Search Legislation

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2005

Newidiadau dros amser i: Nodiadau Esboniadol

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2005. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Rhagolygol

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi yng Nghymru Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a weithredir i sicrhau bod cydymffurfedd â'r gyfraith yn cael ei wirio ynglyn â bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid (OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1 o ran “cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol” a “cyfraith bwyd berthnasol”, y diffinnir y naill a'r llall yn rheoliad 2(1) o'r Rheoliadau hyn. Mae testun diwygiedig y Rheoliad hwn, EC/882/2004, wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm, OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1).LL+C

2.  Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gosod gwaharddiadau ar gyflwyno i Gymru, drwy eu mewnforio, fwydydd anifeiliaid penodol a bwydydd penodol a hynny yng ngoleuni Erthygl 11 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd (OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4) ac fel y'i darllenir gydag Erthygl 10 o Reoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid bwydydd (OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1; mae testun diwygiedig y Rheoliad hwnnw wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm, OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3).LL+C

3.  Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004 (O.S. 2004/3279) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, er mwyn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi yng Nghymru Erthygl 12 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002, sy'n gosod amodau ar allforio ac ailallforio bwyd a bwyd anifeiliaid o'r Gymuned er mwyn eu rhoi ar y farchnad mewn trydydd wlad, i'r graddau y mae'r Erthygl honno'n ymwneud â bwyd. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn mewnosod rheoliad newydd, 6A, yn Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004 i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru. Mae'r rheoliad newydd hwnnw'n darparu amddiffyniad o ran allforion yn achos erlyniadau am dorri cyfraith bwyd neu fethu â chydymffurfio â hi. Mae'r amddiffyniad yn gymwys o ran eitemau y bwriedir eu hallforio i drydydd gwledydd yn ogystal ag i eitemau y bwriedir eu hallforio i Aelod-wladwriaeth.LL+C

4.  Mae'r Rheoliadau hyn yn enwi fel pwerau galluogi adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (1972 p.68) yn ogystal ag adrannau penodol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p.16). Mae pwerau'r Ddeddf Diogelwch Bwyd wedi'u harfer i ddeddfu rheoliad 41(2) o'r Rheoliadau hyn, sy'n mewnosod rheoliad 4 diwygiedig yn Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004 i ddarparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Erthygl 12 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 i'r graddau y mae'n ymwneud â bwyd, fel a ddisgrifir ym mharagraff 3 uchod.LL+C

5.  Mae'r Rheoliadau hyn —LL+C

(a)yn darparu ar gyfer dynodi cyrff penodedig yn awdurdodau cymwys at ddibenion darpariaethau Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 (rheoliad 3);

(b)yn darparu ar gyfer cyfnewid a darparu gwybodaeth gan awdurdodau cymwys (rheoliad 4);

(c)yn galluogi awdurdod cymwys i'w gwneud yn ofynnol i gorff rheoleiddiol ddarparu gwybodaeth a sicrhau bod cofnodion ar gael a darparu bod person —

(i)sy'n methu â chydymffurfio â gofyniad i ddarparu gwybodaeth neu i sicrhau bod cofnodion ar gael, neu

(ii)ac yntau'n honni ei fod yn cydymffurfio â gofyniad o'r fath yn rhoi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol,

yn euog o dramgwydd (rheoliad 5);

(ch)yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddyroddi codau arfer a argymhellir i awdurdodau bwyd anifeiliaid ac awdurdodau bwyd (rheoliad 6);

(d)yn rhoi'r swyddogaeth o fonitro perfformiad awdurdodau gorfodi o ran gorfodi deddfwriaeth benodol i'r Asiantaeth Safonau Bwyd (rheoliad 7);

(dd)yn rhoi i'r Asiantaeth Safonau Bwyd y pwer, at ddibenion cyflawni'r swyddogaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (d) o'r paragraff hwn—

(i)i'w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu ac i gofnodion fod ar gael (rheoliad 8); a

(ii)i awdurdodi unigolion (a gaiff drwy hynny arfer pwerau penodol, gan gynnwys pwer mynediad) (rheoliad 9);

(e)yn diffinio termau penodol a ddefnyddir yn rheoliadau 7 i 9 o'r Rheoliadau hyn (rheoliad 10);

(f)yn darparu bod person sydd —

(i)yn rhwystro person sy'n arfer pwerau i fynd i mewn i fangre, i gymryd samplau ac i gopïo cofnodion,

(ii)yn methu â chydymffurfio â gofynion i ddarparu gwybodaeth neu sicrhau bod cofnodion ar gael neu ddarparu cyfleusterau, cofnodion, gwybodaeth neu gymorth arall, neu

(iii)yn darparu tystiolaeth anwir neu gamarweiniol, ac yntau'n honni ei fod yn cydymffurfio â'r cyfryw ofyniad,

yn euog o dramgwydd (rheoliad 11);

(ff)yn darparu hawl i apelio ynglŷn â phenderfyniad yr awdurdod cymwys ynghylch cymeradwyo sefydliadau penodol a wneir o dan Erthygl 31 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 (rheoliadau 12 a 13);

(g)yn darparu y caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod cymwys fynd â staff awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth arall gydag ef er mwyn cynnal ymchwiliad gweinyddol o dan Erthygl 36 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 (rheoliad 14);

(ng)yn darparu y caiff “swyddog gorfodi”, a ddiffinnir yn rheoliad 15(2), pan fydd yn mynd i mewn i fangre er mwyn gweithredu a gorfodi rheolaethau swyddogol, fynd ag un o arbenigwyr y Comisiwn gydag ef i alluogi'r arbenigydd hwnnw i gyflawni swyddogaethau o dan Erthygl 45 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 (rheoliad 15);

(h)yn darparu bod person sy'n mynd i mewn i fangre o dan y pwerau y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraffau (g) neu (ng) ac sy'n datgelu unrhyw wybodaeth y mae wedi'i chael ar y fangre mewn perthynas ag unrhyw gyfrinach fasnachol yn euog o dramgwydd oni bai bod y person hwnnw yn gwneud hynny wrth gyflawni ei ddyletswydd (rheoliad 16);

(i)yn pennu pa awdurdodau sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi rheoliadau 9(8), 11 ac 16 (rheoliad 17);

(j)yn darparu pwerau mynediad i swyddogion awdurdodedig yr awdurdodau y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (i) (rheoliad 18);

(l)yn creu'r tramgwydd o rwystro swyddog rhag gweithredu i roi Rhan II o'r Rheoliadau hyn ar waith(rheoliad 19);

(ll)yn darparu cosbau am dramgwyddau (rheoliad 20);

(m)yn darparu terfyn amser ar gyfer dwyn erlyniadau am dramgwyddau o dan Ran II (rheoliad 21);

(n)yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi a gweithredu Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn (rheoliadau 23 a 24);

(o)yn darparu bod y Comisiynwyr dros Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cyflawni'r swyddogaethau a roddwyd i'r gwasanaethau tollau o dan Erthygl 24 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 (rheoliad 25);

(p)yn darparu dros ohirio gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn nes bod y cynnyrch wedi cyrraedd ei gyrchfan (rheoliad 26);

(ph)yng ngoleuni Erthygl 11 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 fel y'i darllenir gydag Erthygl 10 o Reoliad (EC) Rhif 852/2004 (fel a ddisgrifir ym mharagraff 2 uchod) yn gwahardd cyflwyno i Gymru fwyd anifeiliaid penodol a bwyd penodol oni chaiff amodau penodedig eu bodloni (rheoliad 27);

(r)yn darparu ar gyfer gwirio cynhyrchion a gyflwynir i Gymru (rheoliad 28);

(rh)yn darparu bod gan awdurdod gorfodi bwer i wneud unrhyw beth y caiff awdurdod cymwys ei wneud o dan Erthyglau 18 i 21 a 24(3) o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 ac yn darparu mai'r awdurdod gorfodi yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 22 o'r Rheoliad hwnnw (mewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd o drydydd gwledydd) (rheoliad 29);

(s)yn darparu ar gyfer cyflwyno hysbysiadau pan fo swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn dymuno cymryd mesurau penodol neu arfer pwerau penodol o dan Erthygl 19 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 (rheoliad 30);

(t)yn darparu hawl i apelio mewn perthynas â chyflwyno hysbysiad o dan reoliad 30 (rheoliadau 31 a 32);

(th)yn darparu bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Asiantaeth, drwy ddatganiad ysgrifenedig, yn atal neu'n gosod amodau ar gyflwyno i Gymru unrhyw gynnyrch o drydedd wlad os yw naill ai'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth yn cael ar ddeall neu os yw'n rhesymol iddo neu iddi amau bod unrhyw fwyd neu fwyd anifeiliaid sydd wedi ei gyflwyno neu a allai gael ei gyflwyno i Gymru o'r drydedd wlad honno'n debygol o fod yn risg difrifol i iechyd anifeiliaid neu i iechyd y cyhoedd (rheoliad 33);

(aa)yn darparu bod ffioedd yn daladwy o ran rheolaethau a gyflawnir ar lwythi (rheoliad 34);

(bb)yn darparu ar gyfer caffael a dadansoddi samplau o fwyd at ddibenion gweithredu a gorfodi'r “Darpariaethau Mewnforio”, a ddiffinnir yn rheoliad 22 (rheoliadau 35 a 36);

(cc)yn darparu pwerau mynediad ar gyfer swyddogion awdurdodedig i awdurdod bwyd o ran gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio (rheoliad 37);

(chch)yn creu tramgwydd o rwystro swyddog sy'n gweithredu i roi'r Darpariaethau Mewnforio ar waith (rheoliad 38);

(dd)yn creu tramgwyddau o ran mynd yn groes i reoliadau penodedig neu fethu â chydymffurfio â hwy a methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir o dan y Darpariaethau Mewnforio ac yn darparu cosbau am dramgwyddau o dan Ran III (rheoliad 39);

(dddd)yn darparu terfyn amser ar gyfer dwyn erlyniadau am dramgwyddau o dan Ran III (rheoliad 40);

(ee)yn diwygio Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004 (O.S.2004/3279) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, fel a ddisgrifir ym mharagraff 3 uchod (rheoliad 41);

(ff)yn darparu pan fo tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn wedi'i gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall, bod y person arall hwnnw'n euog o'r tramgwydd (rheoliad 42);

(ffff)yn darparu ei bod yn amddiffyniad mewn achos cyfreithiol am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn i'r sawl a gyhuddir brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni'r tramgwydd (rheoliad 43);

(gg)yn darparu, os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog i'r corff corfforaethol, neu berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swydd o'r fath, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran y swyddog neu'r person hwnnw, y bydd y swyddog neu'r person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn cael ei gyfrif yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac y caniateir i achos cyfreithiol gael ei ddwyn yn ei erbyn ac iddo gael ei gosbi yn unol â hynny (rheoliad 44);

(ngng)yn darparu, os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran y partner hwnnw, y bydd y partner hwnnw, yn ogystal â'r bartneriaeth, yn cael ei gyfrif yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac y caniateir i achos cyfreithiol gael ei ddwyn yn ei erbyn ac iddo gael ei gosbi yn unol â hynny (rheoliad 45);

(hh)yn darparu ar gyfer amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll (rheoliad 46);

(ii)yn darparu ar gyfer cyflwyno dogfennau (rheoliad 47);

(ll)yn darparu ar gyfer dirymu offerynnau penodedig i'r graddau a bennir (rheoliad 48).

6.  Mae Arfarniad Rheoliadol llawn am yr effaith a gaiff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes wedi'i baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau ohono oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.LL+C

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources