xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) 2005.
(2) Ac eithrio rheoliad 4, daw rheoliadau 1 i 21 o'r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Ionawr 2006.
(3) Daw rheoliadau 4, 22 a 23 o'r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Chwefror 2006.
(4) Daw rheoliadau 24 i 42 o'r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Chwefror 2006.
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Dribiwnlysoedd yng Nghymru yn unig.
3.—(1) Yn y Rheoliadau hyn, oni fynna'r cyd-destun fel arall—
ystyr “apêl” (“appeal”) yw apêl o dan—
adran 16 (Apeliadau: cyffredinol) a pharagraff 3 o Atodlen 3 (cosbau) i Ddeddf 1992;
rheoliadau a wnaed o dan adran 24 o Ddeddf 1992 (1);
rheoliadau a wnaed o dan adran 55 o Ddeddf 1988 (2);
paragraff 4 o Atodlen 4A (Rhybuddion i Gwblhau) i Ddeddf 1988 (a elwir yn y Rheoliadau hyn yn “apêl yn erbyn rhybudd i gwblhau”);
paragraff 5C o Atodlen 9 (Cosbau Sifil) i Ddeddf 1988; ac
adran 45 o'r Ddeddf Draenio Tir 1991(3);
ystyr “ardal” (“area”) yng nghyswllt Tribiwnlys, yw'r ardal y sefydlir tribiwnlys ar ei chyfer gan reoliad 11;
ystyr “awdurdod bilio” (“billing authority”) yw awdurdod bilio fel y'i diffinnir yn adran 1(2) o Ddeddf 1992;
ystyr “Cadeirydd” (“Chairperson”) yw Cadeirydd Tribiwnlys Prisio a benodir o dan reoliad 15;
ystyr “cosb” (“penalty”) yw cosb a osodir o dan baragraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf 1992;
ystyr “Cyfarwyddwr” (“Director”) yw Cyfarwyddwr Cyngor Llywodraethu Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru a benodir o dan reoliad 10;
ystyr “Cyngor Llywodraethu” (“Governing Council”) yw Cyngor Llywodraethu Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru a sefydlwyd dan reoliad 6;
ystyr “Deddf 1988” (“the 1988 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;
ystyr “Deddf 1992” (“the 1992”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;
ystyr “Dirprwy Gyfarwyddwr” (“Deputy Director”) yw Dirprwy Gyfarwyddwr Cyngor Llywodraethu Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru a benodir o dan reoliad 10;
ystyr “Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru” (“Valuation Tribunal Service for Wales”) yw'r Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru a sefydlir o dan reoliad 5;
ystyr “hen Dribiwnlys” (“old Tribunal”) yw Tribiwnlys Prisio yng Nghymru a oedd yn bodoli yn union cyn 15 Chwefror 2006;
ystyr “hysbysiad am apêl” (“notice of appeal”) yw hysbysiad o dan reoliad 27(1);
ystyr “hysbysiad cwblhau” (“completion notice”) yw hysbysiad o dan Atodlen 4A i Ddeddf 1988 fel y'i cymhwysir at ddibenion Rhan 1 o Ddeddf 1992 (Treth Cyngor: Cymru a Lloegr);
ystyr “Llywydd” (“President”) yw Llywydd Tribiwnlys Prisio a benodir o dan reoliad 14;
ystyr “rhestr” (“list”) yw rhestr brisio a luniwyd o dan adran 22 o Ddeddf 1992;
ystyr “swyddog rhestru” (“listing officer”) mewn perthynas ag apêl, yw'r swyddog a benodir o dan adran 20 o Ddeddf 1992 ar gyfer yr awdurdod lle y saif yr annedd y mae'r apêl yn ymwneud â hi;
ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw aelodau Tribiwnlys a gynhaliwyd yn unol â Rhan 5 o'r Rheoliadau hyn at ddibenion penderfynu ar apêl; ac
ystyr “Tribiwnlys Arbennig” (“Special Tribunal”) yw Tribiwnlys a sefydlir o dan reoliad 25(5), (7) neu (8);
ystyr “Tribiwnlys Prisio” (“Valuation Tribunal”) yw Tribiwnlys Prisio a sefydlir o dan reoliad 11.
(2) Caiff unrhyw hysbysiad sydd i'w gyflwyno i unrhyw berson yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, gael ei gyflwyno drwy'r post.
(3) Mae'r cyfeiriadau at reoliadau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at reoliadau ac Atodlenni i'r Rheoliadau hyn, oni nodir yn wahanol.
4. Dirymir y canlynol—
(a)Rheoliadau'r Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) 1995(4);
(b)rheoliadau 1 i 5 o Reoliadau'r Tribiwnlysoedd Prisio (Diwygiadau) (Cymru) 2001(5); a
(c)Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) (Diwygiadau) 2004(6).