xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
TAI, CYMRU
Wedi'i wneud
22 Tachwedd 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 270(4) a (5) o Ddeddf Tai 2004(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2005.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Tai 2004; ac
ystyr “y dyddiad cychwyn” (“the commencement date”) yw 25 Tachwedd 2005.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Mae darpariaethau canlynol Deddf 2004 yn dod i rym ar y dyddiad cychwyn—
(a)Adran 4 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(b)adran 55, is-adrannau (1), (2) a pharagraffau (a) a (b) o is-adran (5);
(c)adrannau 56 a 57;
(ch)adrannau 79 ac 80, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym;
(d)adran 81;
(dd)adran 179;
(e)adrannau 192 i 194; ac
(f)adran 237.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
22 Tachwedd 2005
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau amrywiol Deddf Tai 2004 (“Deddf 2004”) o ran Cymru.
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2004 a restrir o dan erthygl 2 yn dod i rym ar 25 Tachwedd 2005:
(a)adran 4 (sy'n caniatáu i awdurdod tai lleol arolygu mangreoedd preswyl yn ei ardal er mwyn penderfynu a oes unrhyw berygl categori 1 neu 2 yn bod yn y mangreoedd hynny);
(b)adran 55 (mae is-adrannau (1) a (2) ohoni yn gosod cwmpas y darpariaethau trwyddedu ar gyfer tai amlfeddiannaeth (“HMOs”) o dan Ran 2 o Ddeddf 2004);
(c)adran 56 (sy'n galluogi awdurdodau lleol i ddynodi ardal yn ardal sy'n ddarostyngedig i drwyddedu ychwanegol o ran HMOs a bennir);
(ch)adran 57 (sy'n nodi'r materion y mae'n rhaid i awdurdod tai lleol eu hystyried cyn arfer y pwerau a geir yn adran 56 o Ddeddf 2004);
(d)adran 79 (sy'n nodi cwmpas y darpariaethau trwyddedu ar gyfer tai sydd o fewn Rhan 3 o Ddeddf 2004);
(dd)adran 80 (sy'n galluogi awdurdod tai lleol i ddynodi ardal yn ardal sy'n ddarostyngedig i drwyddedu dethol os yw'n ardal o alw bychan am dai, neu os y gall ddod yn ardal felly, neu os oes ynddi broblem sylweddol a pharhaus o ran ymddygiad gwrth-gymdeithasol);
(e)adran 81 (sy'n nodi'r materion y mae'n rhaid i'r awdurdod tai lleol eu hystyried cyn arfer y pwerau a geir dan adran 80 o Ddeddf 2004);
(f)adran 179 (sy'n diwygio Deddf Tai 1996 drwy fewnosod adrannau 125A a 125B newydd sy'n caniatáu ymestyn tenantiaeth ragarweiniol am hyd at chwe mis);
(ff)adran 192 (sy'n diwygio Deddf Tai 1985 (“Deddf 1985”) drwy fewnosod adran 121A newydd sy'n galluogi landlordiaid tenantiaid diogel i geisio gorchymyn llys sy'n atal dros dro yr hawl i brynu am gyfnod penodol ar sail ymddygiad gwrth-gymdeithasol);
(g)adran 193 (sy'n diwygio adran 138 o Ddeddf 1985 drwy fewnosod is-adrannau (2A) i (2D) newydd sy'n rhwystro tenant rhag gallu mynnu cwblhau gwerthiant hawl i brynu os oes cais yn yr arfaeth am orchymyn israddio, gorchymyn atal dros dro, neu orchymyn meddiant ar sail ymddygiad gwrth-gymdeithasol);
(ng)adran 194 (sy'n caniatáu i unrhyw berson ddarparu gwybodaeth berthnasol i landlord tenant diogel er mwyn galluogi'r landlord i arfer swyddogaethau sy'n gysylltiedig â'r darpariaethau a fewnosodir gan adrannau 191 i 193 o Ddeddf 2004); ac
(h)adran 237 (sy'n galluogi awdurdod tai lleol i ddefnyddio gwybodaeth y mae wedi ei gael at ddibenion budd-dâl tai neu'r dreth gyngor er mwyn cyflawni ei swyddogaethau o dan Rannau 1 i 4 o Ddeddf 2004).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2004 wedi'u dwyn i rym yng Nghymru drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y ddarpariaeth | Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 191 | 14 Gorffennaf 2005 | 2005/1814(Cy. 144)(C. 75) |
Adran 227 | 14 Gorffennaf 2005 | 2005/1814(Cy. 144)(C. 75) |
Adran 228 | 14 Gorffennaf 2005 | 2005/1814(Cy. 144)(C. 75) |
Adran 265(1) (yn rhannol) | 14 Gorffennaf 2005 | 2005/1814 (Cy. 144)(C. 75) |
Atodlen 12 | 14 Gorffennaf 2005 | 2005/1814(Cy. 144)(C. 75) |
Atodlen 15 (yn rhannol) | 14 Gorffennaf 2005 | 2005/1814(Cy. 144)(C. 75) |