Search Legislation

Rheoliadau Cig (Rheolaethau Swyddogol) (Ffioedd) (Cymru) 2005

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cig (Rheolaethau Swyddogol) (Ffioedd) (Cymru) 2005, a deuant i rym ar 1 Ionawr 2006, ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “anifeiliaid hela” yr ystyr a roddir i “game” yn Rheoliad 853/2004 ac yn cynnwys “farmed game”, “wild game”, “small wild game”, a “large wild game” fel y'u diffinnir gan y Rheoliad hwnnw;

  • ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;

  • mae i “cig” yr ystyr a roddir i “meat” ym mhwynt 1.1 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;

  • mae i “cig anifeiliaid hela” yr ystyr a roddir i “game meat” yn Rheoliad 853/2004;

  • mae i “cig ffres” yr ystyr a roddir i “fresh meat” ym mhwynt 1.10 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;

  • ystyr “costau staff lladd-dy a gytunwyd” (“agreed slaughterhouse staff costs”) o ran unrhyw ladd-dy lle cigyddir dofednod a lagomorffiaid yw—

    (a)

    y gyfran (a fynegir fel swm o arian) o gyflogau (gan gynnwys taliadau goramser a chyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr a chyfraniadau pensiynau) a delir i staff y lladd-dy hwnnw o ran cyfnod cyfrifyddu y bydd yr Asiantaeth a gweithredydd y lladd-dy yn cytuno arni fel y gyfran y gellir ei phriodoli i unrhyw staff o'r fath sy'n cynorthwyo gyda rheolaethau swyddogol drwy gyflawni tasgau penodol yno yn ystod y cyfnod hwnnw o dan Erthygl 5.6 o Reoliad 854/2004; plws

    (b)

    25% o'r swm hwnnw;

  • mae i “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”), “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”), “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”), “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”), “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”), “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”), “Rheoliad A” (“Regulation A”), “Rheoliad B” (“Regulation B”), “Rheoliad C” (“Regulation C”), “Rheoliad D” (“Regulation D”) a “Rheoliad E” (“Regulation E”) yr ystyr a roddir iddynt yn eu trefn yn Atodlen 1;

  • ystyr “cyfnod cyfrifyddu” (“accounting period”) yw cyfnod sy'n llai na blwyddyn y penderfynir arno gan yr Asiantaeth;

  • ystyr “cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr” (“employers' National Insurance contributions”) yw'r cyfraniadau nawdd cymdeithasol hynny y mae cyflogwyr yn atebol amdanynt o dan Ran I o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(1);

  • mae i “dofednod” yr ystyr a roddir i “poultry” ym mhwynt 1.3 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;

  • ystyr “ffi rheolaethau swyddogol” (“official controls charge”) yw'r ffi a gyfrifir yn unol ag Atodlen 2 ac a hysbysir yn unol â rheoliad 3(1), (2) neu (3);

  • ystyr “gweithredydd” (“operator”) yw gweithredydd busnes bwyd sy'n rhedeg busnes lladd-dy, sefydliad trin anifeiliaid hela neu safle torri neu gynrychiolydd y gweithredydd a awdurdodwyd yn briodol;

  • mae i “gweithredydd busnes bwyd” yr ystyr a roddir i “food business operator” yn Rheoliad 178/2002;

  • ystyr “gwirhad” (“verification”) yw gwirio, drwy archwilio a darparu tystiolaeth wrthrychol;

  • dehonglir “lagomorff” yn unol â'r diffiniad o'r term “lagomorphs” ym mhwynt 1.4 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;

  • ystyr “lladd-dy” (“slaughterhouse”) yw sefydliad a ddefnyddir i gigydda a thrin anifeiliaid, y mae eu cig wedi'i fwriadu i'w fwyta gan bobl ac sydd—

    (a)

    wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gymeradwyo'n amodol o dan Erthygl 31.2 o Reoliad 882/2004; neu

    (b)

    (er nad oes ganddo'r gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol sy'n ofynnol o dan Erthygl 4.3 o Reoliad 853/2004) a oedd, ar 31 Rhagfyr 2005, yn gweithredu fel lladd-dy trwyddedig o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995(2) neu Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningod (Hylendid ac Arolygu) 1995(3);

  • ystyr “mangre” (“premises”) yw unrhyw ladd-dy, safle torri neu sefydliad trin anifeiliaid hela;

  • ystyr “rheolaethau swyddogol” (“official controls”) yw'r rheolaethau y mae'r Asiantaeth yn eu cyflawni o dan Reoliad 854/2004 er mwyn gwirhau cydymffurfiaeth â—

    (a)

    Erthyglau 3, 4.1(a), 5, 7 ac (ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â briwgig ac wyau) 8 o Reoliad 854/2004; a

    (b)

    gofynion Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) 1995(4) i'r graddau y mae'r cyfryw wirhad yn ymwneud â lles yr anifeiliaid a gigyddir mewn lladd-dai ar gyfer eu bwyta gan bobl;

  • mae i “rhoi ar y farchnad” yr ystyr a roddir i “placing on the market” yn Erthygl 3.8 o Reoliad 178/2002;

  • ystyr “safle torri” (“cutting plant”) yw sefydliad a ddefnyddir ar gyfer tynnu esgyrn a/neu dorri cig ffres er mwyn ei roi ar y farchnad ac sydd—

    (a)

    wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gymeradwyo'n amodol o dan Erthygl 31.2 o Reoliad 882/2004; neu

    (b)

    (er nad oes ganddo'r gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol sy'n ofynnol o dan Erthygl 4.3 o Reoliad 853/2004) a oedd, ar 31 Rhagfyr 2005, yn gweithredu fel safle torri trwyddedig o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu 1995 neu Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningod (Hylendid ac Arolygu) 1995;

  • mae i “sefydliad” yr ystyr a roddir i “establishment” ym mharagraff 2.1(c) o Reoliad 852/2004;

  • ystyr “sefydliad trin anifeiliaid hela” (“game-handling establishment”) yw unrhyw sefydliad lle caiff anifeiliaid hela a chig anifeiliaid hela a geir ar ôl hela eu paratoi i'w rhoi ar y farchnad ac sydd—

    (a)

    wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gymeradwyo'n amodol o dan Erthygl 31.2 o Reoliad 882/2004; neu

    (b)

    (er nad oes ganddo'r gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol sy'n ofynnol o dan Erthygl 4.3 o Reoliad 853/2004) a oedd, ar 31 Rhagfyr 2005, yn gweithredu fel cyfleuster prosesu anifeiliaid hela gwyllt trwyddedig o dan Reoliadau Cig Anifeiliaid Hela Gwyllt (Hylendid ac Arolygu) 1995(5); ac

  • mae i “torri” yr ystyr a roddir i “cutting up” yn Rheoliad 853/2004.

Ffioedd

3.—(1Rhaid i'r Asiantaeth, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn, hysbysu gweithredydd pob lladd-dy, sefydliad trin anifeiliaid hela a safle torri lle'r arferwyd rheolaethau swyddogol mewn unrhyw gyfnod cyfrifyddu o ffi rheolaethau swyddogol o ran y rheolaethau swyddogol hynny cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw.

(2Os nad yw'r Asiantaeth yn gallu cydymffurfio â pharagraff (1) am nad oes digon o wybodaeth ar gael iddi i'w galluogi i gyfrifo'r ffi rheolaethau swyddogol ar gyfer unrhyw gyfnod cyfrifyddu o ran unrhyw fangre o'r fath a bennir yn paragraff hwnnw, rhaid iddi hysbysu gweithredydd y fangre honno o ffi interim, sef y swm y mae'r Asiantaeth yn ei amcangyfrif (gan ystyried yr wybodaeth sydd ganddi) yw'r ffi rheolaethau swyddogol.

(3Os yw'r Asiantaeth wedi hysbysu gweithredydd o ffi interim yn unol â pharagraff (2), a bod gwybodaeth ddigonol yn dod ar gael i'r Asiantaeth gyfrifo'r ffi rheolaethau swyddogol, rhaid iddi gyfrifo'r ffi honno ac—

(a)os yw'n fwy na'r ffi interim, rhaid iddi hysbysu'r gweithredydd o'r ffi derfynol, sef y swm y mae'r ffi rheolaethau swyddogol yn fwy na'r ffi interim; neu

(b)yn ddarostyngedig i baragraff (6), os yw'n llai na'r ffi interim, rhaid iddi roi credyd i'r gweithredydd o'r swm y mae'r ffi interim yn fwy na'r ffi rheolaethau swyddogol.

(4Mae unrhyw ffi a hysbysir i weithredydd o dan baragraff (1), (2) neu (3) yn daladwy gan y gweithredydd i'r Asiantaeth pan hawlir hi.

(5Os cafodd unrhyw gostau staff lladd-dy a gytunwyd eu defnyddio i gyfrifo ffi y mae angen ei hysbysu i weithredydd o dan baragraff (1), (2) neu (3), rhaid gwrthgyfrifo'r costau hynny yn erbyn swm y ffi honno wrth gyfrifo'r ffi wirioneddol a hysbysir oddi tano, ar yr amod na wneir ad-daliad i'r gweithredydd perthnasol.

(6Os yw swm o dan baragraph (3)(b) i gael ei gredydu i weithredydd, caiff yr Asiantaeth, os yw'n dewis gwneud hynny, dalu'r cyfryw swm i'r gweithredydd o dan sylw yn hytrach na'i gredydu i'r gweithredydd.

Tynnu rheolaethau swyddogol yn ôl

4.  Os cafodd yr Asiantaeth ddyfarniad wedi'i gofnodi yn erbyn gweithredydd unrhyw fangre am unrhyw swm sy'n daladwy o dan reoliad 3(4) ac os yw'r gweithredydd yn methu â bodloni'r dyfarniad o fewn cyfnod rhesymol wedyn, caniateir i'r Asiantaeth (ni waeth beth fo unrhyw rwymedi cyfreithiol arall sydd yn agored iddi) wrthod arfer unrhyw reolaethau swyddogol pellach yn y mangreoedd hynny hyd nes y bodlonir y dyfarniad.

Gwybodaeth

5.—(1Rhaid i unrhyw berson pan hawlir hynny gan yr Asiantaeth, roi—

(a)yr wybodaeth honno y gall yr Asiantaeth yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol at ddibenion cyfrifo ffi y rheolaethau swyddogol neu hysbysu gweithredydd ohoni; a

(b)y dystiolaeth y gall yr Asiantaeth yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol i'w galluogi i wirhau gwybodaeth a roddwyd iddi o dan is-baragraff (a) o'r paragraff hwn.

(2Bydd unrhyw berson sydd—

(a)yn honni cydymffurfio â pharagraff (1), gan wybod neu yn ddi-hid yn rhoi gwybodaeth sy'n dwyllodrus neu'n gamarweiniol mewn manylyn sylweddol; neu

(b)heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio o fewn cyfnod rhesymol â hawliad a wnaed o dan y paragraff hwnnw,

yn euog o dramgwydd a bydd yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Dirymu

6.  Dirymir Rheoliadau Cig (Hylendid ac Archwilio) (Ffioedd) 1998(6).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Rhagfyr 2005

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources