf Cyllid 1996 (p.8)

10.  Yn adran 43A (Tir halogedig) o Ddeddf Cyllid 1996—

(1yn is-adran (5)(h), hepgorer “the Welsh Development Agency”; a

(2yn is-adran (6), hepgorer y diffiniad o “the Welsh Development Agency”.

Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)

11.  Yn Neddf Llywodraeth Cymru 1998 hepgorer adrannau 132 (Dirwyn i ben) a 138 (Dirwyn i ben).

Deddf Safonau Gofal 2000 (p.14)

12.  Yn Neddf Safonau Gofal 2000, yn Atodlen 2A (Personau sy'n destun adolygiad gan y Comisiynydd o dan Adran 72B), hepgorer paragraff 22.

Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p.36)

13.  Yn Neddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, yn Rhan 6 o Atodlen 1 (Awdurdodau cyhoeddus), hepgorer “The Welsh Development Agency”.

Deddf Cyllid 2003 (p.14)

14.  Yn Neddf Cyllid 2003, yn Atodlen 9 (Treth dir toll stampiau: hawl i brynu, perchnogaeth lesoedd a rennir), ym mharagraff 1(3) o dan y pennawd “New towns and development corporations”, hepgorer “The Welsh Development Agency”.

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (p.10)

15.  Yn Neddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005, yn Atodlen 3 (Awdurdodau rhestredig), hepgorer “The Welsh Development Agency.”.

Is-ddeddfwriaeth:

Gorchymyn y Weinyddiaeth Datblygu mewn Gwledydd Tramor (Diddymu) Gorchymyn 1979 (O.S. 1979/1451)

1.  Yng Ngorchymyn y Weinyddiaeth Datblygu mewn Gwledydd Tramor (Diddymu) 1979, yn Atodlen 2, hepgorer paragraff 5.

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1996 (O.S. 1996/1898)

2.  Yng Ngorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1996, yn yr atodlen, hepgorer “Welsh Development Agency” ac “Awdurdod Datblygu Cymru”.

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999(O.S. 1999/672)

3.  Yng Ngorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, yn Atodlen 1 yn yr eitem ar gyfer Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975—

(a)yn y frawddeg gyntaf (sy'n dilyn enw'r Ddeddf) hepgorer y geiriau “the functions of the Treasury under paragraph 4 of Schedule 3 and”,

(b)hepgorer yr ail frawddeg (sy'n cychwyn “The Treasury approval requirements under paragraphs 1(2) etc”), ac

(c)ac eithrio at ddibenion y datganiad o gyfrif ar gyfer y flwyddyn ariannol 2005 i 2006 y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 3(6) o'r Gorchymyn hwn, hepgorer y bedwaredd frawddeg (sy'n cychwyn “The functions of the Comptroller and Auditor General etc”).

Gorchymyn Taliadau Dileu Swyddi (Parhau Cyflogaeth mewn Llywodraeth Leol, etc) (Addasiad) 1999 (O.S. 1999/2277)

4.  Yng Ngorchymyn Taliadau Dileu Swyddi (Parhau Cyflogaeth mewn Llywodraeth Leol, etc) (Addasiad) 1999, ym mharagraff 23 o Atodlen 1 o dan “Section 2— Planning and Development”, hepgorer “The Welsh Development Agency”.

Gorchymyn Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (Dyletswyddau Statudol) 2001 (O.S. 2001/3458)

5.  Yng Ngorchymyn Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (Dyletswyddau Statudol) 2000, yn Atodlen 1, hepgorer “the Welsh Development Agency”.

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymwyso) 2003 (O.S. 2003/437)

6.  Yng Ngorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymwyso) 2003, yn Rhan 2 o'r atodlen, hepgorer “Any member, not being also an employee, of the Welsh Development Agency”.

Rheoliadau Deddf Landlord and Thenant 1954, Rhan 2 (Hysbysiadau. 2004 (O.S. 2004/1005)

7.  Yn Rheoliadau Deddf Landlord a Thenant 1954, Rhan 2 (Hysbysiadau) 2004—

(1yn y tabl yn Atodlen 1, yn yr ail golofn wrth ymyl y Rhif au 16 and 17, ar ôl “Welsh Development Agency” mewnosoder “Act 1975”; a

(2yn Atodlen 2, yn ffurflenni 16 ac 17—

(a)yn y pennawdau i'r ffurflenni ar ôl “Welsh Development Agency” mewnosoder “Act 1975”,

(b)ym mharagraff 4(a) o'r nodiadau i ffurflen 16 ac ym mharagraff 11(a) o'r nodiadau i ffurflen 17, ar ôl “Welsh Development Agency Act 1975” mewnosoder “and were transferred to the National Assembly for Wales by virtue of the Welsh Development Agency (Transfer of Functions to the National Assembly for Wales and Abolition) Order 2005.”, ac

(c)yn lle paragraff 4(b) o'r nodiadau i ffurflen 16 ac yn lle paragraff 11(b) o'r nodiadau i ffurflen 17, rhodder—

  • you were not the tenant of the premises when the interest by virtue of which the certificate referred to in paragraph 3 of this notice was given was acquired by the Welsh Development Agency or, if the interest was acquired on or after 1 April 2006, by the National Assembly for Wales in exercise of functions transferred to it by the Welsh Development Agency (Transfer of Functions to the National Assembly for Wales and Abolition) Order 2005.

RHAN 2

Diddymiadau a Dirymiadau

Diddymir Deddf Diwydiant 1981 (p.6).

Dirymir y canlynol—

1.  Rheoliadau Awdurdod Datblygu Cymru (Iawndal) 1976 (O.S. 1976/2107).

2.  Rheoliadau Cynyddu Pensiynau (Awdurdod Datblygu Cymru) 1978 (O.S. 1978/211).

3.  Gorchymyn Awdurdod Tir Cymru (Trosglwyddo Staff) 1998 (O.S. 1998/2194).

4.  Gorchymyn Bwrdd Datblygu Cymru Wledig (Trosglwyddo Staff) 1998 (O.S. 1998/2195).

5.  Gorchmyn Awdurdod Datblygu Cymru (Aelodaeth) 1998 (O.S. 1998/2490).

6.  Gorchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Terfyn Ariannol) 2000 (O.S. 2000/1147 (Cy.82)).

7.  Gorchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Terfyn Ariannol) 2004 (O.S. 2004/1826 (Cy.202)).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 yn rhoi pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (y “Cynulliad”) i ddiwygio cyrff cyhoeddus penodol yng Nghymru a restrir yn Atodlen 4 i'r Ddeddf honno. Mae'r adran yn cynnwys y pŵer i drosglwyddo swyddogaethau ac i ddiddymu'r cyrff hynny pan fo'u holl swyddogaethau wedi'u trosglwyddo.

Mae'r Gorchymyn hwn yn trosglwyddo swyddogaethau, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Awdurdod Datblygu Cymru (yr “Awdurdod”) i'r Cynulliad, yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff o'r Awdurdod i'r Cynulliad ac yn gwneud darpariaethau canlyniadol, cysylltiedig, trosiannol ac atodol priodol. Mae hefyd yn diddymu'r Awdurdod.

Mae erthygl 2 yn darparu ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau'r Awdurdod i'r Cynulliad ar 1 Ebrill 2006. Mae'r erthygl hon yn darparu hefyd ar gyfer trosglwyddo staff, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r Awdurdod i'r Cynulliad. Mae'r rhain yn cynnwys, pan fo hynny'n berthnasol, hawliau a rhwymedigethau a drosglwyddwyd i'r Awdurdod oddi wrth Gorfforaeth Ystadau Diwydiannol Cymru o dan adran 7 o Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru (p.70) (“Deddf 1975”) a'r tir (a'r hawliau a'r rhwymedigaethau ynglŷn ag ef) a ddaliwyd o dan Ddeddf Cyflogaeth Leol 1972 (p.5) a drosglwyddwyd i'r Awdurdod o dan adran 8 o Ddeddf 1975. Trosglwyddir staff ar sail yr egwyddorion a sefydlwyd gan Reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981 (OS 1981/1794).

Mae erthygl 3 yn gwneud darpariaethau trosiannol penodol ynglŷn â'r eiddo, yr hawliau a'r rhwymedigaethau ac ar gyfer rhoi'r Cynulliad yn lle'r Awdurdod ym mhob offeryn, contract neu achos cyfreithiol perthnasol.

Mae hefyd yn daparu bod adroddiad o gyfrif yr Awdurdod ar gyfer y flwyddyn ariannol 2005-2006 i'w baratoi gan y Cynulliad. Rhaid anfon yr adroddiad o gyfrif ar gyfer 2005-2006 at Archwilydd Cyffredinol Cymru a'i osod wedyn gerbron y Cynulliad ynghyd ag adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn y dull arferol.

Mae erthygl 4 yn gwneud darpariaeth er mwyn sicrhau fod effaith trosglwyddo eiddo'r Awdurdod i'r Cynulliad yn niwtral yn nhermau cyfrifo lwfansau adeiladau diwydiannol o dan Ddeddf Lwfansau Cyfalafol 2001.

Mae erthygl 5 yn darparu bod yr Awdurdod yn cael ei ddiddymu ar ôl i swyddogaethau, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r Awdurdod gael eu trosglwyddo i'r Cynulliad.

Mae erthygl 6 yn gweud darpariaeth ffurfiol i adlewyrchu cydweithio rhwng y Cynulliad a'r Awdurdod er mwyn hwyluso trosglwyddiad y swyddogaethau.

Mae erthygl 7 yn dwyn i rym ar 1 Ebrill 2006 Atodlenni 1 a 2 i'r Gorchymyn, sy'n diwygio deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth o ganlyniad i drosglwyddo swyddogaethau a diddymu'r Awdurdod ac yn gysylltiedig â hynny. I Ddeddf 1975 y gwneir y newidiadau mwyaf sylweddol.

Mae gorchmynion prynu gorfodol a wnaed gan y Cynulliad o dan bwerau a geir yn Neddf 1975 yn cael eu rhannu'n ddau gategori. Os yng Nghymru y mae'r tir, y gweithdrefnau i'w dilyn yw'r rhai yn Atodlen 1 i Ddeddf Caffael Tir 1981. Os yn Lloegr (ond er gwatha hynny dal yn berthnasol i swyddogaethau'r Cynulliad o dan y Ddeddf) y mae'r tir, y weithdrefn i'w dilyn yw'r un a geir yn Rhan 2 o Ddeddf Caffael Tir 1981, ac mae hyn yn adlewyrchu'r gofyniad i gael cydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol yn achos tir yn Lloegr.

Lle y bo hynny'n briodol, mae cyfeririadau at swyddogaethau'r “Ysgrifennydd Gwladol” wedi'u newid i fod yn swyddogaethau'r “Cynulliad” ar wyneb Deddf 1975 er mwyn adlewyrchu effaith Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672).

Fodd bynnag, mewn cysylltiad ag arfer unrhyw un neu rai o'i swyddogaethau gan y Cynulliad, mae cyfeiriadau at un o Weinidogion y Goron neu at adran lywodraeth mewn deddfiadau eraill yn parhau i gael eu dehongli, lle y bo'n angenrheidiol, fel cyfeiriadau at y Cynulliad neu gyfeiriadau'n cynnwys y Cynulliad yn unol ag adran 43 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.

Mae erthygl 8 yn gweud darpariaethau arbed o ran unrhyw ganiatâd cynllunio y bernir ei fod wedi'i roi yn rhinwedd adran 7 o Ddeddf 1975 ar gyfer tir a drosglwyddwyd i'r Awdurdod oddi wrth Gorfforaeth Ystadau Diwydiannol Cymru ac ar gyfer dilyniant cyflogaeth o unrhyw aelod o staff yr Awdurdod y trosglwyddwyd eu cyflogaeth yn wreiddiol oddi wrth y Gorfforaeth honno o dan yr adran honno.

(4)

O.S. 1981/1794, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Diwygio'r Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993 (p.19), gan Ddeddf Gwaith Dociau 1989 (p.13) a chan Offerynnau Statudol 1987/442, 1995/2587, 1998/1658, 1999/1925, 1999/2402 a 1999/2587.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources