Search Legislation

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2005

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN IIIRHEOLAETHAU SWYDDOGOL AR FWYD ANIFEILIAID A BWYD O DRYDYDD GWLEDYDD NAD YDYNT YN DOD O ANIFEILIAID

Dehongli'r Rhan hon o'r Rheoliadau

22.  Yn y Rhan hon o'r Rheoliadau—

ystyr “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) yw'r awdurdod gorfodi bwyd anifeiliaid neu'r awdurdod gorfodi bwyd;

ystyr “awdurdod gorfodi y tu allan i Gymru” (“outside Wales enforcement authority”) yw'r corff sy'n gyfrifol am orfodi'r ddeddfwriaeth sydd mewn grym mewn perthynas â chynhyrchion a fewnforiwyd mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig ac eithrio Cymru;

ystyr “y Comisiynwyr” (“the Commissioners”) yw Comisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi;

ystyr “cynnyrch” (“product”) yw bwyd anifeiliaid neu fwyd y mae ei fewnforio wedi'i reoleiddio gan Erthygl 15 o Reoliad 882/2004 (bwyd anifeiliaid a bwyd nad ydynt yn dod o anifeiliaid ac nad ydynt wedi'u cynnwys o fewn cwmpas Cyfarwyddeb 97/78/EC) ac mae'n cynnwys y cynhyrchion bwyd cyfansawdd hynny a restrir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2002/349/EC sy'n gosod y rhestr o gynhyrchion sydd i'w harchwilio wrth safleoedd arolygu ar y ffin o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC(1), sy'n cynnwys rhestr gyfyngedig yn unig o gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac sydd o'r herwydd wedi'u heithrio o ddarpariaethau Cyfarwyddeb 98/78/EC gan Erthygl 3(1) o'r Penderfyniad hwnnw;

ystyr “y Darpariaethau Mewnforio” (“the Import Provisions”) yw'r Rhan hon o'r Rheoliadau hyn ac Erthyglau 15 i 24 o Reoliad 882/2004;

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”), o ran awdurdod gorfodi, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Darpariaethau Mewnforio;

ystyr “y tiriogaethau perthnasol” (“the relevant territories”) yw'r tiriogaethau y cyfeirir atynt yn Atodiad I i Reoliad 882/2004.

Cyfrifoldebau gorfodi bwyd anifeiliaid

23.  Cyfrifoldeb yr awdurdod bwyd anifeiliaid yw gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio yn ei ardal neu ddosbarth, yn ôl y digwydd, mewn perthynas â bwyd anifeiliaid.

Cyfrifoldebau gorfodi bwyd

24.  Cyfrifoldeb pob awdurdod bwyd yw gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio yn ei ardal o ran bwyd.

Swyddogaethau'r Comisiynwyr

25.  Rhaid i'r Comisiynwyr gyflawni'r swyddogaethau a roddir i wasanaethau tollau o dan Erthygl 24 o Reoliad 882/2004 mewn perthynas â bwyd anifeiliaid a bwyd.

Gohirio, gweithredu a gorfodi

26.—(1Pan fo—

(a)cynnyrch o drydedd wlad wedi dod i mewn i Gymru;

(b)archwiliad gan yr awdurdod tollau o'r cynnyrch hwnnw wedi'i gwblhau neu wedi'i ohirio hyd nes iddo gyrraedd ei gyrchfan yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig;

(c)swyddog awdurdodedig i'r awdurdod gorfodi ar gyfer y man lle daeth y cynnyrch i mewn i Gymru wedi dyroddi ar sail resymol awdurdodiad sy'n cadarnhau—

(i)y dylid gohirio archwilio'r cynnyrch at ddibenion y Darpariaethau Mewnforio hyd nes y bydd y cynnyrch yn cyrraedd ei gyrchfan yn rhywle arall yng Nghymru, neu

(ii)y dylai'r archwiliad hwnnw ddigwydd pan fydd y cynnyrch yn cyrraedd ei gyrchfan yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig o dan ddeddfwriaeth sydd mewn grym yno ynghylch cynhyrchion a fewnforir; ac

(ch)person sy'n mewnforio'r cynnyrch yn rhoi i'r swyddog awdurdodedig hwnnw ymrwymiad ysgrifenedig o ran y materion a bennir ym mharagraff (2),

daw'r awdurdod gorfodi ar gyfer y man lle mae'r gyrchfan, os yw yng Nghymru, yn gyfrifol am orfodi a gweithredu'r Darpariaethau Mewnforio ar gyfer y cynnyrch hwnnw pan fydd yn cyrraedd yno.

(2Rhaid i'r ymgymeriad—

(a)datgan cyrchfan y cynnyrch; a

(b)cadarnhau—

(i)bod y cynhwysydd sy'n cynnwys y cynnyrch wedi'i selio ac na fydd yn cael ei agor nes iddo gyrraedd y gyrchfan,

(ii)bod agor y cynhwysydd wedi'i awdurdodi gan yr awdurdod gorfodi ar gyfer y man lle mae'r gyrchfan, os yw yng Nghymru neu, yn ôl y digwydd, yr awdurdod gorfodi y tu allan i Gymru os nad yw'r gyrchfan yng Nghymru, a

(iii)y bydd y cynhwysydd ar gael yn y gyrchfan honno i'w archwilio o dan y Darpariaethau Mewnforio neu, yn ôl y digwydd, deddfwriaeth ynghylch cynhyrchion a fewnforir sydd mewn grym yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig.

(3Pan fo swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn dyroddi awdurdodiad yn unol â pharagraff (1)(c), rhaid i'r swyddog hwnnw—

(a)(os yw cyrchfan y cynnyrch yng Nghymru) hysbysu'r awdurdod gorfodi ar gyfer y man hwnnw neu (os yw cyrchfan y cynnyrch mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig) hysbysu'r awdurdod gorfodi y tu allan i Gymru—

(i)nad yw'r cynnyrch (a ddisgrifir yn y fath fodd ag i ganiatáu iddo gael ei adnabod) wedi'i archwilio o dan y Darpariaethau Mewnforio, a

(ii)os yw archwiliad gan yr awdurdod tollau wedi'i ohirio, o'r ffaith honno; a

(b)anfon at yr awdurdod perthnasol gopi o unrhyw ymrwymiad a roddwyd yn unol â pharagraff (1)(ch).

(4Pan fo cynnyrch wedi'i anfon at gyrchfan yng Nghymru o ran arall o Ynysoedd Prydain a bod archwiliad o'r cynnyrch hwnnw wedi'i ohirio o dan ddeddfwriaeth ynghylch cynhyrchion a fewnforir sydd mewn grym yno, daw'r awdurdod gorfodi ar gyfer y gyrchfan yn gyfrifol am orfodi a gweithredu'r Darpariaethau Mewnforio ar gyfer y cynnyrch hwnnw pan fydd yn cyrraedd Cymru.

(5Ni chaiff neb dorri ymrwymiad a roddir o dan baragraff (1)(ch).

Gwahardd cyflwyno bwyd anifeiliaid penodol a bwyd penodol

27.—(1Ni chaiff unrhyw berson—

(a)cyflwyno i Gymru o drydedd wlad fwyd anifeiliaid penodedig sy'n mynd yn groes i ofynion diogelu bwyd anifeiliaid neu sy'n methu â chydymffurfio â'r gofynion hynny; neu

(b)cyflwyno i Gymru o rywle arall yn y tiriogaethau perthnasol fwyd anifeiliaid penodedig sy'n tarddu o drydedd wlad a hwnnw'n fwyd anifeiliaid sy'n methu â chydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd anifeiliaid.

(2Ni chaiff unrhyw berson—

(a)cyflwyno i Gymru o drydedd wlad fwyd penodedig sy'n methu â chydymffurfio â

(i)gofynion diogelwch bwyd; neu

(ii)gofynion Erthyglau 3 i 6 o Reoliad 852/2004; neu

(b)cyflwyno i Gymru o rywle arall yn y tiriogaethau perthnasol fwyd penodedig sy'n tarddu o drydedd wlad ac sy'n methu â chydymffurfio â—

(i)gofynion diogelwch bwyd; neu

(ii)gofynion Erthyglau 3 i 6 o Reoliad 852/2004.

(3Yn y rheoliad hwn—

(a)Ystyr “bwyd anifeiliaid penodedig”) (“specified feed”) yw bwyd anifeiliaid sy'n gynnyrch;

(b)Ystyr “bwyd penodedig” (“specified food”) yw bwyd sy'n gynnyrch.

Gwirio cynhyrchion

28.—(1Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am gyflwyno unrhyw gynnyrch i Gymru ganiatáu i swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi gyflawni gwiriadau mewn perthynas â'r cynnyrch yn unol ag Erthygl 16 o Reoliad 882/2004.

(2Pan fo swyddog awdurdodedig yn cyflawni gwiriadau mewn perthynas â chynnyrch yn unol ag Erthygl 16 o Reoliad 882/2004, rhaid i'r person sy'n cyflwyno'r cynnyrch ddarparu'r cyfleusterau a'r cymorth y mae ar y swyddog awdurdodedig angen rhesymol amdanynt er mwyn cyflawni'r gwiriadau hynny.

(3Pan fo swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn cyflawni gwiriad adnabod neu wiriad ffisegol ar gynnyrch yn unol ag Erthygl 16, bydd gan y swyddog hwnnw hawl i'w gwneud yn ofynnol bod y gwiriad yn digwydd mewn man penodedig.

Cadw, distrywio, trin yn arbennig, ailanfon a mesurau a chostau priodol eraill

29.—(1Mae gan awdurdod gorfodi bwer i wneud unrhyw beth y caiff awdurdod cymwys ei wneud o dan Erthyglau 18 i 21 a 24(3) o Reoliad 882/2004 os bydd yr amodau sydd wedi'u nodi yn yr Erthyglau hynny wedi'u bodloni.

(2Yr awdurdod gorfodi yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 22 o Reoliad 882/2004.

Penderfyniadau yn unol ag Erthygl 19 o Reoliad 882/2004 (mewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd o drydydd gwledydd)

30.—(1Os bydd swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn dymuno cymryd unrhyw un o'r mesurau y cyfeirir atynt yn Erthygl 19(1)(a) a (b) o Reoliad 882/2004 mewn perthynas â bwyd anifeiliaid neu fwyd, rhaid i'r swyddog gyflwyno hysbysiad i'r perwyl hwnnw i weithredydd y busnes bwyd anifeiliaid neu weithredydd y busnes bwyd, yn ôl y digwydd, sy'n gyfrifol am y bwyd anifeiliaid hwnnw neu'r bwyd hwnnw, ar ôl i'r swyddog wrando ar weithredydd y busnes bwyd anifeiliaid hwnnw neu weithredydd y busnes bwyd hwnnw fel y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 19.

(2Os bydd swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn dymuno arfer unrhyw un o'r pwerau y cyfeirir atynt yn Erthygl 19(2) o Reoliad 882/2004 mewn perthynas â bwyd anifeiliaid neu fwyd, rhaid i'r swyddog gyflwyno hysbysiad i'r perwyl hwnnw i weithredydd y busnes bwyd anifeiliaid neu fwyd, yn ôl y digwydd, sy'n gyfrifol am y bwyd anifeiliaid neu'r bwyd hwnnw.

Yr hawl i apelio o ran hysbysiadau a gyflwynir o dan reoliad 30

31.—(1Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi i gyflwyno hysbysiad o dan reoliad 30 apelio i lys ynadon.

(2Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (1), y weithdrefn fydd ei gwneud ar ffurf achwyniad i gael gorchymyn, a Deddf Llysoedd Ynadon 1980 fydd yn gymwys i'r trafodion.

(3Un mis o'r dyddiad y cyflwynwyd hysbysiad i'r person sy'n dymuno apelio yw'r cyfnod y caniateir dwyn apêl ynddo o dan baragraff (1) a bernir bod gwneud achwyniad i gael gorchymyn yn gyfystyr â dwyn yr apêl at ddibenion y paragraff hwn.

(4Pan fo llys ynadon yn dyfarnu, yn dilyn apêl o dan baragraff (1), fod penderfyniad swyddog awdurdodedig yr awdurdod gorfodi yn anghywir, rhaid i'r awdurdod roi effaith i ddyfarniad y llys.

Apelau i Lys y Goron yn erbyn gwrthod apêl o dan reoliad 31

32.  Caiff person a dramgwyddir oherwydd bod llys ynadon wedi gwrthod apêl i'r llys hwnnw o dan reoliad 31(1) apelio i Lys y Goron.

Risg difrifol i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd

33.—(1Pan fo'r Cynulliad neu'r Asiantaeth yn cael ar ddeall, neu pan fo ganddo neu ganddi sail resymol dros amau, bod bwyd neu fwyd anifeiliaid wedi'i gyflwyno neu y gall gael ei gyflwyno o drydedd wlad a'i fod yn debyg o fod yn risg difrifol i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd, caiff y naill neu'r llall ohonynt drwy ddatganiad ysgrifenedig atal unrhyw gynnyrch rhag cael ei gyflwyno i Gymru o'r drydedd wlad gyfan honno neu unrhyw ran ohoni, neu osod amodau ar ei gyflwyno i Gymru.

(2Bydd datganiad o'r fath yn ysgrifenedig ac fe'i cyhoeddir yn y modd y gwêl y Cynulliad neu'r Asiantaeth, yn ôl y digwydd, yn dda a bydd yn pennu'r cynhyrchion a'r drydedd wlad neu'r rhan ohoni sydd o dan sylw.

(3Rhaid i ddatganiad sy'n gosod amodau ar gyflwyno unrhyw gynnyrch o drydedd wlad neu ran ohoni bennu'r amodau hynny.

(4Pan fo datganiad mewn grym sy'n atal unrhyw gynnyrch rhag cael ei gyflwyno i Gymru, ni chaiff unrhyw berson gyflwyno'r cynnyrch hwnnw i Gymru os yw'n tarddu o'r drydedd wlad neu o'r rhan ohoni a bennir yn y datganiad.

(5Pan fo datganiad mewn grym sy'n gosod amodau ar gyflwyno unrhyw gynnyrch, ni chaiff unrhyw berson gyflwyno'r cynnyrch hwnnw i Gymru os yw'n tarddu o'r drydedd wlad neu'r rhan ohoni a bennir yn y datganiad oni bai bod y cynnyrch yn cydymffurfio â'r amodau a bennir yn y datganiad.

(6Caiff datganiad gael ei addasu, ei atal neu ei dirymu gan ddatganiad ysgrifenedig pellach a gyhoeddir, cyhyd ag y bo'n ymarferol, yn yr un modd ac i'r un graddau â'r datganiad gwreiddiol.

Atebolrwydd am ffioedd

34.—(1Rhaid i'r awdurdod gorfodi hysbysu'r person sy'n gyfrifol am lwyth o'r ffi sydd i'w thalu am y rheolaethau a gyflawnwyd arno gan yr awdurdod.

(2Os gofynnir amdani, bydd unrhyw ffi yr hysbysir person ohoni o dan baragraff (1) yn daladwy gan y person hwnnw i'r awdurdod gorfodi.

(3Y ffi y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yw unrhyw ffi am y costau a dynnir mewn cysylltiad â'r llwyth gan yr awdurdod gorfodi sy'n gweithredu fel yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 22 o Reoliad 882/2004 yn rhinwedd rheoliad 29(2).

Caffael samplau mewn perthynas â bwyd gan swyddogion awdurdodedig

35.  Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi bwyd, at ddibenion gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio gan yr awdurdod hwnnw—

(a)prynu sampl o unrhyw fwyd, neu unrhyw sylwedd y gellir ei ddefnyddio i baratoi bwyd;

(b)cymryd sampl o unrhyw fwyd, neu unrhyw sylwedd—

(i)sy'n ymddangos i'r swyddog ei fod wedi'i fwriadu i'w roi ar y farchnad neu ei fod wedi'i roi ar y farchnad, ar gyfer ei fwyta gan bobl, neu

(ii)y mae'r swyddog yn dod o hyd iddo ar neu mewn unrhyw fangre y mae'r swyddog wedi'i awdurdodi i fynd i mewn iddi gan neu o dan reoliad 37;

(c)cymryd sampl o unrhyw ffynhonnell fwyd, neu sampl o unrhyw ddeunydd sydd mewn cysylltiad â'r ffynhonnell fwyd, y mae'r swyddog yn dod o hyd iddi neu iddo ar neu mewn unrhyw fangre o'r fath; ac

(ch)cymryd sampl o unrhyw eitem neu sylwedd y mae'r swyddog yn dod o hyd iddi neu iddo ar neu mewn unrhyw fangre o'r fath ac y mae gan y swyddog le i gredu y gallai fod angen amdani neu amdano mewn achos cyfreithiol o dan unrhyw un o'r darpariaethau yn y Darpariaethau Mewnforio.

Dadansoddi etc. samplau

36.—(1Rhaid i swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi sydd wedi caffael sampl o dan reoliad 35—

(a)ei chyflwyno i gael ei dadansoddi gan ddadansoddydd cyhoeddus, os yw'r swyddog o'r farn y dylai'r sampl gael ei dadansoddi;

(b)ei chyflwyno i gael ei harchwilio gan archwilydd bwyd, os yw'r swyddog o'r farn y dylai'r sampl gael ei harchwilio.

(2Caiff person, nad yw'n swyddog o'r fath, ac sydd wedi prynu unrhyw fwyd, neu unrhyw sylwedd y gellir ei ddefnyddio i baratoi bwyd, gyflwyno sampl ohono—

(a)i gael ei dadansoddi gan y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal lle cafodd y bwyd neu'r sylwedd ei brynu; neu

(b)i gael ei harchwilio gan archwilydd bwyd.

(3Mewn unrhyw achos lle bwriedir cyflwyno sampl i'w dadansoddi o dan y rheoliad hwn, os yw swydd y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal o dan sylw yn wag, rhaid i'r sampl gael ei chyflwyno i'r dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer rhyw ardal arall.

(4Mewn unrhyw achos lle bwriedir cyflwyno neu lle cyflwynir sampl i'w dadansoddi neu i'w harchwilio o dan y rheoliad hwn, os yw'r dadansoddydd bwyd neu'r archwilydd bwyd, yn penderfynu nad yw'n gallu cyflawni'r dadansoddiad neu'r archwiliad am unrhyw reswm, rhaid iddo gyflwyno neu, yn ôl y digwydd, anfon y sampl i unrhyw ddadansoddydd neu archwilydd bwyd arall y bydd yn penderfynu arno.

(5Rhaid i ddadansoddydd neu archwilydd bwyd ddadansoddi neu archwilio cyn gynted ag y bo'n ymarferol unrhyw sampl a gyflwynwyd iddo neu a anfonwyd ato o dan y rheoliad hwn, ond ac eithrio—

(a)os ef yw'r dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal o dan sylw; a

(b)os yw'r sampl wedi'i chyflwyno iddo ar gyfer dadansoddiad gan swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi,

caiff fynnu ymlaen llaw fod unrhyw ffi resymol y bydd yn gofyn amdani yn cael ei thalu.

(6Rhaid i unrhyw ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd sydd wedi dadansoddi neu wedi archwilio sampl roi i'r person y cafodd ei chyflwyno drwyddo dystysgrif sy'n nodi canlyniad y dadansoddiad neu'r archwiliad.

(7Rhaid i unrhyw dystysgrif a roddir gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff (6) gael ei llofnodi ganddo, ond caniateir i'r dadansoddiad neu'r archwiliad gael ei wneud gan unrhyw berson sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddyd.

(8Mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y Darpariaethau Mewnforio, bydd y ffaith bod un o'r partïon yn dangos—

(a)dogfen sy'n honni ei bod yn dystysgrif a roddwyd gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff (6); neu

(b)dogfen a ddarparwyd iddo gan y parti arall fel un a oedd yn gopi o'r dystysgrif honno,

yn dystiolaeth ddigonol i'r ffeithiau a nodir ynddi oni bai, mewn achos sy'n dod o dan is-baragraff (a), bod y parti arall yn ei gwneud yn ofynnol i'r dadansoddydd bwyd neu'r archwilydd bwyd gael ei alw i fod yn dyst.

(9Dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y rheoliad hwn at ddadansoddydd cyhoeddus ar gyfer ardal dan sylw, pan fo dau neu ragor o ddadansoddwyr cyhoeddus yn cael eu penodi ar gyfer unrhyw ardal, fel cyfeiriad at y naill neu'r llall ohonynt neu at unrhyw un ohonynt.

(10Mae'r Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau)(2) yn gymwys i sampl a gaffaelwyd gan swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi o dan reoliad 35 fel petai'n sampl a gaffaelwyd gan swyddog awdurdodedig o dan adran 29 o'r Ddeddf.

(11Rhaid i'r dystysgrif a roddir gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff (6) fod ar y ffurf a nodir yn Atodlen 3 i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990.

Pwerau mynediad swyddogion awdurdodedig i awdurdod gorfodi bwyd

37.—(1Bydd gan swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi bwyd, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, rhyw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl ar bob adeg resymol—

(a)i fynd i mewn i unrhyw fangre o fewn ardal, neu, yn ôl y digwydd, dosbarth yr awdurdod er mwyn darganfod a oes unrhyw un o'r darpariaethau yn y Darpariaethau Mewnforio o ran bwyd yn cael neu wedi cael ei thorri ar y fangre;

(b)i fynd i mewn i unrhyw fangre, boed honno o fewn neu'r tu allan i ardal neu, yn ôl y digwydd, dosbarth yr awdurdod, er mwyn darganfod a oes ar y fangre unrhyw dystiolaeth am unrhyw doriad o'r fath yn yr ardal honno; ac

(c)i fynd i mewn i unrhyw fangre er mwyn i'r awdurdod gyflawni ei swyddogaethau o dan y Darpariaethau Mewnforio,

ond ni chaniateir i'r swyddog fynnu cael mynediad fel mater o hawl i unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio fel tŷ annedd preifat yn unig oni bai bod 24 awr o rybudd am y bwriad i fynd i mewn i'r fangre wedi'u rhoi i'r meddiannydd.

(2Os bydd ynad heddwch, ar ôl cael gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, wedi'i fodloni bod sail resymol dros fynd ar unrhyw fangre at unrhyw ddiben a grybwyllwyd ym mharagraff (1) a naill ai—

(a)bod mynediad i'r fangre wedi'i wrthod, neu y deellir y gall gael ei wrthod, a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi'i roi i'r meddiannydd; neu

(b)y byddai cais am fynediad, neu roi hysbysiad o'r fath, yn mynd yn groes i'r amcan o fynd i mewn i'r fangre, neu fod yr achos yn achos brys, neu fod y fangre heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro,

caiff yr ynad drwy warant a lofnodir ganddo awdurdodi'r swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i'r fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol os bydd angen.

(3Bydd pob gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn parhau mewn grym am gyfnod o un mis.

(4Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant a ddyroddwyd odano, fynd â'r personau eraill y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol gydag ef, ac wrth ymadael ag unrhyw fangre sydd heb ei meddiannu ac y mae'r swyddog wedi mynd i mewn iddi yn rhinwedd gwarant o'r fath, rhaid iddo ei gadael yn fangre sydd wedi'i diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd pan aeth yno yn gyntaf.

(5Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant a ddyroddwyd odano, arolygu unrhyw gofnodion (ar ba ffurf bynnag y maent yn cael eu cadw) sy'n ymwneud â busnes bwyd, a phan fo'r cofnodion hynny yn cael eu storio ar unrhyw ffurf electronig—

(a)caiff fynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw aparatws neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r cofnodion, a'u harolygu a gwirio eu gweithrediad; a

(b)caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, yr aparatws neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, roi i'r swyddog unrhyw gymorth y mae arno angen rhesymol amdano.

(6Caiff unrhyw swyddog sy'n arfer unrhyw bŵer a roddwyd gan baragraff (5)—

(a)cymryd i'w feddiant a chadw unrhyw gofnodion y mae gan y swyddog le i gredu y gallai fod angen amdanynt fel tystiolaeth mewn achos cyfreithiol o dan unrhyw un o'r darpariaethau yn y Darpariaethau Mewnforio; a

(b)pan fo'r cofnodion wedi'u storio ar unrhyw ffurf electronig, ei gwneud yn ofynnol i'r cofnodion gael eu darparu ar ffurf a fyddai'n caniatáu mynd â hwy oddi yno.

(7Os bydd unrhyw berson sy'n mynd i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a roddwyd odano, yn datgelu i unrhyw berson arall unrhyw wybodaeth y mae wedi'i chael ar y fangre o ran unrhyw gyfrinach fasnachol, bydd yn euog o dramgwydd, oni bai ei fod wedi'i datgelu wrth gyflawni ei ddyletswydd.

(8Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn awdurdodi unrhyw berson, ac eithrio gyda chaniatâd yr awdurdod lleol o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, i fynd i mewn i unrhyw fangre—

(a)lle cedwir anifail neu aderyn, y mae unrhyw glefyd y mae'r Ddeddf honno yn gymwys iddo, wedi effeithio ar yr anifail neu'r aderyn hwnnw; a

(b)sydd wedi'i leoli mewn man y datganwyd ei fod wedi'i heintio â chlefyd o'r fath o dan y Ddeddf honno.

Rhwystro etc. swyddogion

38.—(1Bydd unrhyw berson sydd—

(a)yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Darpariaethau Mewnforio ar waith; neu

(b)yn methu, heb achos rhesymol, â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Darpariaethau Mewnforio ar waith unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall y person hwnnw ofyn yn rhesymol amdano neu amdani er mwyn cyflawni ei swyddogaethau o dan y Darpariaethau Mewnforio,

yn euog o dramgwydd.

(2Bydd unrhyw berson sydd, gan honni ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (1)(b)—

(a)yn darparu gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys; neu

(b)yn ddi-hid yn darparu gwybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys,

yn euog o dramgwydd.

(3Ni chaniateir dehongli dim ym mharagraff (1)(b) fel pe bai'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny yn gallu argyhuddo'r person hwnnw.

Tramgwyddau a chosbau

39.—(1Bydd unrhyw berson sydd—

(a)yn mynd yn groes i baragraff (5) o reoliad 26, rheoliad 27 neu baragraff (4) neu (5) o reoliad 33, neu sy'n methu â chydymffurfio â hwy; neu

(b)yn methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynwyd i'r person hwnnw o dan y Darpariaethau Mewnforio,

yn euog o dramgwydd.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Darpariaethau Mewnforio yn agored—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol; neu

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, i ddirwy neu i'r ddau.

(3Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 38 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu i'r ddau.

Y terfyn amser ar gyfer erlyniadau (mewnforion)

40.  Ni chaniateir cychwyn unrhyw erlyniad am dramgwydd o dan y Darpariaethau Mewnforio, a hwnnw'n dramgwydd y gellir ei gosbi o dan reoliad 39(2), ar ôl i'r naill neu'r llall o'r cyfnodau canlynol ddod i ben—

(a)tair blynedd o ddyddiad cyflawni'r tramgwydd; neu

(b)blwyddyn o ddyddiad ei ddarganfod gan yr erlynydd,

p'un bynnag yw'r cynharaf.

(1)

OJ Rhif L121, 8.5.2002, t.6.

(2)

O.S. 1990/2463, y gwnaed diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources