Search Legislation

Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 2005

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 3296 (Cy.254)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 2005

Wedi'u gwneud

30 Tachwedd 2005

Yn dod i rym

1 Ionawr 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) o ran mesurau ym maes milfeddygaeth i ddiogelu iechyd y cyhoedd, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, ac ar ôl ymgynghoriad agored a thryloyw yn ystod y broses o baratoi'r Rheoliadau hyn, fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor(4), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 2005, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Ionawr 2006.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

mae “anifail buchol” (“bovine animal”) yn cynnwys—

(a)

byfflo o rywogaeth Bubalus bubalis; a

(b)

Bison bison;

ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;

mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr y mae “food authority” yn ei ddwyn yn rhinwedd adran 5(1A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(5);

ystyr “yr awdurdod gorfodi perthnasol” (“the relevant enforcement authority”) yw'r corff y mae dyletswydd arno yn rhinwedd rheoliad 7 i weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn;

ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”), o ran unrhyw ddosbarth iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(6), yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y dosbarth hwnnw a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;

mae i “bwyd anifeiliaid” a “bwyd i bobl” yr ystyron y mae “animal food” a “human food” yn ôl eu trefn yn eu dwyn yn Rheoliad 999/2001;

ystyr “cig” (“meat”) yw rhannau bwytadwy anifail buchol gan gynnwys ei waed;

ystyr “cig ffres” (“fresh meat”) yw cig nad yw wedi mynd drwy unrhyw broses breserfio (ac eithrio oeri, rhewi neu frysrewi) gan gynnwys cig a lapiwyd dan wactod neu a lapiwyd mewn awyrgylch a reolir;

mae i “Cyfarwyddeb 2004/41”, “Penderfyniad 2005/598”, “Rheoliad 999/2001”, “Rheoliad 178/2002”, “Rheoliad 852/2004”, “Rheoliad 853/2004”, “Rheoliad 854/2004”, “Rheoliad 882/2004”, “Rheoliad A”, “Rheoliad B”, “Rheoliad C”, “Rheoliad D” a “Rheoliad E” (“Decision 2005/598”, Directive 2004/41”, “Regulation 999/2001”, “Regulation 178/2002”, “Regulation 852/2004”, “Regulation 853/2004”, “Regulation 854/2004”, “Regulation 882/2004”, “Regulation A”, “Regulation B”, “Regulation C”, “Regulation D” and “Regulation E”) yr ystyron a roddir iddynt yn ôl eu trefn yn yr Atodlen;

dehonglir “cynnyrch cig” yn unol â'r diffiniad o'r term “meat products” ym mhwynt 7.1 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;

ystyr “cynorthwy-ydd swyddogol” (“official auxiliary”) yw person sydd wedi cymhwyso yn unol â Rheoliad Rhif 854/2004 i weithredu yn rhinwedd y swyddogaeth honno, sydd wedi'i benodi gan yr Asiantaeth ac sy'n gweithio o dan awdurdod a chyfrifoldeb milfeddyg swyddogol;

dehonglir “deunydd” a “cynnyrch” yn ôl eu trefn yn unol â'r ystyron y mae “materials” a “products” yn eu dwyn ym Mhenderfyniad 2005/598;

mae i “gwrteithiau” yr ystyr a roddir i “fertilisers” yn Erthygl 3.1(k) o Reoliad 999/2001;

ystyr “lladd-dy” (“slaughterhouse”) yw sefydliad a ddefnyddir ar gyfer cigydda a thrin anifeiliaid buchol, y bwriedir defnyddio eu cig ar gyfer ei fwyta gan bobl ac—

(a)

sydd wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gymeradwyo'n amodol o dan Erthygl 31.2 o Reoliad 882/2004; neu

(b)

a oedd (er ei fod heb y gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol y mae ei hangen arno o dan Erthygl 4.3 o Reoliad 853/2004) yn gweithredu ar 31 Rhagfyr 2005 fel lladd-dy trwyddedig o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995.

ystyr “milfeddyg swyddogol” (“official veterinarian”) yw milfeddyg sydd wedi cymhwyso yn unol â Rheoliad 854/2004 i weithredu yn rhinwedd y swyddogaeth honno ac sydd wedi'i benodi gan yr Asiantaeth;

ystyr “rhoi ar y farchnad” (“place on the market”) yw gwerthu, cyflenwi mewn unrhyw ffordd arall am dâl neu'n ddi-dâl a storio gyda golwg ar gyflenwi am dâl neu'n ddi-dâl;

ystyr “safle torri” yw sefydliad sy'n cael ei ddefnyddio i dynnu esgyrn a/neu dorri cig ffres i'w roi ar y farchnad, fel y diffinnir “cutting plant” yn Erthygl 3.8 o Reoliad 178/2002 ac—

(a)

sydd wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gymeradwyo'n amodol o dan Erthygl 31.2 o Reoliad 882/2004; neu

(b)

a oedd (er ei fod heb y gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol y mae ei hangen arno o dan erthygl 4.3 o Reoliad 853/2004) yn gweithredu ar 31 Rhagfyr 2005 fel mangre dorri drwyddedig o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995(7);

mae i “sefydliad” yr ystyr a roddir i “establishment” yn Erthygl 2.1(c) o Reoliad Rhif 852/2004;

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”), o ran yr awdurdod gorfodi perthnasol, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig ganddo, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn ac o ran—

(a)

lladd-dy,

(b)

safle torri,

(c)

sefydliad y mae Pennod I o Adran V o Atodiad III i Reoliad 853/2004 yn gymwys iddo, ac

(ch)

sefydliad lle mae cynhyrchion cig yn cael eu cynhyrchu,

mae'n cynnwys milfeddyg swyddogol a chynorthwy-ydd swyddogol; ac

mae i “torri” yr ystyr y mae “cutting up” yn ei ddwyn yn Rheoliad 853/2004.

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd yn cynnwys cyfeiriad at awdurdod iechyd porthladd, ac yng nghyd-destun cyfeiriad o'r fath mae unrhyw gyfeiriad at ardal awdurdod bwyd yn gyfeiriad at ddosbarth awdurdod iechyd porthladd

Gwaharddiad ar roi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid buchol hŷn

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff neb roi ar y farchnad ar gyfer ei fwyta gan bobl unrhyw gynnyrch—

(a)sy'n cynnwys neu'n ymgorffori cynnyrch sy'n dod o anifail buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996; a

(b)y bwriedir ei ddefnyddio mewn bwyd i bobl, bwyd anifeiliaid neu wrteithiau.

(2Nid oes dim ym mharagraff (1) yn atal llaeth sy'n dod o anifail buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 rhag cael ei roi ar y farchnad.

Cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990

4.  Mae darpariaethau canlynol Deddf Diogelwch Bwyd 1990(8) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf honno neu Ran ohoni yn cael ei ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—

(a)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(b)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)(9) gyda'r addasiadau bod is-adrannau (2) i (4) yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan reoliad 6(1) fel y bônt yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 14 neu 15 a bod y cyfeiriadau yn is-adran (4)(b) at “sale or intended sale” yn cael eu cyfrif yn gyfeiriadau at “placing on the market” fel y'i diffinnir yn Erthygl 3.1(b) o Reoliad 999/2001;

(c)adran 32 (pwerau mynediad);

(ch)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);

(d)adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch);

(dd)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau)(10), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch);

(e)adran 35(2) a (3)(11) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (d);

(f)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);

(ff)adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd)(12); ac

(g)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll) gyda'r addasiad bod y cyfeiriadau at “food authority” yn cael eu cyfrif yn gyfeiriadau at yr awdurdod gorfodi perthnasol.

Arolygu cynhyrchion a chymryd meddiant ohonynt

5.—(1Caiff swyddog awdurdodedig i'r awdurdod gorfodi perthnasol arolygu ar bob adeg resymol unrhyw gynnyrch sydd wedi'i roi ar y farchnad a bydd paragraffau (2) i (7) yn gymwys pan fo'n ymddangos i'r swyddog awdurdodedig, ar ôl cyflawni'r arolygiad hwnnw neu am unrhyw achos rhesymol arall, fod unrhyw berson wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 3 o ran unrhyw gynnyrch.

(2Caiff y swyddog awdurdodedig naill ai—

(a)rhoi i'r person sydd â gofal dros y cynnyrch hysbysiad sy'n datgan mai hyd nes y tynnir yr hysbysiad yn ôl, nad yw'r cynnyrch nac unrhyw gyfran benodedig ohono—

(i)i'w roi ar y farchnad ymhellach i'w ddefnyddio mewn bwyd i bobl, bwyd anifeiliaid na gwrteithiau, a

(ii)naill ai i beidio â chael ei symud oddi yno neu i beidio â chael ei symud oddi yno ac eithrio i rywle a bennir yn yr hysbysiad; neu

(b)cymryd y cynnyrch i'w feddiant a'i symud oddi yno er mwyn trefnu bod ynad heddwch yn ymdrin â'r cynnyrch hwnnw.

(3Pan fo'r swyddog awdurdodedig yn arfer y pŵ er a roddwyd gan baragraff (2)(a), rhaid i'r swyddog hwnnw, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 21 niwrnod, benderfynu a yw wedi'i fodloni neu heb ei fodloni y cydymffurfiwyd â rheoliad 3 mewn perthynas â'r cynnyrch ac—

(a)os yw wedi'i fodloni felly, tynnu'r hysbysiad yn ôl ar unwaith; a

(b)os nad yw wedi'i fodloni felly, cymryd y cig i'w feddiant a'i symud oddi yno er mwyn trefnu bod ynad heddwch yn ymdrin â'r cig hwnnw.

(4Pan fo swyddog awdurdodedig yn arfer y pŵ er a roddwyd gan baragraff (2)(b) neu (3)(b), rhaid iddo hysbysu'r person sydd â gofal dros y cynnyrch o'i fwriad i drefnu bod ynad heddwch yn ymdrin â'r cynnyrch hwnnw ac—

(a)bydd gan unrhyw berson a allai fod yn agored o dan reoliad 3 i erlyniad mewn cysylltiad â'r cynnyrch, os bydd y person hwnnw yn dod gerbron yr ynad heddwch y mae'n dod i'w ran i ymdrin â'r cynnyrch, hawl i gael gwrandawiad ac i alw tystion; a

(b)caniateir, ond nid oes rhaid, i'r ynad heddwch hwnnw fod yn aelod o'r llys y cyhuddir unrhyw berson ger ei fron o dramgwydd o dan yr adran honno mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw.

(5Os yw'n ymddangos i ynad heddwch, ar sail y dystiolaeth y mae'n ei hystyried yn briodol o dan yr amgylchiadau, fod methiant i gydymffurfio â rheoliad 3 wedi bod mewn cysylltiad ag unrhyw gynnyrch y mae'n dod i'w ran i ymdrin ag ef o dan y rheoliad hwn, rhaid iddo gondemnio'r cynnyrch a gorchymyn—

(a)i'r cynnyrch gael ei ddistrywio neu ei waredu yn y fath fodd ag i'w atal rhag cael ei roi ymhellach ar y farchnad i'w ddefnyddio mewn bwyd i bobl, bwyd anifeiliaid neu wrteithiau; a

(b)i unrhyw dreuliau a dynnwyd yn rhesymol mewn cysylltiad â'r distrywio neu'r gwaredu gael eu talu gan berchennog y cynnyrch.

(6Os tynnir hysbysiad o dan baragraff (2)(a) yn ôl, neu os bydd yr ynad heddwch, y mae'n dod i'w ran i ymdrin ag unrhyw gynnyrch o dan y rheoliad hwn, yn gwrthod ei gondemnio, rhaid i'r awdurdod gorfodi perthnasol dalu iawndal i berchennog y cynnyrch am unrhyw ddibrisiant yn ei werth sy'n ganlyniad i'r camau a gymerwyd gan y swyddog awdurdodedig.

(7Rhaid i unrhyw gwestiwn sy'n destun dadl ynglŷn â hawl i gael unrhyw iawndal neu ynglŷn â swm unrhyw iawndal sy'n daladwy o dan baragraff (6) gael ei benderfynu drwy gymrodeddu.

Tramgwyddau a chosbau

6.—(1Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i reoliad 3 neu'n mynd yn groes, gan wybod hynny, i ofynion hysbysiad a roddir o dan baragraff (2)(a) o reoliad 5 yn euog o dramgwydd.

(2Bydd unrhyw berson sy'n euog o dramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na'r uchafswm statudol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis neu i'r ddau; neu

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, neu i'r ddau.

(3Ni chaniateir cychwyn erlyniad am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i reoliad 3 neu fynd yn groes, gan wybod hynny, i ofynion hysbysiad a roddwyd o dan baragraff (2)(a) o reoliad 5 ar ôl i'r naill neu'r llall o'r cyfnodau canlynol ddod i ben—

(a)tair blynedd o ddyddiad cyflawni'r tramgwydd; neu

(b)blwyddyn o ddyddiad ei ddarganfod gan yr erlynydd,

p'un bynnag yw'r cynharaf.

Gorfodi

7.  Rhaid i'r Rheoliadau hyn gael eu gweithredu a'u gorfodi—

(a)mewn lladd-dy neu safle torri sy'n rhoi cig ffres ar y farchnad, gan yr Asiantaeth; a

(b)mewn unrhyw fangre arall, gan yr awdurdod bwyd y mae'r fangre wedi'i lleoli yn ei ardal.

Diwygio Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995

8.  Yn lle paragraff (3) o reoliad 3 (ystyr sgil-gynnyrch anifail) o Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995(13) i'r graddau y mae'n gymwys o ran Cymru rhodder y paragraff canlynol—

(3) In these Regulations the definition of “animal by-product” includes—

(a)any product subject to the prohibition imposed by regulation 3 of the Bovine Products (Restriction on Placing on the Market) (Wales) (No. 2) Regulations 2005; and

(b)any bovine carcase or body part in respect of which a direction for disposal has been given under regulation 10A(5) of the TSE (Wales) Regulations 2002(14)..

Dirymu

9.  Mae Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad (Cymru) 2005(15) wedi'u dirymu.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(16).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Tachwedd 2005

Rheoliad 2(1)

YR ATODLENDIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH GYMUNEDOL

  • Ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”) yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diddymu cyfarwyddebau penodol ynglŷn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sy'n diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC(17);

  • Ystyr “Penderfyniad 2005/598” (“Decision 2005/598”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac sy'n esemptio'r anifeiliaid hynny rhag mesurau rheoli a difodi penodol a osodwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001(18);

  • Ystyr “Rheoliad 999/2001” (“Regulation 999/2001”) yw Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a difodi enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol(19) fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw gan Reoliad (EC) Rhif 932/2005 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a difodi enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol o ran estyn y cyfnod ar gyfer mesurau trosiannol(20) ac fel y diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1292/2005 Senedd Ewrop a'r Cyngor(21);

  • Ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd;

  • Ystyr “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid deunyddiau bwyd(22) fel y'i darllenir gyda Rheoliad A a Rheoliad B;

  • Ystyr “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n tarddu o anifeiliaid(23) fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw gan Reoliad C a Rheoliad E ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad A, Rheoliad C a Rheoliad E;

  • Ystyr “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl(24) fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw gan Reoliad 882/2004, Rheoliad C a Rheoliad E ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad C, Rheoliad D a Rheoliad E;

  • Ystyr “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a ddefnyddir i sicrhau bod cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a chyfraith bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid yn cael ei wirio(25) fel y darllenir y Rheoliad hwnnw gyda Rheoliad C a Rheoliad E;

  • Ystyr “Rheoliad A” (“Regulation A”) yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 20 Gorffennaf 2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi o gigoedd ac wyau penodol i'r Ffindir ac i Sweden;

  • Ystyr “Rheoliad B” (“Regulation B”) yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 23 Medi 2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer deunyddiau bwyd;

  • Ystyr “Rheoliad C” (“Regulation C”) yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 23 Medi 2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004, er mwyn trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliadau (EC) Rhif au 854/2004 ac 882/2004, sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif au 853/2004 ac 854/2004;

  • Ystyr “Rheoliad D” (“Regulation D”) yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 23 Medi 2005 sy'n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig; ac

  • Ystyr “Rheoliad E” (“Regulation E”) yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 5 Hydref 2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif au 854/2004 ac 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif au 853/2004 ac 854/2004.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn ailddeddfu gyda newidiadau penodol Reoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3501 (W.228) (Cy.228), a roes effaith o ran Cymru i Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac sy'n esemptio'r anifeiliaid hynny rhag mesurau rheoli a difodi penodol a osodwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 (OJ Rhif L204, 5.8.2005, t.22). Wrth wneud hynny, mae'r Rheoliadau hyn yn sicrhau bod yr Erthygl honno yn parhau i fod yn effeithiol o ran Cymru. Mae dirymu Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) 2005 yn cael ei gyflawni gan reoliad 9 o'r Rheoliadau hyn.

2.  Mae Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC yn darparu na chaniateir i gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 gael eu rhoi ar y farchnad.

3.  Rhoddir effaith bellach i'r gwaharddiad a gynhwysir yn Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC gan reoliad 3 o'r Rheoliadau hyn.

4.  Mae'r newidiadau a gyflawnir gan y Rheoliadau hyn— nad ydynt yn berthnasol i'r gwaharddiad a gynhwysir yn Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC- yn angenrheidiol yng ngoleuni'r ffaith bod Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3292 (W.252) (Cy.252), sy'n darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi o ran Cymru offerynnau Cymunedol penodol ynghylch hylendid bwyd, yn dod i rym.

5.  Mae'r Rheoliadau hyn hefyd—

(a)yn cymhwyso gydag addasiadau ddarpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p.16) at ddibenion y Rheoliadau hyn (rheoliad 4);

(b)yn darparu ar gyfer arolygu cynhyrchion yr amheuir eu bod wedi'u rhoi ar y farchnad yn groes i reoliad 3 a chymryd meddiant o'r cynhyrchion hynny (rheoliad 5);

(c)yn creu tramgwyddau a chosbau (rheoliad 6);

(ch)yn gwneud darpariaeth ar gyfer eu gorfodi (rheoliad 7); a

(d)yn gwneud diwygiad canlyniadol i Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995 (O.S. 1995/614) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru (rheoliad 8).

6.  Mae Arfarniad Rheoliadol llawn am yr effaith a gaiff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes wedi'i baratoi a'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).

(4)

OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4.

(7)

O.S. 1995/539, a ddirymwyd o 1 Ionawr 2006 ymlaen gan O.S. 2005/2059.

(9)

Diwygiwyd adran 21 gan O.S. 2004/3279.

(10)

Diwygir adran 35(1) gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (2003 p. 44), Atodlen 26, paragraff 42, o ddyddiad sydd i'w bennu.

(11)

Diwygiwyd adran 35(3) gan O.S. 2004/3279.

(12)

Mewnosodwyd adran 36A gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p. 28), Atodlen 5, paragraff 16.

(16)

1998 p.38.

(17)

OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33. Mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12).

(18)

OJ Rhif L204, 5.8.2005, t.22.

(19)

OJ Rhif L147, 31.5.2001, t.1.

(20)

OJ Rhif L163, 23.6.2005, t.1.

(21)

OJ Rhif L205, 6.8.2005, t.3.

(22)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3).

(23)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22).

(24)

OJ Rhif L155, 30.4.2004, t.206. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83).

(25)

OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources