Search Legislation

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 4Gweinyddu a Gorfodi yn Gyffredinol

Gorfodi

16.  Mae'n ddyletswydd ar bob awdurdod bwyd anifeiliaid o fewn ei ardal i weithredu a gorfodi darpariaethau'r Rheoliadau hyn a Rheoliad 178/2002 a Rheoliad 183/2005.

Hysbysiadau gwella busnes bwyd anifeiliaid

17.—(1Os oes gan swyddog awdurdodedig sail resymol dros gredu bod gweithredwr busnes bwyd anifeiliaid yn methu â chydymffurfio â chyfraith bwyd anifeiliaid benodedig, caiff y swyddog hwnnw drwy gyflwyno hysbysiad (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “hysbysiad gwella busnes bwyd anifeiliaid”) i'r person hwnnw—

(a)datgan rhesymau'r swyddog dros gredu bod gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid yn methu â chydymffurfio â chyfraith bwyd anifeiliaid benodedig;

(b)pennu'r materion sy'n golygu bod gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid yn methu â chydymffurfio;

(c)pennu'r mesurau y mae'n rhaid i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid eu cymryd, ym marn y swyddog, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth; ac

(ch)ei gwneud yn ofynnol i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid gymryd y camau hynny, neu gamau sydd o leiaf yn cyfateb â hwy, o fewn y cyfryw gyfnod (nad yw'n llai na 14 diwrnod) ag a bennir yn yr hysbysiad.

(2Mae unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â hysbysiad gwella busnes bwyd anifeiliaid yn euog o dramgwydd.

(3Mae'n rhaid i hysbysiad gwella busnes bwyd anifeiliaid nodi'r hawl i apelio o dan reoliad 18 a'r terfyn amser priodol ar gyfer dwyn unrhyw apêl o'r fath.

Hawl i apelio yn erbyn hysbysiadau gwella busnes bwyd anifeiliaid

18.—(1Caiff unrhyw berson a dramgwyddir oherwydd penderfyniad swyddog awdurdodedig i gyflwyno hysbysiad gwella busnes bwyd anifeiliaid apelio i lys ynadon.

(2Y weithdrefn ar apêl i lys ynadon o dan baragraff (1) yw drwy wneud cwŷn am orchymyn, a bydd Deddf Llysoedd yr Ynadon(1) yn gymwys i'r gweithrediadau.

(3Y cyfnod y gellir dwyn apêl o dan baragraff (1) o fewn iddo yw—

(a)mis i'r dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad o'r penderfyniad i'r person sy'n dymuno apelio; neu

(b)os yw'n fyrrach, y cyfnod a bennwyd yn yr hysbysiad yn unol â rheoliad 17(1)(ch), bod gwneud

a bernir yn gyfystyr â dwyn apêl cwyn am orchymyn at ddibenion y paragraff hwn.

Apelau i Lys y Goron

19.  Caiff person a dramgwyddir oherwydd—

(a)penderfyniad llys ynadon i wrthod yr apêl iddo o dan reoliad 13(1) neu 18(1); neu

(b)unrhyw benderfyniad gan lys o'r fath i wneud gorchymyn gwahardd busnes bwyd anifeiliaid neu orchymyn gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid,

apelio i Lys y Goron.

Camau sy'n deillio o apelau

20.—(1Ar apêl yn erbyn hysbysiad gwella busnes bwyd anifeiliaid caiff y llys ddileu neu gadarnhau'r hysbysiad ac, os bydd yn ei gadarnhau, caiff wneud hynny naill ai ar ei ffurf wreiddiol neu gyda'r cyfryw addasiadau ag y gwêl y llys yn dda o dan yr amgylchiadau.

(2Pan fo unrhyw gyfnod a bennwyd mewn hysbysiad gwella busnes bwyd anifeiliaid yn unol â rheoliad 17(1)(ch) fel arall yn cynnwys unrhyw ddiwrnod y mae apêl yn erbyn yr hysbysiad hwnnw yn yr arfaeth, bydd y diwrnod hwnnw yn cael ei eithrio o'r cyfnod hwnnw.

(3Mae'n rhaid ystyried unrhyw apêl yn un yn yr arfaeth at ddibenion paragraff (2) hyd nes y penderfynir arno yn derfynol, y'i tynnir yn ôl neu y'i dilëir oherwydd diffyg erlyniad.

Gorchmynion gwahardd busnes bwyd anifeiliaid

21.—(1Os—

(a)collfernir gweithredwr busnes bwyd anifeiliaid o dramgwydd o dan gyfraith bwyd anifeiliaid benodedig; a

(b)bydd y llys sy'n collfarnu'r gweithredwr neu y collfernir y gweithredwr felly ger ei fron yn fodlon bod yr amod ynglŷn â risg i iechyd wedi'i fodloni mewn perthynas â'r busnes bwyd anifeiliaid dan sylw,

mae'n rhaid i'r llys drwy orchymyn osod y gwaharddiad priodol.

(2Bodlonir yr amod ynglŷn â risg i iechyd mewn perthynas ag unrhyw fusnes bwyd anifeiliaid os bydd unrhyw un o'r canlynol yn cynnwys risg o niwed i iechyd (gan gynnwys amhariad, boed yn barhaol neu dros dro), sef—

(a)y defnydd o unrhyw broses neu driniaeth at ddibenion y busnes;

(b)adeiladu unrhyw fangre a ddefnyddir at ddibenion y busnes, neu'r defnydd o unrhyw offer at y dibenion hynny; ac

(c)cyflwr unrhyw fangre neu offer a ddefnyddir at ddibenion y busnes;

ac at ddibenion y paragraff hwn, ystyr “iechyd” yw iechyd anifeiliaid neu, drwy fwyta cynhyrchion anifail o'r fath, iechyd dynol.

(3Y gwaharddiad priodol yw—

(a)mewn achos o dan is-baragraff (a) o baragraff (2), gwaharddiad ar y defnydd o'r broses neu'r driniaeth at ddibenion y busnes;

(b)mewn achos sy'n dod o dan is-baragraff (b) o'r paragraff hwnnw, gwaharddiad ar y defnydd o'r fangre neu'r offer at ddibenion y busnes neu unrhyw fusnes bwyd anifeiliaid o'r un dosbarth neu ddisgrifiad; ac

(c)mewn achos sy'n dod o dan is-baragraff (c) o'r paragraff hwnnw, gwaharddiad ar y defnydd o'r fangre neu'r offer at ddibenion unrhyw fusnes bwyd anifeiliaid.

(4Os—

(a)collfernir gweithredwr busnes bwyd anifeiliaid o dramgwydd o dan gyfraith bwyd anifeiliaid benodedig; a

(b)cred y llys sy'n collfarnu'r gweithredwr neu y collfernir y gweithredwr felly ger ei bron ei bod yn briodol gwneud hynny o dan holl amgylchiadau'r achos,

caiff y llys, drwy orchymyn, osod gwaharddiad ar weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid rhag cymryd rhan mewn rheoli unrhyw fusnes bwyd anifeiliaid, neu unrhyw fusnes bwyd anifeiliaid o ddosbarth neu ddisgrifiad a bennir yn y gorchymyn.

(5Cyn gynted ag sy'n ymarferol ar ôl gwneud gorchymyn o dan baragraff (1) neu (4) (y cyfeirir ato fel “gorchymyn gwahardd busnes bwyd anifeiliaid” yn y Rheoliadau hyn), mae'n rhaid i'r awdurdod gorfodi—

(a)cyflwyno copi o'r gorchymyn i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid perthnasol; a

(b)yn achos gorchymyn a wnaed o dan baragraff (1), gosod copi o'r gorchymyn mewn man amlwg ar y cyfryw fangre a ddefnyddir at ddibenion y busnes bwyd anifeiliaid ag a gredant sy'n briodol,

ac mae unrhyw berson sy'n torri'r cyfryw orchymyn gan wybod ei fod yn gwneud hynny, yn euog o dramgwydd.

(6Bydd gorchymyn gwahardd busnes bwyd anifeiliaid yn peidio â bod yn effeithiol—

(a)yn achos gorchymyn a wnaed o dan baragraff (1), ar ôl i awdurdod gorfodi ddyroddi tystysgrif i'r perwyl ei fod yn fodlon bod gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid wedi cymryd camau digonol i sicrhau nad yw'r amod ynglŷn â risg i iechyd wedi'i fodloni mwyach mewn perthynas â'r busnes bwyd anifeiliaid; a

(b)yn achos gorchymyn a wnaed o dan baragraff (4), ar ôl i'r llys roi cyfarwyddyd i'r perwyl hwnnw.

(7Mae'n rhaid i'r awdurdod gorfodi ddyroddi tystysgrif o dan is-baragraff (a) o baragraff (6) o fewn tri diwrnod ar ôl bod yn fodlon fel y cyfeiriwyd ato yn yr is-baragraff hwnnw; ac ar ôl i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid wneud cais am y cyfryw dystysgrif, mae'n rhaid i'r awdurdod—

(a)penderfynu, cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 14 diwrnod, p'un a yw wedi'i fodloni felly ai peidio; a

(b)os yw'n penderfynu nad yw wedi'i fodloni felly, hysbysu gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid o'r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

(8Mae'n rhaid i'r llys roi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (b) o baragraff (6) os cred y llys, ar ôl i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid wneud cais, ei bod yn briodol gwneud hynny mewn perthynas â holl amgylchiadau'r achos, gan gynnwys yn benodol ymddygiad gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid ers i'r gorchymyn gael ei wneud; ond ni ellir ystyried cais o'r fath os y'i gwneir—

(a)o fewn chwe mis i wneud y gorchymyn gwahardd busnes bwyd anifeiliaid; neu

(b)o fewn tri mis ar ôl i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid wneud cais blaenorol am gyfarwyddyd o'r fath.

(9Pan fo llys ynadon yn gwneud gorchymyn o dan reoliad 22(2) mewn perthynas ag unrhyw fusnes bwyd anifeiliaid, bydd paragraff (1) yn gymwys os collfarnwyd gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid gan y llys o dramgwydd o dan gyfraith bwyd anifeiliaid benodedig.

(10Pan fo tramgwydd gan weithredwr busnes bwyd anifeiliaid yn arwain at gollfarnu person arall yn unol â rheoliad 35(1), bydd paragraff (4) yn gymwys mewn perthynas â'r person arall hwnnw fel y mae'n gymwys i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid ac mae'n rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad ym mharagraff (5) neu (8) at weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid yn unol â hynny.

Hysbysiadau a gorchmynion gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid

22.—(1Os yw swyddog awdurdodedig o awdurdod gorfodi yn fodlon bod yr amod ynglŷn â risg i iechyd wedi'i fodloni mewn perthynas ag unrhyw fusnes bwyd anifeiliaid caiff y swyddog drwy gyflwyno hysbysiad i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid perthnasol (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau fel “hysbysiad gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid”) osod y gwaharddiad priodol.

(2Os yw llys ynadon yn fodlon, ar ôl i'r cyfryw swyddog wneud cais, fod yr amod ynglŷn â risg i iechyd wedi'i fodloni mewn perthynas ag unrhyw fusnes bwyd anifeiliaid, mae'n rhaid i'r llys, drwy orchymyn (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “gorchymyn gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid”) osod y gwaharddiad priodol.

(3Ni chaiff y cyfryw swyddog o'r fath wneud cais am orchymyn gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid oni chyflwynodd y swyddog, o leiaf ddiwrnod cyn dyddiad y cais, hysbysiad i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid perthnasol o'i fwriad i wneud cais am y gorchymyn.

(4Mae paragraffau (2) a (3) o reoliad 21 yn gymwys at ddibenion y rheoliad hwn, fel y maent yn gymwys at ddibenion y rheoliad hwnnw ond fel pe bai'r cyfeiriad ym mharagraff (2) at risg o niwed i iechyd yn gyfeiriad at risg ar fin digwydd i iechyd.

(5Cyn gynted ag sy'n ymarferol ar ôl cyflwyno hysbysiad gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid, mae'n rhaid i swyddog awdurdodedig o awdurdod gorfodi osod copi o'r hysbysiad mewn man amlwg ar y cyfryw fangre a ddefnyddir at ddibenion y busnes bwyd anifeiliaid ag y cred y swyddog sy'n briodol; a bydd unrhyw berson sy'n torri'r cyfryw hysbysiad gan wybod ei fod yn gwneud hynny yn euog o dramgwydd

(6Cyn gynted ag sy'n ymarferol ar ôl i orchymyn gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid gael ei wneud, mae'n rhaid i swyddog awdurdodedig o awdurdod gorfodi—

(a)cyflwyno copi o'r gorchymyn i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid perthnasol; a

(b)gosod copi o'r gorchymyn mewn man amlwg ar y cyfryw fangre a ddefnyddir at ddibenion y busnes bwyd anifeiliaid ag y cred y swyddog sy'n briodol,

a bydd unrhyw berson sy'n torri'r cyfryw orchymyn gan wybod ei fod yn gwneud hynny, yn euog o dramgwydd.

(7Bydd hysbysiad gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid yn peidio â bod yn effeithiol—

(a)oni wneir cais am orchymyn gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid o fewn y cyfnod o dri diwrnod yn dechrau gyda chyflwyno'r hysbysiad, i ddiwedd y cyfnod hwnnw; neu

(b)os gwneir cais o'r fath felly, ar ôl i lys benderfynu ar y cais yn derfynol neu ar ôl terfynu'r cais.

(8Bydd hysbysiad gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid neu orchymyn gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid yn peidio â bod yn effeithiol ar ôl i'r awdurdod gorfodi ddyroddi tystysgrif i'r perwyl ei fod yn fodlon bod gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid wedi cymryd camau digonol i sicrhau nad yw'r amod ynglŷn â risg i iechyd wedi'i fodloni mwyach mewn perthynas ag unrhyw fusnes bwyd anifeiliaid.

(9Mae'n rhaid i'r awdurdod gorfodi ddyroddi tystysgrif o dan baragraff (8) o fewn tri diwrnod ar ôl bod yn fodlon fel y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw; ac ar ôl i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid wneud cais am dystysgrif o'r fath, mae'n rhaid i'r awdurdod—

(a)penderfynu cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 14 diwrnod p'un a yw wedi'i fodloni felly ai peidio; a

(b)os yw'n penderfynu nad yw wedi'i fodloni felly, hysbysu gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid o'r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

(10Pan fo hysbysiad gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid yn cael ei gyflwyno i weithredwr busnes bwyd anifeiliaid, mae'n rhaid i'r awdurdod gorfodi ddigolledu'r gweithredwr mewn perthynas ag unrhyw golled a gafwyd am fod y gweithredwr wedi cydymffurfio â'r hysbysiad—

(a)oni wneir cais am orchymyn gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid o fewn y cyfnod o dri diwrnod yn dechrau gyda chyflwyno'r hysbysiad; a

(b)oni bai bod y llys yn datgan ei bod yn fodlon, ar ôl gwrando'r cais, fod yr amod ynglŷn â risg i iechyd wedi'i fodloni mewn perthynas â'r busnes bwyd anifeiliaid pan gyflwynwyd yr hysbysiad,

a phenderfynir ar unrhyw anghydfod ynglŷn â'r hawl i unrhyw ddigollediad neu swm y digollediad sy'n daladwy o dan y paragraff hwn drwy gymrodeddu.

Cosbau am dramgwyddau mewn perthynas â hysbysiadau gwella, gorchmynion gwahardd etc

23.  Mae unrhyw un sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 17(2), 21(5) neu 22(5) neu (6) yn agored—

(a)ar gollfarn ddiannod i garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na thri mis, neu i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu'r ddau; neu

(b)ar gollfarn ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na dwy flynedd neu i ddirwy, neu'r ddau.

Pwerau mynediad i swyddogion awdurdodedig

24.—(1At ddibenion gweithredu a gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid benodedig caiff swyddog awdurdodedig ar bob adeg resymol, ac ar ôl cyflwyno dogfen ddilys briodol sy'n dangos ei awdurdod os gofynnir iddo wneud hynny, fynd i mewn i—

(a)unrhyw fangre y mae gan y swyddog sail resymol dros gredu bod bwyd anifeiliaid wedi cael ei weithgynhyrchu neu ei gynhyrchu neu'n cael ei weithgynhyrchu neu ei gynhyrchu, neu'n cael ei gadw er mwyn ei osod ar y farchnad, wedi'i ymgorffori mewn cynnyrch arall, neu wedi'i ddefnyddio; neu

(b)unrhyw fangre (nad yw'n fangre a ddefnyddir fel annedd yn unig) y mae gan y swyddog sail resymol dros gredu bod unrhyw fwyd anifeiliaid yno sydd gan feddiannydd y fangre yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth.

(2Os bydd ynad heddwch, ar ôl cael gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, yn fodlon bod sail resymol dros fynd i mewn i unrhyw gyfryw fangre fel y nodir ym mharagraff (1), a naill ai—

(a)mae mynediad i'r fangre wedi cael ei wrthod, neu y deallir y gall gael ei wrthod, a hysbyswyd y meddiannydd o'r bwriad i wneud cais am warant; neu

(b)byddai cais i gael mynediad neu roi'r cyfryw hysbysiad yn mynd yn groes i'r bwriad o gael mynediad, neu mae'r achos yn un brys, neu mae'r fangre heb ei feddiannu neu mae'r meddiannydd yn absennol dros dro,

caiff yr ynad drwy warant a lofnodwyd ganddo awdurdodi'r swyddogion awdurdodedig i fynd i mewn i'r fangre, drwy rym rhesymol os bydd angen.

(3Bydd pob gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn parhau mewn grym am gyfnod o fis.

(4Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant a roddwyd oddi tano, fynd â'r cyfryw bersonau eraill gydag ef a'r cyfryw offer ag yr ymddengys i'r swyddog eu bod yn angenrheidiol, ac wrth adael unrhyw fangre heb ei feddiannu y mae wedi mynd i mewn iddo yn rhinwedd y cyfryw warant mae'n rhaid iddo ei adael wedi'i gau'n ddiogel mor effeithiol rhag mynediad anawdurdodedig ag yr oedd cyn mynd i mewn iddo.

(5Mae hawl gan swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant o roddwyd oddi tano, i archwilio—

(a)unrhyw ddeunydd yr ymddengys i'r swyddog mai bwyd anifeiliaid ydyw;

(b)unrhyw eitem yr ymddengys i'r swyddog yn gynhwysyn neu becyn a ddefnyddir neu y bwriedir ei ddefnyddio i storio, lapio neu becynnu unrhyw fwyd anifeiliaid, neu i fod yn label neu'n hysbyseb a ddefnyddir neu y bwriedir ei ddefnyddio mewn cysylltiad â bwyd anifeiliaid; neu

(c)unrhyw gerbyd, peiriant neu offer yr ymddengys i'r swyddog eu bod yn cael eu defnyddio, neu y bwriedir iddo gael ei ddefnyddio, mewn cysylltiad â gweithgynhyrchu, cynhyrchu, storio, cludo neu ddefnyddio bwyd anifeiliaid, ac unrhyw broses o weithgynhyrchu, cynhyrchu, storio, cludo neu ddefnyddio bwyd anifeiliaid.

(6Yn ddarostyngedig i baragraff (8), mae gan swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant a roddwyd oddi tano, yr hawl i gymryd ar y safle hwnnw, yn y modd rhagnodedig, sampl o unrhyw ddeunydd yr ymddengys i'r swyddog ei fod yn fwyd anifeiliaid a weithgynhyrchir, a gynhyrchir, a roddir ar y farchnad neu y bwriedir ei roi ar y farchnad neu'n ddeunydd a ddefnyddir, neu y bwriedir ei ddefnyddio, fel bwyd anifeiliaid.

(7Heb ragfarnu ei bwerau a'i ddyletswyddau o ran cymryd samplau yn y modd rhagnodedig, caiff swyddog awdurdodedig gymryd sampl mewn modd ac eithrio'r modd a ragnodir o unrhyw ddeunydd a werthwyd i'w ddefnyddio fel bwyd anifeiliaid neu y mae gan y swyddog sail resymol dros gredu ei fod wedi'i fwriadu ar gyfer ei werthu fel y cyfryw.

(8Pan fo swyddog awdurdodedig, at ddiben cymryd sampl yn unol â pharagraff (6) neu (7), yn cymryd peth ohono o bob un neu fwy o gynwysyddion, sydd wedi'u rhoi ar ddangos i'w gwerthu drwy fanwerthu, ac na fydd dim un ohonynt yn pwyso mwy na chwe chilogram, caiff perchennog y cynhwysydd neu'r cynwysyddion ei gwneud yn ofynnol i'r swyddog awdurdodedig brynu'r cynhwysydd neu'r cynwysyddion ar ran yr awdurdod y mae'r swyddog yn gweithredu drosto.

(9Mae gan swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a roddwyd oddi tano, yr hawl—

(a)i'w gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n cynnal, neu yr ymddengys ei fod yn cynnal, busnes bwyd anifeiliaid, neu unrhyw berson a gyflogir mewn cysylltiad â'r cyfryw fusnes, gyflwyno unrhyw gofnod (ym mha ffurf bynnag a ddelir) mewn perthynas ag ymarfer unrhyw weithgaredd wrth gynnal y busnes hwnnw neu sy'n deillio o unrhyw weithgaredd wrth gynnal y busnes hwnnw, ac sydd yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth; a

(b)archwilio a chymryd copïau o unrhyw gofnod, neu unrhyw eitem mewn unrhyw gofnod a gyflwynir yn rhinwedd yr is-baragraff blaenorol.

(10Mae gan swyddog awdurdodedig sy'n arfer y pŵer a roddir gan baragraff (9) mewn perthynas â chofnod a ddelir drwy gyfrifiadur—

(a)yr hawl ar unrhyw adeg resymol i gael mynediad i unrhyw gyfrifiadur a chyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd, neu yr ymddengys ei fod yn cael ei ddefnyddio neu ei fod wedi cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â'r cofnod dan sylw a'i archwilio a gwirio ei weithrediad;

(b)caiff ei gwneud yn ofynnol—

(i)i'r person y defnyddir neu y defnyddiwyd y cyfrifiadur felly ganddo neu ar ei ran, neu

(ii)i unrhyw berson sy'n gyfrifol am weithredu'r cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd neu sydd fel arall yn ymwneud â gweithrediad y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd,

i roi i'r swyddog awdurdodedig y cyfryw gymorth rhesymol ag sydd ei angen arno at y diben hwnnw; ac

(c)caiff ei gwneud yn ofynnol i'r cofnod, neu ran o'r cofnod, gael ei gyflwyno ar ffurf y gellir ei gymryd ymaith.

(11Pan fo (yn achos person sy'n cynnal busnes, neu y mae'n ymddangos ei fod yn cynnal busnes gweithgynhyrchu bwyd anifeiliaid cyfansawdd neu fod ei fusnes yn cynnwys hynny)—

(a)gofyniad yn cael ei wneud o dan baragraff (9)(a) mewn y mae'n ymddangos ei fod yn perthynas ag unrhyw fwyd anifeiliaid sydd, neu yr ymddengys ei fod wedi'i fwriadu at ddiben maethol penodol; a

(b)ar adeg gwneud y gofyniad, y cofnod y gwnaed y gofyniad mewn perthynas ag ef wedi'i gyhoeddi a phan fydd ar gael ar ffurf hygyrch at ddefnydd y cyhoedd,

tybir bod y person y gosodir y gofyniad arno yn cydymffurfio ag ef, os yw'r person, ar adeg ei wneud, yn darparu i'r swyddog awdurdodedig sy'n ei wneud fanylion cywir a digonol am y cyhoeddiad o dan sylw, a lle y gellir cael copi ohono.

(12Mae gan swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant a roddwyd oddi tano, yr hawl i atafaelu a chadw unrhyw gofnod y mae gan y swyddog sail rhesymol dros gredu ei fod yn gofnod y gall fod ei angen fel tystiolaeth mewn rheithdrefnau o dan y gyfraith bwyd anifeiliaid benodedig.

(13Yn y rheoliad hwn—

mae i “bwyd anifeiliaid cyfansawdd” (“compound feeding stuff”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 2005;

dehonglir “bwyd anifeiliaid a fwriedir at ddiben maethol penodol” (“feeding stuff intended for a particular nutritional purpose”) yn unol â'r diffiniadau o “bwyd anifeiliaid a fwriedir at ddiben maethol penodol” (“feeding stuff intended for a particular nutritional purpose”) a “diben maethol penodol” (“particular nutritional purpose”) yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 2005;

(14Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn awdurdodi unrhyw berson ac eithrio gyda chaniatâd yr awdurdod lleol o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(2), i fynd i mewn i unrhyw fangre—

(a)lle y cedwir unrhyw anifail neu aderyn ac arnynt unrhyw glefyd y mae'r Ddeddf honno yn gymwys iddo; a

(b)sydd mewn man y datganwyd o dan y Ddeddf honno ei fod wedi'i heintio gyda chlefyd o'r fath.

Archwilio, atafaelu a chadw bwyd anifeiliaid a amheuir

25.—(1Pan fo swyddog awdurdodedig wedi archwilio neu wedi samplu unrhyw ddeunydd o dan reoliad 24, bydd paragraffau (2) i (7) yn gymwys, os ymddengys i'r swyddog, wrth wneud y cyfryw archwiliad, neu wrth ddadansoddi samplau a gymerwyd, fod y deunydd yn methu â chydymffurfio â gofynion cyfraith bwyd anifeiliaid benodedig.

(2Caiff y swyddog awdurdodedig naill ai—

(a)rhoi hysbysiad i'r person sy'n gyfrifol am y deunydd na ddylai'r deunydd neu unrhyw gyfran ohono a bennwyd hyd nes y tynnir yr hysbysiad yn ôl—

(i)cael ei ddefnyddio fel bwyd anifeiliaid; a

(ii)na ddylai naill ai gael ei symud neu na ddylai gael ei symud ac eithrio i ryw le a ragnodwyd yn yr hysbysiad; neu

(b)atafaelu'r deunydd er mwyn i ynad heddwch ymdrin ag ef,

ac mae unrhyw berson sy'n torri gofyniad hysbysiad o dan is-baragraff (a) uchod gan wybod ei fod yn gwneud hynny, yn euog o dramgwydd.

(3Pan fo'r swyddog awdurdodedig yn ymarfer y pwerau a roddir gan baragraff 2(a), mae'n rhaid i'r swyddog, cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 21 diwrnod, benderfynu p'un a yw'n fodlon bod y deunydd yn cydymffurfio â'r gofynion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) ai peidio ac—

(a)os yw wedi'i fodloni felly, tynnu'r hysbysiad yn ôl ar unwaith;

(b)os nad yw wedi'i fodloni felly, cael peri bod ynad heddwch yn ymdrin â'r mater o dan baragraff (5).

(4Pan fo'r swyddog awdurdodedig yn arfer y pwerau a roddir gan baragraff 2(b) neu'n cymryd camau o dan baragraff 3(b), mae'n rhaid i'r swyddog hysbysu'r person sy'n gyfrifol am y deunydd o fwriad y swyddog i gael ynad heddwch i ymdrin ag ef ac—

(a)bydd gan unrhyw berson a allai fod yn agored o dan ddarpariaethau cyfraith bwyd anifeiliaid a bennwyd i gael ei erlyn mewn perthynas â'r deunydd, os bydd y person hwnnw yn ymddangos gerbron yr ynad heddwch sy'n ymdrin â'r deunydd, yr hawl i gael gwrandawiad a galw ar dystion; a

(b)caiff yr ynad heddwch hwnnw fod yn aelod o'r llys y cyhuddir unrhyw berson o dramgwydd o dan y darpariaethau hynny mewn perthynas â'r deunydd hwnnw ger ei bron, ond nid oes angen iddo fod felly.

(5Os ymddengys i ynad heddwch, ar sail y cyfryw dystiolaeth y cred ei bod yn briodol o dan yr amgylchiadau, fod unrhyw ddeunydd y mae'n ymdrin ag ef o dan y rheoliad hwn, yn methu â chydymffurfio â gofyniad y gyfraith bwyd anifeiliaid benodedig yna mae'n rhaid iddo gondemnio'r deunydd a gorchymyn—

(a)i'r deunydd gael ei ddinistrio neu ei waredu yn y cyfryw fodd ag sy'n ei atal rhag cael ei ddefnyddio fel bwyd y bwriedir i bobl ei fwyta neu fel bwyd anifeiliaid; a

(b)i unrhyw dreuliau yr aethpwyd iddynt yn rhesymol mewn cysylltiad â dinistrio neu waredu gael eu talu gan weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid.

(6Os tynnir hysbysiad o dan baragraff 2(a) yn ôl, neu os bydd yr ynad heddwch sy'n ymdrin ag unrhyw ddeunydd o dan y rheoliad hwn yn gwrthod ei gondemnio, mae'n rhaid i'r awdurdod gorfodi ddigolledu perchennog y deunydd am unrhyw ddibrisiant yn ei werth o ganlyniad i'r camau a gymerwyd gan y swyddog awdurdodedig.

(7Penderfynir ar unrhyw anghydfod ynglŷn â'r hawl i unrhyw ddigollediad neu swm y digollediad sy'n daladwy o dan baragraff (6) drwy gymrodeddu.

(8Mae unrhyw un y bernir ei fod yn euog o dramgwydd o dan baragraff (2) yn agored—

(a)ar gollfarn ddiannod i garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na thri mis, neu i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu'r ddau; neu

(b)ar gollfarn ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na dwy flynedd neu i ddirwy, neu'r ddau.

Cyflwyno hysbysiadau

26.—(1Rhaid i unrhyw hysbysiad a roddwyd o dan reoliad 9, 10, 11, 17, 22 neu 25—

(a)cael ei lofnodi gan swyddog awdurdodedig sy'n gweithredu ar ran yr awdurdod gorfodi;

(b)os honnir ei fod yn dwyn llofnod (sy'n cynnwys ffacsimili o lofnod ym mha fodd bynnag y'i hatgynhyrchir) person y mynegir ei fod yn swyddog awdurdodedig, tybir ei fod, wedi'i gyflwyno'n briodol gan y cyfryw swyddog awdurdodedig, oni phrofir i'r gwrthwyneb;

(c)yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid iddo gael ei roi i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid neu i'r person y cyfeirir ato yn rheoliad 25(2)(a) drwy—

(i)ei ddosbarthu i'r person hwnnw; neu

(ii)ei adael, neu ei anfon mewn llythyr rhagdaledig wedi'i gyfeirio at y person hwnnw yn ei swyddfa; neu

(iii)yn achos cwmni neu gorff corfforedig, drwy ei ddosbarthu i'w ysgrifennydd neu ei glerc yn ei swyddfa gofrestredig neu ei brif swyddfa, neu drwy ei anfon mewn llythyr rhagdaledig wedi'i gyfeirio at yr ysgrifennydd neu'r clerc yn y swyddfa honno; neu

(iv)yn achos unrhyw berson arall drwy ei adael neu ei anfon mewn llythyr rhagdaledig wedi'i gyfeirio at y person hwnnw yn ei gartref arferol neu ei gartref hysbys diwethaf.

(2Pan na fo'n ymarferol, ar ôl ymholiad rhesymol i ganfod enw a chyfeiriad y person y dylid cyflwyno'r hysbysiad iddo, neu pan na fo'r fangre lle y cynhelir busnes bwyd anifeiliaid wedi'i feddiannu, gellir cyfeirio'r hysbysiad at “berchennog” neu “feddiannydd” y fangre lle y cynhelir y busnes bwyd anifeiliaid, a'i ddosbarthu i rywun yn y fangre honno, neu os nad oes neb ar y fangre y gellir ei ddosbarthu iddo, drwy osod yr hysbysiad neu gopi ohono mewn man amlwg ar y fangre.

Tramgwyddau yn ymwneud ag arfer pwerau gan swyddogion awdurdodedig

27.—(1Mae unrhyw berson sydd yn fwriadol yn atal swyddog awdurdodedig wrth arfer ei bwerau o dan y Rheoliadau hyn neu'n methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a wnaed yn gyfreithlon gan y swyddog wrth arfer y cyfryw bwerau yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 o'r raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na thri mis neu'r ddau.

(2Mae unrhyw berson nad yw'n swyddog awdurdodedig sy'n honni bod yn swyddog awdurdodedig o dan y Rheoliadau hyn yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na thri mis neu'r ddau.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), os bydd unrhyw berson yn datgelu i unrhyw berson arall—

(a)unrhyw wybodaeth mewn perthynas ag unrhyw broses weithgynhyrchu neu gyfrinach fasnachol a gafwyd gan y person hwnnw ar y fangre y mae wedi mynd i mewn iddo yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, neu

(b)unrhyw wybodaeth arall a gafwyd gan y person hwnnw yn rhinwedd y Rheoliadau hyn,

bydd y person hwnnw yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol oni ddatgelwyd y wybodaeth wrth i'r person hwnnw neu unrhyw berson arall gyflawni swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn neu er mwyn i'r person hwnnw neu unrhyw berson arall gyflawni swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.

(4Nid yw paragraff (3) yn gymwys i atal swyddog awdurdodedig sydd wedi cymryd sampl o dan reoliad 24 rhag datgelu—

(a)i'r gweithgynhyrchwr neu werthwr diwethaf y deunydd, wybodaeth ynglŷn â pha le y cymerwyd y sampl a'r person y cymerwyd y sampl ganddo;

(b)i'r gweithgynhyrchwr neu'r gwerthwr diwethaf hwnnw neu i unrhyw berson yr oedd ganddo y deunydd hwnnw ar ei fangre, wybodaeth ynglŷn â chanlyniadau unrhyw ddadansoddiad o'r sampl honno; neu

(c)unrhyw wybodaeth y mae angen ei datgelu er mwyn atal risg ddifrifol i iechyd pobl neu anifeiliaid neu i'r amgylchedd rhag codi.

Atebolrwydd am wariant

28.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) mae'n rhaid i unrhyw symiau sy'n ddyledus i'r awdurdod gorfodi yn rhinwedd Erthygl 54(5) (camau gweithredu yn achos diffyg cydymffurfiaeth) o Reoliad 882/2004 gael eu talu gan weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid i'r awdurdod gorfodi os gofynnir iddo wneud hynny.

(2Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag Erthygl 54(2)(g), (mesurau y cyfeirir atynt yn Erthygl 19 ar anfoniadau o drydydd gwledydd), o Reoliad 882/2004.

Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi)

29.—(1Mae'r darpariaethau canlynol o Reoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 yn gymwys, yn ddarostyngedig i'r addasiadau a bennir ym mharagraff (2), at ddibenion y Rheoliadau hyn fel y maent yn gymwys mewn perthynas â samplu a dadansoddi o dan y Rheoliadau hynny—

(a)rheoliad 2 (swm rhagnodedig at ddibenion cyfran a samplwyd);

(b)rheoliad 3 (modd cymryd a selio samplau);

(c)rheoliad 4 (modd anfon samplau);

(ch)rheoliad 5 (cymwysterau dadansoddwyr amaethyddol);

(d)rheoliad 6 (cymhwyso dulliau dadansoddi);

(dd)rheoliad 7 (ffurf ar dystysgrif ddadansoddi);

(e)rheoliad 8 (terfyn amser ar gyfer dadansoddi cynnwys olew);

(f)Atodlen 1 (rheolau manwl ynglŷn â samplu);

(ff)Atodlen 2 (dulliau dadansoddi);

(g)Atodlen 3 (ffurf ar dystysgrif ddadansoddi).

(2Darllenir Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 fel y maent yn gymwys i Gymru fel pe bai yn y Rheoliadau hynny—

(a)unrhyw gyfeiriad at “feeding stuffs” yn gyfeiriad at “feed”;

(b)unrhyw gyfeiriad at “inspector” yn gyfeiriad at “authorised officer”;

(c)yr ymadrodd “analysed for the purposes of carrying out official controls and the enforcement of specified feed law” gan fod y term hwnnw wedi'i ddiffinio yn Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005, yn cael ei roi yn lle “analysed pursuant to the Act”;

(ch)yn rheoliad 4, yr ymadrodd “under regulation 30(1)(b) and (c) of the Feed (Hygiene and Enforcement) (Wales) Regulations 2005” yn cael ei roi yn lle “in pursuance of subsection (1)(b) or (2) of section 77 of the Act”;

(d)yn rheoliad 7, yr ymadrodd “under regulation 30(4) of the Feed (Hygiene and Enforcement) (Wales) Regulations 2005” yn cael ei roi yn lle “pursuant to section 77(4) of the Act”;

(dd)yn Atodlen 1, ym mharagraff 5(1) o Ran II yr ymadrodd “under regulation 24(6) of the Feed (Hygiene and Enforcement) (Wales) Regulations 2005” yn cael ei roi yn lle “in accordance with section 76(7) of the Act as that section is modified by regulation 10 of the Feeding Stuffs (Enforcement) Regulations 1999”;

(e)yn Atodlen 3—

(i)bod “or of the Feed (Hygiene and Enforcement) (Wales) Regulations 2005” yn cael ei fewnosod yn Rhan I ar ôl yr ymadrodd “Part IV of the Agriculture Act 1970”;

(ii)bod “or the Feed (Hygiene and Enforcement) (Wales) Regulations 2005” yn cael ei ychwanegu yn Rhan II yn nodyn (1) ar ôl ymadrodd “the Agriculture Act 1970”.

Y weithdrefn yn ymwneud â samplau i'w dadansoddi

30.—(1Pan fo swyddog awdurdodedig, yn unol â rheoliad 24(6) yn cael sampl ac yn penderfynu trefnu iddo gael ei dadansoddi er mwyn canfod a dorrir neu a dorrwyd cyfraith bwyd anifeiliaid benodedig, mae'n rhaid i'r swyddog rannu'r sampl yn dair rhan sydd mor agos at fod o'r un maint ag y gellir a—

(a)peri i bob rhan gael ei marcio, ei selio a'i chlymu yn y modd rhagnodedig;

(b)anfon un rhan ar gyfer ei dadansoddi—

(i)at y dadansoddwr amaethyddol ar gyfer yr ardal y mae awdurdod y swyddog awdurdodedig yn deillio ohoni;

(ii)os pwrpas y dadansoddiad yw penderfynu ar y lefelau o ddiocsinau neu o ddeuffenylau polyclorinedig sy'n debyg i ddiocsinau yn y sampl, i labordy sy'n cydymffurfio â phwynt 4;

(c)anfon rhan arall at y person sy'n berchen ar y deunydd a samplwyd neu at asiant y person hwnnw;

(ch)cadw'r rhan sy'n weddill fel sampl gyfeirio sydd wedi'i selio'n swyddogol.

(2Os nad person y dylid anfon ato ran o'r sampl o dan baragraff (1) yw'r person a weithgynhyrchodd unrhyw ddeunydd a samplwyd o dan y Rheoliadau hyn, bydd y paragraff hwnnw yn cael effaith fel pe bai cyfeiriad at bedair rhan yn cael ei roi yn lle'r cyfeiriad at dair rhan, ac mae'n rhaid i'r swyddog awdurdodedig o fewn 14 diwrnod o ddyddiad y samplu anfon y bedwaredd ran at y gweithgynhyrchydd, oni ŵyr y swyddog pwy yw'r gweithgynhyrchydd a chyfeiriad y gweithgynhyrchydd yn y Deyrnas Unedig ac os na all ganfod hynny ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol.

(3Mae'n rhaid anfon y rhan o'r sampl a anfonwyd at y dadansoddwr amaethyddol neu, fel y digwydd, i labordy sy'n cydymffurfio â phwynt 4 ar y cyd â datganiad a lofnodwyd gan y swyddog awdurdodedig sy'n cadarnhau i'r sampl gael ei chymryd yn y modd a ragnodir gan Ran II o Atodlen I i Reoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999.

(4Mae'n rhaid i'r dadansoddwr amaethyddol neu, fel y digwydd, y labordy sy'n cydymffurfio â phwynt 4, ddadansoddi'r rhan o'r sampl a anfonwyd ato o dan baragraff (1), ac anfon tystysgrif ddadansoddi at y swyddog awdurdodedig, y mae'n rhaid iddo anfon copi at—

(a)perchennog y deunydd a samplwyd neu asiant y perchennog, a

(b)os anfonwyd rhan o'r sampl o dan baragraff (2), at y person yr anfonwyd y rhan honno ato.

(5Os yw'r dadansoddwr amaethyddol yr anfonwyd y sampl ato o dan baragraff (1)(b)(i) yn penderfynu na ellir gwneud dadansoddiad effeithiol o'r sampl gan y dadansoddwr neu o dan ei gyfarwyddyd mae'n rhaid i'r dadansoddwr ei hanfon at y dadansoddwr amaethyddol ar gyfer ardal arall, ynghyd ag unrhyw ddogfennau eraill a gafodd gyda'r sampl, ac yna bydd paragraff (4) yn gymwys fel pe bai'r sampl wedi'i hanfon at y dadansoddwr arall hwnnw yn wreiddiol.

Ail samplu gan Gemegydd y Llywodraeth

31.—(1Pan fo rhan o sampl o dan reoliad 30(1)(b) wedi'i dadansoddi a—

(a)bwriedir dwyn achos neu dygwyd achos yn erbyn person am dramgwydd o dan gyfraith bwyd anifeiliaid benodedig; a

(b)mae'r erlyniad yn bwriadu dangos tystiolaeth o'r canlyniad o'r rhan honno o'r sampl,

bydd paragraffau (2) i (6) yn gymwys.

(2O ran y swyddog awdurdodedig—

(a)caiff o'i ddewis ei hun;

(b)rhaid iddo os bydd yr erlynydd yn gofyn iddo (os person ac eithrio'r swyddog awdurdodedig ydyw); neu

(c)rhaid iddo (yn ddarostynedig i baragraff (5)) os bydd yr amddiffynnydd yn gofyn iddo,

anfon y rhan a gadwyd o'r sampl at Gemegydd y Llywodraeth i'w dadansoddi.

(3Mae'n rhaid i Gemegydd y Llywodraeth ddadansoddi yn y modd rhagnodedig y rhan o'r sampl a anfonwyd ato o dan is-baragraff (2) ac anfon at y swyddog awdurdodedig dystysgrif ddadansoddi y mae'n rhaid iddi fod—

(a)wedi'i chwblhau ar y ffurf a nodir yn Rhan I o Atodlen 3 i Reoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 ac yn unol â'r nodiadau a nodir yn Rhan II o Atodlen 3 i'r Rheoliadau hynny; a

(b)wedi'i llofnodi gan Gemegydd y Llywodraeth neu gan berson a awdurdodir gan Gemegydd y Llywdodraeth i'w llofnodi.

(4Mae'n rhaid i'r swyddog awdurdodedig yn union ar ôl ei derbyn roi i'r erlynydd (os person ac eithrio'r swyddog awdurdodedig ydyw) a'r diffynnydd gopi o dystysgrif ddadansoddi Cemegydd y Llywodraeth.

(5Lle y gwneir cais o dan baragraff (2)(c), caiff y swyddog awdurdodedig roi hysbysiad ysgrifenedig i'r diffynnydd yn gofyn iddo dalu ffi a bennwyd yn yr hysbysiad mewn perthynas â'r swyddogaethau a enwir ym mharagraff (3), ac os nad yw'r ffi benodedig naill ai'n fwy na—

(a)cost cyflawni'r swyddogaethau hynny; neu

(b)y ffi briodol ar gyfer cyflawni unrhyw swyddogaeth debyg o dan adran 78 o'r Ddeddf,

caiff y swyddog awdurdodedig os na chytuna'r diffynnydd i dalu'r ffi wrthod cydymffurfio â'r cais a wnaed o dan baragraff (2)(c).

(6Yn y rheoliad hwn—

(a)mae “diffynnydd” (“defendant”) yn cynnwys darpar ddiffynnydd; a

(b)ystyr “y ffi briodol” (“the appropriate fee”) yw'r cyfryw ffi ag a bennir yn unol â darpariaethau adran 78(10) o'r Ddeddf.

Darpariaethau ychwanegol yn ymwneud â samplu a dadansoddi

32.—(1Mae unrhyw berson—

(a)sy'n ymyrryd ag unrhyw ddeunydd fel na fydd unrhyw sampl ohono a gymerwyd neu a gyflwynwyd i'w dadansoddi o dan y Rheoliadau hyn yn cynrychioli'r deunydd yn gywir; neu

(b)sy'n ymyrryd ag unrhyw sampl a gymerwyd neu a gyflwynwyd i'w dadansoddi o dan y Rheoliadau hyn,

yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel pump ar y raddfa safonol neu garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na thri mis neu'r ddau.

(2Caiff unrhyw berson yn gweithredu o dan gyfarwyddyd y dadansoddwr amaethyddol, y dadansoddwr yn y labordy sy'n cydymffurfio â phwynt 4 neu Gemegydd y Llywodraeth fel y digwydd wneud y dadansoddiad y mae'n ofynnol ei wneud o dan reoliad 30(4) neu 31(3).

(3Bydd tystysgrif ddadansoddi gan ddadansoddwr amaethyddol, dadansoddwr mewn labordy sy'n cydymffurfio â phwynt 4 neu Gemegydd y Llywodraeth, mewn unrhyw reithdrefnau cyfreithiol, yn cael ei derbyn fel tystiolaeth o'r ffeithiau a nodir yn y dystysgrif os—

(a)cyflwynwyd i'r parti gopi o'r dystysgrif y'i defnyddir fel tystiolaeth yn ei erbyn ddim llai na 21 o ddiwrnodau cyn y gwrandawiad; a

(b)nad yw'r parti y mae'r dystysgrif i'w rhoi yn ei erbyn fel tystiolaeth wedi cyflwyno i'r parti arall cyn y seithfed diwrnod cyn y gwrandawiad, hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r person a wnaeth y dadansoddiad fod yn bresennol.

(4Bernir bod unrhyw ddogfen yr honnir ei bod yn dystysgrif ddadansoddi at ddibenion paragraff (3) yn dystysgrif o'r fath oni phrofir fel arall.

Pwerau diofyn y Cynulliad” (“the Assembly ac ardal pwerau'r swyddog awdurdodedig

33.—(1Os cred y Cynulliad” (“the Assembly nad yw'r Rheoliadau hyn, neu Reoliad 178/2002 neu Reoliad 183/2005 wedi cael eu gorfodi'n ddigonol yn ardal unrhyw awdurdod gorfodi caiff y Cynulliad” (“the Assembly benodi un neu fwy o bersonau i arfer yn yr ardal honno y pwerau y gellir eu harfer gan swyddogion awdurdodedig a benodir gan yr awdurdod, ac mae'n rhaid i unrhyw dreuliau yr ardystir gan y Cynulliad” (“the Assembly bod y Cynulliad” (“the Assembly wedi mynd iddynt o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â'r ardal honno gael eu had-dalu i'r Cynulliad gan yr awdurdod os gofynnir iddo wneud hynny.

(2Ni chaiff swyddog awdurdodedig arfer ei bwerau o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas ag unrhyw fangre y tu allan i'r ardal y penodir y swyddog ar ei chyfer ac eithrio gyda chaniatâd yr awdurdod gorfodi ar gyfer yr ardal y lleolir y fangre honno ynddi.

Diogelu swyddogion awdurdodedig sy'n gweithredu'n ddidwyll

34.—(1Nid yw swyddog awdurdodedig yn atebol yn bersonol mewn perthynas ag unrhyw weithred ganddo—

(a)wrth weithredu neu honni bod yn gweithredu'r Rheoliadau hyn; a

(b)o fewn cwmpas ei gyflogaeth,

os gwnaeth y swyddog y weithred honno ar y gred onest bod ei ddyletswydd o dan y Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i'r swyddog ei gwneud neu fod ei ddyletswydd o dan y Rheoliadau hyn yn rhoi'r hawl iddo ei wneud.

(2Ni ellir dehongli dim ym mharagraff (1) fel rhyddhau unrhyw awdurdod gorfodi o unrhyw atebolrwydd mewn perthynas â gweithredoedd eu swyddogion.

(3Pan fo camau wedi cael eu cymryd yn erbyn swyddog awdurdodedig mewn perthynas â gweithred ganddo—

(a)wrth weithredu neu honni bod yn gweithredu'r Rheoliadau hyn; ond

(b)y tu allan i gwmpas cyflogaeth y swyddog,

caiff yr awdurdod yswirio'r swyddog rhag y cyfan neu ran o unrhyw iawndal y gorchmynnwyd i'r swyddog ei dalu neu unrhyw gostau y mae'r swyddog wedi mynd iddynt os yw'n fodlon bod y swyddog yn credu'n onest bod y weithred y gwnaed cwyn yn ei chylch o fewn cwmpas ei gyflogaeth.

(4Trinnir dadansoddwr amaethyddol at ddibenion y rheoliad hwn fel swyddog awdurdodedig, p'un a yw ei benodiad yn un amser cyfan ai peidio.

Amddiffyniadau o fethiant person arall, camgymeriad etc ac allforio

35.—(1Pan fo tramgwydd yn cael ei gyflawni gan unrhyw berson o dan y Rheoliadau hyn o ganlyniad i weithred neu fethiant person arall, mae'r person arall hwnnw yn euog o dramgwydd a gellir ei gyhuddo a'i gollfarnu o'r tramgwydd p'un a ddygwyd achos yn erbyn y person a enwir gyntaf ai peidio.

(2Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, yn ddarostyngedig i baragraff (3), bydd yn amddiffyniad i brofi—

(a)y cyflawnwyd y tramgwydd o ganlyniad i gamgymeriad, neu ddibyniaeth ar wybodaeth a roddwyd i'r cyhuddedig, neu i weithred neu fethiant person arall, neu i ddamwain neu ryw reswm arall y tu hwnt i reolaeth y cyhuddedig; a

(b)i'r cyhuddedig gymryd pob rhagofal rhesymol ac arfer pob diwydrwydd dyladwy er mwyn i'r cyhuddedig neu unrhyw berson o dan reolaeth y cyhuddedig osgoi cyflawni tramgwydd o'r fath.

(3Mewn unrhyw achos os bydd yr amddiffyniad a ddarperir gan baragraff (2) yn cynnwys honiad i'r tramgwydd gael ei gyflawni o ganlyniad i weithred neu fethiant person arall neu ddibyniaeth ar wybodaeth a roddir gan berson arall, ni fydd gan y person, heb ganiatâd y llys, hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw oni bai—

(a)o leiaf saith diwrnod clir cyn y gwrandawiad; a

(b)pan fo'r cyhuddedig wedi ymddangos gerbron llys o'r blaen mewn cysylltiad â'r tramgwydd honedig, o fewn mis ar ôl yr ymddangosiad cyntaf ganddo,

fod y cyhuddedig wedi cyflwyno i'r erlynydd hysbysiad yn rhoi'r cyfryw wybodaeth ag sydd gan y cyhuddedig i adnabod neu gynorthwyo i adnabod y person arall hwnnw.

(4Mewn unrhyw achos lle yr honnir bod deunydd wedi mynd yn groes i ofynion cyfraith bwyd anifeiliaid benodedig neu wedi methu â chydymffurfio â hwy mae'n amddiffyniad i'r person a gyhuddwyd brofi—

(a)mai bwyd anifeiliaid y mae Erthygl 25 o Reoliad 183/2005 yn gymwys iddo yw'r deunydd yr honnwyd i'r tramgwydd gael ei gyflawni mewn perthynas ag ef; a

(b)y gellid yn gyfreithlon allforio'r deunydd yr honnwyd i'r tramgwydd gael ei gyflawni mewn perthynas ag ef yn unol â gofynion Erthygl 12 o Reoliad 178/2002.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol neu bartneriaethau yn yr Alban

36.—(1Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chaniatâd neu gydymddygiad y canlynol neu y gellir ei briodoli i esgeulustod ar ran y canlynol—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg o'r corff corfforaethol; neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni bod yn gweithredu yn rhinwedd y cyfryw swydd,

tybir y bydd y person hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2Ym mharagraff (1) ystyr “cyfarwyddwr” mewn perthynas ag unrhyw gorff corfforaethol a sefydlwyd gan neu o dan unrhyw ddeddfiad er mwyn cyflawni unrhyw ymgymeriad o dan berchenogaeth genedlaethol, sef corff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol hwnnw.

(3Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan bartneriaeth o'r Alban wedi'i gyflawni gyda chaniatâd neu gydgynllwyn partner neu y gellir ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner, tybir bod y partner hwnnw yn ogystal â'r bartneriaeth yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac yn agored i reithdrefnau gael eu dwyn yn eu herbyn neu eu cosbi yn unol â hynny.

Dwyn erlyniadau a therfyn amser ar gyfer erlyniadau

37.—(1Heb ragfarnu unrhyw ddeddfiad yn ymwneud â'r man lle y gellir dwyn rheithdrefnau, gellir dwyn rheithdrefnau ar gyfer tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn y man lle y mae'r person a gyhuddwyd yn preswylio neu'n cynnal ei fusnes.

(2Ni ellir cychwyn erlyniad ar gyfer tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn ar ôl i—

(a)tair blynedd i gyflawni'r tramgwydd; neu

(b)blwyddyn ar ôl i erlynydd ei ddatgelu,

ddod i ben, pa un bynnag sydd gynharaf.

Dirymiadau

38.  Dirymir y Rheoliadau neu'r rhannau ohonynt a restrir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources