Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 yn rhoi pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (y “Cynulliad”) i ddiwygio cyrff cyhoeddus penodol yng Nghymru a restrir yn Atodlen 4 i'r Ddeddf honno. Mae'r adran yn cynnwys y pŵer i drosglwyddo swyddogaethau ac i ddiddymu'r cyrff hynny pan fo'u holl swyddogaethau wedi'u trosglwyddo.

Mae'r Gorchymyn hwn yn trosglwyddo swyddogaethau, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Awdurdod Datblygu Cymru (yr “Awdurdod”) i'r Cynulliad, yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff o'r Awdurdod i'r Cynulliad ac yn gwneud darpariaethau canlyniadol, cysylltiedig, trosiannol ac atodol priodol. Mae hefyd yn diddymu'r Awdurdod.

Mae erthygl 2 yn darparu ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau'r Awdurdod i'r Cynulliad ar 1 Ebrill 2006. Mae'r erthygl hon yn darparu hefyd ar gyfer trosglwyddo staff, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r Awdurdod i'r Cynulliad. Mae'r rhain yn cynnwys, pan fo hynny'n berthnasol, hawliau a rhwymedigethau a drosglwyddwyd i'r Awdurdod oddi wrth Gorfforaeth Ystadau Diwydiannol Cymru o dan adran 7 o Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru (p.70) (“Deddf 1975”) a'r tir (a'r hawliau a'r rhwymedigaethau ynglŷn ag ef) a ddaliwyd o dan Ddeddf Cyflogaeth Leol 1972 (p.5) a drosglwyddwyd i'r Awdurdod o dan adran 8 o Ddeddf 1975. Trosglwyddir staff ar sail yr egwyddorion a sefydlwyd gan Reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981 (OS 1981/1794).

Mae erthygl 3 yn gwneud darpariaethau trosiannol penodol ynglŷn â'r eiddo, yr hawliau a'r rhwymedigaethau ac ar gyfer rhoi'r Cynulliad yn lle'r Awdurdod ym mhob offeryn, contract neu achos cyfreithiol perthnasol.

Mae hefyd yn daparu bod adroddiad o gyfrif yr Awdurdod ar gyfer y flwyddyn ariannol 2005-2006 i'w baratoi gan y Cynulliad. Rhaid anfon yr adroddiad o gyfrif ar gyfer 2005-2006 at Archwilydd Cyffredinol Cymru a'i osod wedyn gerbron y Cynulliad ynghyd ag adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn y dull arferol.

Mae erthygl 4 yn gwneud darpariaeth er mwyn sicrhau fod effaith trosglwyddo eiddo'r Awdurdod i'r Cynulliad yn niwtral yn nhermau cyfrifo lwfansau adeiladau diwydiannol o dan Ddeddf Lwfansau Cyfalafol 2001.

Mae erthygl 5 yn darparu bod yr Awdurdod yn cael ei ddiddymu ar ôl i swyddogaethau, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r Awdurdod gael eu trosglwyddo i'r Cynulliad.

Mae erthygl 6 yn gweud darpariaeth ffurfiol i adlewyrchu cydweithio rhwng y Cynulliad a'r Awdurdod er mwyn hwyluso trosglwyddiad y swyddogaethau.

Mae erthygl 7 yn dwyn i rym ar 1 Ebrill 2006 Atodlenni 1 a 2 i'r Gorchymyn, sy'n diwygio deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth o ganlyniad i drosglwyddo swyddogaethau a diddymu'r Awdurdod ac yn gysylltiedig â hynny. I Ddeddf 1975 y gwneir y newidiadau mwyaf sylweddol.

Mae gorchmynion prynu gorfodol a wnaed gan y Cynulliad o dan bwerau a geir yn Neddf 1975 yn cael eu rhannu'n ddau gategori. Os yng Nghymru y mae'r tir, y gweithdrefnau i'w dilyn yw'r rhai yn Atodlen 1 i Ddeddf Caffael Tir 1981. Os yn Lloegr (ond er gwatha hynny dal yn berthnasol i swyddogaethau'r Cynulliad o dan y Ddeddf) y mae'r tir, y weithdrefn i'w dilyn yw'r un a geir yn Rhan 2 o Ddeddf Caffael Tir 1981, ac mae hyn yn adlewyrchu'r gofyniad i gael cydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol yn achos tir yn Lloegr.

Lle y bo hynny'n briodol, mae cyfeririadau at swyddogaethau'r “Ysgrifennydd Gwladol” wedi'u newid i fod yn swyddogaethau'r “Cynulliad” ar wyneb Deddf 1975 er mwyn adlewyrchu effaith Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672).

Fodd bynnag, mewn cysylltiad ag arfer unrhyw un neu rai o'i swyddogaethau gan y Cynulliad, mae cyfeiriadau at un o Weinidogion y Goron neu at adran lywodraeth mewn deddfiadau eraill yn parhau i gael eu dehongli, lle y bo'n angenrheidiol, fel cyfeiriadau at y Cynulliad neu gyfeiriadau'n cynnwys y Cynulliad yn unol ag adran 43 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.

Mae erthygl 8 yn gweud darpariaethau arbed o ran unrhyw ganiatâd cynllunio y bernir ei fod wedi'i roi yn rhinwedd adran 7 o Ddeddf 1975 ar gyfer tir a drosglwyddwyd i'r Awdurdod oddi wrth Gorfforaeth Ystadau Diwydiannol Cymru ac ar gyfer dilyniant cyflogaeth o unrhyw aelod o staff yr Awdurdod y trosglwyddwyd eu cyflogaeth yn wreiddiol oddi wrth y Gorfforaeth honno o dan yr adran honno.