- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
9.—(1) Pan fo'n ymddangos i swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi mewn perthynas â sefydliad sy'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth o dan Erthygl 4(2) o Reoliad 853/2004—
(a)bod unrhyw un o ofynion y Rheoliadau Hylendid yn cael ei dorri; neu
(b)bod arolygiad o dan y Rheoliadau Hylendid yn cael ei lesteirio,
caiff y swyddog, drwy hysbysiad a gyflwynir i'r gweithredydd busnes bwyd perthnasol neu'r person a awdurdodwyd yn briodol i gynrychioli'r gweithredydd (hysbysiad y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “hysbysiad camau cywiro”)—
(c)gwahardd defnyddio unrhyw gyfarpar neu unrhyw ran o'r sefydliad a bennir yn yr hysbysiad;
(ch)gosod amodau ar gyflawni unrhyw broses neu wahardd cyflawni unrhyw broses;
(d)ei gwneud yn ofynnol i'r gyfradd weithredu gael ei lleihau i'r graddau a bennir yn yr hysbysiad, neu i gael ei stopio'n gyfan gwbl.
(2) Rhaid cyflwyno hysbysiad camau cywiro cyn gynted ag y bo'n ymarferol gan nodi'r rheswm pam y mae'n cael ei gyflwyno.
(3) Os yw'n cael ei gyflwyno o dan baragraff (1)(a), rhaid iddo enwi'r toriad a'r camau y mae eu hangen i'w gywiro.
(4) Rhaid i swyddog awdurdodedig i'r awdurdod gorfodi y cyflwynodd ei swyddog awdurdodedig yr hysbysiad camau cywiro gwreiddiol, cyn gynted ag y caiff ei fodloni bod y camau hynny wedi'u cymryd, dynnu'r hysbysiad yn ôl drwy hysbysiad ysgrifenedig pellach a gyflwynir i'r gweithredydd busnes bwyd neu'r person a awdurdodwyd yn briodol i gynrychioli'r gweithredydd.
(5) Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi, mewn sefydliad sy'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth o dan Erthygl 4(2) o Reoliad 853/2004, drwy hysbysiad a gyflwynir i'r gweithredydd busnes bwyd perthnasol neu'r person a awdurdodwyd yn briodol i gynrychioli'r gweithredydd hwnnw (hysbysiad y cyfeirir ato yn y rheoliad hyn fel “hysbysiad cadw”) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw anifail neu fwyd gael ei gadw at ddibenion archwilio (gan gynnwys cymryd samplau).
(6) Rhaid i swyddog awdurdodedig i'r awdurdod gorfodi y cyflwynodd ei swyddog yr hysbysiad cadw gwreiddiol, cyn gynted ag y caiff ei fodloni nad oes angen cadw'r anifail neu'r bwyd mwyach, dynnu'r hysbysiad yn ôl drwy hysbysiad ysgrifenedig pellach a gyflwynir i'r gweithredydd busnes bwyd neu'r person a awdurdodwyd yn briodol i gynrychioli'r gweithredydd hwnnw.
(7) Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio â hysbysiad camau cywiro neu hysbysiad cadw yn euog o dramgwydd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: