Search Legislation

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 1Rhagarweiniol

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Ionawr 2006.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;

ystyr “awdurdod bwyd anifeiliaid” (“feed authority”) yw awdurdod y nodwyd yn adran 67(1A) o'r Ddeddf bod ganddo'r ddyletswydd i orfodi Rhan IV o'r Ddeddf honno o fewn ei ardal;

ystyr “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) yw'r corff y nodwyd bod ganddo ddyletswydd i orfodi o dan reoliad 16;

ystyr “cyfraith bwyd anifeiliaid benodedig” (“specified feed law”) yw'r Ddeddf a'r Rheoliadau a restrir yn Atodlen 1;

mae i “cyfran a samplwyd” (“sampled portion”) yr ystyr a roddwyd yn Rhan 1 o Atodlen 1 i Reoliadau Bwyd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi) 1999;

ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “dadansoddwr amaethyddol” (“agricultural analyst”) yw dadansoddwr amaethyddol a benodir o dan adran 67 o'r Ddeddf, ac mae'n cynnwys dirprwy ddadansoddwr a benodir ar gyfer yr un ardal;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Amaethyddiaeth 1970 (1);

ystyr “labordy sy'n cydymffurfio â phwynt 4” (“point 4 compliant laboratory”) yw labordy sy'n cydymffurfio â'r pedwerydd a'r pumed indent o Atodiad II i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/70/EC sy'n gosod gofynion i benderfynu ar lefelau diocsinau a deuffenylau polyclorinedig sy'n debyg i ddiocsinau mewn bwyd anifeiliaid(2);

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw sefydliad, unrhyw le, cerbyd, stondin neu adeiledd symudol ac unrhyw long neu awyren;

ystyr “modd rhagnodedig” (“prescribed manner”) yw'r modd a ragnodir gan Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi) 1993(3) neu fel arall yn unol ag Erthygl 11(1) o Reoliad 882/2004;

ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gosod gofynion ac egwyddorion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop a gosod gweithdrefnau ym materion diogelwch bwyd;

ystyr “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflwynir i sicrhau y dilysir cydymffurfiaeth â chyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid a rheolau iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid (4);

ystyr “Rheoliad 183/2005” (“Regulation 183/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 183/2005 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gosod gofynion ar gyfer hylendid bwyd anifeiliaid(5));

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw person (p'un a yw'n swyddog o'r awdurdod gorfodi ai peidio) sydd wedi'i awdurdodi gan neu ar ran yr awdurdod gorfodi, naill ai'n gyffredinol neu'n benodol, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 178/2002, Rheoliad 882/2004 neu Reoliad 183/2005 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag yn y Rheoliad hwnnw.

(3Yn y Rheoliadau hyn nid yw “bwyd anifeiliaid” yn cynnwys unrhyw un o'r ychwanegion bwyd anifeiliaid neu rag-gymysgeddau o'r cyfryw ychwanegion—

(a)cocsidiostatwyr;

(b)histomonostatwyr; ac

(c)pob ychwanegyn soötechnegol arall ac eithrio—

(i)hyrwyddwyr treulio,

(ii)sefydlogyddion fflora'r perfedd, a

(iii)sylweddau sydd wedi'u hymgorffori gyda'r bwriad o gael effaith ffafriol ar yr amgylchedd.

(4Ar wahân i'r paragraff hwn, pan fo unrhyw gyfnod o lai na saith diwrnod a nodir yn y Rheoliadau hyn yn cynnwys unrhyw ddiwrnod—

(a)sy'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig neu'n ddydd Gwener y Groglith; neu

(b)sy'n ŵyl y banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(6),

bydd y cyfryw ddiwrnod yn cael ei eithrio o'r cyfnod.

(2)

O.J. Rhif L209, 6.8.2002, t.15.

(4)

OJ Rhif L191, 28.5.2004, p.1.

(5)

OJ Rhif L35, 8.2.2005, p.1.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources